• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Cwrs y Byd PDF Argraffu Ebost

Cwrs y Byd

Pennaeth newydd Bangor

Wrth i Barn fynd i’r wasg mae Bwrdd yr Iaith yn cynnal ymchwiliad i ganfod a yw Prifysgol Bangor fel sefydliad ‘wedi methu â chyflawni ei gynllun iaith wrth hysbysebu am Is-Ganghellor’. Asgwrn y gynnen, wrth reswm, yw penderfyniad dadleuol Bangor i beidio â gwneud y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol na hyd yn oed yn ddymunol ar gyfer y person a benodir i olynu’r Athro Merfyn Jones. Gadawaf oblygiadau cyfreithiol hynny i Gwion Lewis sy’n trafod y mater efo’i dreiddgarwch dadansoddol arferol yn y rhifyn hwn (gweler tudalen 5). 

Hawdd iawn yw deall y siom, y dadrith a’r dicter a gododd yn sgil cyhoeddiad awdurdodau’r coleg. Fel y dadleuodd yr Athro Dylan Jones-Evans yn ei golofn rymus yn y Daily Post, dylai’r iaith a’r diwylliant Cymraeg fod yn gonglfaen Prifysgol Bangor, o bob prifysgol. Lleolwyd hi mewn rhan o Gymru lle mae’r Gymraeg o hyd yn brif iaith y mwyafrif o’r boblogaeth. Yn fwy na hynny, meddai’r Athro, mae safon dysgu ac ymchwil Bangor yn y Gymraeg yn ardderchog. Aiff ymlaen i ddisgrifio Bangor fel crud Cymreictod. A diau bod hynny’n wir o safbwynt y niferoedd o fyfyrwyr Bangor sy’n astudio eu pynciau yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae o yn llygad ei le hefyd yn ein hatgoffa bod amheuon ar hyn o bryd ynglyn â dyfodol pump o adrannau’r coleg. Mae’r pum adran honno, drwy gyd- ddigwyddiad anffodus, yn gwneud defnydd helaeth o’r Gymraeg. Rhwng pob dim, felly, roedd y penderfyniad i beidio â gwneud y Gymraeg yn gymhwyster angenrheidiol ar gyfer pennaeth newydd Bangor yn sicr o ennyn dicter. 

Cynyddu ddaru’r dicter hwnnw pan aeth y si ar led fod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn un o’r rhai a oedd yn gefnogol i’r penderfyniad. Os gwir yr haeriad hwnnw fe fyddai’n talu i bawb ohonom ymbwyllo. Beth bynnag arall yw Llywydd y Cynulliad nid yw’n elyn i’r Gymraeg. Nid yw’n wleidydd ychwaith y mae’n arferiad ganddo dorri cnau gweigion. Mae gwleidyddion mor gyfarwydd â bod yn wyliadwrus ac o beidio â throi’r drol fel nad oes ganddyn nhw’r rhuddin, y mwyafrif ohonyn nhw, i gynnig atebion mentrus a beiddgar i hen broblemau. Ond nid gwleidydd felly yw Dafydd Elis Thomas. Os oedd Dafydd yn erbyn gwneud y Gymraeg yn orfodol, gallwn fentro bod ganddo resymau da dros wneud hynny. Rhesymau sy’n dod yn amlycach efallai wrth astudio’r amodau a ddarparwyd ar gyfer y rhai a fydd yn ymgeisio am y swydd. 

Dan y pennawd ‘Gofynion Personol’ mae Prifysgol Bangor yn ei gwneud yn berffaith glir a diamwys bod angen i’r sawl sydd â’i fryd/bryd ar ddod yn is-ganghellor ymrwymo i’r canlynol:  

‘Rhaid i’r sawl a benodir fedru gwerthfawrogi amgylchedd dwyieithog y Brifysgol a gweithredu’n gadarnhaol ynddo. Mae Siarter y Brifysgol yn pennu bod Cymraeg a Saesneg yn ieithoedd swyddogol y Brifysgol ac mae 60% o holl staff y Brifysgol yn siaradwyr Cymraeg neu yn ddysgwyr. Mae’r Brifysgol yn rhoi pwyslais cynyddol ar ddarparu gwasanaethau dwyiethog a bydd angen i’r Is-ganghellor drefnu ei dîm/thîm yn y fath fodd fel ei fod yn adlewyrchu’r amgylchedd dwyieithog a chryfhau medrau dwyiethog y tîm.’ 

Fi sydd wedi italeiddio cymal olaf y dyfyniad. Hwnnw, mi gredaf, yw’r cymal hollbwysig yn y broses benodi o safbwynt y Gymraeg. Yn hytrach na bodloni ar gael figurehead o is-ganghellor rhugl ei Gymraeg, mae’r panel penodi wedi mynd at galon y broblem ym Mhrifysgol Bangor sef y timoedd rheoli. Diffyg Cymreigrwydd y rheini sydd yn gyfrifol am y canfyddiad mai Saeson yw prif reolwyr Prifysgol Bangor ac mai Seisnig yw eu hethos. Gan y timau rheoli hyn y mae’r gwir rym o fewn Prifysgol Bangor. Trwy fynnu y bydd yr is- ganghellor newydd yn ymorol yn benodol am Gymreigio’r haen bwerus honno o fywyd y Brifysgol fe ellir cymryd cam pwysig tuag at Gymreigio Bangor o’i chorun i’w sawdl. Mae’r Saeson wedi cael brenhinoedd di-Saesneg cyn heddiw ond dydyn nhw erioed wedi cael cabinet oedd ddim yn medru’r iaith. Oes gwers i Fangor yn hynny? 

Yn eironig, am ei bod yn ddealladwy mai dim ond siaradwr Cymraeg fyddai’n cael ei benodi’n is- ganghellor y caniatawyd i bobol o’r tu allan – fel rhyw fath o wobrau cysur – ddod yn uwchreolwyr gan ffurfio’r timau pwerus a dylanwadol sy’n lliwio a llywio cymaint o agweddau ar fywyd Prifysgol Bangor. Hyd yn oed os mai person rhugl yn y Gymraeg a benodir yn is-ganghellor y tro nesaf, y pwynt seicolegol a thactegol bwysig yw na fydd y pennaeth hwnnw wedi cael ei benodi oherwydd ei allu i siarad Cymraeg. Ac os mai person di-Gymraeg a benodir, bydd rheidrwydd ar yr is-ganghellor hwnnw i Gymreigio rheolaeth a gweinyddiaeth Prifysgol Bangor. Eisoes sonnir yn gwbl agored ym Mangor am ‘yr angen i gryfhau a phrif-ffrydio’r Gymraeg’. 

 

 

Ergyd arw fu gweld Bangor o bob man yn peidio mynnu ei bod yn ofynnol i’w phennaeth newydd siarad neu o leiaf ddysgu Cymraeg. Neu felly yr ymddengys ar hyn o bryd. Ond fel y gwyddom ni i gyd, penodi Sais yn bennaeth Heddlu Gogledd Cymru ar ddechrau’r ganrif hon oedd y peth gorau a ddigwyddodd erioed o safbwynt Cymreigio’r diwylliant plismona. Fe ddysgodd y Sais hynod hwnnw, Richard Brunstrom, y Gymraeg. Fe wnaeth fwy na hynny hefyd. Fe gododd gywilydd ar genedlaethau o’r Cymry a’i rhagflaenodd yn y swydd. 

Cofier mai Cymro Cymraeg glân gloyw oedd Prifathro Bangor o 1957 tan 1984. Ond er ei fod yn fab fferm a gafodd ei fagu mewn lle bach gwledig o’r enw Derwen ym mhen uchaf Dyffryn Clwyd roedd Charles Evans yn un o anghymwynaswyr pennaf yr iaith Gymraeg.

Yn brifathro caeth i’w gadair olwyn, yn dioddef o sglerosis ymledol, dyma’r dyn a ddaeth o fewn tri chan troedfedd i fod yn un o’r ddau ddringwr cyntaf i gyrraedd copa Everest yn 1953. Dridiau yn ddiweddarach fe gyflawnwyd y gamp gan Hillary a Tenzing. Fe ddaethon nhw’n fydenwog. Ond bu’n rhaid i’r Cymro fodloni ar ddod yn ddrwg-enwog ym Mangor. Ac am boeri casineb a chwerwder ar y Gymraeg. 

 

“Y berthynas arbennig arall...” 

Rydw i wedi cael cythgam o dafod gan un o ddarllenwyr y golofn hon. Daeth i fyny ataf ar y stryd ym Mhorthmadog gan edliw bod pwt roeddwn i wedi ei sgwennu yn rhifyn y Nadolig yn mynd i gostio’n ddrud iddo fo. Yn ddrud iawn. Miloedd o bunnau, i mi gael deall! Esboniodd fod ei ferch 14 oed yn gwneud hanes yr Ail Ryfel Byd yn yr ysgol a bod darllen am y gwersylloedd crynhoi a’r siamberi nwy wedi ei chyffwrdd i’r byw. Nid mewn ffordd drawmatig. Blin oedd hi yn hytrach. Blin a thrist. Trist bod dyn yn gallu ymddwyn mor ffiaidd tuag at ei gyd-ddyn.  

Aeth y tad ymlaen i esbonio nad fo ydi’r unig aelod o’r teulu sy’n darllen Barn. Pan ddarllenodd ei ferch fy nghyfeiriad at y ffaith mai’r gwrth-Iddewig Henry Ford oedd arwr mawr Adolf Hitler fe anfonodd hi neges destun yn syth bin at ei thad. Mae’r tad yn gyrru Ford Mondeo... Mynnai’r ferch ei fod o’n cael gwared ar y car yn syth. Ac arna i oedd y bai, meddai’r tad – wel, fi, Henry Ford a Hitler. 

Nid pwnc i wamalu yn ei gylch yw hwn, wrth gwrs. Ond fe wnaeth y bennod ar y stryd yn Port f’atgoffa nad Ford oedd yr unig ddiwydiannwr mawr o America i fwynhau perthynas arbennig efo’r Almaen Natsïaidd.

Mae sawl un ar hyd y blynyddoedd wedi methu deall sut, o safbwynt trefniadol a logistaidd, y llwyddwyd i ‘brosesu’ miliynau o Iddewon efo’r fath effeithlonrwydd melltigedig. Mae’r modd y llwyddodd y Natsïaid i gatalogi a didoli a thrawsgludo cymaint o Iddewon mewn cyn lleied o amser yn anhygoel, mewn oes cyn bod cyfrifiaduron wedi cael eu dyfeisio. Ond diolch i Edwin Black, awdur IBM and the Holocaust, fe wyddom bellach mai rhagflaenydd y cyfrifiadur, sustem punch cards  IBM, a wnaeth yr anfadwaith yn bosib. O fewn wythnosau i Hitler ddod i rym yn 1933 hyd at ganol y rhyfel bu’r cwmni’n cydweithio’n glòs efo’r Almaen i berffeithio’r broses o gyfrifiaduro’r creulondeb eithaf. 

Mae llyfr Black a thrylwyredd ei ymchwil yn rhyfeddol. A dyw IBM, er gwaethaf eu holl gyfoeth, erioed wedi meiddio dwyn achos yn erbyn yr awdur na’i gyhoeddwr. Ac mewn gwlad fel America, sydd mor hoff o ymgyfreithio, mae hynny’n dweud y cyfan.