| Rhoi’n Ffydd yn yr Ifanc |
|
|
|
|
Rhoi'n ffydd yn yr ifanc
Yr awdur yw arweinydd Prosiect y Pwerdai, cynllun i ddatblygu cymdogaethau cynaliadwy yng Ngheredigion. Mae ganddo her i’r Urdd fel mudiad ieuenctid – ac i bawb sy’n ymwneud â’r ymdrech i sicrhau parhadi’r Gymraeg a’i diwylliant oddi mewn i gymunedau lle maent o fygythiad.
Ddeng mlynedd yn ôl cymerodd Pwyllgor Drama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Llanbedr Pont Steffan a’r cylch, gam dewr iawn. Bu iddyn nhw gefnogi cais CIC! (cwmni ieuenctid y sir) i beidio llwyfannu’r ddrama-gerdd arferol ac i greu ffilm sinematig yn lle hynny. Dangoswyd Hambôns ar sgrîn sinema enfawr gerbron llond pafiliwn o eisteddfodwyr. Fe’i prynwyd hi gan S4C i’w dangos yn rhan o arlwy Nadolig 1999 (a’i chrybwyll yn dystiolaeth o berthnasedd y sianel i ieuenctid Cymru yn eu hadroddiad blynyddol). Cafwyd dangosiad arbennig ohoni yn ystod yr Wyl Ffilm Geltaidd y flwyddyn ddilynol a bu’r tîm cynhyrchu yng ngwesty’r Savoy, Llundain, yn dilyn enwebiad Hambôns ar gyfer un o brif wobrau Race in the Media. Ond pwysicach na’r cyraeddiadau hyn oll yw’r ffaith i’r ffilm gael ei defnyddio mewn degau a degau o ysgolion a chlybiau ieuenctid ar hyd a lled Cymru. Yn wir, y mae hi’n dal i gael ei dangos. Pam?Am ei bod yn dal i godi cwestiynau anodd ond hanfodol ynglyn â pherthynas dinasyddion ifainc ein cymdogaethau hanesyddol Gymraeg â’i gilydd: y Cymry sy’n arddel y Gymraeg; y Cymry sy’n dewis peidio’i harddel, a’r bobl ifainc o dras mewnfudol y mae’r Gymraeg yn estron iddynt. Roedd penderfyniad Pwyllgor Drama Llanbed i anghydffurfio yn un dewr iawn. Roedd e hefyd yn un cwbl briodol. Oherwydd yr hyn a wnaeth Llanbed oedd hepgor y cwestiynau arferol, sef ‘Beth yw disgwyliadau’r Eisteddfod?’ a ‘Beth a roddwn ni iddyn nhw wneud?’ (y bobl ifainc, hynny yw). Yn hytrach gofynnwyd dau gwestiwn gwahanol, sef ‘Beth yw angen ydiwylliant?’ a ‘Sut mae rhyddhau potensial ein pobl ifainc?’ Y flwyddyn nesaf mi fydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ôl yng Ngheredigion. Mae’r cwestiwn a yw swyddogion 2010 yn meddu ar yr un ysbryd o fenter greadigol â swyddogion 1999 yn un digon diddorol. Ai angen a photensial ein hieuenctid (y cyfan poenus oll i gyd) fydd eu blaenoriaeth? Ynteu a yw dibyniaeth yr eisteddfod ar arian cytundebau darlledu mor gyflawn fel nad yw anghydffurfio’n fentrus bellach yn opsiwn? Rwy’n codi’r cwestiwn nid yn gymaint er mwyn cystwyo mudiad sydd i’w weld, dan bwysau allanol, yn ysgaru’i hunan a’r iaith fwyfwy oddi wrth angen a photensial y diwylliant Cymraeg cysefin ond yn bennaf am fod ‘problem’ yr Urdd yn feicrocosm o broblem ehangach ein cymdogaethau Cymraeg. Gorgyffredinoli yw dweud bod y cynefinoedd hynny lle y mae’r Gymraeg yn gyfrwng a chyd-destun gwaith a gorffwys oll ar ymyl dibyn difancoll. Ond dim ond manylion o bellter sy’n dioddef yn y gorgyffredinoli hwn. Y gwir plaen yw: y mae pob cymdogaeth Gymraeg – hyd yn oed y rhai mwyaf hyderus a blaengar –bellach o fewn golwg farus môr unffurfiaeth fyd-eang. Ysywaeth, y mae nifer go dda ohonynt ar ymyl union y dibyn, yn ildio’n gyson i’r erydiad wrth i dorlannau eu harweinyddion dreiglo yn wyneb tonnau blinder, afiechyd a marwolaeth. Oherwydd, i ryw raddau neu’i gilydd, byw ar waddol ddoe y maepob cymdogaeth Gymraeg. Nid beirniadaeth yw hynny ond ffaith; ffaith y mae angen gweithredu arni; ffaith y mae’n gwbl bosib gweithredu arni, os gweithredir ar fyrder. A man cychwyn y gweithredu cwbl angenrheidiol hwn yw’r ddau gwestiwn a holwyd yn Llanbed ddeng mlynedd yn ôl. Beth yw angen y diwylliant? Sut mae rhyddhau potensial ein pobl ifainc? Adnabod sail a chryfderau yw nod y naill; sicrhau buddsoddiad yw diben y llall. Mae’r naill yn perthyn i’r llall, wrth gwrs. Yn yr union fodd y mae iaith yn perthyn i ddiwylliant. Droeon a thro yng ngwyl yr Urdd ym Mae Caerdydd eleni cymharwyd ffenomen ddiwylliannol yr eisteddfod â hoff ffurf ddiweddaraf teledu Prydeinig: Britain’s Got Talent. Digon clodwiw oedd balchder y sylwebwyr Dafyddaidd Cymraeg yn wyneb Goleiath heip-beiriant y cyfryngau Saesneg. Ond na thwyller neb. Y mae’r diwylliant imperialaidd wedi ychwanegu diwylliant y Gymraeg at ei ymerodraeth unigolyddol os y’n ni bellach am haeru, â’r fath frwdfrydedd, mai dim ond iaith sydd yn ein gwahaniaethu. Yn ei lyfr The Location of Culture dywed Homi K. Bhaba mai, yn amlach na pheidio, creadigrwydd wedi’i wreiddio yn y diwylliant cysefin yw’r sail orau ar gyfer gweithredu chwyldroadol, gwrth-ormesol. Ar lawr gwlad, o fewn y cymdogaethau Cymraeg, y mae dealltwriaeth gynhenid o’r wireb hon. Dyna sail eu cynaliadwyaeth ryfeddol. Ysywaeth, wrth ysgaru yn feddyliol (os nad, bob amser, yn gorfforol) oddi wrth eu gwreiddiau cymdogaethol y mae arweinwyr prif gyfryngau ffurfiol y Gymraeg – radio, teledu a theatr – wedi’u hysgaru’u hunain oddi wrth angen a photensial cyffrous y diwylliant Cymraeg (yr union botensial y mae eu llwyddiant yn ddibynnol arno, mewn gwirionedd). Dan ddylanwad y diwylliant ymosodol-ymerodraethol (a yrrir hyd y dwthwn argyfwng economaidd ‘byd-eang’ hwn gan gyfalafiaeth ddilyffethair) maent, yn syml, wedi ysgaru’n hiaith oddi wrth ein diwylliant. Modd o gyfathrebu yw iaith iddyn nhw bellach – cyfrwng i’n gosod ar ryw rith o ‘dir cyfartal’ o fewn gorllewiniaeth fyd-eang – yn hytrach na ffenestr gysefin i oleuo ac i’n goleuo. Wedi’i hysgaru oddi wrth ei diwylliant nid yw iaith leiafrifol fel y Gymraeg yn fawr o broblem i neb bellach. Pa ryfedd? Mae hi’n ddi-rym. Mae hi’n drimin. Mae hi’n ddim. A beth yw’n diwylliant? Ein cân? Ein celf? Ein cerdd? Ein drama? Dyma’r pethe – ie. Ond nid dyma’r peth. Ffrydiau o fynegiant ydynt a’r hyn y maent yn ei fynegi yw ein dychymyg a’n hegni a’n cyfrifoldeb i’n gilydd, mewn perthynas â’n gilydd; yn benodol ac yn fwy cyffredinol. A dyma’n hunion obaith. Oherwydd yn y diwylliant hwn mae gan y gymdogaeth Gymraeg wannaf y grym a’r gallu i’w hailddychmygu’i hunan; i ailosod ei hunan nid yn ynys fewnblyg druenus ond yn rhan o amgylchedd cyfoes, hyderus, eangyfrydig a chynhwysol. Ac yn gyrru’r chwyldro hwn y mae’r un ddau gwestiwn. Beth yw’n hangen yn greadigol? Beth yw potensial ein dyfodol? Ar gyfer y naill gwestiwn a’r llall mae angen inni fuddsoddi yn ein pobl ifainc– bob yr un ohonynt, pwy bynnag y’n nhw; o ble bynnag y bu iddyn nhw ddod yma. Nid ceisio’u hennill i’r Gymraeg yw’r nod ond ymddiried ein dyfodol iddynnhw. Ymddiried ynddyn nhw ac ymddiried yng ngwerth a gwerthoedd ein diwylliant ni ein hunain. |