• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Blwyddyn Dyngedfennol i Blaid Cymru PDF Argraffu Ebost

Blwyddyn Dyngedfennol i Blaid Cymru

 

Trwy hawlio mai hwn fydd yr Etholiad Cyffredinol mwyaf llwyddiannus o ddigon yn ei hanes, mae’r Blaid wedi ei rhoi ei hun mewn sefyllfa lle byddai ennill pum sedd yn ddim mwy na boddhaol. A beth am y refferendwm...? 

 

 

Nid oes angen rhyw lawer o grebwyll gwleidyddol i sylweddoli y gallai 2010 yn hawdd brofi’n flwyddyn hynod arwyddocaol yn hanes y ddwy blaid fawr Brydeinig. O ran Llafur, oni ddaw achubiaeth annhebygol o rywle, gellir yn hawdd weld y blaid, erbyn yr haf, wedi plymio i argyfwng na welwyd ei fath ers dyddiau Ramsay MacDonald. Gallai hynny olygu methdaliad ariannol a gwleidyddol ar ben methdaliad moesol annileadwy Irac. Ar y llaw arall, ymddengys fod y Torïaid ar fin ailgipio grym mewn cyfnod o gyfyngiadau cyllidebol cwbl eithriadol. Yn sicr ni phrofodd y rhan fwyaf ohonom ddim byd o gwbl i’w gymharu â’r toriadau sy’n prysur agosáu dros y gorwel. Petai hynny ddim yn ddigon i brofi rhuddin unrhyw arweinydd, heb sôn am fir mor gwbl ddibrofiad â Cameron, ymddengys bron yn sicr y bydd yn rhaid iddo hefyd geisio llywodraethu heb fandad o fath yn y byd yn yr Alban. 

Nid oes chwaith angen rhyw lawer o ddoniau’r proffwyd i sylweddoli mai buaniawn y tewir unrhyw ddathliadau Torïaidd yn dilyn eu buddugoliaeth debygol yn yr Etholiad Cyffredinol. Fel y gwelsom eisoes yn achos yr Arlywydd Obama, rydym yn byw mewn dyddiau sy’n ddigon i drethu hyd yn oed yr arweinwyr mwyaf praff, doeth a medrus. Ac rwy’n parhau’n ansicr a yw David Cameron yn unrhyw un o’r rheini. 

Ond o symud ein golygon tuag adref, mae’r her sy’n wynebu Plaid Cymru yr un mor sylweddol a sylfaenol â’r her sy’n wynebu’r ddwy blaid fawr. Yn wir, os aiff pethau o chwith i’r Blaid, yna fe allai’n hawdd fod y flwyddyn waethaf yn ei hanes ers talwm iawn, iawn. 

Mae tair her fawr yn wynebu Ieuan Wyn Jones a’i gymrodyr. Y gyntaf yw’r frwydr i ddarbwyllo Llafur nid yn unig i gefnogi cynnal refferendwm, ond i ymgyrchu o ddifrif dros bleidlais gadarnhaol. Wrth i mi ysgrifennu hyn o eiriau mae’n parhau’n ansicr a ellir llwyddo i wneud y naill na’r llall. Fyth ers i Peter Hain hudo Rhodri Morgan i arwyddo datganiad i’r perwyl na fyddai Llafur yn cyboli i ymateb i adroddiad Confensiwn Emyr Jones Parry tan ar ôl yr etholiad cyffredinol, bu Llywodraeth Cymru’n gogr-droi ar ymyl y dibyn. O achos hynny, ni allaf beidio â theimlo bod gweld dymchwel y glymblaid bresennol yn bosibilrwydd real. 

Mae’n amlwg fod yr Ysgrifennydd Gwladol am wneud ei orau glas i osgoi sefyllfa lle mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio’n ffurfiol o blaid cynnal refferendwm, o leiaf cyn yr Etholiad Cyffredinol. Mae’n amlwg hefyd o’r newid arwyddocaol a welwyd yn rhethreg ein Hysgrifennydd Gwladol ers y flwyddyn newydd ei fod wedi bod yn rhannu ei farn yn ffri â Carwyn Jones. Ac yn wir, synnwn i fawr na fydd Carwyn Jones yn ceisio cadw’r ddysgl yn wastad hefo Peter Hain trwy annog oedi ac arafwch: gan bwyll bois bach! Bydd angen nerfau cadarn a gweledigaeth strategol gadarnach fyth os yw’r Blaid am sicrhau bod Llafur yn cadw at dermau cytundeb Cymru’n Un. Ond

hyd yn oed os gellir goresgyn y broblem o pryd a sut i alw refferendwm, erys yr her o geisio sicrhau bod Llafur yn chwarae ei rhan mewn ymgyrch ‘Ie’ ystyrlon. Er na ellir yn rhesymol ddisgwyl ymgyrchu cyhoeddus cyn yr Etholiad Cyffredinol, os oes refferendwm i’w chynnal yn Hydref 2010 mae’n rhaid i waith rhagbaratoawl o ddifrif ddechrau yn syth bin – ac mae hynny’n golygu cysylltiadau y tu ôl i ddrysau caeëdig rhwng y pleidiau. Fe fydd hi’n rhy hwyr i ddechrau trafodaethau o’r fath ym mis Mai neu fis Fehefin. Go brin y bydd yn rhaid atgoffa unrhyw un o blith arweinyddiaeth y Blaid o’r peryglon a ddaw i’w rhan os mai hi fydd yr unig blaid fydd yn ymgyrchu go iawn o blaid pleidlais gadarnhaol. Os bydd unrhyw beryg iddi anghofio’r wers honno rwy’n sifir y bydd Dafydd Wigley yn fwy na pharod i ddod i’w rhybuddio o’r hyn a ddigwyddodd yn 1979. 

Cyn unrhyw refferendwm, bydd her arall i’w goresgyn, sef yr Etholiad Cyffredinol ei hun. Gwyddom, wrth gwrs, nad dyma’r cyd-destun gwleidyddol mwyaf ffafriol i Blaid Cymru gydag agenda sefydliadol Prydeinig a’r gyfundrefn bleidleisio fel ei gilydd yn milwrio yn erbyn ei llwyddiant. 

Ond yn 2010 bydd dwy ffactor ychwanegol yn ei hwynebu. Yn gyntaf, mae’n debyg y bydd etholiad 2010 yn ‘etholiad newid’; yn un o’r etholiadau rheini pan fo etholwyr yn achub ar y cyfle i gael gollwng eu rhwystredigaeth drwy roi cic yn nhin llywodraeth y dydd a chyflwyno mandad i blaid lywodraethol newydd: 1979 a 1997 yn hytrach na 1987 neu 2005. Gellir dadlau bod etholiadau o’r fath yn rhai arbennig o anodd i bleidiau mwy ymylol fel Plaid Cymru gan fod y ffocws yn syrthio bron yn gyfan gwbl ar y brif wrthblaid.

Yr ail her benodol i Blaid Cymru sy’n codi yng nghyd- destun etholiad 2010 yw disgwyliadau. Maen nhw’n uchel iawn! Erbyn hyn, os na lwydda Plaid Cymru i gipio Ynys Môn a Cheredigion, yn ogystal ag Arfon, Meirionnydd a Dwyrain Caerfyrddin, bydd ei hymgyrch yn cael ei hystyried yn un siomedig. Yn wir, erbyn hyn caiff dyn yr argraff y byddai cipio 5 sedd yn cael ei gweld fel dim mwy na pherfformiad parchus. Byddai angen 6 cyn y gellid sôn am noson wirioneddol lwyddiannus. Dwn i ddim yn iawn sut yr ehedodd disgwyliadau i’r fath uchelfannau, ond y gwir amdani yw na ellir cymryd naill ai Ynys Môn na Cheredigion ofalus yn ganiataol. Byddai ennill 6 yn ymylu ar y gwyrthiol gan y byddai’n golygu un ai trechu’r Ceidwadwyr yn Aberconwy, un o’i seddau mwyaf addawol hwythau, neu gipio Llanelli... 

Wedi’r Etholiad Cyffredinol, os llwyddir i oresgyn rhwystrau gwleidyddiaeth fewnol y Blaid Lafur yn y cyfamser, bydd yn amser troi golygon o ddifrif tuag at y refferendwm. Fe fydd y trydydd refferendwm ar y pwnc yn un cyfan gwbl ddiangen gan wneud dim mwy na chaniatáu i ni symud o un gyfundrefn cwbl ffaeledig o greu deddfwriaeth Gymreig i gyfundrefn arall llai ffaeledig ond amherffaith ar gyfer gwneud yr un peth. Mae datgan hynny mewn termau o’r fath yn fodd o danlinellu pa mor anodd fydd saernïo neges ddeniadol er mwyn annog pleidlais gadarnhaol. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, caiff yr ymgyrch ‘Na’ rwydd hynt i fanteisio ar ddrwgdybiaeth ddofn yr etholwyr tuag at wleidyddion a gwleidyddion. Afraid dweud pa ochr o’r ddadl fydd yn wynebu’r dasg galetaf!

Arferai Machiavelli ddadlau bod gwleidyddion llwyddianus yn meddu ar fortuna yn ogystal â virtu. Os yw Plaid Cymru a’i harweinwyr yn ffodus yn ogystal â doeth fe allai 2010 brofi’n flwyddyn i’w chofio. Dychmygwch sut hwyliau fydd ar aelodau a chefnogwyr y Blaid petaent yn llwyddo i sicrhau canlyniad etholiadol parchus ac yna buddugoliaeth mewn refferendwm? Ar y llaw arall, nid yw’n amhosibl dychmygu blwyddyn gecrus mewn clymblaid sy’n dadfeilio, etholiad siomedig ac yna trychineb pleidlais nacaol mewn refferendwm. P’un fydd hi, tybed?