• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Pererindod y Pwythau PDF Argraffu Ebost

Pererindod y pwythau -

Gwaith Cefyn Burgess

 

Profiadau ymfudwyr o Gymry sydd wedi ysbrydoli gwaith tecstiliau diweddaraf Cefin Burgess, ond mae siwrnai fwy personol yn cuddio yn y plygion hefyd.

 

Mae Cefyn Burgess yn artist sy’n adnabyddus am ei ddarluniau o gapeli a’i frethynnau coeth. Mae’r prosiect Mudo – sy’n ffrwyth llafur dau ddegawd o ymchwil – yn estyniad syniadaethol o’r gweithiau hynny. Ond beth sy’n ei yrru i grwydro i ben draw’r byd i chwilio am gapel ar ôl capel, o Fethesda ei fagwraeth i Bensylfania? A ddaw’r chwilio byth i ben? Ac a oes mwy i waith Cefyn na chapeli a charthenni yn unig?  

Yn 2006, dyfarnwyd gwobr Cymru Greadigol iddo gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Mudo yw penllanw’r gwaith ymchwil hwnnw. Yn dilyn ei astudiaethau o gapeli Cymru, trodd Cefyn ei olygon at y capeli Cymreig yn Lerpwl, lle yr ymgartrefodd nifer o Gymry yn y 19g. O borthladd Lerpwl, ymfudodd nifer o Gymry i’r Unol Daleithiau i chwilio am fywyd gwell. Ac yn unol â’i anian chwilfrydig, roedd yn rhaid i Cefyn gael dilyn ôl eu troed hwythau ar ei bererindod ei hun.   

Dyma sydd y tu ôl i’r gwaith sydd i’w weld yn Oriel Bangor ar hyn o bryd. Pan aeth Cefyn ati i feddwl am deitl ar gyfer yr arddangosfa, ystyriodd ei galw yn Taith neu Siwrnai ond buan iawn y sylweddolodd nad oedd y geiriau hynny’n dod yn agos at ddisgrifio prif fyrdwn y prosiect nac yn gwneud cyfiawnder â threialon y Cymry a ymfudodd.  Nid teithio i rywle yr oeddent ond gorfod codi pac unwaith ac am byth gan adael eu cynefin a thorri pob cysylltiad â theulu a ffrindiau a’r gymdeithas glòs yr oedden nhw’n rhan ohoni, gan droi dalen newydd mewn gwlad hollol ddieithr. Mae’r cysyniad o fudo yn un ag elfen o frys iddo, yn dyngedfennol a therfynol; yn un ac iddo atalnod llawn ar ei ddiwedd.  Doedd dim troi’n ôl i’r Cymry hyn, ond doedd dim modd iddynt ddianc rhag eu gwreiddiau chwaith.

Mae rhan o’r gwaith sy’n ymddangos yn Mudo yn adlewyrchu’r hyn a brofodd Cefyn ar ôl ymweld â chartref Mrs Owen a ymudodd o Ferthyr i Bensylfania yn 1900. Swynwyd Cefyn gan yr holl waith crefft a oedd i’w weld ar ei haelwyd a’r ffordd yr oedd Mrs Owen, fel nifer o ferched ei chyfnod, wedi mynegi ei hunaniaeth – boed hynny’n ymwybodol ai peidio – mewn brodwaith, cwiltiau, clustogwaith, llieiniau bwrdd neu ddarnau o frethyn.  Yn Mudo, mae Cefyn yn dyrchafu gwaith creadigol y merched hyn ac yn talu teyrnged iddo drwy dynnu ar y traddodiad o greu delweddau wedi eu brodio, eu  nyddu a’u pwytho yn y tecstiliau. Mae yma fwy na defnyddioldeb yn unig yng ngwaith y merched; mae’r gwaith yn datgelu straeon personol ac yn gronicl amhrisiadwy o brofiadau a hanes cymdeithas gyfan.  

Taniwyd diddordeb Cefyn mewn dysgu sgiliau newydd yn dilyn ei ymweliad â’r Unol Daleithiau ac aeth ati i ddysgu technegau y mae’n eu galw’n rhai traddodiadol ‘fenywaidd’ – brodio, applique a gwnïo – gan eu cyfuno â’r gwaith brethyn, mwy ‘gwrywaidd’ y mae wedi arfer ei drin. Mae cyfuno’r hen a’r newydd hefyd yn elfen hollbresennol yn yr arddangosfa hon ac yn adlewyrchu thema ganolog ei waith i bob pwrpas, sef y mudo neu’r trawsffurfiad rhwng dau gyflwr.  

Bellach, mae nifer o’r capeli yng Nghymru y mae Cefyn wedi eu darlunio wedi eu dymchwel ac erbyn hyn meysydd parcio neu flociau o fflatiau sy’n hawlio eu lle. Yn ddiau, mae yma weithred ymwybodol ar ran Cefyn i gofnodi’r hyn a fu, i dalu gwrogaeth i’r hen draddodiadau a’u dathlu; nid yn unig y bensaernïaeth ond yr holl eiconau sy’n mynd law yn llaw â’r diwylliant capelaidd, fel y cymanfaoedd canu a’r te capel, heb sôn am y cymeriadau, yr hanesion, y synau a’r arogleuon sy’n gysylltiedig â nhw.  Nid darluniau o adeiladau sydd yma mewn gwirionedd, ond cynrychiolaeth o fywydau miloedd o unigolion, y gymdeithas yr oedden nhw’n rhan ohoni, eu traddodiadau, eu gobeithion, eu hofnau, eu straeon wrth iddyn nhw fudo o un wlad i’r llall, o un genhedlaeth i’r llall, ynghyd â phortread cynnil o hunaniaeth Gymreig.  

Ond erys y cwestiwn; beth yw’r sbardun sy’n gyrru Cefyn ar y daith ddiflino o gapel i gapel ac o ble y daw’r obsesiwn hwn sydd wedi tra-arglwyddiaethu dros ei fywyd am gyfnod mor hir?  

Y tro cyntaf i mi gyfarfod Cefyn, roeddwn i’n hogan dair blwydd ar ddeg, blas plentyndod yn dal ar fy nhafod a’r byd yn newydd i mi. Roeddwn i a’m ffrind gorau yn byw ym mhocedi’n gilydd ar y pryd, felly pan wrthododd Nest ddod i ddringo coed efo fi un prynhawn Sul am ei bod hi’n mynd am wers gelf i Barc Glynllifon, mi fynnais mod inna’n cael mynd efo hi. Ac am y pedair blynedd oedd i ddilyn, dyna lle y treulion ni bob prynhawn Sul, ein coesau wedi eu plethu ar lawr y gweithdy a Cefyn yn gosod darn anferth o bapur gwyn o’n blaenau cyn datgelu’r sialens wythnosol – ceiliog wedi ei stwffio, tusw o flodau gwyllt neu lond y lle o fresych cyrliog – i gael eu dehongli ym mha bynnag ffordd a ddymunem. Mae’n amhosibl i mi orbwysleisio pa mor werthfawr oedd y prynhawniau Sul hynny a sut y bu i Cefyn fy annog i ymddiried yn y ffordd yr oeddwn i – a’r ffordd yr ydw i’n parhau hyd heddiw – i weld a dehongli’r byd o’m cwmpas.  

Un digri ydi Cefyn. Mae ei Gymraeg yn frith o eiriau fel ‘cena bach’ am gacennau, ‘rhywgo’ am rwygo, ‘droinio’ am ddarlunio, ac mae’n cyfeirio at ei luniau o gapeli fel ‘fy mabis i’ neu’r ‘cnafon bach yma’. Wrth adrodd straeon cefndirol am rai o’r capeli y mae o wedi ymweld â nhw neu am hen atgofion sydd ganddo o fod yn blentyn yn dysgu adnod yn yr Ysgol Sul, mae ei lygaid yn dawnsio a bydd sefyllfaoedd yn ‘canu’, profiadau yn gadael ‘blas gwahanol’ a lliwiau yn ‘hapus yng nghwmni ei gilydd’.  

Dwi’n ei gofio fo’n sôn wrtha i am y cyfnod pan fu farw ei fam ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd o’n eistedd wrth erchwyn ei gwely yn gafael yn ei llaw yn ystod y munudau olaf. Roedd hi’n ei atgoffa o dusw o flodau, meddai; yn fwrlwm o liw ac llawn asbri. Ond yr eiliad y peidiodd y bywyd ynddi, diflannodd y blodau gan adael – yng ngeiriau Cefyn – dim byd ond llestr gwag ar ei hôl. Mae’r ddelwedd yn un mor syml a diffuant rywsut fel na fedra i feddwl am y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth mewn unrhyw ffordd arall erbyn hyn.  

Bu’r cyfnod hwnnw yn un anodd i Cefyn. Collodd ei ddau riant o fewn misoedd i’w gilydd, ond mae rhywun yn synhwyro bod y profiad ysgytiol hwnnw wedi cyfrannu’n uniongyrchol at syniadaeth greiddiol y prosiect hwn.

Mae ail ran Mudo, hyd y gwela i, yn deyrnged i’w rieni (ei fam yn arbennig) ac yn ymgais i gofnodi a chrisialu byrhoedledd a breuder bywyd. Sonia, er enghraifft, fod pob blodyn y mae wedi ei bwytho yn ddarluniau o flodau unigol a oedd o’i flaen wrth iddo weithio. Mae yma hefyd gasgliad gwreiddiol o lestri te gwahanol gapeli. Mae o wedi dyrchafu’r llestri te (yr unig wrthrychau diriaethol sydd wedi goroesi o ambell gapel yn ôl Cefyn) yn eiconau. Wedi’r cwbl, y tu ôl i bob cwpan a soser, mae yna storfa werthfawr o hanes, yn gymanfaoedd, yn uchelgeisiau ac yn straeon di-ben-draw, ac mae’r gwrthrychau yn ysgogi atgofion ymysg y rhai sy’n cofio. A dyma sy’n crisialu syniadaeth yr arddagosfa i mi – y cysyniad o orfod torri cysylltiad, o adael rhywbeth ar ôl, o ffarwelio ac o ‘fudo’ o un cyflwr i’r llall.  

Dywed Cefyn ei fod yn teimlo ei fod yn chwilio am rywbeth o hyd, ond nad ydi o’n sifir iawn am beth yn union. Dilyn ei lwybr ei hun y mae o, fel pawb ohonon ni, ond wrth iddo chwilio a chwalu drwy’r mieri ar ei daith drwy fywyd mae’n ymdrechu i ddadansoddi a datgymalu’r elfennau sy’n ei wneud o yr hyn ydi o. Yn cuddio’n dawel bach yn y cwiltiau, ac ymhlyg yn y pwythau a’r brodwaith, y mae llu o atgofion a phrofiadau personol, a galar a gobaith, ac mae’r gwaith yn ymgais i grisialu a dehongli hyn oll. Mae’r prosiect hwn wedi mynd â Cefyn ar daith lythrennol dros fôr a thir, ond tra pery’r mudo mewnol, does gen i ddim amheuaeth y bydd yn parhau i chwilio am rywbeth, gan gofnodi ‘blas gwahanol’ ei brofiadau mewn pwythau cain bob cam o’r ffordd.  

Bydd arddangosfa Cefyn Burgess, Mudo, i’w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor, hyd 9 Ionawr.