• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Sadwrn 4 Medi 2010
Golygyddol - Hawliau dynol a’r Cymry Cymraeg PDF Argraffu Ebost

Golygyddol - Hawliau dynol a’r Cymry

Trwy sôn am yr ‘hawl’ i siarad Cymraeg, mae’r mudiad cenedlaethol mewn perygl o anghofio beth yw gwerth ein hawliau dynol sylfaenol.

 

 


Digon hawdd yw anwybyddu rhai pobl wrth iddyn nhw hawlio bod Prydain yn symud yn araf tuag at fod yn wladwriaeth ormesol. Y mae’r rhai sy’n trigo ym mhellafoedd y chwith a’r dde wedi bod yn barod iawn i alw ‘ffasgwyr’ ar lywodraethwyr democrataidd ers blynyddoedd maith. Mater gwahanol iawn yw clywed cyn-bennaeth MI5 yn mynegi pryder yngl?n â’r modd y mae hawliau dynol ym Mhrydain wedi cael eu tanseilio yn ddiweddar, a hynny dan glogyn ‘ymladd terfysgaeth’. Onid y gwasanaethau cudd sy’n gyfrifol am dramgwyddo yn erbyn hawliau dynol, fel rheol? Dyna a ddigwyddodd ddiwedd mis Chwefror. Dywedodd Stella Rimington, cyn-bennaeth y gwasanaeth cudd, fod llywodraeth Prydain yn manteisio ar ofn pobl o derfysgaeth i danseilio hawliau sifil ei dinasyddion.

Mae ’na draddodiad hir a dianrhydedd o bleidiau sosialaidd yn mabwysiadu agwedd ddilornus tuag at hawliau dynol; traddodiad sy’n ymestyn o Giwba i’r Coed Duon. ‘Freedom of speech won’t feed my children,’ canodd y Manic Street Preachers, gan bwysleisio’r gredo sosialaidd bod rhoi bwyd ar y bwrdd yn bwysicach na gwarchod rhyddid yr unigolyn. Efallai fod y Blaid Lafur Brydeinig wedi hen anghofio am ei sosialaeth, ac mae’r un agwedd ddilornus tuag at rai o agweddau craidd ein trefn ryddfrydol-ddemocrataidd yn dal i’w chanfod yn rhengoedd Llafur Newydd. ’Nôl yn 1998 cymerwyd cam arwyddocaol ymlaen drwy basio Deddf Hawliau Dynol gyntaf Prydain. Mewn gwlad sydd heb gyfansoddiad ysgrifenedig, roedd rhoi’r ddeddf hon ar y llyfrau statud yn ddigwyddiad o bwys hanesyddol. Trueni’r sefyllfa yw fod yr union lywodraeth a fu’n gyfrifol am hyn wedi treulio’r rhan helaethaf o’r degawd canlynol yn tanseilio’r union hawliau sydd bellach yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr.

Y mae’r rhestr o ymosodiadau ar hawliau dynol dinasyddion Prydain yn rhy faith i’w hadrodd yn ei chyfanrwydd. Ar un eithaf mae’r llywodraeth yn ceisio gwthio ei ffordd i mewn i’n bywydau preifat – trwy ein gorfodi i gario cardiau adnabod, neu drwy ganiatáu rhagor o ffyrdd o ysbïo ar ein bywydau bob dydd. Mae rhyddid barn a rhyddid mynegiant yn cael eu tanseilio gan gyfreithiau sy’n gwneud ‘casineb hiliol neu grefyddol’ yn drosedd. A’r pryder mwyaf yw’r ffaith fod y llywodraeth wedi treulio blynyddoedd yn ceisio darbwyllo senedd San Steffan i roi’r hawl i’r heddlu garcharu pobl am gyfnodau maith, a hynny heb eu cyhuddo o unrhyw drosedd.

Yn wyneb yr ymosodiad hwn ar ein hawliau sylfaenol, gofynnodd y colofnydd papur newydd, Henry Porter, ‘B’le mae ein George Orwell?’. Mae’r cwestiwn yn un teilwng. Does dim amheuaeth fod ’na nifer o unigolion wedi gwrthwynebu’r niwed a wnaed i’r cyfansoddiad Prydeinig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. I’r unigolion hyn y mae’r diolch mai dim ond am 28 diwrnod – yn hytrach na 42 neu 90 – y gall yr heddlu garcharu rhywun yn ddigyhuddiad. Dinasyddion cyffredin, ymgyrchwyr gwleidyddol, Aelodau Seneddol ac Arglwyddi sydd wedi sefyll yn gadarn yn erbyn yr ymosodiadau ar ein hawliau. Ond tameidiog ac ysbeidiol yw’r gwrthwynebiad hwn. Mae Porter yn tynnu sylw at y ffaith nad yw ein meddylwyr amlycaf wedi llwyddo i arwain gwrthwynebiad cynhwysfawr i’r newidiadau pellgyrhaeddol hyn.

Y mae’n gwestiwn sy’n cael ei ategu – yn y cyd-destun Cymreig a Chymraeg – gan yr awdur a’r blogiwr Dewi Prysor. Ar ei flog ef, mae’r ‘Prysgodyn’ yn codi nifer o gwestiynau pigog yngl?n â’r ymateb – neu’r diffyg ymateb – o du’r mudiad cenedlaethol. Fe wyddom fod gan Aelodau Seneddol Plaid Cymru record hynod o gryf ar amddiffyn hawliau dynol, ond beth am weddill y ‘teulu Cymraeg’ sy’n cynnal y mudiad yn ehangach?

Efallai y byddai rhai’n dadlau nad gwaith cenedlaetholwyr yw ymwneud â materion Prydeinig. Mae cyrff megis Liberty ac Amnest Rhyngwladol yn bodoli i arwain ymgyrchoedd hawliau dynol. Os yw’r Cymry Cymraeg yn rhoi eu hamser a’u hegni i ymladd dros hawliau dynol dinasyddion Prydeinig, pwy fydd ar ôl i ymladd dros Gymru a’r Gymraeg? Ar un ystyr, mae’n ddadl sy’n ymddangos yn un resymol. Ond gwyddom i gyd nad oes raid gwneud dewis syml rhwng y naill bwnc neu’r llall. Tra bo cenedlaetholwyr yn blaenoriaethu’r frwydr dros annibyniaeth a’r iaith, rhaid gosod y frwydr hon yn ei chyd-destun ehangach. Trwy gydol ei hanes, mae lladmeryddion cenedlaetholdeb Cymreig wedi gosod ein brwydr fechan ni yng nghyd-destun brwydrau ehangach dros ryddid a chyfiawnder.

Onid oes perygl ein bod ni – fel y mae Dewi Prysor yn ei ddadlau – wedi colli golwg ar beth yw ein hawliau dynol sylfaenol, a hynny yn rhannol oherwydd ein bod wedi mynnu ceisio dehongli’r bennod ddiweddaraf ym mrwydr yr iaith yng nghyd-destun ‘Hawl i’r Gymraeg’? A yw’r ‘hawl’ i siarad Cymraeg – fel y mae wedi ei ddehongli gan Gwion Lewis a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg – yn hawl dynol sylfaenol, mewn gwirionedd? Ynteu a ydym yn mabwysiadu terminoleg hawliau dynol er mwyn golchi staen gwleidyddiaeth asgell-dde oddi ar ein cenedlaetholdeb, a thrwy wneud hynny, wedi anghofio pwysigrwydd hawliau dynol gwirioneddol?