• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Tu ôl i bob dyn… PDF Argraffu Ebost

Tu ôl i bob dyn ...

 

 

Fel y gwyddai’r Forwyn Fair yn iawn, tu ôl i bob dyn pwysig mae ’na ddynas effeithiol iawn sydd ddim yn cael chwartar cymaint o sylw. Yn achos Mair, ei mab oedd hwnnw, gan mai dipyn o also-ran oedd y gwr, dewch inni fod yn onest. Ydyn, mae merched bach chwech oed yn crio a sdrancio isho bod yn Mair pan ddaw’r gyngerdd Nadolig, ond y babi plastic yw seren y sioe, ac mi fyddai pob Baby Annabel, Baby Bjorn a Tiny Tears yn rhoi’r byd i gael chwarae’r rhan ‘welwch chi fi’ yna.

Ond pan ddaeth yr holl ymwelwyr at y preseb ar y noson dyngedfennol honno, mi allwch fentro mai Mair fuodd ar ei thraed hyd oriau mân y bore yn clirio ar eu holau nhw, ac yn gwneud rhestr o bwy roddodd beth i Iesu Grist, cyn atgoffa Joseff i fwydo’r anifeiliaid a gosod y pethau brecwast at y bore wedyn.  

A dyna pam ’mod i braidd yn ansicr o un o’r argymhellion a wneir gan Syr Christopher Kelly, cadeirydd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, yn ei adroddiad ynglyn â chostau aelodau seneddol. Mae’r rhan fwyaf o’i argymhellion yn rhai teg a chwbl angenrheidiol os am adfer ffydd a hyder y cyhoedd yng nghriw San Steffan, ond os na chân’ nhw gyflogi aelodau o’u teuluoedd, mi fydd yna lot fawr o ferched yn gweithio’n galed iawn, a hynny am ddim. Pan ’dan ni’n sôn am aelodau o’r teulu, sôn am briod rhywun ydan ni ar y cyfan, a chan mai’r caswir ydi mai dynion ydi’r mwyafrif llethol o’n haelodau seneddol, merched felly yw’r rhan fwyaf o’r bobol sy’n cael eu cyflogi ganddyn nhw.  

Mae natur gwaith aelod seneddol – o’i wneud yn iawn – yn golygu tipyn go lew o lafurio’n hwyr y nos ac ar benwythnosau ac ati, ac mae pethau’n codi’n ddirybudd ac ar adegau anghyfleus. Mae gwragedd aelodau seneddol cydwybodol – a gwragedd cynghorwyr da hefyd – yn gweithio’n ddiflino yn y cefndir i gadw’r trên cyhoeddus ar y cledrau, a’r peryg ydi mai dal i wneud hynny wnân’ nhw, cyflog neu beidio. Trafodaeth arall ydi’r diffyg gwerthfawrogiad cyffredinol o’r joban bwysig maen nhw’n ei gwneud, ond os ydyn nhw am ei wneud o, boed iddyn nhw o leia’ gael eu talu.  

A sut yn y byd mae modd plismona’r fath reol p’un bynnag? Ai sôn ydan ni am bobol briod yn unig? Os felly, mi fydd aelodau seneddol yn dechrau byw tali yn reit handi, a dyna ddechrau’r diwedd i warineb cymdeithas a moesoldeb teuluol, fel y gwyddom yn iawn, diolch i’r Daily Mail. Os mai sôn ydan ni am bobol mewn perthynas hir-dymor, pa mor hir yw hir? A beth os yw’r berthynas yn dechrau ar ôl cyflogi’r ferch? Ydi hi wedyn yn cael y sac? Dyma gynnig sydd yn swnio’n grêt yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond sydd yn disgyn yn glewt o’i gysidro’n fanylach.

Argymhelliad arall sydd yn anghyfeillgar wrth ferched – ac sydd yn gwneud dim oll i godi niferoedd aelodau seneddol benywaidd – yw’r cynnig mai ar gyfer ta rhent yn unig y bydd modd cael help ariannol. Mae’r farchnad tai rhent yn fympwyol ar y gorau, a faint o ferched fyddai’n fodlon codi eu pac, a’u plant yn eu sgil, er mwyn symud i da y gallan nhw gael eu hel ohono fo ymhen rhai misoedd? Caled ar ferched oedd yr helfa wrachod wreiddiol, a dydi hon fawr gwell.  

Felly yn ôl at y bwr’ droinio ar y ddau fater yma ydi fy argymhelliad i, er gwaetha’ awydd diamheuol y cyhoedd i weld gwaed ar y waliau. Ydi, mae nepotistiaeth yn hen air ych-a-fi, ond am unwaith efallai fod yna resymau teilwng drosto fo yn y maes hwn. Ac fe ddylem ni Gymry Cymraeg ddeall hynny’n iawn, gan y byddai ein gwasg a’n cyfryngau yn denau iawn petai’r un rheol yn dod i rym yn fanno...!