| Cofio Hywel Teifi Edwards: Ysgolhaig y Bobl |
|
|
|
|
Cofio Hywel Teifi Edwards: Ysgolhaig y Bobl
Drannoeth clywed inni golli Hywel holodd un o gyfeillion y wasg a allwn gynnig un frawddeg fer neu ychydig eiriau a fyddai’n cyfleu orau beth oedd y bersonoliaeth fawr hon yn ei olygu i mi fel un o’i gyfeillion, ac i’r gynulleidfa ehangach yng Nghymru. Tasg amhosibl wrth gwrs. I ddechrau, nid yw ‘byr’ ac ‘ychydig’ ymhlith yr ansoddeiriau a ddaw gyntaf i’r cof wrth feddwl am Hywel Teifi Edwards. Ond heb feddwl ymhellach dyma gynnig ateb, ‘Ysgolhaig y Bobl’. Wedi clywed hyn ar yr awyr awgrymodd un cyfaill, efallai, heb imi fod yn ymwybodol o hynny, ’mod i’n meddwl am Daniel Owen, un o arwyr mawr Hywel, ac am y frawddeg enwog yn y cyflwyniad i’r nofel Rhys Lewis: ‘Nid i’r doeth a’r deallus yr ysgrifennais, ond i’r dyn cyffredin’. Ond buan iawn y daeth y doeth a’r deallus a’r dyn cyffredin fel ei gilydd i werthfawrogi camp y nofelydd. Gwir mai arall oedd cyfrwng Hywel, ond cyflawnodd yntau yr un gamp. Bu wrthi yn pori mewn rhai meysydd ac yn lloffa mewn eraill, yn ymchwilio a chasglu gwybodaeth anhygoel o eang, cyn rhoi’r cyfan trwy felin ei feddwl i’w gyflwyno yn enllyn blasus i’r ‘cyffredin a’r ysgolhaig’ ei werthfawrogi a’i fwynhau, a pheri eu bod yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd yn y ciw er mwyn bachu lle yn y Babell Lên i wrando darlithydd mwyaf poblogaidd ein dyddiau ni. Ac os oedd yn llafar ar y llwyfan, felly hefyd yn ei gyfrolau niferus, ei stori ddifyr a’i arddull ddengar yn gwneud darllen ynbleser pur. Nid ysgolhaig meudwyaidd mohono. Ni fynnai ymguddio yn y tfir ifori ac ni chododd ynddo archwaeth am dafelli petryal yr academig dost, chwedl Williams Parry. Dyma yn wir oedd ysgolhaig y bobl. Creuddynfab, sef William Williams (1814-69), oedd testun ei draethawd ymchwil ar gyfer gradd M.A., testun o ddewis Gwenallt, ewyrth iddo trwy briodas. Creuddynfab oedd ysgrifennydd cyflogedig cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol, a dyma lle y dechreuodd diddordeb Hywel yn yr Eisteddfod ac yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’i chymeriadau. Dychmygaf y byddai wrth ei fodd petai wedi cael cwmni Llew Llwyfo, Talhaearn, Ceiriog a’u tebyg ar y ddaear hon, a byddent hwythau yn sicr wrth eu boddau o’i adnabod yntau. A beth na fyddai wedi ei roi am glywed Eos Morlais ac Edith Wyn yn swyno cynulleidfaoedd. Daeth Dafydd Rowlands a minnau hefyd i adnabod y cymeriadau hyn, hynny wrth wrando Hywel yn traethu mor afieithus pan fyddem yn cwrdd yn driawd yn Abertawe ’slawer dydd – yn y cwrdd misol chwedl yntau. Fel y gallwch ddychmygu nid oedd ddewis ond gwrando! Y mae hyn wrth gwrs yn dweud llawer am ddiddordeb Hywel mewn pobl. Gwir mai anodd ganddo oedd dioddef ffyliaid, a gresynai at rywrai â thuedd i ‘gymryd eu hunain o ddifri’, chwedl ef. Ei sylw fyddai, ‘Beth wnei di ond chwerthin!’ Ymateb i’w ddisgwyl gan un nad oedd ynddo yr un gronyn o hunan-dyb na rhodres nac ymffrost. I ddangos cymaint ei hoffter o’r eneidiau hoff cytûn, dewisodd fyw yn Llangennech. Dyn pentref ydoedd, ac yma cafodd setlo yn ddedwydd gyda Aerona a Huw a Meinir, a mwynhau cymdeithas y pentref. Ac fe wnaeth ei mwynhau, hyd yr eithaf. Ac fe’i gwasanaethodd yn ddiarbed. Gall amlygrwydd cenedlaethol beri weithiau i rywrai anghofio gofynion y gymuned leol – codi eu golygon tua’r gorwelion draw ac anwybyddu’r ddaear o dan eu traed. Nid felly Hywel Teifi. Yr oedd ei draed yntau yn solet ar y ddaear a gwasanaethodd ei gymuned leol yn ffyddlon ar hyd y blynyddoedd. Bu’n weithgar gyda’r ysgol leol, y cyngor lleol, sefydlodd y gymdeithas lenyddol yn lleol, Y Llan a’r Bryn, heb sôn am ei wasanaeth yn y capel lleol, capel bach Bryn Seion. Er y mynych alwadau ar ei amser a’i egni, yr oedd yn fwy na pharod i weithredu fel ysgrifennydd y pulpud a sicrhau pregethwyr i wasanaethu ar y Suliau. Tasg ddigon diddiolch y dyddiau sydd ohoni, a phe methai ambell Sul yr oedd ef ei hunan yn barod i ddod i’r adwy. Ac yn ddiweddar iawn gwnaeth gymwynas amhrisiadwy yn ysgrifennu hanes yr achos adeg dathlu’r canmlwyddiant. Y mae sôn am y capel yn dod â ni at ei argyhoeddiad fel Cristion a goblygiadau ei ffydd. Meddai T. Rowland Hughes yn ei gerdd i’r Hen Weinidog, ‘Ni regodd fyd a welai weithiau fel pe’n stremp i gyd.’ Wel, do mi regodd Hywel y byd – yn llythrennol felly ar adegau. Rhegodd wleidyddion diffaith, diweledigaeth. A pheidied neb â dweud nad oedd yn wleidydd. Dyma un oedd â llygad i weled ac i fedru darllen arwyddion yr amserau yn glir. Rhegodd y gwyddonwyr di-dduw oedd yn golchi eu dwylo o ganlyniadau stremp eu darganfyddiadau a dweud nad oedd a wnelont ddim â hynny. Yr oedd yn argyhoeddedig mai gwraidd y cyfan oedd fod pobl yn gwrthod cydnabod y gall fod mai pechaduriaid ydynt. Yn wir, aethom mor bell â gwrthod credu’r ffaith fod y fath beth â phechod yn bod o gwbl. Daeth seiadau Abertawe i ben gyda cholli Dafydd, a bydd naw mlynedd oddi ar hynny pan ddaw Ebrill. Symud wedyn i Lanelli ac i westy’r Gornchwiglen a’r hen ffrind Colin Jenkins yn cyrraedd i greu triawd unwaith eto, ac aeth y cwrdd misol yn gwrdd wythnos. Bydd y sgwrs weithiau am ddwys gwestiynau dynol ryw. Bryd arall daw beirdd at y bwrdd, yn arbennig felly hoff feirdd Hywel, megis T. Gwynn Jones, T.H. Parry-Williams, Gwenallt, R.S. Thomas, W.B. Yeats – Pedwar Cymro a Gwyddel. Ar ei ben blwydd yn 65, rhodd Dafydd a minnau oedd argraffiad Folio o gasgliad cyflawn o gerddi Yeats. Gloywodd ei lygaid fel eiddo plentyn bach yn agor hosan Nadolig. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach deuthum ar draws copi ail-law o hunangofiant Wally Barnes, Captain of Wales – a chefnwr yr Arsenal gynt. Yr oedd hon gyfuwch â chyfrol Yeats gallwn dybio. Yn y ffilm ar fywyd Hywel gan gwmni Apolo, gwelir Hywel yn dod o’r twnel ar faes yr Emirates yn falch a chyfrol Barnes o dan ei gesail. Ond na thybied neb mai dwys a difrifol fyddai’r ymgom o hyd. Nid o bell ffordd. Byddai straeon am gymeriadau Ceredigion a Chwm Tawe yn codi’r chwerthin mwyaf aflywodraethus ar adegau. Ac ’roedd Hywel yn galluchwerthin, chwerthin hyd at ddagrau fel y gallwch ddeall. Ar nos Fawrth y digwyddai hynny, ymron yn ddi-ffael. Y ffôn yn canu toc wedi chwech: Ifans?Ie. Ti’n dod ma’s i whare? Wrth gwrs ’ny. Iawn. Ma’ ’na bwyllgor y Blaid man hyn i ddechre neu gwrdd blaenoriaid... neu mae rhywbeth ymlaen yn yr ysgol... neu wy’n mynd i glebran â Merched y Wawr lan sha’r Cwm yn rhywle... Na hidia fydda i gyda ti erbyn naw o’r gloch fel arfer. Ie, iawn, cer di. A Ifans? Ie? Paid anghofio dy walet! Dim peryg. O.K., ’rhen foi. Hwyl. Welai di nes mla’n rywbryd. Hwyl. Nos da Edwards. Welai di nes mla’n... rywbryd. |