• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Gwener 10 Medi 2010
Y ‘Saint’ yn eu Gogoniant PDF Argraffu Ebost

Y 'Saint' yn eu Gogoniant

Holi Angharad Price am ei nofel newydd

 

Go brin y byddai neb yn anghytuno mai O! Tyn y Gorchudd yw un o’r nofelau gorau i ennill y Fedal Ryddiaith yn y blynyddoedd diweddar. Yn ogystal â phlesio beirniaid y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol 2002, dyma Lyfr y Flwyddyn yn 2003. Stori Rebecca Jones (chwaer i daid yr awdur) oedd y nofel, ac fe gafodd ei chanmol am geinder yr ysgrifennu, angerdd a thynerwch y portread o fywyd un teulu a’i darlun hudol o gynefin y teulu hwnnw, sef cwm Maesglasau ym Meirionnydd. Yn awr, mae O! Tyn y Gorchudd ar fin ymddangos mewn cyfieithiad Saesneg o waith Lloyd Jones, o dan y teitl The Life of Rebecca Jones. 

Yn y cyfamser, mae nofel newydd yr awdur ar y ffordd o’r wasg. Yn dilyn llwyddiant O! Tyn y Gorchudd, mawr yw’r disgwyl am Caersaint, ac mae’r awdur ei hun yn fwy ymwybodol na neb o hynny. Yn ogystal â’r her o gynnal safon uchel y nofel gynharach, roedd Angharad Price, wrth ysgrifennu’r nofel, yn wynebu her arall, yn codi o’r deunydd crai. Nofel am Gaernarfon, tref sy’n agos iawn at galon Angharad, yw Caersaint (Saint yw’r ffurf wreiddiol ar Seiont, enw’r afon sy’n llifo i’r Fenai yng Nghaernarfon). Ac er bod yr awydd i sgrifennu am y dref wedi bod yno ers blynyddoedd lawer, nid ar chwarae bach y daeth y nofel i fod. 

Cafodd Angharad ei magu o fewn dwy filltir i Gaernarfon, ym mhentref Bethel. Dair blynedd yn ôl, yn dilyn cyfnodau yn Rhydychen, lle bu’n fyfyriwr, ac yna yn Abertawe a Chaerdydd, derbyniodd swydd darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, gan ymgartrefu yng Nghaernarfon gyda’i theulu. Mae ei hargraffiadau o fyw yng Nghaernarfon heddiw – a gwthio’r ieuengaf o’i dau blentyn mewn coets o gwmpas y dref – yn sicr wedi lliwio’r nofel. Ond mae atgofion am gyfnod cynharach wedi chwarae rhan allweddol ynddi hefyd.

‘Pan o’n i’n fyfyriwr, o’n i’n arfer gweithio yn nhafarn yr Anglesey yng Nghaernarfon yn ystod y gwyliau,’ meddai. ‘Mi fyddwn i’n gwrando ar y bobl yn y dafarn yn siarad a meddwl y buaswn i wrth fy modd yn sgrifennu amdanyn nhw rywbryd...’ 

Wedi arbrofi gyda gwahanol syniadau a llunio sawl ‘drafft seithug’, yn ôl at y cof hwnnw am rai o gymeriadau Caernarfon y daeth yr awdur wrth benderfynu yn y diwedd ar nofel gyfoes. Mae Caersaint yn adrodd hanes llanc ifanc o’r enw Jaman, sy’n ceisio ‘canfod ei hun’, chwedl y broliant, wedi iddo etifeddu ta hen wreigan o’r enw Arfonia Bugburd. Trwy ei lygaid ef y gwelwn y dref wrth iddo ddod i ’nabod rhai o’i chymeriadau, yn enwedig y criw brith sy’n yfed yn nhafarn y Mona, ac wrth iddo gael ei dynnu i mewn i chwarae rôl ganolog ac annisgwyl ym mywyd cyhoeddus y dref. 

Ond hyd yn oed ar ôl penderfynu ar gymeriadau, plot a chyfnod, roedd yna waith meddwl sut yr oedd portreadu tref mor hynod a chymysg ei nodweddion â Chaernarfon. 

‘Dydi Caernarfon ddim yn lle hawdd sgrifennu amdano. Mae ’na gymaint o hanes, chwedloniaeth a mythau. Ac un her fawr oedd osgoi ystrydebau – ond ar yr un pryd trio gweld be ydi’r elfennau gwir sydd yn yr ystrydebau. Y Cofi, er enghraifft. Dwi wedi trio cyfleu agweddau ar y Cofi, ond gobeithio bod hynny ddim yn ormod o caricature.’ 

Nid fod y gair ‘Cofi’ yn digwydd o gwbl yn y nofel. Fel ‘saint’ (ar ôl ‘Caersaint’) y cyfeirir at y Cofis, a ‘Besanti’ yw’r dafodiaith a siaradant. Yn ôl yr awdur, roedd y penderfyniad i ailfedyddio’r dref a’i brodorion, ar wahân i fod yn gyfle i gael ychydig o sbort geiriol (mae’r gair ‘sant’ yn adleisio gair unsill arall, yn gorffen gyda’r un llythrennau, a ddefnyddir gan lawer o’r trigolion wrth gyfarch ei gilydd), yn ymdrech i roi ychydig o bellter rhyngddi hi ei hun a’r deunydd crai a rhoi rhaff i’w dychymyg. Doedd hi ddim am i ddarllenwyr gael eu camarwain i ddisgwyl portread rhy lythrennol o’r dref, ac mae’n pwysleisio mai dychmygol yw’r holl gymeriadau. 

Ond does dim dwywaith fod yr egni creadigol sydd ar waith yn y nofel hwyliog a chrafog hon – sy’n gwbl wahanol ei naws i O! Tyn y Gorchudd – yn tarddu o sylwebaeth fanwl ar y dref fel ag y mae yn ei holl ogoniant cymysgryw, ddoe a heddiw. Nid yw hanes cyfoethog y dref fyth ymhell, yn y cyfeiriadau pensaernïol, o’r gaer Rufeinig i’r castell Edwardaidd, acyn y mynych gip ar ei gorffennol morwrol. Do, bu Angharad yn pori yn yr archifdy ac mewn hen lyfrau, ond bu hefyd yn darllen adroddiadau yn y Caernarfon & Denbigh Herald – ac yn gwylio, o’i thy ar Ffordd Bangor, y datblygiadau dadleuol diweddar yn Noc Fictoria. Mae’r datblygiadau hynny, ac ymateb y trigolion iddynt, yn ganolog yn y nofel. Trwy hynny mae Caersaint yn codi cwestiynau ehangach sy’n berthnasol i sawl ardal yng Nghymru, yn enwedig ynglyn â thwristiaeth fel diwydiant a’r modd yr ydym, neu y dylem, fel Cymry gyflwyno ein hetifeddiaeth i ddieithriaid. 

 

 

A hithau’n ferch i’r hanesydd Emyr Price, a fu farw flwyddyn yn ôl, prin y dylem synnu bod gan Angharad ddiddordeb byw mewn hanes a gwleidyddiaeth. 

‘Gan Dad dwi wedi cael y diddordeb mewn sut y mae hanes a gwleidyddiaeth ac economeg yn effeithio ar fywydau bob dydd pobl. A dyna’r math o nofelau dwi’n licio’u darllen fy hun. Dwi’n licio nofelau Oes Victoria, dwi’n licio George Eliot, a Tolstoy – hynny yw nofelau sy’n portreadu’r gymdeithas i gyd. Dydi seicoleg unigolion ar ben eu hunain ddim mor ddiddorol i fi.’ 

Cynrychioli’r dosbarth gweithiol, yn sicr, y mae Jaman ei hun – bachgen amddifad nad yw wedi cael llawer o gyfle mewn bywyd – ynghyd â rhai o’i gyd-lymeitwyr yn y Mona. Ond mae yna gymeriadau eraill sy’n perthyn i’r dosbarth canol, ac roedd Angharad yn awyddus i ddangos y trawsdoriad cymdeithasol hwn sy’n nodweddu bywyd Caernarfon. Cwbl fwriadol hefyd yw’r amrywiaeth tras sy’n amlwg ymhlith cymeriadau’r nofel. Mae Jaman, er enghraifft, o dras cymysg, ei fam yn Gymraes a’i dad yn Foslem, a’i enw yn llurguniad o’i enw go iawn sef Jamal (ystyr ‘jaman’ ymhlith y Cofis yw ‘anlwc’). Almaenes, wedyn, yw Almut, lesbiad sy’n cadw caffi bwyd iach. Ac mae rhai o gyfenwau’r cymeriadau, yn eu plith Bugburd, Spicer a Bold, yn gyfenwau go iawn sy’n tystio i’r ffaith fod Caernarfon yn dref a welodd lawer o fewnfudo dros y canrifoedd. A dyna ladd ystrydeb arall. 

‘Mae o’n fy niflasu i weithiau, clywed pobl yn sôn am y gogledd, neu’r gorllewin, fel rhyw lefydd Cymreig hen ffasiwn, mewnblyg, sydd â rhyw obsesiwn efo purdeb diwylliannol ac ati. ’Di hynny ddim yn wir o gwbl. Mae Caernarfon, er enghraifft, yn lle cosmopolitan ers canrifoedd lawer – ymhell cyn Caerdydd!’ 

‘Yma wyf finnau i fod,’ meddai Geraint Lovgreen yn ei gân am Gaernarfon. Er gwaethaf holl broblemau’r dref, yn sgil diweithdra a thlodi, dywed Angharad hithau nad yw’n gallu meddwl am ‘unlle difyrrach i fyw’. Ac yn sicr mae ei nofel, trwy ddilyn hynt a helynt Jaman a’r criw, yn rhoi blas i’r darllenwyr o fywyd brith a chyfoethog y lle.

Cyhoeddir Caersaint (Y Lolfa, £8.95) ar 4 Mawrth, a The Life of Rebecca (Gomer, £8.99), cyfieithiad Lloyd Jones o O! Tyn y Gorchudd, yn ddiweddarach yn y mis.