| Y Theatr Gymraeg yn y Glorian |
|
|
|
|
Y Theatr Gymraeg yn y Glorian
Bu rhai sylwebyddion yn ddiweddar yn darogan gwae i fyd y theatr Gymraeg. A yw’r sioe ar ben fel yr awgrymant hwy? Ai gorymateb i un cynhyrchiad siomedig oedd y storm hon?
Bydd nifer dda o ddarllenwyr Barn yn ymwybodol erbyn hyn o’r drafodaeth a fu ar y cyfryngau yn sgil cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, Tyner yw’r Lleuad Heno. Gan fod y ddrama wedi ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Meic Povey, roedd y disgwyliadau yn fawr, a’r siom yn sgil drama dreuliedig a diddychymyg gymaint yn fwy. Mae’r drafodaeth genedlaethol sydd bellach yn cael ei chynnal yn sgil y cynhyrchiad yn ymwneud â materion ehangach na’r cynhyrchiad hwn, ac fe fydd gobeithio yn arwain at hunan-feirniadu mwy treiddgar, mwy gonest a mwy iachus, y tu mewn a’r tu allan i fyd y theatr. Yn ôl y cwmni eu hunain, eu nod yw ‘cyfoethogi diwylliant theatrig’ ein gwlad. Anodd yw mesur llwyddiant y fath nod, ond mae’n debyg y gellid disgwyl i Theatr Genedlaethol ddenu nifer dda ohonom i fod yn aelodau cyson o’i chynulleidfa, ac i ysgogi ac ysbrydoli dramodwyr a chyfarwyddwyr i greu cynyrchiadau o’r safon uchaf sy’n herio’n gwerthoedd a’n daliadau fel unigolion ac fel cenedl. Mae’r Cyfarwyddwr Artistig, Cefin Roberts, yn teimlo bod y cwmni wedi llwyddo i drawsffurfio’r profiad o fynychu perfformiadau o ddramâu Cymraeg. ‘Ar ôl blynyddoedd o fod mewn cynulleidfa o ryw bymtheg mewn theatr, mae’r cwmni wedi llwyddo i ddenu llond theatrau o Gymry Cymraeg a chreu achlysur, noson allan yn y theatr, yn hytrach na noson anniddig o deimlo bod rhywbeth o’i le. Mae rhai’n dweud ein bod wedi chwarae’n saff ambell dro, ond mae tynnu niferoedd allan i weld drama Gymraeg yn her aruthrol i unrhyw un sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hynny’n wahaniaeth enbyd gyda’r hyn sy’n wynebu’r theatr.’ Yn fy mhrofiad i, mae yna’n sicr ymdeimlad o achlysur a chyffro ymhlith y gynulleidfa wrth baratoi i wylio cynhyrchiad newydd gan y cwmni. Ond efallai fod hyn yn golygu bod y siom yn fwy dwys pan nad yw’r cynhyrchiad yn cyrraedd yr uchelfannau. Nid gormodiaith yw cyfaddef mai un o dasgau anoddaf fy ngyrfa fel newyddiadurwraig ac adolygydd celfyddydau oedd llunio fy adolygiad o Tyner yw’r Lleuad Heno ar gyfer Rhaglen Dewi Llwyd. Fe welais i berfformiad agoriadol y ddrama, a doedd datgan fy marn yn onest wrth wrandawyr Radio Cymru ddeuddydd yn ddiweddarach ddim yn orchwyl pleserus. Roedd yn gynhyrchiad gwan o ddrama ystrydebol nad oedd yn haeddu bod yn gynhyrchiad gan ein Theatr Genedlaethol. Roeddwn yn teimlo’n hynod siomedig gan fy mod i, yn wahanol mae’n ymddangos i rai, wedi cael fy modloni ar y cyfan gan natur a safon nifer o’u cynyrchiadau diweddar. Teimlais fod Esther, Y Pair, ac Iesu!, er nad yn berffaith, yn gynyrchiadau oedd yn anelu’n uchel ac roedd cyfosod drama Wil Sam Bobi a Sami â dramâu abswrd Beckett yn syniad ysbrydoledig. Roedd y cynhyrchiad hwnnw cystal ag unrhyw beth a welir ar lwyfan rhyngwladol ac yn agor ein llygaid i’r ffaith bod gan lên Cymru le haeddiannol yn y traddodiad Ewropeaidd a bod gan y traddodiad hwnnw rywbeth i’w ddweud wrth Gymru. Felly, beth sydd i gyfrif am yr hyn y mae nifer wedi ei alw’n ‘argyfwng’ ym myd y theatr Gymraeg? Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad wrth gwrs fod y llifddorau wedi agor wrth i’r cwmni theatr cenedlaethol arall ddatgelu ei arlwy. Rwy’n sicr o’r farn fod dyfodiad y National Theatre Wales yn un o’r prif resymau pam mae’r drafodaeth bresennol wedi poethi. Mae’n gyfle naturiol a gwerthfawr i bwyso a mesur perfformiad Theatr Genedlaethol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf yn ogystal ag ystyried rôl a chyfraniad y ddau gwmni cenedlaethol. Mae’r arbenigwraig ar hanes y theatr yng Nghymru, Hazel Walford Davies, yn cytuno. ‘Mae lansio’r cwmni cenedlaethol Saesneg newydd yn sicr wedi bod yn gatalydd. Mae anfodlonrwydd yn bod – nid yn unig gyda’r Theatr Genedlaethol ond gyda holl ddiwylliant y Theatr Gymraeg. Does dim adfywiad cyffrous wedi digwydd oddi ar ddiwedd yr wythdegau a dechrau’r nawdegau pan oedd ’na fwrlwm gwirioneddol yn bodoli ym maes y theatr. Mae yna gwestiynau dwys sydd angen eu gofyn ynghylch cyflwr y theatr Gymraeg ei hiaith.’ Mae rhai o gynlluniau National Theatre Wales yn cyffroi Hazel Walford Davies am eu bod yn ‘elwa ar dirwedd Cymru a’i thraddodiadau a’i hanes.’ Yn rhinwedd ei swydd fel aelod o Bwyllgor Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae hi wedi cwrdd â’r cyfarwyddwr artistig John McGrath ac wedi trafod syniad o greu cynhyrchiad yng Nghastell y Waun, cartref yr Arglwydd Howard de Walden – sylfaenydd y Theatr Genedlaethol gyntaf ar ddechrau’r ugeinfed ganrif – a hynny i gyd-ddigwydd ag ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Wrecsam. ‘Mae’n amlwg bod y National Theatre Wales yn medru gweld y cysylltiad rhwng llefydd hanesyddol a’r hyn y gall cwmni theatr ei greu,’ meddai. ‘Dylai cwmni theatr genedlaethol adlewyrchu a dehongli ein hanes, a hynny mewn dull a chyfrwng modern, heriol. Dylai hefyd daflu goleuni ar gyflwr y Gymru gyfoes, ac yn hyn da fyddai cael ychydig o ddychan a beirniadu deifiol ar ein llwyfannau. Rhaid hefyd, heb os, feithrin beirniaid theatr o safon.’ Ym marn y dramodydd Roger Williams, Is-Gadeirydd Undeb yr Ysgrifenwyr, nid yw’r theatr genedlaethol wedi llwyddo i ymestyn allan at awduron, tra mae ymdrech bwrpasol i wneud hynny wedi nodweddu misoedd cynnar y National Theatre Wales. ‘Er fy mod i’n rhywun sy wedi sgrifennu deg drama i’r theatr, dwi heb gael sgwrs gydag unrhyw un o’r Theatr Genedlaethol. Dwi ddim yn credu y dylai sgrifenwyr gael gwaith yn awtomatig wrth gwrs, ond dyletswydd y cwmni yw siarad ’da pawb sy â diddordeb yn y maes. Ges i gyfarfod â John McGrath o fewn tri mis iddo gael ei benodi. Dyna’r gwahaniaeth – mae yna ymdeimlad llawer mwy agored. Yn fy marn i daeth bwrdd y Theatr Genedlaethol at y sîn gyda syniadau penodol a chyfyng. ‘Mae rhaglen y National Theatre Wales yn edrych yn hynod o gyffrous. Mae yna weledigaeth bendant. Yn anffodus dyw nifer o awduron Cymru ddim yn teimlo bod y Theatr Genedlaethol wedi cynnig rhaglen gyffrous, ac mae angen edrych felly ar y bobl sy ar y bwrdd rheoli a’r tîm artistig a gofyn pam. O gofio’r adnoddau sydd gyda nhw does dim esgus.’ Ond dyw Cefin Roberts ddim yn derbyn nifer o’r pwyntiau hyn. Nid oedd yn ymwybodol o’r anfodlonrwydd eang hwn meddai, a theimlai fod gwaith y cwmni ‘yn datblygu ac yn creu seiliau, yn ceisio cyrraedd a gwella a chryfhau, yn enwedig o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.’ Dywedodd iddo gael ‘tipyn o sioc’ yn sgil y beirniadu diweddar ‘achos o’n i jest yn teimlo, yn sgil yr ymateb arbennig o dda i’r cynyrchiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, fy mod i wedi dod â ni i raddau lle dylen ni fod.’ Mae’n awgrymu bod yr ymateb i Tyner yw’r Lleuad Heno yn tanlinellu prif her y cwmni. ‘Mae’r chwaeth yn amrywio’n helaeth iawn o fewn y gynulleidfa. Mi gafodd y cynhyrchiad ymateb gwell o lawer yn yr ardaloedd mwy gwledig, fel yn Theatr Mwldan er enghraifft, lle’r oedd ’na bobl yn teimlo eu bod nhw wedi cael stori. Dw i a Meic yn ymwybodol bod yna ddiffygion ac mae’n siwr y byddan ni wedi gwneud rhai pethau’n wahanol, ond mae hynny wedi digwydd i’r dramodwyr a’r cyfarwyddwyr gorau. Dydan ni, fel cwmni, yn sicr ddim yn gweld y cynhyrchiad fel methiant.’ Ond mae’r drafodaeth ar Tyner yw’r Lleuad Heno wedi amlygu’r ffaith fod gan y theatr Gymraeg broblemau ehangach na safon cynyrchiadau’r cwmni cenedlaethol. Mae diffyg gofod beirniadol, y tu allan i’r byd academaidd, yn wendid sylfaenol yn ein bywyd diwylliannol. (Efallai y byddai pethau’n wahanol, wrth gwrs, pe bai gennym ni bapur dyddiol Cymraeg.) Mae meddylfryd amddiffynnol y diwylliant Cymraeg hefyd yn ein rhwystro rhag datblygu diwylliant beirniadol aeddfed y gellid ei dderbyn fel modd o gynnig arweiniad adeiladol yn hytrach na chael ei ddiystyru fel ymosodiad ar unigolion, iaith a chenedl. Ac os oes diffyg adolygu, yna diffyg ysgrifennu newydd yw’r elfen arall sydd wedi tanio’r drafodaeth. Mae’r awdur a’r beirniad Gareth Miles yn teimlo bod yna wendid sylfaenol yn null gweithredu’r Theatr Genedlaethol sydd wedi arwain at ddiffyg datblygu gwaith newydd ac at arddull geidwadol. Er ei fod yn edmygu’n fawr y gwaith anodd iawn a wnaed i sefydlu’r cwmni, mae’n teimlo bod yn rhaid gofyn cwestiynau ynglan â gweledigaeth Cefin Roberts fel cyfarwyddwr artistig. ‘Er bod nifer o lwyddiannau wedi bod yn ystod ei gyfnod fel cyfarwyddwr artistig, o’r cychwyn dw i’n teimlo bod yna dueddiad i lwyfannu gweithiau a oedd yn deillio o ffactorau allanol – ei gyfnod gyda Bara Caws a gydag Ysgol Glanaethwy a’r cwricwlwm lefel A, canmlwyddiant geni Samuel Becket a marwolaeth Wil Sam – yn hytrach nag o weledigaeth greadigol bersonol, bendant.’ Mae’n amheus, fodd bynnag, o’r syniad bod y ddrama Gymraeg ‘ar ei gwely angau’ a bod diffyg dawn ysgrifennu yng Nghymru. ‘Mae modd dadlau ei bod hi’n oes aur y nofel Gymraeg. Mae yna gymaint o nofelau da darllenadwy mentrus yn cael eu sgrifennu. Mae’n amlwg bod y sgrifenwyr gynnon ni. ‘Dylai sgrifennu newydd, wrth gwrs, fod yn ganolog i rôl y cwmni cenedlaethol ac mae Cefin wedi rhoi arian datblygu i nifer o awduron. Ond dydy hyn ddim yn ddigon. Nid felly mae hi’n gweithio – dosbarthu arian ac yna disgwyl i’r awduron ddod â’u dramâu ato fo. Er mwyn creu drama sy’n gweithio’n theatrig mae’n angenrheidiol i’r awdur, y cyfarwyddwr, ac yna’r actorion, gydweithio’n galed am gyfnod go hir. ‘Os yw’r tîm rygbi yn gwneud llanast o bethau, mae pawb yn troi at Warren Gatland er mwyn holi be aeth o’i le. Os nad oes yna ddigon o safon i’r cwmni theatr sy’n cael ei gynnal ar bwrs y wlad, mae’n ddigon teg gofyn cwestiynau ynglan â pherfformiad y cyfarwyddwr artistig.’ Dywed Cefin Roberts fod y cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesa yn dangos bod y Theatr Genedlaethol yn gweithio’n galed gydag awduron ac yn llwyddo i ysbrydoli. ‘Mae Aled Jones Williams, er enghraifft, rwan yn gweithio ar ddrama newydd ar ôl cael ei ysbrydoli o weithio ar y raddfa a gafwyd yng nghynhyrchiad Iesu!.’ Mae awduron fel Twm Morys, Geraint Lewis, Siôn Eirian, Gwyneth Glyn, Catrin Dafydd a Luned Aaron hefyd yn gweithio gyda’r cwmni i ddatblygu dramâu. Dros y flwyddyn nesaf bydd y cwmni’n llwyfannu drama newydd 2011 gan Manon Wyn ac fe fydd cyfieithiad Sharon Morgan o waith Ed Thomas, House of America, yn cael ei berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent cyn teithio yn yr hydref. Bydd cynhyrchiad hefyd o ddrama fuddugol y Fedal Ddrama eleni, Tân mewn Drain gan Dyfed Edwards, sy’n edrych ar effaith marwolaeth milwr yn Affganistan ar ei deulu yng Nghymru. Dyma ddrama sydd, yn ôl Cefin Roberts, ‘yn hynod ddiddorol efo stori gref ac arddull ffres iawn – mae swn newydd i sgrifennu Dyfed.’ ‘Ond dwi’n cytuno gydag Alun Ffred Jones i raddau achos mae’n frwydr ceisio ysgogi awduron i ymateb i’r pynciau y byddwn i’n hoffi eu gweld nhw’n ymhél â nhw. Mae’n gur pen, ond dwi’n gweld y cur pen fel her ac nid fel rhywbeth sy’n gwneud i mi fod eisiau cnocio pennau yn erbyn y wal!’ Bydd bwrdd rheoli’r Theatr Genedlaethol yn methu yn eu dyletswyddau os byddant yn anwybyddu’r hyn sydd wedi ei ddweud yn gyhoeddus dros yr y wythnosau diwethaf – ac ni all y rhai sy’n dilyn y theatr yng Nghymru ddim peidio â gwthio am gynyrchiadau pwerus, cyhyrog, o’r safon uchaf. Mae lle i gredu y bydd bodolaeth cwmni cenedlaethol arall yn peri i ni graffu’n fwy manwl ar y Theatr Genedlaethol. Mae cynlluniau National Theatre Wales yn sicr yn fentrus, er bod lle i boeni na fydd yna deithiau cenedlaethol o’r cynyrchiadau, elfen hollbwysig o ystyried yr anawsterau trafnidiaeth yng Nghymru. Ond cynlluniau yw’r rhain ar hyn o bryd a bydd yn rhaid aros i gloriannu’r perfformiadau. Mae bellach yn ddeng mlynedd ers Datganoli a gwawr y Gymru newydd. Fe ddylai’r Theatr Genedlaethol fod yn gwmni safonol sy’n medru ein cyflwyno o’r newydd i glasuron ein llenyddiaeth genedlaethol a dangos bod gan weithiau mawr y byd rywbeth i’w ddweud wrth Gymru. Ond yn fwy na dim fe ddylai Theatr Genedlaethol fod yn gwmni deinamig sy’n adlewyrchu a chwestiynu a dadansoddi natur y Gymru newydd sydd ohoni. Mae’n ymddangos mai dyna’r prif reswm paham y bu i gynhyrchiad ystrydebol o stori eildwym am gefn gwlad ennyn y fath ymateb a thrafodaeth. |