| Owen Meilir: Kyffin y Dyn Tlawd |
|
|
|
|
Owen Meilir: Kyffin y Dyn Tlawd
Mae Cymru’n hen gyfarwydd â beirdd gwlad. Ond ym Môn mae arlunydd gwlad yn cynhyrfu dyfroedd tawel a chysurus y byd celf.
‘Dwi ddim yn credu bod pobol Cymru’n gwyboddigon am arlunwyr mawr ygorffennol,’ meddai Kyffin Williams un tro. Bellach mae o ei hun yn un o arlunwyr mawr y gorffennol efo cysegr parhaol i’w waith yn Oriel Môn, Llangefni. Yno gall celfgarwyr Cymru bererindota i ryfeddu at ei luniau. Ar hyn o bryd portreadau Kyffin ydi ffocws yr oriel, arddangosfa a gafodd ei hagor (‘mynediad trwy wahoddiad’) gan ddyn y wobble board, Rolf Harris, sydd wedi cyfrannu portread o Kyffin at yr arddangosfa gyfredol. ![]() Mae’r diddordeb cynyddol yng ngwaith ein hartist Cymreig mwyafwedi peri i brisiau ei luniau gwreiddiol godi y tu hwnt i boced y mwyafrif. Ac mae angen poced eithaf dofn i brynu ei brintiadau. Ond na hidiwch. Mae gwaredigaeth i’w chael i’r Kyffingarwr a syrthiodd yn ysglyfaeth i’r dirwasgiad. Gadewch imi’ch cyflwyno i Owen Meilir. Gweld bwlch yn y farchnad wnaeth Owen Meilir, paentiwr tai o Aberffraw, sydd wedi mynd ati’n ddeheuig i baentio lluniau ‘yn ysbryd’ Kyffin. Mae’r lluniau Kyffinaidd hynny wedi cythruddo rhai a phlesio eraill. ‘Hwyrach fod llawer o bobol yn ystyried fy lluniau i braidd yn anghynnil,’ meddai Kyffin, ‘Dwi bob amser yn ceisio cadw popeth yn hynod o syml oherwydd gwaith yr arlunydd ydi symleiddio rhywbeth cymhleth. Mae’r tirwedd yn beth eithriadol o gymhleth ac felly mae’n rhaid i chi ei symleiddio.’ A dyma sut mae efelychwyr Kyffin wedi camddeall ei arddull gan feddwl ei bod hi’n rhwydd paentio’r un fath â fo. Mae yna amryw wedi mynd ati efo cyllell baent i daenu lliwiau tywyll hyd gynfas dan yr argraff gyfeiliornus fod efelychu’r meistr yn hawdd. Mae lluniau o’r fath yn ymddangos yn rheolaidd mewn ocsiynau. Pencampwr y genre ydyw Owen Meilir. ‘Pam talu £8,000 am un o luniau Kyffin pan gewch chi un o fy rhai i am £300?’ gofynna’r efelychwr. ‘Fedrwch chi ddim bod ’run fath â Kyffin ond mi fedrwch chi fod reit agos’. H’m... meddyliais innau. ‘Gwaith gwreiddiol ydi llawer o fy lluniau,’ meddai’r efelychwr, ‘ond dwi wedi gwneud copïau o rai Kyffin hefyd. Dwi’n hoff o waith yr arlunwyr Cymreig fel Kyffin, Gwilym Prichard a Wilf Roberts a dwi’n cymryd dipyn bach gan bob un ohonyn nhw.’ Ac ydi lluniau Owen Meilir yr un fath a rhai Kyffin? Wel nac ydyn siwr iawn. Ond fe synnech chi faint sy’n credu eu bod nhw. Mae o wedi gorfod tynnu un i lawr o siop Oriel Môn, ar orchymyn staff Oriel Kyffin Williams, am efelychu’r meistr. Y fath hyfdra! ‘Llun o Drecastell oedd o, a doedd Kyffin ddim wedi gwneud hwnnw mewn olew, dim ond mewn dyfrlliw,’ eglura Owen Meilir. ‘Mi wnes i un tebyg mewn olew efo fy lliwiau i fy hun. Ond y munud es i â fo i mewn i Oriel Môn, roedd y persbectif yn rhy agos i un Kyffin, meddan nhw, ac mi gafodd kick out !’ Dro arall roedd yna gelfgarwr wedi cael ei gythruddo am i Owen Meilir fod mor ddigywilydd â phaentio llun o’r un olygfa ag yr oedd o wedi ei gomisiynu gan Wilf Roberts i’w baentio. ‘Fe ofynnodd o am dynnu’r llun o’r ocsiwn,’ meddai Owen, ‘ond roedd hi’n rhy hwyr achos roedd yna gynigion arno fo’n barod ac fe werthwyd y llun.’ ![]() A dyna’r math o begynnu barn sy’n digwydd yn yr achos yma. Un casglwr wedi ei wylltio ond prynwr arall wedi’i blesio efo darlun ersatz o stiwdio Owen Meilir yn y ty cyngor lle mae o’n byw. Pwy felly sy’n prynu ei waith? ‘Mae yna bobol adnabyddus wedi prynu fy lluniau,’ meddai’r artist gyda balchder. ‘Mae gan Archesgob Cymru un, ac mae gan Faer Bangor ddau. Mae David Rogers Jones, yr arwerthwr celf, yn cadw enwau’r lleill yn gyfrinachol ond mae o wedi prynu un ei hun.’ Yn fy marn i, y tebygrwydd pennaf rhwng Owen Meilir a’i arwr mawr Syr Kyffin yw fod y ddau o’r un anian. Mewn maes sy’n gallu bod yn ymhonnus roedd Kyffin yn wr cwbl ddiymhongar a hynaws. Ac mae’r un peth yn wir am Owen Meilir. Mae o’n barod i gydnabod ei ddyled i waith eraill, yn bennaf i Kyffin, ac yn falch o’r cyfle i wneud ceiniog neu ddwy ar eu corn. Bellach mae o’n fwy o artist nag o baentiwr tai. Ers chwarae’n blentyn yng ngweithdy paentio arwyddion ei ewythr, mae paent yn ei waed. Mae o wedi arlunio erioed heb dderbyn unrhyw hyfforddiant. Yn y 70au, cyn iddo ddod mor adnabyddus, deuai Kyffin draw i Aberffraw i sgetsio. ‘Tua Tachwedd neu Ragfyr fydda fo’n dfiad,’ meddai Owen. ‘Roeddwn i’n cael sgwrs efo fo’n amal ac roedd o’n dweud lot o hanes Berffro wrtha’ i. Mi ddwedais i wrtho fo fy mod i’n paentio ond roedd gen i ormod o gywilydd i ddangos fy lluniau iddo fo. Mi roddodd o bob anogaeth imi. Roedd o’n wr bonheddig.’ Yn ddiweddarach y daeth yr awydd iddo i baentio yn arddull Kyffin ar ôl cael llyfr o luniau’r meistr yn anrheg pen-blwydd gan ei wraig. Newydd ddod i ben yn oriel y V&A yn Llundain mae arddangosfa o waith celf wedi ei ffugio, ‘Fakes and Forgeries’, gyda lle amlwg i waith y copïwr enwog Shaun Greenhalgh, sydd yng ngharchar am dwyllo’r arbenigwyr efo’i gerfluniau a’i baentiadau medrus o ffug. Does yna ddim awgrym o dwyll yng ngwaith Owen Meilir. Wrth i’r arwerthwr David Rogers Jones ym Mae Colwyn ofyn ‘Faint am y Meilir?’, a chychwyn y bidio ar ddarlun arall gan yr artist o Fôn, mae yna gynnwrf yn mynd drwy’r prynwyr hynny sy’n gwybod fawr ddim am gelf ond sy’n gwybod beth maen nhw’n ei hoffi. ‘Bob tro dwi’n rhoi fy lluniau mewn ocsiwn maen nhw’n gwerthu. Mae bob un yn mynd,’ meddai Owen. ‘Rois i chwech mewn un sêl. Mi gafodd tri eu gwrthod am fod yna gwynion eu bod nhw’n rhy debyg i Kyffin. Ond roedd y tri arall yn wreiddiol i mi ac fe werthon nhw.’ A thrwy ocsiwn y we, eBay, does dim terfyn ar ei farchnad. Fe allwn ymfalchïo bod Kyffin Williams wedi cysegru ei yrfa i ddehongli ein gwlad mewn ffordd unigryw gan adael toreth o luniau gwych i’r genedl. ‘Yr hyn sy’n bwysig i arlunydd ydi obsesiwn,’ meddai Kyffin, ‘ac mae gen i obsesiwn efo’r bobol a’r tir o nghwmpas i. Does yna neb yn paentio’n union ’run fath â fi. Dwi’n paentio yn fy ffordd fy hun ac mae hynny’n poeni pobl am na fedran nhw fy nghymharu i efo neb arall.’ Wel, yn sicr ni ddylid ei gymharu efo Owen Meilir, beth bynnag. Er ei fod o’n efelychu Kyffin yn gwbl ddigywilydd, mae o hefyd yn gallu ein synnu efo’i luniau bychain gwreiddiol ei hun, rhai naïf eu harddull a chynnil eu defnydd o liw. Y rheini sy’n plesio o ddifrif yn hytrach na’r pastiche o weithiau arlunwyr eraill. Ond ‘nid yw pawb yn gwirioni’r un fath’. Adleisiau o weithiau Kyffin sy’n gwerthu orau. Gan hynny pwy wêl fai ar Owen Meilir am borthi’r galw? Mae pawb eisiau byw. Mewn dirwasgiad dydi pobol ddim mor barod i dalu am baentio a phapuro eu tai. Arallgyfeiriodd yr hogyn o Aberffraw. A theg yw cydnabod, er i sawl un roi cynnig arni hyd at syrffed, prin yw’r rhai a gafodd gystal hwyl ag Owen Meilir ar ddal y rhin Kyffinaidd a dreiddiodd bellach i psyche cenedlaethol y Cymry.
Mae arddangosfa Portreadau Kyffin Williams yn Oriel Môn, Llangefni tan 11 Gorffennaf. Mae lluniau Owen Meilir i’w gweld yn arwerthiannau cist car Mona (ar dywydd braf yn unig). Dyfynnir Kyffin Williams o ffilm Michael Bayley Hughes, Kyffin on Kyffin, sydd i’w gweld a’i phrynu fel DVD yn Oriel Môn, Llangefni. |