• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn

Dydd Gwener 25 Gorffennaf 2014
Gweithred anghyfreithlon Comisiwn y Cynulliad PDF Argraffu Ebost
Gwion Lewis

‘Cyn gynted ag y bo modd ar ôl y cyfarfod, cyhoeddir cofnod gair-am-air dwyieithog o bob Cyfarfod Llawn...’ (adran 4.8). Dyna’r addewid a wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol yng Ngorffennaf 2007, pan gyhoeddodd ei gynllun iaith yn unol â gofynion y ddeddf iaith bresennol, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Nid datgan delfryd y gellid ei anghofio er mantais ariannol oedd y nod: yr oedd arwyddocâd cyfreithiol i’r datganiad gan y byddai dyletswydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn y pen draw, ar Weinidogion Cymru, i sicrhau bod y cynllun iaith yn cael ei wireddu.

Yng ngoleuni hyn, ni all rywun lai na gweld traha hynod ym mhenderfyniad Comisiwn y Cynulliad ddechrau Awst i roi’r gorau i gynhyrchu trawsgrifiadau cwbl ddwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad. Pan fydd aelodau’r Senedd yn ailymgynnull yng Nghaerdydd, bwriad y Comisiwn yw parhau gyda chyfieithiadau o gyfraniadau Cymraeg i’r Saesneg, ond, yn groes i’r cynllun iaith presennol, ni fydd areithiau Saesneg yn cael eu cyfieithu.

Dywed y Comisiwn nad arbed arian sydd y tu ôl i’r newid ond, ar yr un gwynt, fe’n hysbysir y byddir yn arbed £250,000 mewn costau cyfieithu bob blwyddyn. Chwilio’n ofer y mae rhywun am eglurhad pellach.

Hyd yn hyn, y mae’r mudiad iaith wedi canolbwyntio ar feirniadu’r datganiad ar sail polisi, gan betruso ynglyn â’i arwyddocâd o safbwynt ymlyniad y Cynulliad tuag at greu Cymru ‘wirionedddol ddwyieithog’ yn unol â’r ddogfen Cymru’n Un. Y dimensiwn cyfreithiol sy’n cael fy sylw i. Y mae’r newid polisi hwn yn anghyfreithlon ac rwy’n ffyddiog y byddai’r Uchel Lys yn ei ddileu pe bai cais am adolygiad barnwrol.

Un o egwyddorion sylfaenol y gyfraith gyhoeddus yw fod yn rhaid i gorff cyhoeddus ddilyn proses arbennig cyn gwneud penderfyniad os ydyw wedi datgan yn gyhoeddus y bydd yn gwneud hynny. Bydd unrhyw benderfyniad a wneir heb ddilyn y broses honno, yn arbennig felly os na cheisir egluro pam nad yw’r broses yn werth ei dilyn, yn cael ei ystyried yn benderfyniad afresymegol, ac felly’n un anghyfreithlon.

Yn y cyd-destun hwn, wele adran 6.10 o gynllun iaith y Cynulliad: Ni fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’r Cynllun hwn heb gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg’. Y mae’r Bwrdd wedi cwyno’n gyhoeddus – ac mae i’w longyfarch am hynny – nad ymgynghorodd y Comisiwn ag ef cyn cyhoeddi’r newid sylfaenol hwn. Yn wir, nid yw’n ymddangos bod y Comisiwn wedi ymgynghori ag unrhyw un o gwbl y tu allan i’w aelodaeth ei hun. Yn hyn o beth, mae’r penderfyniad yn un cwbl ddiffygiol.

Wrth i ni fynd ati i greu cyfundrefn gyfreithiol newydd yma yng Nghymru, dichon fod dogn o naïfrwydd cyfreithiol y tu ôl i ymddygiad y Comisiwn – corff nad yw eto, efallai, wedi llawn sylweddoli nad cyfleuster gwleidyddol yw’r unig ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau ynglan â dyfodol y defnydd cyhoeddus o’r Gymraeg. Er mor annigonol yw’r ddeddfwriaeth iaith ar hyn o bryd, fe’i hatgyfnerthir, a diolch am hynny, gan egwyddorion craidd y mae’n rhaid i bob gorff cyhoeddus eu parchu.

Os un o amodau cael mwy o bwerau deddfu i Gymru yw darbwyllo San Steffan bod gan y Cymry ddealltwriaeth ddigonol o’r gyfraith gyhoeddus i’w galluogi i lywio eu dyfodol eu hunain, y mae angen deffro. Nid pethau i’w dethol a’u dewis à la carte yw ymrwymiadau cyhoeddus at y Gymraeg. Mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn i dynnu’r penderfyniad anghyfreithlon hwn yn ôl ar fyrder.