| Degawd fy Mrawd wrth y Llyw |
|
|
|
|
Degawd fy Mrawd wrth y Llyw
Peth peryglus yw dechrau ‘siarad am eich tylwyth’. Ystyr yr ymadrodd i ni ym Morgannwg yw gradd o feddwdod lle mae dyn yn gorymffrostio yn ei ddiod, ac ar fin troi’n flagardus a dangos ei ddyrnau. Ond yma siarad am dylwyth sydd yn rhaid, er ei bod yn rhaid cyfaddef ein bod ni fel teulu yn teimlo ers deng mlynedd nad oedd Rhodri yn perthyn i ni eithr yn rhyw fath o eiddo i’r genedl. Rwyf yn cofio am brynhawn Sul yn yr haf lle roeddem yn ceisio mwynhau tawelwch yn ei ardd ar ôl cinio, a dyma griw teledu yn cyrraedd ac yn erfyn arno i roi barn ar ryw bwnc llosg a oedd wedi codi y bore hwnnw. Ac yna, wedi i’r cyfweliad hir dynnu at ei derfyn, roedd rhaid i Rhodri newid a mynd draw i Eglwys Llandaf at ryw gwrdd coffa. Bûm yn aros gydag ef dros y Nadolig, a’r tro hwn, paradwys oedd cael amser tawel gyda’n gilydd, heb deleffon na chriw teledu, ac ymlacio trwy gerdded trwy’r wlad yn yr eira. Cyfaddefodd Rhodri mai dyma’r tro cyntaf iddo fwynhau noswaith fwyn o gwsg di-dor ers deng mlynedd. Roeddwn i yn y Senedd at y dathliadau ar yr wythfed a’r nawfed o Ragfyr, a chyn i Rodri roi ei araith olaf ar brynhawn y nawfed, gofynnais iddo amser cinio sut oedd yn teimlo. Ystumiodd â’i ddwylo ei fod yn bur emosiynol. Dywedais wrtho ei fod yn ddyn oedd wastad yn gallu cuddio’i emosiynau, ac felly y bu, wrth gwrs. Aeth fy meddwl yn ôl dros lawer o bethau, a chofio’r prynhawn y siaradodd am y tro cyntaf yn San Steffan yn 1987, yn aelod dibrofiad. Cyn i Mam a minnau fynd i fyny i’r oriel gyhoeddus, gallwn weld ei fod braidd yn nerfus. D’wedais wrtho, ‘Nawr cofia un peth. Roedd Tom Ellis Cynlas, chwip Gladstone, yn rhannu llwyfan ar Bwnc y Tir gyda Hen Dat- cu Blaenrolchfa, a dywedodd Tom Ellis wrtho mai ef oedd y siaradwr gorau ar wleidyddiaeth y tu allan i San Steffan. Does bosib na elli di, a’r holl addysg yna yn Rhydychen a Harvard, wneud yn well na Hen Dat-cu.’ Gwyddwn fod Rhodri yn falch iawn ohono, o gofio hefyd fod tad-cu i hwnnw, Morgan Morgan, wedi ei garcharu am arwain Terfysg Beca yng Ngorllewin Morgannwg. Sythodd ei gefn ar unwaith, a chodi’i ên, a cherdded mewn i’r Ty. Siaradodd yn huawdl, gan roi chwinc i ni yn yr oriel pan eisteddodd lawr. Un rheswm pam y mae Prif Weinidogion yn ei chael hi’n anodd i gysgu’n esmwyth yw ofni codi’r bore a chael bod rhywbeth adfydus wedi digwydd yn ystod y nos – fel y dywedodd Macmillan, ‘Events, dear boy, events’ yw gofid mawr yr un sy’n dal yr awenau. Mae trafferthion teuluol ambell Brif Weinidog ar ddechrau 2010 yn atgoffa dyn o’r peryglon. I ryw raddau mae hyd yn oed tylwyth Prif Weinidog ar bigau’r drain, rhag ofn. Fel y dywedodd Rhodri ei hun, mae’r Cynulliad wedi bod yn ddi-sgandal, ac wedi cadw ei urddas. A diolch am hynny. Ond mae’r teulu i gyd yn gallu anadlu’n fwy esmwyth wedi deng mlynedd o fod yng ngoleuni llachar y cyfryngau. Ar y nawfed o Ragfyr roedd y tylwyth, y plant a’r wyrion agos i gyd, wedi dod i oriel gyhoeddus y Senedd i glywed Rhodri yn traethu am y tro olaf yn ei swydd. Y peth rhyfedd a’m trawodd y prynhawn hwnnw oedd cof amdanom ni’n dau yn 1950 yn cael ein gwahodd i Erw’r Delyn, Penarth, i barti pen-blwydd Elfed (1860–1953) yn 90 mlwydd oed. Gan fod yna genhedlaeth wedi codi ‘nad adnabu Joseph’ gwell imi ddweud fod Elfed nid yn unig yn bregethwr a bardd ac archdderwydd enwog, ond hefyd yn y 1890au yn un o arweinwyr Cymru Fydd. Elfed yn Ionawr 1896 a wnaeth y cynnig tyngedfennol yng Nghasnewydd i uno Rhyddfrydwyr y De â mudiad Cymru Fydd a oedd dan law Lloyd George. Gwrthodwyd y cynnig yn llwyr, dan anogaeth Robert Bird – yr oedd ei ferch Miss Bird yn gymdoges inni yn Radur, Caerdydd, am flynyddoedd. Trychineb i Gymru Fydd, a chenedlaetholdeb yn colli’i ffordd am genhedlaeth gyfan. Meddyliais am fethiant Cymru Fydd bryd hynny a llwyddiant y Cynulliad, gan mlynedd yn hwyr. Ond daeth rhywbeth rhyfeddach i’m cof am y parti pen-blwydd hwnnw. Gofynnodd Rhodri i Elfed ar ôl tê, ‘Wel, pam y’ch chi wedi gofyn i ddau fachgen bach i ddod i ddathlu’ch pen blwydd? Oes dim ffrindiau gyda chi o’ch oedran eich hunan?’ Ac ebe Elfed, ‘ Ah, machgen i, rwyf wedi’ch dewis chi yn arbennig iawn. Rwyf am i rywun fy nghofio yn yr unfed ganrif ar hugain.’ Yn yr oriel wrth fy ochr yr oedd wyrion Rhodri, un ohonynt ychydig dros deirblwydd oed. A meddwl yr oeddwn, tybed a fydd ef yn gallu cofio’r achlysur hwn yn nechrau’r ail ganrif ar hugain? |