• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Gwener 10 Medi 2010
Y Bobl Biau’r Cyfrwng – O Ddifri PDF Argraffu Ebost

Y Bobl Biau'r Cyfrwng - O Ddifri

 

Er bod Iwerddon, drwy deledu lloeren, yn derbyn cannoedd o sianeli radio a theledu, mae’r wlad yn hynod o driw i raglenni o Iwerddon ac am Iwerddon. Yno nid yw materion cyfoes yn cael eu hystyried yn ymylol. Ac mae un sioe yn arbennig wedi arwain, yn ogystal ag adlewyrchu, y newidiadau a fu yn y gymdeithas Wyddelig.

 

Os ydy Cymru’n gallu ymffrostio yn hirhoedledd Pobol y Cwm, Iwerddon sydd biau’r sioe siarad hwyaf ei pharhad yn y byd, sef y Late Late Show. Bu honno ar y sgrîn yn wythnosol ers bron i hanner canrif, ers 1962. Hi yw rhaglen deledu fwyaf poblogaidd Iwerddon. Caiff ei darlledu’n fyw am ddwyawr bob nos Wener. Er nad ydy hi mor ddylanwadol heddiw ag y bu ers talwm, mae pobl yn dal i ofyn ar ddydd Sadwrn, ‘Welsoch chi’r Late Late neithiwr?’ 

Dydy cynnwys y sioe ddim wedi newid llawer dros y blynyddoedd – cymysgedd o’r dwys a’r difyr, amrywiaeth o westeion o fyd y sêr ac o fywyd bob dydd, cynulleidfa fyw yn y stiwdio, dipyn o gerddoriaeth, a chystadleuaeth ar gyfer y gynulleidfa adre. Ond nid adloniant yn unig yw’r rhaglen. Ers ei dyddiau cynnar bu’r sioe’n sefydliad cenedlaethol sydd, ar yr un pryd, drwy wyntyllu pynciau dadleuol, wedi cyfrannu at newid cwrs y gymdeithas yn Iwerddon. 

 

 

Mae llawer o’r clod am lwyddiant a dylanwad y Late Late yn ddyledus i’r gwr a gyflwynodd y sioe am 37 mlynedd hyd at ei ymddeoliad yn 1999 – Gay Byrne, neu Gaybo, neu Yncl Gay, fel y mae’r genedl gyfan yn ei adnabod. Roedd ganddo steil arbennig o holi – byth yn amharchus ond yn barod i gael dipyn o hwyl wrth ofyn y cwestiynau y bydde pawb eisiau eu gofyn. Roedd gan Gaybo sioe radio hefyd. Roedd pobl yn ei ffonio ac yn trafod y pethau mwyaf personol. Efallai fod awyrgylch cyffesgell y radio yn gwneud i genedl babyddol deimlo’n gyfforddus – ac fe lwyddodd i drosglwyddo ei bersona fel Tad Cyffeswr y tonfeddi radio i gyfrwng y teledu. Ac, wrth gwrs, yr Eglwys Babyddol ddaeth dan y lach fwyaf yn sgil y Late Late. Gellir dweud bod Gay Byrne wedi cael mwy o ddylanwad ar herio awdurdod yr Esgobion a thrawsnewid Iwerddon nag unrhyw wleidydd. Daeth â phynciau tabw Iwerddon y chwedegau – rhyw, ysgariad, erthylu, gwrywgydiaeth – i mewn i ystafelloedd byw’r genedl. 

Un o’r sgandalau enwocaf yn nyddiau cynnar y sioe oedd Achos yr Esgob a’r Goban. Yn 1966, gofynnodd Gaybo i wraig ifanc o Ddulyn pa liw coban a wisgodd hi ar noson ei phriodas. Dan chwerthin, atebodd y ferch mai coban y gallech weld trwyddi oedd y goban. Yna, wrth i’r gynulleidfa chwerthin, dywedodd nad oedd hi wedi gwisgo coban o gwbl. Ar ôl i’r miri dawelu, newidiodd ei meddwl drachefn a dweud – na, coban wen oedd hi. Y noson honno derbyniodd RTE delegram oddi wrth Esgob Galway yn cwyno am y budreddi oedd wedi cael ei ddarlledu, a drennydd galwodd o’r pulpud ar i Wyddelod parchus brotestio yn erbyn y fath gynnwys anfoesol. Ond anwybyddwyd ei alwad gan Wyddelod parchus, call, oedd yn methu gweld beth oedd o’i le ar hwyl diniwed. Nac ar y ffaith fod gwr a gwraig wedi cysgu’n noethlymun groen efo’i gilydd. 

Pennod arall nodedig oedd pan ymddangosodd Annie Murphy ar y sioe yn 1993. Hi oedd mam mab yr Esgob Eamon Casey. Erbyn hynny roedd y bachgen yn 20 oed. Roedd y newyddion, ddwy flynedd ynghynt, fod un o’r esgobion oedd mor brysur yn pregethu yn erbyn pechodau’r cnawd, yn dad, wedi syfrdanu’r genedl. I lawer roedd yn brawf o ragrith yr Eglwys. 

Ond doedd y farn am Annie Murphy ddim yn unfrydol. I rai, hi oedd yr Americanes ifanc, dlos oedd wedi hudo a themtio’r Esgob a’i arwain ar gyfeiliorn. A dyna lle roedd hi rwan yn ddigon hyf i ddod ar y teledu yn lle encilio o’r golwg yn ei gwarth. Yng ngolwg eraill cawsai ei defnyddio a’i bradychu gan yr Esgob. Ac roedd drwgdybiaeth Gaybo ohoni yn ystod y rhaglen yn adlewyrchu’r ddeuoliaeth. Roedd hefyd yn esiampl o Iwerddon yn ymgodymu’n fyw ar y teledu â daeargryn gymdeithasol a moesol. 

Daeth cyfnod Gay Byrne i ben yn 1999 ac fe roddwyd awenau’r Late Late yn nwylo cyflwynydd profiadol arall, Pat Kenny. Er fod oes aur y sioe drosodd, fe barhaodd i gyfrannu at y drafodaeth genedlaethol. 

Ar un achlysur achoswyd stwr go iawn pan ymddangosodd dyn o’r enw Joe O’Reilly ar y rhaglen i sôn am ei wraig, Rachel, oedd wedi cael ei llofruddio yn eu cartref dair wythnos ynghynt. Ar y rhaglen hefyd roedd mam Rachel. Roedd yr awyrgylch yn drydanol wrth i Joe siarad yn ddigyffro am amgylchiadau gwaedlyd y llofruddiaeth, a’r fam yn gwrthod edrych arno o gwbl. Y sôn ar y pryd oedd mai Joe oedd y llofrudd, a gwyddai pawb fod yr heddlu’n craffu ar ei ymddygiad ar y rhaglen. Roedd fel gwylio nofel dditectif, a’r wlad gyfan yn dyfalu. Ond fe gymrodd hi fisoedd wedyn cyn i’r heddlu gasglu digon o dystiolaeth i arestio Joe. Ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 2004 fe’i cafwyd yn euog o lofruddio’i wraig. 

Llynedd – i ffanffer fawr – gafaelodd cyflwynydd newydd, Ryan Tubridy, yn y llyw. Roedd ei raglen gyntaf yn un ddadleuol, oherwydd ei westai cyntaf oedd y Taoiseach – y Prif Weinidog – Brian Cowen. Aeth Tubridy ati’n yn syth i ofyn iddo a oedd o’n yfed gormod. Aeth popeth yn dawel wrth i filoedd o bobl rownd y wlad ddal eu hanadl. Mae’r cwestiwn am ‘yfed gormod’ yn un delicet a chymhleth yn Iwerddon; ‘hoff o beint’ yw’r disgrifiad diplomataidd a derbyniol. Ac, i lawer, mi fase peidio bod yn hoff o beint yn farc du. ‘Dydw i ddim yn yfed gormod,’ oedd ateb perffaith y Taoiseach. ‘Dwi’n mwynhau peint neu ddau efo fy ffrindiau ar benwythnos,’ ymhelaethodd. Ocheneidiau o ryddhad. Roedd ’na ymateb cymysg i’r cwestiwn: rhai yn meddwl bod gofyn y fath gwestiwn i’r Taoiseach yn ddigywilydd ac yn rhy bersonol, a bod ganddo yntau fel pawb arall yr hawl i breifatrwydd; eraill yn dadlau bod rhaid gofyn y cwestiynau caled. Cyfyng gyngor cyfarwydd. 

 

 

Er bod y Late Late yn dal yn hynod o boblogaidd, mae ei lle fel fforwm trafodaeth y genedl wedi cael ei chipio yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan y rhaglen radio Liveline, sydd ar RTE1 bob pnawn. Rhaglen lle mae pobl yn ffonio i gwyno a thrafod unrhyw bwnc sy’n eu corddi (‘Whingeline’ mae rhai yn ei galw). Joe Duffy yw’r cyflwynydd, a ‘Talk to Joe’ ydy slogan y rhaglen. A phan fydd Joe yn cael gafael ar bwnc, a’r llinellau ffôn yn eiriasboeth, mae gwleidyddion y wlad yn dechrau crynu yn eu sgidiau. Achos mae Joe Duffy, gyda llengoedd y cyhoedd blin y tu ôl iddo fo, yn gallu gorfodi’r llywodraeth i newid polisi a newid cyfeiriad. Tua phum mlynedd yn ôl bu rhaid i’r llywodraeth roi’r gorau i newidiadau arfaethedig i bensiynau gweddwon ar ôl i Joe a’i fyddin fynd i’r gad. Ac yn ystod helynt y banciau y llynedd, cyhuddwyd Liveline o greu panig drwy annog pobl i dynnu eu pres allan o’r banc. 

Ffenomen y Late Late a Liveline ydy eu bod nhw’n dal eu tir, eu cynulleidfa a’u dylanwad mewn oes o sianeli lluosog. Mae eu statws yn dangos bod Iwerddon yn dal i fod yn gymdeithas weddol unedig, sydd eisiau cael llwyfan i ddal pen rheswm, i fynegi barn a rhagfarn. Ac mae bodolaeth rhaglenni o’r fath o gymorth i uno’r gymdeithas, drwy roi lle i bobl drafod, i ddadlau ac i chwerthin efo’i gilydd. A siawns mai dyna ydy swyddogaeth sianel deledu neu radio genedlaethol.