• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Tangnefedd ac Ewyllys Da – ond nid i bawb PDF Argraffu Ebost

O'r Alban

Tangnefedd ac Ewyllys Da – ond nid i bawb

 

 

Mae materoliaeth a masnacheiddio rhemp yn gymaint rhan bellach o’r profiad Nadoligaidd fel ei bod hi’n hawdd anghofio mai gfiyl grefyddol yw hon yn ei hanfod, gfiyl i ddathlu genedigaeth sylfaenydd Cristnogaeth. Yn achos yr Alban mae’n eironig tu hwnt nad mewn lle o addoliad y ceir y mynegiant mwyaf tanbaid o ymrwymiad crefyddol.  

Fe fydd hynny’n digwydd yn hytrach yn stadiwm bêl-droed Celtic ar 3 Ionawr pan fydd y tîm cartref yn wynebu Rangers mewn gornest sy’n gwyrdroi gêm o socer gan ei gwneud yn fynegiant atgas o genedlaethau o gasineb crefyddol.  

Ac eto nid y Diwygiad Protestannaidd, na Brwydr y Boyne na therfysgoedd diweddar Ulster sy’n gyfan gwbl gyfrifol am y tensiynau sy’n dod i’r wyneb pan fo Rangers Brotestannaidd yn cyfarfod Celtic Babyddol. Daeth y trobwynt go iawn yn y cyfnod rhwng canol a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ymfudodd miloedd o Wyddelod y Newyn Mawr i arfordir gorllewinol yr Alban.  

Yn anochel fe ddaru dyfodiad cynifer o Wyddelod ailagor yr hen glwyfau sectyddol. Dyma pryd y brigodd y ddrwgdybiaeth o Eglwys Rufain a’i hierarchaeth i’r wyneb unwaith yn rhagor. Mae i’r hanes adleisiau pendant heddiw ym mherthynas Lloegr a’i chymuned Fwslimaidd. Nid oedd ac nid yw crefydd yn ddim ond rhan o’r achos.  

Gwir asgwrn y gynnen yw dyfodiad grwp o bobl efo traddodiadau gwahanol a diwylliant gwahanol. Fel pe na bai hynny’n ddigon drwg, cyhuddir y newydd ddyfodiaid o fynd â swyddi oddi ar y brodorion cynhenid. (Wrth gwrs, anwybyddir yn gyfleus y ffaith fod y mewnfudwyr yn fodlon gwneud gwaith nad oedd y brodorion yn fodlon ei wneud, am gyflog na fyddai’r brodorion yn ei ystyried.) Yn achos yr Alban yr hyn oedd o ddifri yn dân ar groen y Protestaniaid oedd gweld ysgolion Pabyddol yn cael eu codi o’r pwrs cyhoeddus ar gyfer plant y Gwyddelod dwad.  

Mewn gwirionedd mae addysg enwadol yn parhau i rannu cymdeithas yr Alban hyd heddiw. Mae gofyn ‘I ba ysgol est ti?’ yn ffordd o ganfod beth yw crefydd rhywun. Bron nad yw’n gwestiwn yr un mor beryglus ag yr arferai fod yng Ngogledd Iwerddon. Dywedaf ‘arferai fod’ gan lawn sylweddoli nad yw Cytundeb Heddwch yn llwyr ddileu rhagfarn.  

Rhaid cydnabod bod y sefyllfa wedi gwella rhywfaint yn yr Alban. Rhwng y ddau Ryfel Byd byddai rhieni Protestannaidd yn gwahardd eu plant rhag chwarae efo plant Pabyddol. Bellach, diolch i gynllun a gyflwynwyd gan Jack McConnell pan oedd o’n Brif  Weinidog, mae ysgolion Pabyddol a rhai anenwadol yn rhannu’r un campws. Ond adroddir o hyd am linell anweledig ond hollbresennol rhwng y ddwy ysgol. Ni ddisgwylir i blant nac athrawon y naill ysgol na’r llall groesi’r llinell honno.  

Dagrau pethau yw’r ffaith fod llinell o’r fath yn bod o hyd. Wyth cenhedlaeth yn ôl yr ymfudodd y Gwyddelod yma. Ond prin y mae’r ddwy gymuned yn cymysgu â’i gilydd. Pan fyddan nhw’n cydgyfarfod – fel y byddan nhw ar ddechrau Ionawr – dyw’r canlyniadau byth yn gadarnhaol.  

Er eu bod nhw’n rhannu’r un wlad dydyn nhw ddim yn hoffi rhannu’r un gofod. Mae ’na Brotestaniaid sy’n dal i feddwl am y Pabyddion fel mewnfudwyr sy’n mynd â swyddi oddi arnyn nhw, gan ddisgwyl i bawb arall dalu am eu hysgolion Catholig. Ac mae ’na Babyddion o hyd sy’n grediniol mai erlidwyr sydd eisiau cadw’r gymuned Gatholig dan y fawd yw eu cymdogion Protestannaidd.  

Yn anffodus, mae’r gwleidyddion wedi methu cymodi’r ddwy gymuned. Roedd disgwyl i ddatganoli ganfod atebion Albanaidd i broblemau Albanaidd. Ond nid problem Albanaidd yn unig yw hon. Nid yw ond adlais o gynnen ac anghytundeb, wedi ei seilio ar anoddefgarwch, sydd i’w chael mewn cymaint o wledydd y byd. Sut ar wyneb y ddaear mae cymell cymunedau gwahanol, beth bynnag fo eu cefndir a’u ffydd, i fyw’n gytûn?  

Un wedd ar broblem fydeang yw’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban. Ysywaeth does dim arwydd o gwbl fod gan y Sgotiaid y weledigaeth – na’r awydd ychwaith, sy’n dristach byth – i fynd ati o ddifrif i’w datrys a’i dileu.  

Pitw iawn yw amharodrwydd yr enwadau yng Nghymru i uno o’i gymharu â’r anoddefgarwch a’r casineb crefyddol sy’n staen hyll ar fywyd yr Alban ddatganoledig.  

‘...ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da’? Ddim yn yr Alban mae gen i ofn. Peidiwch â dyheu yn rhy daer am i Gymru fod yn debycach i’r Alban – rhag ofn i chi gael eich dymuniad.