|
Crynoddisgiau Newydd Cerddoriaeth Karl Jenkins, lleisiau côr meibion, Gwilym Morus a phedair cantores a gaiff y sylw y tro hwn, gan ddechrau â Fflur Dafydd a’r Barf. Adolygiadau gan CRAIG OWEN JONES, EIRY MILES a TRISTIAN EVANS.

Fflur Dafydd a’r Barf Byd Bach Rasal (£9.99)Adar prin yw albymau cysyniad ym myd cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg. Mae’n rhy hawdd honni mai’r eglurhad am hyn yw diffyg hunanhyder, neu ryw duedd reddfol ymhlith y Cymry i ddrwgdybio unrhyw gamp artistig sy'n ymddangos yn rhy 'grand'. Rhaid gwahaniaethu hefyd rhwng albymau sy’n cynnwys caneuon am thema gyffredin (wedi’r cwbl, o’r Trwynau Coch i Datblygu a thu hwnt, mae digonedd ohonyn nhw yn hanes cerddoriaeth bop Gymraeg), ac albymau sy’n seiliedig ar thema benodol. Meddylier am Salem gan Endaf Emlyn, a ryddhawyd yn 1974 (mewn gwirionedd, y cyntaf ydy’r gorau o hyd), enghraifft o’r math o ysgrifennu cymhleth a soffistigedig a ysgogwyd gan thema. Mae Byd Bach, fodd bynnag, yn cynrychioli cyfraniad disglair a gwerthfawr i’r genre. Dyma albym sy’n olrhain hanes taith o’r gogledd i’r de ar hyd yr A470, ac, mewn termau cysyniadol a cherddorol, mae’n chwa o awyr iach. I’r rhai ohonom sy’n gyrru am oriau hir heb neb ond ni ein hunain a’n meddyliau yn gwmni, mae’r profiad yma o hunanddarganfod yn gallu bod yn un digon cyffredin. A dyma’r pwyslais sydd ar yr albwm hwn, gyda’r gwaith celf yn adlewyrchu’r un thema – gwelwn lun o Fflur Dafydd ar ei phen ei hun mewn ystafell aros ddigymeriad, gyda golygfa o rywle yng nghefn gwlad yn y cefndir. Mae’r daith sy’n dilyn yn un bersonol iawn, gydag ymweliadau i Benrhiw-llan, lle y cafodd y gantores ei magu, i Gaerdydd a Phorthgain a galw heibio Aberaeron ar y ffordd. Mae’r arddull gerddorol yn atgoffa rhywun o’i halbymau diweddar, gyda gitâr a churiadau bywiog yn y blaen. Mae’r cyfan yn creu naws ymlaciedig, heblaw am y trac teitl, sy’n gyflymach ac yn fwy egnïol. ‘Dwi ’di trio gadael fynd / Dwi ’di trio mynd a mynd a mynd / Bob tro dwi’n llwyddo, dwi’n dod yn ôl,’ – geiriau’r gytgan sydd, efallai, yn crisialu’r holl albym. Wedi dweud hynny, prin iawn yw’r bobl hynny sy’n gwybod yn union o ble maen nhw’n dod ac i ble maen nhw’n mynd, ac mae dod o hyd i’r ateb i’r cwestiynau hynny yn fusnes hir ac anodd. Mae’r casgliad hwn yn profi nad ydych chi angen teithio’n rhy bell i gael rhyw friwsionyn o ateb. COJ
Mae Gwilym Morus wastad wedi cynhyrchu recordiau diddorol. Bu’n gysylltiedig â’r sîn ers degawd ac mae ei fand, Drymbago, yn enwog am gyfuno elfennau Affricanaidd â dylanwadau brodorol. Ond mae Llwyn Eosiaid yn llai uchelgeisiol o ran ei ystod cerddorol, ac yn tanlinellu diddordeb Morus mewn offerynnau a ddefnyddir fel arfer gan artistiaid unigol. Mae’r gitâr acwstig a’r piano yn yr amlwg, yn ogystal â llinynnau, a dim ond yn achlysurol y clywn y drymiau yn bywiogi’r naws dangnefeddus, er enghraifft ar ‘Cyson fel y Lli’. Gellir clywed rhyw dinc galarus drwy’r cyfan, fel Bloc Party heb y curiadau electronig. Mae’r dechneg o aml-dracio llais Morus yn creu effaith arallfydol, a chlywir hyn ar ei orau ar y gân ‘Ty ar y Tywod’. Ond gormod o ddim nid yw dda – mae’r un dechneg i’w chlywed (fwy neu lai) ar bob trac ar Llwyn Eosiaid, ac er fod perfformiad lleisiol Morus yn ddi-fai, mae hyn yn rhoi naws undonog i’r casgliad. Dydy hyn ddim yr un peth â dweud nad oes yma bwyntiau o ddiddordeb. Mae traciau gwerth gwrando arnyn nhw ar yr albwm, gyda ‘Ta ar y Tywod’ heb ei ail, a ‘Cân Siwan’ yn swyno gyda threfniant gwreiddiol ar gyfer piano a gitâr. Mae rhyw hyder amlwg yn perthyn i’r perfformiadau ar yr albwm, ond er hynny mae rhywun yn teimlo bod Llwyn Eosiaid yn rhy ddi-amrywiaeth i fod yn albym gwych, yn hytrach nag un da. COJ Cerys Matthews Paid Edrych i Lawr Rainbow City Records
Yn ystod ei chyfnod yn yr Unol Daleithiau, daeth Cerys Matthews o hyd i Dduw a chanu gwlad, a ffordd iachach o fyw. Ond dychwelyd i Gymru a wnaeth hi, ac er ei bod bellach yn byw yn Llundain ymddengys bod ei chyswllt â Chymru a’r Gymraeg yn gryfach nag erioed. Dros y ddwy flynedd ddiweddaf perfformiodd mewn amryw o ddigwyddiadau Cymraeg megis cyngerdd ‘C’ Eisteddfod Caerdydd, a chyflwynodd raglen arbennig o ddifyr am Mississippi yng nghyfres Yr Afon (S4C). A nawr dyma hi’n rhyddhau ei halbwm hir cyntaf yn y Gymraeg, law yn llaw â’r fersiwn Saesneg, Don’t Look Down. Rhyddhawyd rhai o ganeuon y casgliad eisoes ar yr EP Awyrennau, ac i mi, dyma ganeuon cryfaf yr albwm, yn arbennig ‘Y Corryn a’r Pry’, gyda’i geiriau chwareus a’i churiadau trwm, dioglyd. Cân arbennig arall yw ‘Arlington Way’, sydd â naws chwedegaidd iddi. Ond nid efelychiad gwan o Duffy mohoni, fel yr awgrymodd rhai beirniaid cerddorol. Mae stamp Cerys ar y geiriau a’r alaw, â’i llais unigryw heb golli mymryn o’i rym ers dyddiau Catatonia. Gall hefyd ganu’n dyner ac yn addfwyn, fel y clywn yn y gân hafaidd braf, ‘Orenau i Florida’, ynghyd â ‘Carolina’, sy’n dangos, gyda thincial hyfryd y banjo, nad yw Cerys wedi cefnu’n llwyr ar Nashville. Mae’n siwr y bydd rhai yn ysu i glywed am safon y geiriau, gan mai digon herciog oedd Cymraeg Cerys ar ôl dychwelyd o’r Unol Daleithiau. Yn ôl nodiadau’r clawr, cydweithiodd gydag Iwan Llwyd ar rai caneuon, ac felly ceir tipyn o raen ar y geiriau. Ond mae’n amlwg mai Cerys yw eu hawdur, serch hynny, gan eu bod yn aml yn ingol bersonol ac yn ymdrin â’r pethau sy’n ei phoeni – o serch ac unigrwydd i gylchgronau ffasiwn. Ac er y gall fod braidd yn fyfïol – megis yn ‘I Drive, Adref’, sy’n cynnwys monolog gwynfanllyd am ddiflastod ei bywyd-bob-dydd – ceir tipyn o hiwmor a chlyfrwch hefyd, gydag adlais o ‘Dwy Law yn Erfyn’ mewn un gân, a chyfeiriad at Twm Siôn Cati dro arall! Teimlwn ar brydiau fod trefniannau llinynnol rhai caneuon yn eu gorlethu, ac yn boddi llais Cerys. Mewn perfformiad diweddar yn Abertawe dim ond tri cherddor arall oedd yn gwmni iddi, ac i mi, roedd y cyfeiliant syml hwnnw’n berffaith. Felly er bod Paid Edrych i Lawr yn gasgliad ardderchog, hoffwn petai’n mynd ati i recordio albwm mwy amrwd, heb lawer o offerynnau a threfniannau cymhleth. Hoffwn glywed rhagor o ganeuon Cymraeg ganddi hefyd, gan y dengys yr albwm hwn fod ganddi’r ddawn i sgwennu caneuon Cymraeg sydd gystal, os nad gwell, na’u fersiynau Saesneg. EM Elin Fflur Goreuon Rasal (£9.99)
Yn aml, bydd perfformwyr pop yn cyhoeddi crynoddisg Goreuon ar ôl cyrraedd canol oed, pan fo’r cyfrif banc yn wag a’u henwogrwydd yn pylu. Ond mae Elin Fflur yn dal i fod yn un o brif artistiaid yr SRG, a’i phoblogrwydd yn tyfu yn sgil y rhaglen deledu Nodyn, lle gwelwn ei phersonoliaeth hoffus yn disgleirio. Serch hynny, mae hi eisoes wedi cyhoeddi pump o grynoddisgiau eithriadol boblogaidd, ac yn meddu ar fwy na digon o ganeuon i lenwi casgliad o oreuon. Ac er nad yw’r math hwn o roc meddal at ddant pawb, ni ellir gwadu bod Elin Fflur yn gyfansoddwraig ddawnus, a’i chaneuon bachog bob amser yn aros yn y cof. Mae ei llwyddiant, heb os, yn dibynnu ar lawer mwy na’i llais pwerus a’i hwyneb del. Ceir yma’r holl ffefrynnau megis ‘Ysbryd Efnisien’ a ‘Y Llwybr Lawr i’r Dyffryn’, ac mae ei chanu’n feistrolgar – yn llawn anwyldeb yn ‘Ar Lan y Môr’, ond gyda digon o ‘wmff’ mewn caneuon roc bywiog fel ‘Meillionen’. Braidd yn ddiddychymyg yw rhai trefniannau, fodd bynnag, a dilynir yr un fformiwla dro ar ôl tro, sef dechreuad tawel, crescendo graddol, a beltar o gytgan oremosiynol ar y diwedd. Gwelir dylanwad Caryl Parry Jones ar harmonïau siwgwrllyd rhai caneuon cynnar hefyd. Ond dilyn ei thrywydd ei hun a wna Elin yn ei chynnyrch mwyaf diweddar, a dengys ‘Gwên’, gyda’i recordiad o Fidel Castro, ei bod yn barod, efallai, i ganu caneuon ychydig yn llai confensiynol. Pwy a fiyr, felly, beth fydd cynnwys ei chrynoddisg nesaf... EM
Sara Meredydd Serch Recordiau Bos (£11.99)
Dyma CD cyntaf Sara Meredydd, ond bydd ei henw’n adnabyddus i lawer, a hithau wedi serennu mewn amryw o sioeau cerdd megis Ann, Cwmni Theatr Maldwyn. Rhaid cyfaddef nad oeddwn wedi clywed amdani, ac imi ddisgwyl clywed rhywbeth cwbl draddodiadol o edrych ar restr caneuon y CD, sy’n cynnwys ffefrynnau gwerin fel ‘Paid â Deud’ a’r emyn ‘Rho im Hedd’. Ond o droi at y clawr – llun du-a-gwyn moody o Sara, wedi’i lapio mewn carthen Gymreig – gwelwn drosiad perffaith o’r casgliad, gan y ceir ynddo lawer o ganeuon cyfarwydd, wedi’u cyflwyno mewn arddull fodern. Ac mae ei llais cyfoethog, sy’n symud yn ddiymdrech o’r llon i’r lleddf, mor feddal a chysurlon â blanced gynnes. Bu cantores arall o Faldwyn yn cydweithio â hi ar y casgliad, sef Siân James, ac mae ei dylanwad i’w weld yn yr offeryniaeth a’r lleisiau cefndir. Ond caneuon a chanddynt ystyr arbennig i Sara yw’r casgliad, a cheir perfformiad teimladwy o bob un ohonynt. ‘Serch’ yw’r unig gân wreiddiol, sef cân yn seiliedig ar gerdd a luniodd Ann Fychan ar gyfer priodas y gantores. Mae honno, felly, yn gân arbennig o bersonol a thyner. Ymhlith goreuon y casgliad mae ‘Yn Dy Gwmni’, sef fersiwn synhwyrus o ‘Songbird’ gan Eva Cassidy, a ‘Merch y Melinydd’, gyda chyfeiliant syml a phruddglwyfus y gitâr a’r acordion. Mewn rhai caneuon, teimlwn fod y gitâr drydan 80-aidd ei naws yn rhy amlwg, yn enwedig felly yn ‘Ar Hyd y Nos’, a oedd o’r herwydd yn swnio braidd fel emyn happy-clappy, yn enwedig â’r swn curo dwylo yn y cefndir. Ond er bod y casgliad hwn efallai yn rhy dawel ac addfwyn at fy nant i, bydd yn siwr o gynhesu llawer o bobl y gaeaf hwn. EM Karl Jenkins Stella Natalis EMI Classics
Y llynedd, cyfeiriodd beirniad yn y wasg Seisnig at gerddoriaeth Karl Jenkins fel ‘Marmite’. Yr hyn a olygai, wrth gwrs, oedd naill ai yr ydych yn ei garu neu’n ei gasáu. O’r cychwyn cyntaf, mi ro’i fy mhen ar y bloc yma trwy ddatgan fy mod yn hoff o’i waith ar y cyfan. Ac yn amlwg mae eraill yn teimlo’r un fath, gyda’r rhestr o berfformiadau bron â chyrraedd yr entrychion, heb sôn am y gwerthiant o filoedd o grynoddisgiau ledled y byd. Ar yr albwm Stella Natalis clywir rhai o sêr disgleiriaf y byd clasurol yn perfformio’r gwaith Nadoligaidd newydd, ynghyd â threfniant o naw carol dan y teitl ‘Joy to the World’. Elfen nodweddiadol o’i arddull yw’r cyfuniad o ddiwylliannau cerddorol, a cheir cyfeiriadaeth at sain agored ac ethnig y cantorion Adiemus a ddaeth â Jenkins i sylw cyhoeddus yn ystod y 90au, wedi’i ryngosod â chyfoethogrwydd a chynhesrwydd llais y soprano Kate Royal a’r grfip corawl Tenebrae. Cyfranna Alison Balsom liw tymhorol ar y trwmped. Trwy gydol y gwaith, gwneir cyferbyniadau llwyr mewn awyrgylch a mynegiant – o dynerwch ‘Only Heavenly Music’ a ‘Lullay’ i naws fuddugoliaethus ‘Celebro’. Mae’n braf clywed ‘Cantus Triquetrus’ yn ailymddangos hefyd. Ond nid wyf wedi f’argyhoeddi bod yr holl elfennau yn ffitio’n gyfforddus gyda’i gilydd, yn enwedig yn ‘Joy to the World’. Yn hytrach na chael cyfnewidiadau cywrain mewn arddull, gellir dadlau mai lobsgóws o seiniau sydd yn y trefniannau yma. Wedi dweud hyn, yn sicr, dyma albwm sy’n hawdd gwrando arno. Wel, dros gyfnod y Nadolig o leiaf! TE Côr Meibion Silwraidd Rhymni The Silurian Sound Sain (£12.98)
Ar eu hail albwm, sy’n dathlu trigain mlynedd ers eu ffurfio, mae Côr Meibion Silwriaid Rhymni yn cyflwyno 13 trac o gerddoriaeth o Gymru ac Affrica, o America ac o Seland Newydd. Dyma gyfuniad diddorol, a gynhwysa’n ogystal ddarnau operatig gan Verdi, seindrac i’r ffilm boblogaidd Titanic, cerddoriaeth gysegredig Gounod, medli allan o Les Miserables, ynghyd â hen ffefrynnau megis ‘Cwm Rhondda’ a ‘Gwalia’. Cyn trafod yr albwm ymhellach, hoffwn wneud sylw eithaf cyffredinol. Mae nifer helaeth o gorau y dyddiau hyn yn rhyddhau crynoddisgiau o natur eclectig, ac efallai mai da o beth fyddai cael ychydig mwy o gasgliadau’n canolbwyntio ar un cyfansoddwr (boed yn gyfoes neu’n hanesyddol), neu yn hytrach ar thema benodol. A thybed nad oes lle i archwilio mwy i repertoire cyfoethog ein cenedl? Dwi ddim eisio bod yn rhy feirniadol yma, ond teimlaf nad yw rhai o’r perfformiadau mor gaboledig ag y gallent fod ar brydiau. Gwn eu bod yn ceisio cyfleu tristwch a hiraeth yn ‘My heart will go on’, ond does dim rheswm dros ganu braidd yn fflat. Ar y llaw arall, mae’r acwstig yn berffaith trwy gydol y recordiad – o ystyried natur drwchus sain côr meibion, mae’r geirio yn gwbl glir a dealladwy, ac yn arddangos gallu’r côr i gynhyrchu amrywiaeth eithaf eang o liwiau. Teimlais fod y corws allan o Rigoletto gan Verdi yn hynod ysgafn a sionc, ac mae’r harmoneiddio’n eithriadol o gelfydd yn ‘Cwm Rhondda’. I mi yn bersonol, dyma un o uchafbwyntiau’r recordiad. TE |