• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Drama mewn Dwy Act PDF Argraffu Ebost

Drama mewn Dwy Act -

Adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan 

 

Dadleuir fod Syr Emyr Jones Parry a’i Gomisiwn yn llygad ei le yn rhoi’r flaenoriaeth i’r angen am lunio a gweithredu “Cyfraith Cymru.” Ond mae’r Comisiwn hefyd wedi creu problemau dyrys i Lafur – ac yn sicr i Blaid Cymru.

 

 

 

Act Un

Pob clod i Syr Emyr Jones Parry. Rhaid cyfaddef fy mod ymysg yr amheuwyr. Gyda gorchwyl mor ddiddim a niwlog, roedd hi’n anodd gen i gredu y gallai Confensiwn Cymru esgor ar fawr ddim o werth, hyd yn oed gyda gwr mor ddiamheuol ddisglair a phrofiadol wrth y llyw. Onid ystyriaethau gwleidyddol fyddai’n penderfynu yn y pen draw a gaem refferendwm neu beidio? Ac os hynny, onid modd o osgoi’r penderfyniad allweddol oedd sefydlu’r Confensiwn, hyd yn oed os oedd hynny’n cael ei gelu dan gochl ‘braenaru’r tir ’? Beth, mewn difrif, oedd pwynt yr holl beth? Roedd eraill, wrth gwrs, yn fwy ffyddiog. Byddai proses y Confensiwn, fe gredid, yn rhoi cyfle i Lafur a Phlaid Cymru ddatblygu’r gyd-ddealltwriaeth a’r gyd-ymddiriedaeth angenrheidiol ar gyfer ymgyrch ‘Ie’ nerthol pan ddeuai’r awr. Byddai hefyd, yn fwy gobeithiol, yn fodd i sicrhau bod pobl Cymru yn magu gwell dealltwriaeth o’r gyfundrefn lywodraethol a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  

Ond sylwer, hyd yn oed ymysg y rheini oedd yn fwy ffyddiog ynglyn â chyfraniad posibl y Confensiwn, nid cynnwys yr Adroddiad oedd o bwys ond yn hytrach y broses o’i llunio. Nid oedd unrhyw un, fe ymddengys, yn ryw hyderus iawn ynglyn â gwerth yr adroddiad ei hun.  

Yn hyn o beth fe’n profwyd i gyd yn anghywir. Er gwaethaf cylch gorchwyl anaddawol ar y naw, mae’r Confensiwn – a Syr Emyr yn benodol – wedi llwyddo i lunio Adroddiad sy’n gloddfa o ddadansoddiadau treiddgar a syniadau awgrymog. Dyma lawlyfr anhepgorol i’r sawl a fyn ddeall y gyfundrefn ffaeledig sydd ohoni, a’r manteision sylweddol a ddaw i’n rhan o symud i’r gyfundrefn ddeddfwriaethol a arfaethir ar ein cyfer gan Ran 4 Deddf Llywodraeth Cymru. Ar ben hynny, ac er mawr glod i EJP, mae’r Adroddiad yn meiddio dangos y ffordd (yn gynnil ond yn bendant) tuag at gyfundrefn ddatganoledig y tu draw i Ran 4 – cyfundrefn a fyddai’n fwy effeithlon, synhwyrol a chynaliadwy.  

Yn ôl un sylwebydd direidus ddiwrnod y cyhoeddi, nid yw Adroddiad y Confensiwn namyn ‘Richard for slow learners’ (bydd darllenwyr sy’n gyfarwydd â hanes Gogledd Iwerddon yn deall y gyfeiriadaeth a’r ergyd). Ond nid ail-bobiad o Adroddiad Comisiwn Richard mohono chwaith. Er bod elfennau o orgyffwrdd, mae Adroddiad Jones Parry yn bwrw goleuni ar elfennau eraill o bresennol a dyfodol y Gymru ddatganoledig. Yn bennaf oll, mae’n gosod y dimensiwn cyfreithiol ar frig yr agenda. Mae’n mynnu bod ‘Cyfraith Cymru’ – ac ydi, mae’n bryd i ni ddechrau arddel yr ymadrodd hwnnw wrth gyfeirio at y dwthwn hwn yn ogystal â’r oesoedd canol – yn cael ei llunio, ei chyhoeddi, ei gweithredu a’i chynnal mewn dulliau sy’n gyson ag egwyddorion sylfaenol democratiaeth ryddfrydol.  

Daw’n eglur wrth ddarllen yr Adroddiad fod y pwyslais hwn ar hanfodion cyfreithiol yn adlewyrchu dyfarniad EJP a’i gyd-Gomisiynwyr nad felly mae hi ar hyn o bryd. Yn hytrach, mae’r broses graffu (scrutiny) bresennol yn anfoddhaol: torri glo mân yn glapiau yn achos yr LCOs gan adael gwagle llwyr yn achos deddfwriaeth fframwaith. Mae’r ddeddfwriaeth sydd, ymhen hir a hwyr, yn deillio o’r broses yn anhylaw ac yn anfaddeuol o anhygyrch. Fe’n hatgoffir hefyd nad yw’r fframwaith sefydliadol eto’n bodoli er mwyn sicrhau bod y gyfraith a wneir yng Nghymru ar gyfer Cymru yn gallu cael ei gweinyddu a’i dehongli yng Nghymru.  

Mae’r pwyslais ar y Gyfraith a Rheolaeth y Gyfraith yn ddiau’n adlewyrchu profiad a bydolwg Syr Emyr y diplomydd. Ond os nad ydwyf yn camgymryd yn fawr, adlewyrcha hefyd un arall o’i briodoleddau a’i ragoriaethau: mae EJP yn parchu arbenigedd ac arbenigwyr. Felly yn ogystal â theithio Cymru benbaladr yn trafod ag unrhyw un â barn i’w leisio ynglyn â datganoli, bu wrthi’n Gwilym Owen-aidd o ddiwyd yn holi a stilio’r bobl hynny sydd â gwybodaeth arbenigol yn y maes. O’u plith hwy tybiaf mai’r Cyfreithwyr a wnaeth yr argraff fwyaf arno. Go brin y dylai hynny ein synnu chwaith. Fel y dadleuwyd droeon yn y golofn hon, bu datganoli’n fater lle y gwelwyd ystyriaethau pleidiol-wleidyddol – realpolitik – yn tra-arglwyddiaethu dros ystyriaethau cyfreithiol-gyfansoddiadol. Mae Deddf 2006 yn enghraifft berffaith: yn sicr ni ellir amau clyfrwch gwleidyddol ei llunwyr, ond bu’n amlwg o’r cychwyn cyntaf fod yr hyn a grëwyd ganddynt yn broblemus tu hwnt o safbwynt cyfansoddiadol.  

Cadw’r cerbyd ar y lôn a chynnal ei momentwm fu’r nod amgen, wrth gwrs. A do, chwarae teg, fe lwyddwyd i wneud hynny. Ond datguddir y pris y bydd yn rhaid ei dalu am hynny wrth godi’r bonet a syllu ar y peirianwaith cyfansoddiadol oddi tano. Bobl bach dyna lanast! Nid oes ryfedd fod y peirianwyr cyfansoddiadol yn pryderu. Mae EJP wedi gwrando ar leisiau’r rheini sy’n rhybuddio na ellir parhau ar yr un trywydd heb beryglu egwyddorion hollbwysig. Trwy ei Adroddiad daeth â’r rhybuddion hyn i sylw’r dosbarth gwleidyddol a’r cyhoedd fel ei gilydd. Gobeithio’n wir y gwrandewir arno.  

Act Dau

Y broses bleidiol-wleidyddol fydd yn penderfynu ffawd (tymor byr) Adroddiad Jones Parry. Eisoes mae wedi creu’r argyfwng mwyaf difrifol yn hanes y llywodraeth glymblaid bresennol: gallai’n hawdd iawn arwain at ei datgymaliad. Nid yw’n eglur chwaith a gynhelir y refferendwm arfaethedig o gwbl.  

Gadewch i ni beidio â’n twyllo ein hunain, nid mater syml yw amseru refferendwm. Mae cymaint yn dibynnu ar ba ffactorau mae dyn yn teimlo y dylid eu hystyried wrth benderfynu os y dylid ei chynnal, a phryd. O’m rhan fy hun, a gyda golwg yn unig ar ennill unrhyw bleidlais, yr wyf yn dal i gredu mai Hydref 2011 sy’n debyg o gynnig yr hindda angenrheidiol. Fodd bynnag, nid dyma’r unig ystyriaeth ddilys o bell ffordd. Yn sgil ymrwymiadau Cytundeb Cymru’n Un mae ’na ddisgwyliad cyffredinol y caiff refferendwm ei gynnal cyn diwedd tymor y Cynulliad presennol, hynny yw cyn Mai 2011. Mae rhai datganolwyr yn poeni y byddai oedi y tu hwnt i hynny’n niweidio hygrededd eu hachos gan roi rhwydd hynt i’r Nacawyr ddadlau bod ‘y sefydliad’ bondigrybwyll yn ofni dyfarniad ‘y werin’. Dadl arall a glywir bellach yw ei bod yn werth mentro cyn Mai 2011 gan na fyddai pleidlais ‘Na’ yn rhyw drychineb mawr. Ni fyddai’r sefydliadau datganoledig yn diflannu – mae hyd yn oed ‘True Wales’ fel petaent yn derbyn hynny bellach. Parhau hefyd fyddai holl ffaeleddau’r drefn sydd ohoni. Felly o golli byddai’n rhaid dychwelyd at yr un cwestiwn eto mewn byr o dro. A phwy a wyr, efallai y bydd y cynnig a wneir bryd hynny’n fwy deniadol na Rhan 4? Datganoli deddfwriaethol ar lun cyfundrefn yr Alban, efallai?  

Ond mae ystyriaethau eraill ar waith hefyd. Gadewch i ni droi ein golygon yn ôl at haf 2007 pan oedd y posibilrwydd o glymbleidio â Phlaid Cymru yn destun dadlau mawr oddi mewn i’r Blaid Lafur Gymreig.  

A siarad yn fras (ac roedd eithriadau ar y naill ochr a’r llall) roedd Aelodau Llafur yn y Cynulliad o blaid clymbleidio ac Aelodau Llafur yn San Steffan yn gwrthwynebu. Bu’n rhaid wrth bleidlais i dorri’r ddadl, a Rhodri Morgan a’i gynghreiriaid a orfu. Byth ers hynny, fodd bynnag, bu’n amlwg nad oedd trwch yr Aelodau Seneddol yn derbyn dilysrwydd cymal creiddiol a mwyaf dadleuol y Cytundeb, sef yr ymrwymiad i refferendwm. Yn benodol, ni flinodd Peter Hain â’n hatgoffa ei fod wedi sicrhau ei gyd-Aelodau na chynhelid refferendwm tan ar ôl 2011 (er na chynhwyswyd hynny ar wyneb Deddf 2006) ac mai felly y dylai hi fod. Yn wir, fe ysgrifennodd at EJP i’w atgoffa yntau hefyd (gweler para. 5.5.20 yr Adroddiad terfynol).  

Er iddynt ennill y frwydr yn haf 2007, ymddengys fod Aelodau Llafur yn y Cynulliad ar fin colli’r rhyfel. Yn sicr, gwantan iawn fu arweiniad Rhodri Morgan ar y mater wrth iddo droi fel cwpan mewn dwr. Ar ben hynny, mae’r etholiad am ei olynydd wedi cryfhau braich yr Aelodau Seneddol.  

Tybed a fydd Carwyn Jones, ein Prif Weinidog newydd, mewn sefyllfa i’w herio hyd yn oed petai ganddo awydd gwneud hynny? O safbwynt y Blaid Lafur Gymreig, ymddengys fod agweddau tuag amseriad refferendwm yn adlewyrchu rhagdybiaethau ynglyn â phwy sydd â’r hawl i wneud penderfyniad ar y mater, lawn cymaint os nad mwy, nag unrhyw farn ynglyn â ffawd debygol y bleidlais ei hun.  

Mae hyn oll yn creu andros o gyfyng gyngor i Ieuan Wyn Jones a Phlaid Cymru. Petai awydd cwbl ddealladwy i sicrhau bod Llafur yn cadw’n driw at ysbryd a llythyren Cytundeb Cymru’n Un yn arwain at fynnu pleidlais o blaid refferendwm yn y Cynulliad yn y flwyddyn newydd, mae’n debyg mai refferendwm yn Hydref 2010 fyddai canlyniad hynny. Ond os felly, a all Plaid Cymru ymddiried yn y Blaid Lafur i ymgyrchu gorff ac enaid dros bleidlais gadarnhaol? Sut y gellir bod yn sicr na fydd lleiafrif grymus yn rhengoedd y blaid honno’n eistedd ar eu dwylo neu’n grwgnach o ochr y llwyfan? A hyd yn oed heb rwystrau o’r fath, pa mor hyderus y gall Plaid Cymru fod ynglyn â chanlyniad refferendwm a gynhelir ar yr union adeg hynny?  

Ond os penderfynir peidio bwrw mlaen efo refferendwm yn nhymor y llywodraeth bresennol, beth wedyn i Blaid Cymru? Oni fyddai’n rhwym o golli pob hygrededd? Beth yn y byd, er enghraifft, fyddai Aelodau’r Blaid yn y Cynulliad yn ei wneud petai’r Rhyddfrydwyr neu’r Torïaid, hyd yn oed, yn mynnu cynnal pleidlais ar refferendwm? Byddent yn gyff gwawd a byddai Plaid Cymru yn wynebu’r argyfwng mwyaf yn ei hanes ers dyfodiad datganoli.  

          *          *          *          *          *

Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad y Confensiwn mae dyfodol y glymblaid lywodraethol yng Nghaerdydd bellach yn y fantol. Nid dyna fwriad Syr Emyr a’i gyd-gomisiynwyr wrth ei llunio, wrth gwrs. Ond dyna ganlyniad gwrando ar yr arbenigwyr! Diolch iddynt am wneud hynny. Diolch iddynt hefyd am ein hatgoffa nad ar seiliau pragmatiaeth noeth yn unig yr adeiledir Cymru well.