• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Anghrediniaeth Gad Fi’n Llonydd PDF Argraffu Ebost

Anghrediniaeth Gad Fi'n Llonydd

 

 

 

Wel dyna ni ’de. Ymgais ddewr. Fel arfer. Yr un canlyniad serch hynny. Pumdeg a chwech o flynyddoedd o golli yn erbyn Seland Newydd i fynd yn bumdeg a saith. A finne’n agosáu’n anesmwyth at ganol fy nhridegau, fe darodd fi yn ystod y gêm, tybed oes gobaith y byddai fyw i weld Cymru’n curo’r Cryse Duon? Cwestiwn dwl meddech chi? Wel mae’r hen gloc ’na’n tician ac os na allwn ni guro nhw gyda’r Kiwis i fod ar eu gwannaf, pa obaith? Ond ’na ni. Mi wnaethon nhw’u gorau. 19 o bwyntiau i 6 ar ei hôl hi a chwarter awr i fynd. Bron iawn i fi bwdu’n rhacs, cydio yn y Crunchie, a mynd i ga’l bath. Ond yn sydyn – gobaith. Does bosib? Dwy gic gosb gan Stephen Jones a dim ond trosgais oedd ei hangen. Plîs! Plîs! Plîs! Ac fel petai Rywun Lan Llofft wedi clywed fy ngweddi (a gweddi’r 74,000 oedd yno yn y stadiwm) fe ymddangosodd yr arwr. Alun Wyn Jones. Fe redodd, o fe redodd, nerth ei goesau o linell 22 Cymru at linell 22 y gelyn cyn i Zac Guildford ei dynnu lawr. Ond roedd 3 munud arall yn weddill...  Hen ddigon o amser i greu hanes. Tro Shane Williams i dorri trwyddo... bwydo’r mewnwr Martin Roberts... dim ond 10 metr i fynd... ti bron yna Martin... cer amdani... ieeee.............! Ond fel pob ffilm dda, mae gan bob gêm rygbi fawr ei dihiryn. A’r tro hwn Dan Carter dorrodd galonnau’r Cymry â thacl uchel ar Roberts, ac wrth iddo yntau ddisgyn i arogli ffresni porfa’r mileniwm, fe ddisgynnais innau i waelodion y soffa gyffyrddus gan wybod bod y cyfle gorau, a’r cyfle olaf wedi diflannu.  

Yr unig gysur yw fod Warren Gatland a’i dîm i’w gweld yn wirioneddol siomedig â’r golled yn hytrach nag yn falch o’r ymdrech ddewr. A ma’ lle ’da Gatland a’r bechgyn i fod yn grac, am eu bod nhw’n agos iawn at fois y cryse duon. Y trueni yw nad yw’r sgorfwrdd yn adlewyrchu’r ymdrech. A dyma ble ma’r dihiryn ’na’n dod mewn iddi. Yr hen Dan Carter. Rhyfedd sut y gall un dyn greu tîm. Ddylai hynny ddim bod yn bosib yn y gêm broffesiynol, ond rywsut ma’ cael chwaraewr fel Carter yn rhan o dîm sy’n wannach na’r arfer yn golygu eu bod nhw’n medru curo tîm fel Cymru. Ma’r Haka yn ’y mhoeni i hefyd. Do, mi wnaeth y bechgyn sefyll yn stond a gwrthsefyll yr olygfa frawychus, ond oedd hynny’n ddigon i ysgwyd Seland Newydd? Nag oedd siwr. Efallai ei bod hi’n bryd i ni gymryd cyngor bardd answyddogol y gamp Max Boyce ac ymateb i’r Haka gyda’n Haka ein hunain. ‘Hump-e-ty Dump-e-ty sat on a wall... Hump-e-ty Dump-e-ty had a great fall.’ Wel, mi fyddai’n wahanol!  

Heb godi’r hen ddadl ‘ai rygbi ynteu bêl-droed sydd orau’, does dim dianc rhag y ffaith ei bod hi’n eitha hawdd darogan canlyniad y gêm yn erbyn Seland Newydd. Felly mae’n anodd dadlau yn erbyn y sawl sy’n mynnu bod y gêm yn Stadiwm y Mileniwm ddechrau Tachwedd yn un ddiflas. Cymru’n mynd ar ei hôl hi, dod yn ôl yn agos, o fewn trosgais ac wwwwwwwww... colli. Ymdrech ddewr. Agos ond dim sigâr. Am syrpreis. Roedd hi’n stori dra wahanol serch hynny yn gynharach y prynhawn hwnnw lawr yr M4 yn Stadiwm Liberty Abertawe. Fel chwa o awyr iach yn ein papur dyddiol cenedlaethol ar y dydd Llun dilynol fe ddywedodd y newyddiadurwr Delme Parfitt, a lwyddodd i fynychu’r ddwy gêm, mai’r gêm bêl-droed rhwng Abertawe a Chaerdydd oedd y profiad gorau. A hynny o bell ffordd. Y Western Mail, ‘y papur rygbi’ honedig yn dweud mai pêl-droed oedd orau... meddyliwch!  

Rwy’n ei chael hi’n anodd cymharu’r ddwy gêm ond y prif bwynt yw’r awyrgylch ac ymroddiad y dorf i’r achlysur. Faint o dân oedd ym mol y cefnogwr rygbi? Dyheu am fuddugoliaeth, ie. Ond faint o ffydd oedd gan y Cymry y bydden nhw’n dathlu buddugoliaeth? Er i’r tân ym mol ambell gefnogwr pêl-droed droi’n drais yn ystod y prynhawn (ac rwy’n pwysleisio mai lleiafrif oedden nhw), mi oedd yn dân oedd â gobaith a hunan-gred yn ei gynnau. A dyna’r gwahaniaeth am wn i.  

Faint felly o ffydd sydd gan bawb ohonom ni yn ein tîm rygbi cenedlaethol? Ambell fuddugoliaeth dros y gwledydd ‘mawr’. Ambell flwyddyn pan dyw pawb arall ddim cystel, a ry’n ni rywsut yn llwyddo i gipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Ambell fflach o athrylith pan fydd unigolyn yn serennu ac yn ysgwyd y byd rygbi fel y gwnaeth Gavin Henson yn 2005 neu Shane Williams yng Nghwpan y Byd 2003. Ydy hynny’n ddigon mewn gwirionedd ar gyfer y gêm genedlaethol honedig? A ninnau ar fin ffarwelio â degawd cyntaf y ganrif a’r mileniwm hwn, tybed be fydd tynged y gamp dros y degawd, a’r ganrif nesaf hyd yn oed? Fydd yna fuddugoliaeth dros y Crysau Duon? Mae’r ffaith ein bod hyd yn oed yn gofyn y cwestiwn yn dweud cyfrolau.