| Chwalfa |
|
|
|
|
Chwalfa Mae’r darlledwr newyddion ar fin cyhoeddi cyfrol yn adrodd hanes capeli tref sy’n agos at ei galon. Ond wrth ymfalchïo yn hanes capeli Llanelli, mae’n arswydo at y modd y mae cynifer o’r adeiladau hyn – fel addoldai eraill ledled Cymru – wedi eu hesgeuluso nes maent mewn cyflwr enbydus. Ac mae’n galw am weithredu buan i achub y rhai sydd ar ôl.
Mae oes y capeli wedi hen ddarfod: cawn fflangellu’r ‘culni’ a’r ‘safonau dwbl’ a’r ‘diflastod’ yn ddibetrus. Wedi’r cyfan, Gymry annwyl, onid cyfnod iachach o lawer yw’r oes fodern, ddigapel? A beth am brif symbolau’r gorffennol capelgar? Beth am yr adeiladau eu hunain? Mae ateb y Cymry yn ddigon clir. Gadawed iddynt bydru’n ddim. Peidied neb â dechrau malu awyr am ddiogelu ‘amgylchedd hanesyddol’ a rwdlan am barchu’r gorffennol. Gadewch i ni wynebu ffeithiau oer y sefyllfa. Ar hyd a lled ein gwlad heddiw, cewch weld enghreifftiau gwych o’n ‘pensaernïaeth genedlaethol’ yn dadfeilio. Oes, mae ’na eithriadau. Achubwyd rhai capeli trwy addasu adeiladau yn neuaddau cyngerdd a swyddfeydd a fflatiau. Ond stori wahanol iawn yw’r hyn sy’n digwydd yn frawychus o reolaidd i gapeli mawr a bach ym mhob cwr. Mae’r realiti i’w weld yn glir heddiw ar dyle Bigyn yn Llanelli. Tristwch llwyr i mi oedd cael cip ar gapel Calfaria yn ddiweddar a gweld y difrod a wnaed gan wehilion lleol. Roedd pibau’r organ wedi’u taflu ar draws y lloriau a gwaith coed cain y pulpud a’r Sêt Fawr wedi’i ddinistrio. Dyma un o gapeli prydferth George Morgan, y pensaer o Gaerfyrddin a ffefryn mawr y Bedyddwyr yn ne Cymru. Beth ond codi llewys fandaliaid yw caniatáu i’r math hwn o ddifrod ddigwydd? Ond pwyllwn am eiliad. Pam ddylai poblach anwaraidd barchu adeiladau a gwerthoedd y gorffennol os nad yw ein cynghorau a’n sefydliadau yn barod i wneud hynny? A yw ein cyrff cyhoeddus wedi colli pob parch at draddodiad crefyddol cyfoethog? Mae cyflwr gwaradwyddus Calfaria a dwsinau o gapeli eraill yn 2009 yn achos cywilydd i bob awdurdod ‘cyfrifol’.
Yr un yw hanes Eglwys y Parc, Llanelli, lle bu Elfed yn weinidog am ddegawd cyn troad yr 20g. Methiant fu’r ymgais yn 2005 i gael arian Loteri i’w hadfer, a gwerthwyd y capel am £100,000 pitw i fasnachwr carpedi. Erbyn heddiw mae’r Parc ar werth unwaith eto a chyflwr yr adeilad yn frawychus. Mae sawl un o’r ffenestri lliw bendigedig yn deilchion. A oes unrhyw un yn poeni? A yw’r awdurdodau lleol hyd yn oed yn ymwybodol? Pan ystyriwyd y cynlluniau i ddymchwel Capel-y-Doc yn 2001, fe ymddengys nad oedd y ‘pennaeth cadwraeth’ wedi cynnig yr un sylw ar werth yr adeilad. Dyma un o weithiau cynnar John Humphrey, pensaer disglair y Tabernacl, Treforys. Yr oedd Cyngor Tref Llanelli yn ‘fodlon’ â’r cynllun dymchwel, yn ôl y cofnodion swyddogol. Diolch i’r drefn, achubwyd yr adeilad gan ddatblygwr lleol a fynnai droi’r capel yn fflatiau. Mae’r adeilad yno o hyd, er gwaethaf dihidrwydd marwol yr awdurdodau lleol. Dylai’r anffyddwyr mwyaf pybyr dalu sylw hefyd. Nid problem ‘grefyddol’ yn unig yw hon. Mae pensaernïaeth y capeli yn un o’n trysorau cenedlaethol. Dewch i Lanelli i weld enghreifftiau godidog Sion, Capel Als, Capel Newydd a’r Tabernacl. Ai gadael i’r cyfan bydru yw’r opsiwn anorfod?
Mae cymdeithas Capel yn gwneud ei gorau i ddogfennu a chadw manylion am gapeli dan fygythiad, a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn casglu ffotograffau a manylion am adeiladau crefyddol o bob math. Dylem gefnogi eu gwaith. Ond beth am CADW, sef ‘gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru’? Mae’r corff hwnnw yn gwario miloedd ar gynlluniau i adfer capeli, ond y gwir plaen yw fod angen miliynau i wneud cyfiawnder â’r dasg. Daw cyfle arbennig i Gyngor Sir Gâr i ddangos ei liwiau pan ystyrir y cynlluniau i gau Sion, un o gapeli pwysicaf Cymru gyfan. Dyma lle bu Bedyddwyr amlwg – Lleurwg, Evan Talfryn Jones a Jubilee Young yn eu plith – yn teyrnasu, ac y mae i Sion le gyda’r addoldai amlycaf yn hanes Anghydffurfiaeth Cymru. Y gobaith yw y gellir addasu’r capel mawr yn ganolfan gerdd a drama, a’i gysylltu â theatr newydd sbon gerllaw. Bydd aelodau Sion yn dal i addoli mewn capel bach yn yr ysgoldy presennol. Hwyrach mai’r cam callaf fyddai iddynt ymuno ag aelodau Moriah – capel arall y Bedyddwyr Cymraeg yng nghanol y dref – ond dadl arall yw honno. Mae cynllun y cyngor sir yn un uchelgeisiol a chanmoladwy. Y drafferth yw fod angen cynlluniau da ar gyfer pob capel o nod hanesyddol. Y mae bron yn rhy hwyr i Galfaria a’r Parc, ac fe ddymchwelwyd capel hardd Lloyd Street yn y 1990au. Yr un yw’r hanes ym mhob ardal yng Nghymru. Dyna paham y treuliais bedair blynedd yn ymchwilio a thwrio ar gyfer cyfrol ar hanes capeli Llanelli, cymuned y dywedodd Dr Thomas Rees amdani yn 1871: ‘Dichon nad oes yr un dref yn ein gwlad ag y mae dylanwad Ymneillduaeth yn cael ei deimlo yn fwy ynddi’. Hyd yn oed ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd 22 o gapeli cryfion yng nghanol y dref. Pe cynhwysid y pentrefi cyfagos, gellid cyfrif o leiaf ddeugain yn y cylch. Hyd yn oed yn negawd hagr y 1980au yr oedd y prif gapeli i gyd yn dal at eu cenhadaeth. Erbyn heddiw, nid oes modd osgoi’r ffaith fod ein capeli’n dadfeilio’n gyflym a’u gwerthoedd yn gwywo. Gwelwyd cau drysau o leiaf wyth ohonynt yn Llanelli yn y cyfnod diweddar a gwelir eraill yn troedio’r un llwybr llwm yn ystod y degawd nesaf. Cyn pen dim, bydd nifer y capeli byw a gweithredol yng nghanol Llanelli wedi gostwng i ddau neu dri. Dyma beth yw chwalfa go iawn. Beth yw’r ots, meddech chi? Un o themâu mwyaf cyfarwydd y gwleidyddion heddiw yw ‘parch’. Diffyg parch sy’n cael y bai am greu cynifer o’n problemau cymdeithasol. Mae un peth yn sicr: does dim gobaith i ni ddeall ein presennol heb barchu’n gorffennol. Does dim pwynt creu cynlluniau mawr ar gyfer yfory os nad ydym yn barod i ddeall gwerth ddoe. Bendithiwyd Llanelli â thraddodiad capelgar gyda’r mwyaf gloyw yng Nghymru, a theimlaf yn gryf mai ein dyletswydd ni – Cristnogion neu beidio – yw cofnodi’r hanes a’i drosglwyddo i’n plant ac i blant ein plant. Er difaru yn aml i mi dderbyn comisiwn Cyngor Sir Gaerfyrddin wrth geisio cyfuno’r holl waith gyda’m dyletswyddau darlledu, gallaf ddweud heb anwiredd i mi fwynhau’r dasg. Dysgais lawer am ein cymuned a’i thrigolion, a da hynny gan mai trist yw nodi na ddarparwyd yr un cwrs i ni’r bechgyn yn Ysgol Ramadeg Llanelli ar hanes ein tref. Dysgais lawer, hefyd, am y cynulleidfaoedd lluosog, am gyfraniad godidog ein capeli i fywyd Cymru, ac am ymroddiad dihunan yr arloeswyr. Mae ein dyled iddynt yn aruthrol fawr am hybu egwyddorion gwâr. Daeth y cyfle olaf i ni wneud rhywbeth pwrpasol ac addas i ddiogelu ein treftadaeth Ymneilltuol. Nid yw’r drefn dameidiog bresennol yn gweithio. Y mae angen strategaeth genedlaethol gynhwysfawr i achub yr adeiladau gorau. Ac er mwyn i’r strategaeth honno weithio, bydd angen cyllid priodol. A yw gwarchod capeli nodedig a hynod yn flaenoriaeth yn y Gymru fodern? Cawn weld. Mae’n unfed awr ar ddeg. Does fawr ddim amser ar ôl i’w hachub. Cyhoeddir Capeli Llanelli: Our Rich Heritage ar 5 Ragfyr 2009 gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.
|