• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Colli Llenor a Symbylydd PDF Argraffu Ebost

Colli Llenor a Symbylydd

Angharad Jones  (1962–2010) 

 

Dyma deyrnged BETHAN EAMES i lenor a sgriptwraig a fu farw’n annhymig yn gynnar yn y flwyddyn newydd. 

 

Yn fuan iawn wedi fy mhenodiad, yn 2007, yn Olygydd Ffuglen yn S4C, fe’m gwahoddwyd i fynychu’r ?yl Ffilmiau Geltaidd yn Skye, ac i gyfrannu i sesiwn drafod o dan y teitl “Drama Queens” yn yr ?yl. Gan fy mod yn gymharol newydd i’r swydd, fel sail i’m cyfraniad, es ati i baratoi DVD o arlwy Drama S4C, a golygodd hyn roi casgliad at ei gilydd o glipiau o’r cyfresi a’r ffilmiau a oedd wedi cael eu darlledu gan S4C yn ystod y blynyddoedd cyn fy nyfodiad i i’r cwmni – cyfresi a ffilmiau a oedd, yn y bôn, i gyd wedi eu comisiynu gan Angharad Jones yn ystod ei chyfnod hi fel Comisiynydd Drama S4C (1996–2006).  

Yn syth bin, wrth geisio rhoi’r elfennau at ei gilydd, sylweddolais fod y casgliad yn anhygoel –roedd yr amrywiaeth o ran cynnwys yn ogystal ag arddull yn ddramatig, yn gyffrous, ac yn unigryw. Yn wir, fe’m hargyhoeddwyd, wrth drefnu a golygu’r clipiau, o un ffaith amlwg – os oedd unrhyw un yn deilwng o’r teitl “Brenhines Ddrama”, yna Angharad Jones oedd honno. 

Ie – Angharad gomisiynodd gyfresi fel Amdani, Talcen Caled, Tipyn o Stad, Iechyd Da, Llafur Cariad, Porc Peis Bach, Y Ty, Fondue, Rhyw a Deinosors, Treflan, A470, Caerdydd, Con Passionate, Arachnid, Cowbois ac Injans ac Y Pris yn ogystal â ffilmiau mor amrywiol â Yr Aduniad, Solomon a Gaenor, Oed yr Addewid, Eldra, Siôn a Siân, Gwyfyn, Calon Gaeth, a Cwcw: rhestr sy’n adlewyrchu dewrder, sensitifrwydd, dychymyg a gallu Angharad. Roedd fel petai ei chariad at Gymru, a’i gwybodaeth eang am y wlad a’i phobl a’i diwylliant, yn ei hysbrydoli i gomisiynu dramâu fyddai’n apelio at holl wahanol garfanau’r gymdeithas, yn ogystal â phlesio’r mwyafrif.  

Yn Rhagfyr 2004, yn Barn, fe ysgrifennodd Angharad ddisgrifiad o’i swydd fel Comisiynydd: “Cael gwefr o fod mewn swydd freintiedig sy’n cario cyfrifoldeb o gyfrannu at oroesiad y diwylliant Cymraeg… Rhaid i’n straeon fod yn werth eu dweud, a’u cymeriadau fod yn rhai i’w caru… Cyffwrdd yn y gynulleidfa – cyffwrdd mewn pobol: gorau oll os yw hynny’n digwydd mewn ffordd gadarnhaol… Ond weithiau hefyd mae’n bwysig herio, anesmwytho hyd yn oed; cyflwyno rhaglenni sy’n ennyn ymateb cry o blaid ac yn erbyn… Mae unrhyw beth yn well na difaterwch.”  

“Difaterwch” – gair na fyddai neb yn ei ddefnyddio i ddisgrifio Angharad ei hun. Roedd hi wastad yn gadarn ei barn, ond hyd yn oed pan oedd anghytuno ffyrnig efo’i phenderfyniadau, roedd yna eto barch at ei diffuantrwydd, a mwy na hynny, gwerthfawrogiad o’i ffraethineb, ei hegni, a’i deallusrwydd. Yn wir, roedd hi’n enwog am siarad yn blaen, ac roedd ei hiwmor deallus, a’i chrefft gyda geiriau, yn sicrhau cyffro yn ei chwmni bob tro – ac ie, digon o chwerthin hefyd – a’r ffraethineb yn pefrio yn ei llygaid mawr tywyll, llygaid a oedd yn llawn hwyl, her, egni, ac ysbryd.  

Rhoddodd ei chefnogaeth frwd a di-ffael i greadigrwydd artistig, yn ogystal â’i hymroddiad i’r egwyddor o roi cyfle i lais unigryw’r awdur a statws i’r awdur ym myd drama teledu. Ceisiodd Angharad sicrhau fod mwy o reolaeth artistig gan awduron, bod lleisiau benywaidd yn cael llwyfan, a bod awduron yn cael cydnabyddiaeth deg gan gwmnïau am eu cyfraniad allweddol i’r cynyrchiadau. A’r gofal yma am waith yr awdur a barodd i Angharad weithio mor galed wrth geisio creu cysylltiadau cyffrous a phositif rhwng awduron a gwahanol gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr. Mi fyddai Angharad yn mwynhau meddwl sut i adeiladu’r tîm gorau i wireddu pob drama, ffilm neu gyfres, ac roedd hi hefyd yn ymfalchïo wedyn, bron fel rhiant, yn y timau llwyddiannus a hirhoedlog a ddaeth at ei gilydd yn sgil ei hawgrymiadau gofalus. 

Wrth gwrs, efallai nad oes syndod bod Angharad mor gefnogol i waith awduron – wedi’r cwbl, ysgrifennu oedd ei chefndir hi. Ysgrifennodd sgriptiau i’r cyfresi Dinas, Glan Hafren a Pengelli, ac roedd hi hefyd yn nofelydd a bardd. Enillodd y Gadair yn Ysgol Rhydfelen pan oedd yn y chweched dosbarth, ac aeth ymlaen i ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1984. Yn 1995 enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei nofel Y Dylluan Wen. Cyhoeddodd y gyfrol Datod Gwlwm yn 1990, casgliad o straeon byrion a cherddi. Mae’n nodweddiadol fod ochr dywyll bywyd i’w gweld yn ei gwaith, a’r hiwmor du yna a oedd yn rhan mor amlwg o’i chymeriad. Dyma ran arall o ddisgrifiad Angharad o swydd y Comisiynydd: “Trio amddiffyn, neu o leia egluro, pob comisiwn i’r rheini sy’n deud fod pob dim yn crap – cyn cael cur pen a mynd adre i drio anghofio am bob syniad, sgript, rhaglen, ffilm, drwy un ai swatio dan gwilt trwm, downio potel neu ddwy o win, neu mynd i’r gym/nofio’n manig am oriau.”  

Ond nid oedd pob dim yn “crap”. Gwobrwywyd nifer o’r dramâu a ffilmiau a gomisiynwyd gan Angharad. Nid ei bod hi’n un i frolio – “diflannu o’r golwg os yw rhaglen yn cael clod, a chymryd y bai os nad yw’r rhaglen yn gweithio” (Barn, Rhagfyr 2004). Dwi’n cofio noson Bafta Cymru rai blynyddoedd yn ôl, a minnau’n gadael y CIA yn oriau mân y bore. Roedd yna dyrfa o bobol yn aros tu fas am dacsis, felly doedd dim amdani ond cerdded. Wedyn, yn y pellter, gwelais Angharad yn ei ffrog hir arian, “evening bag” bach yn swingio’n ôl a blaen yn ei llaw, yn cerdded yn benderfynol i ddüwch y nos. Llwyddais i i ddal i fyny gyda hi, ac mi gydiodd yn fy mraich. “Gawn ni rannu tacsi!” meddai hi. Dwi’n cofio mor hardd yr oedd hi’n edrych – “a million dollars” fel y byddai Mam wedi dweud! Wrth gwrs, gerddon ni’n dwy ddim ymhell iawn – gyrhaeddon ni stepen drws gwesty’r Big Sleep cyn penderfynu eistedd yn fan’no i aros am dacsi. Ac o! – dyna sgwrs ddifyr gawson ni, a morio chwerthin hefyd wrth gwrs. Ac Angharad yn ei helfen, yn rhoi’r byd yn ei le, ac yn dadansoddi’r holl noson a’r gwobrwyo gyda llygad craff a deallusrwydd gwleidydd. 

Fel cynhyrchydd ddois i i adnabod Angharad, ac mi roedd hi wastad yn gefn – y llais cadarn, diffwdan yn ateb y ffôn, yn ceisio helpu ym mha bynnag argyfwng, yn garedig, ac yn sensitif i eneidiau oedd yn aml wedi blino’n rhacs. Roedd ei chyngor yn dda a phwyllog, a byddai’n deall yr argyfwng ar amrantiad. Unwaith eto yn Barn, mae Angharad yn ysgrifennu am gael  “boddhad mamol/tadol bron, pan mae’r rhaglen yn gweithio, o gofio eich bod wedi bod yno o’r cenhedlu i’r enedigaeth, sef o’r syniad a’r drafodaeth gychwynnol rhwng dau neu dri… drwy’r cynhyrchu sydd wedi cynnwys degau o bobol i’r darllediad pryd mae’r babi’n cael ei rannu gyda degau o filoedd”. 

O’r diwedd, wedi gweithio cymaint gyda’n gilydd, daethom yn ffrindiau, ac roedd Angharad yn ffrind da a ffyddlon. Byddai’n galw yn y ty, neu byddem yn cwrdd ar gaeau Pontcanna – hithau, mor hardd ag erioed, ar ei beic, a minnau’n mynd â’r cwn am dro. Mi fydden ni’n rhoi’r byd yn ei le, yn ôl yr arfer, ond gydag amser, fe ddaeth tristwch i fywydau’r ddwy ohonom, a hynny ar yr un pryd. Iselder yn achos Angharad, a gofid am fy ngwr, a oedd yn marw o ganser ac yn ymladd bob dydd am ei fywyd, i mi. Ac wrth gwrs, fe welodd Angharad beniog, sensitif, eironi’r sefyllfa yma yn glir. Serch hynny, iddi hi, mae’n debyg nad oedd dihangfa ar gael. Yn ystod y misoedd diwethaf roedd Angharad yn dioddef o iselder dwys, a oedd yn peri iddi fod yn galed iawn arni ei hun ac yn methu gweld unrhyw obaith, er gwaetha’ holl gariad a gofal ei theulu a’i ffrindiau. Dim sêr yn pefrio yn y llygaid mawr tywyll bellach. 

Yn y feirniadaeth Eisteddfodol ar Y Dylluan Wen, a ddyfynnir ar gefn y gyfrol, ceir diweddglo addas i werthfawrogiad o fywyd Angharad: 

“Mae yna glamp o stori dda, afaelgar, wedi ei hadeiladu’n gampus, gan lenor sy’n sicr o’i chrefft. Awdures yw hon sy’n gwybod sut i chwarae ar y du a’r gwyn, y daioni a’r drygioni sy’n llywio’n bywydau, pob un ohonom. Ac arwydd o gamp yr awdures yw ei gallu i gydymdeimlo a’i chymeriadau yn eu gwendidau yn ogystal â’u cryfderau.”  

Mae’n drasiedi nad oedd Angharad yn gallu dangos yr un cydymdeimlad tuag ati hi ei hun. Fe fydd hiraeth mawr ar ei hôl.