• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Cwrs y Byd PDF Argraffu Ebost

Cwrs y Byd

Eira

 

Pan fyddwn wedi cynhyrfu ac wedi mynd i banig llwyr, y peth cyntaf rydan ni’n ei golli ydi’r gallu i ymbwyllo a meddwl yn glir. A does dim byd tebyg i’r eira a ddisgynnodd yn ddiweddar i wneud inni ymddwyn yn afresymol. Fe wyddom i gyd fod ein cynghorau’n gorfod torri miliynau o bunnau oddi ar wasanaethau hanfodol. Ac eto roedden nhw’n cael eu beirniadu’n arw gennym am beidio darparu’n amgenach ar gyfer eira a rhew dechrau’r flwyddyn ’ma. 

Fel arbrawf, fe fues i’n gwrando am awr un bore drwy loeren Sky ar amrywiaeth o raglenni-ffonio-i-mewn gorsafoedd radio drwy wledydd Prydain a Gweriniaeth Iwerddon. Yr un oedd y gfiyn o Wynedd i Wexford ac o Gaer i Gaeredin. Wir i chi, doedd dim rhaid aros mwy na thri chwarter munud cyn clywed rhywun yn rhywle yn holi, efo’r hyn roedden nhw’n ei ystyried yn dreiddgarwch a gwreiddioldeb: ‘Pam roedd bywyd yng ngwledydd Llychlyn yn mynd yn ei flaen yn braf er gwaetha’r eira?’ Felly mae hi yn y gwledydd hynny bob blwyddyn, meddan nhw’n gyhuddgar, heb sylweddoli am eiliad mai’r union gysondeb blynyddol hwnnw oedd yn cyfiawnhau gwariant Norwy, dyweder, ar waredu eira. Yn rhai o wledydd Ewrop does dim angen craffu’n ddisgwylgar ar yr wybren. Y cyfan sydd ei angen ydi cip ar y calendr. Mewn sawl man ar draws y cyfandir mae pobl yn gwybod i sicrwydd, o fewn ryw dridiau, pryd y bydd yr eira’n cyrraedd. Ac maen nhw’n gwybod hefyd y bydd hi’n ddiwedd Mawrth cyn y bydd o’n diflannu. 

Dan amodau o’r fath mae buddsoddi’n helaeth yn y peiriannau a’r offer diweddaraf yn gwneud synnwyr. Bydd defnydd helaeth arnyn nhw am fisoedd bwy’i gilydd bob gaeaf. Ond yng Nghymru, gallai peiriannau drudfawr fod yn gorwedd yn segur, i bob pwrpas, am fwy nag un gaeaf, eu cyrff yn rhydu a’u gwerth yn erydu. 

A faint ohonom ni fyddai’n hapus gorfod rhoi teiars gaeaf ar ein ceir rhwng Rhagfyr 1af a Mawrth 31? Ac wedyn eu newid nhw am deiars haf. Heb sôn am ymorol am gadwyni eira ar gyfer bob olwyn. Ac nid yn Llychlyn yn unig mae hyn yn ofynnol ond yn Ffrainc a’r Almaen hefyd. Mae dirwyon trymion am beidio cydymffurfio. A bydd cwmnïau yswiriant yn gwrthod talu os na fydd yr offer priodol ar eich car, hyd yn oed os mai gyrrwr arall oedd ar fai am y ddamwain a gawsoch. 

Bu beirniadu mawr ar yr ysgolion hefyd am fod ar gau am ddyddiau ar y tro yn ystod yr eira. Ond cymaint yw gormes Iechyd a Diogelwch fel bod yn rhaid i bob pennaeth a phob awdurdod addysg fod ar eu gwyliadwriaeth. Ym mis Rhagfyr y llynedd datgelwyd fod ysgolion ym mhob un o siroedd y Gogledd, ar wahân i Wynedd, wedi gorfod talu £225,000 rhyngddyn nhw mewn iawndal i athrawon, cymorthyddion, disgyblion a rhieni a gafodd ddamweiniau naill ai mewn ysgol neu ar libart ysgol. Mewn un ysgol gyfun ar Ynys Môn dyfarnwyd £17,568 i berson a syrthiodd wrth wneud gwaith cynorthwyol. A derbyniodd disgybl yn un arall o ysgolion yr ynys £10,483 am faglu a syrthio. £7,780 oedd iawndal athro yn Llandudno am niweidiau a gafodd wrth ‘ymestyn’ am rywbeth neu’i gilydd. Am faglu ar dir ysgol ym Mhrestatyn derbyniodd rhiant iawndal o £3,500. 

Does dim angen imi amlhau geiriau. Ni chyfeirir at eira a rhew fel ffactorau yn yr un o’r enghreifftiau a ddyfynnais. Mae’n hawdd iawn deall, felly, pa mor wyliadwrus y mae’n rhaid i ysgol fod, yn enwedig, mewn tywydd garw, yn ein diwylliant-mynnu-iawndal. 

Rhai eraill sy’n elwa o’r eira, ond mewn ffordd wahanol, yw darlledwyr. Bydd darllenwyr han yn cofio mai’r hwb fwyaf a gafodd gyrfa Sulwyn Thomas oedd eira mawr 1982. Aeth i bêr lesmair wrth gofnodi pob pluen a syrthiodd a phob baddon aderyn a rewodd. Mynnai fod Cymru gyfan yn ddiymadferth yng nghrafanc ‘yr eira mowr’. Yn gwrando ar y rhaglen yn ei gar ar y pryd wrth yrru’n gwbl ddirwystr o Borthaethwy i Gaerdydd, ar gyfer cyflwyno Newyddion Saith, roedd Gwyn Llewelyn. Meddyliodd mai ei ddyletswydd oedd rhoi gwybod i wrandawyr Radio Cymru nad oedd yr eira wedi andwyo dim ar ei siwrnai. Yn Sir Faesyfed dyma fo’n ffonio Radio Cymru o giosg ar ochr yr A470. Gwrthodwyd gadael i Gwyn fynd ar yr awyr! Doedd o ddim am gael difetha’r Stori Fawr efo rhywbeth mor anhwylus â’r gwirionedd.