• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Radio Pop a Radio Pawb PDF Argraffu Ebost

Radio Pop a Radio Pawb

 

Yn sgil cwynion o sawl cyfeiriad am natur rhaglenni Radio Cymru, gostyngiad sylweddol yn ddiweddar yn nifer y gwrandawyr, heb sôn am y toriad yn incwm breindal i gerddorion Cymraeg, onid creu ail donfedd yw’r ateb amlwg? 

Dyma hi’n wyl Dewi – amser cystal â’r un i gyflwyno syniad i’r Genedl. Nid syniad hollol newydd efallai – mae rhai wedi awgrymu rhywbeth tebyg o’r blaen – ond yn hytrach un sy’n cydio wrth drafodaethau a fu yn nhudalennau Barn o’r blaen yn lled ddiweddar. 

Rwy’n cyfeirio at y cwynion am raglenni Radio Cymru, ac at y gostyngiad drastig yn nhaliadau PRS (Performing Rights Society) i gerddorion Cymraeg a drafodwyd gan Dafydd Iwan (Barn, Mai 2009). Oni fyddai rhannu Radio Cymru yn ddwy sianel – un yn cyfateb i Radio Un/Dau a’r llall i Radio Pedwar – yn datrys y ddwy broblem? Byddai’r Radio Pop Cymraeg yn chwarae miwsig trwy’r dydd (gyda’r cleber cysylltiedig) tra byddai Radio Pawb (sef yn fras y Radio Cymru presennol) yn rhydd i ddatblygu amrywiaeth o raglenni diwylliannol. 

Rwy’n awgrymu enw newydd fel ‘Radio Pawb’ er mwyn cadw’r enw ‘Radio Cymru’ fel brand ar gyfer y ddwy donfedd. 

Byddai’r Radio Pop yn dyblu oriau chwarae recordiau Cymraeg (os recordiau Cymraeg a chwaraeid!) gan ddyblu, mewn amrantiad, y taliadau i gerddorion Cymraeg. Byddai hyn o gymaint o help i’r cerddorion ag i’r Radio ei hun. Trwy helpu cerddorion i ennill crystyn wrth ganu yn Gymraeg byddai’n sbarduno cylch rhinweddol o arian yn cynhyrchu mwy o gerddoriaeth yn cynhyrchu mwy o arian.

Byddai Radio Pawb, ar y llaw arall, yn rhydd i gynhyrchu rhaglenni mwy Cymreigaidd a mwy amrywiol, gan gwrdd â’r feirniadaeth o Seisnigrwydd agwedd a chynnwys rhai o’r rhaglenni presennol. 

Ar yr un pryd, byddai’n rhaid croesawu mesurau eraill i wella’r holl sefyllfa, sef y syniad o greu Fforwm Darlledu Cymraeg a fyddai’n gwneud Radio Cymru yn fwy atebol i’w gynulleidfa, a chreu PRS ar wahân i Gymru, neu o leia’ roi’rhawl i’r PRS yng Nghymru gynnig telerau gwahanol a mwy realistig i gerddorion. Byddai hyn yn hanfodol i lwyddiant y Radio Pop. 

Ond nid cynyddu incwm cerddorion Cymraeg yw’r unig ddadl dros sefydlu’r donfedd hon. Yn llawn mor bwysig, byddai gwasanaeth radio Cymraeg a fyddai’n chwarae miwsig trwy’r dydd yn fodd i ddod â’r iaith Gymraeg i mewn i archfarchnadoedd, llefydd gwaith a’r holl fannau eraill lle mae Radio Un Lloegr yn awr yn teyrnasu fel miwsig cefndir. Fel y mae ein Gweinidog Treftadaeth wedipwysleisio droeon, mae cynyddu’r defnydd beunyddiol o’r iaith yn bwysicach na statws ar ei ben ei hun. A dyma’r ddadl hefyd dros sefydlu papur dyddiol Cymraeg – syniad y mae’n rhaid ei adfer. 

Ond i ddod yn ôl at Radio Cymru fel y mae. Gallwn gytuno ar ddau beth, o leia’. Yn gyntaf, er bod rhaglenni unigol ardderchog o fewn yr arlwy, mae nifer dda o bobl sy’n anhapus gyda’r fwydlen gyfan. Yn ail, ac yn fwy gwrthrychol efallai, mae ffigyrau diweddar RAJAR (Radio Joint Audience Research) yn dangos gostyngiad gofidus yn nifer y gwrandawyr yn y 12 mis hyd at Fedi 2009. Mae canran y gwrandawyr wedi gostwng o 3.7% (o holl boblogaeth Cymru) i 2.5% – gostyngiad o 33%. Mae ffigwr Radio Wales wedi gostwng hefyd, ond o ryw 18%. Gallai dirywiad ieithyddol fod yn ffactor – ond nid mewn 12 mis. Yn debycach o lawer, mae’n ganlyniad i newidiadau yn rhaglennu Radio Cymru ei hun. 

Yr ‘ail-lansio’ ym Medi oedd y newid mawr diwethaf. Fe ddiddymwyd y rhaglen foreol ddwyawr i’r de-orllewin gan dorri cysylltiad uniongyrchol Radio Cymru â 134,000 posib o Gymry Cymraeg. Ymhlith mesurau eraill, fe roddwyd tair awr bob pnawn i Jonsi (a thair awr nos Galan, hefyd!), gan dorri mas (yn ieithyddol) y rhan fwyaf o bobl i’r de o Ddolgellau heb sôn am y nifer dda sy’n methu dygymod â’r cynnwys.

Trwy wneud y newidiadau hyn, mae’n ymddangos bod Radio Cymru yn trio cynyddu ffigyrau gwrando yng Ngwynedd ar draul gweddill Cymru, gan boeni mwy am gystadlu â gorsafoedd lleol fel Champion (bellach un o ddeunaw gorsaf ‘Heart’) a Radio Ceredigion nag am ddatblygu gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan. 

Mae rhesymeg debyg y tu ôl i newid polisi arall yn ddiweddar, sef cyflwyno mwy a mwy o recordiau Saesneg i raglenni Cymraeg. Mewn llythyr gefais i gan un o olygyddion Radio Cymru, dywedir bod y polisi yma yn ymgais i ddenu gwrandawyr Cymraeg oddi wrth Radio Un a Radio Dau Lloegr. Nid yw’r bwriad yma ynddo’i hunan i’w gondemnio, ond rhaid gofyn yn awr a yw’r polisi yn llwyddo, faint o wrandawyr ychwanegol sy’n cael eu denu – a faint sy’n cael eu gelyniaethu. Hefyd rhaid gofyn y cwestiwn ehangach, sef a yw trio ‘neidio ar gefn’ arferion gwrando Saesneg yn mynd i lwyddo’n well yn y tymor hir na chreu gwasanaeth gwahanol, hyderus, unigryw Gymreig? 

Byddai creu Radio Pop Cymraeg yn rhyddhau Radio Cymru oddi wrth y dasg o drio sgwario’r cylch, a phlesio pawb ar un sianel. Byddai hefyd yn galluogi’r BBC i gystadlu yn erbyn gorsafoedd lleol heb golli gwrandawyr mwy diwylliedig. Gallai’r BBC ganfod bod polisi o fod yn fwy gwahanol i’r gorsafoedd cynyddol gymysgiaith hyn yn gweithio’n well na thrio bod yn debycach iddyn nhw. 

Byddai sefydlu dwy sianel radio ar unwaith yn cynnig cyfle i raglennu’n arbrofol. Os cynnwys cerddoriaeth Saesneg o gwbl, tybed a fyddai hynny’n gweithio’n well mewn rhaglenni ar wahân? Efallai y byddai C2 yn gweithio’n well ar oriau cynharach, gan ryddhau oriau hwyr y nos i raglenni cerddorol mwy arbenigol fel jazz, cerddoriaeth draddodiadol Gymreig, a miwsig Lladinaidd. Neu a fyddai rhaglenni o’r fath yn gweithio’n well ar y Radio Pawb newydd? Byddai gallu rhoi cynnig ar batrymau newydd o’r fath yn un o fanteision cael un corff i redeg y ddwy donfedd.  

Mae’n ddiddorol sylwi bod gwledydd bychain eraill wedi hen symud ymlaen oddi wrth gaethiwed un sianel yn unig. Mae gan y Gatalaneg saith sianel radio (yn ogystal â llu o rai lleol), a cheir tair sianel sy’n darlledu mewn Basgeg yn unig.  

Oes 'na resymau ariannol neu dechnegol yn erbyn sefydlu Radio Pop Cymraeg? Fel lleygwr, alla i ddim manylu ar hyn. Yn amlwg llwyddodd gwledydd eraill i ddatrys y problemau. Mae’n gydnabyddedig fod gorsaf sy’n chwarae recordiau trwy’r dydd yn llawer iawn rhatach i’w sefydlu a’i rhedeg na sianel o raglenni amrywiol. Byddai’n rhatach eto o rannu adnoddau â gorsaf sydd eisoes yn bod. 

Yn dechnegol, byddai’n rhaid i’r Radio Pop, er mwyn cyrraedd swmp y boblogaeth, fod ar FM yn y tymor canol, yn ogystal â chyfryngau digidol fel y we a lloeren. Mae gan y BBC yr awdurdod i sefydlu’r fath sianel, ac rwy’n siwr y byddai swyddogion OFCOM yng Nghaerdydd yn barod iawn i gynnal trafodaethau ar ryddhau sbectrymau FM – yn arbennig os nad yw pob un o’r gorsafoedd lleol (mae tua 20 ohonynt yng Nghymru ar FM) yn cadw at yr amodau ieithyddol a osodwyd arnynt gan OFCOM, fel rhan o’u cytundeb. 

Ond fel y gwyddom o hir brofiad yng Nghymru, nid technegol yw’r broblem, fel arfer. Y broblem yw’r ewyllys wleidyddol. Rwy’n methu deall tawedogrwydd Cymdeithas yr Iaith, er enghraifft, ar y pwnc. Rwyf wedi eu holi droeon ond heb gael ymateb synhwyrol hyd yma. Mae’n ymddangos eu bod nhw’n dal i ymladd brwydrau statws y gorffennol yn lle datblygu polisïau sy’n rhoi lle canolog i ddefnydd cymdeithasol o’r iaith. Ond dri degawd yn ôl, y Gymdeithas oedd ar y blaen yn y frwydr i sefydlu sianel deledu Gymraeg. 

Mater hawdd, petai angen, fyddai trefnu ymgyrch weithredol gan bobl fyddai’n barod i ddal yn ôl £10, dyweder, o ffi eu trwydded i’r BBC. Byddai’n ymgyrch boblogaidd ac enilladwy, ac yn un, o’i threfnu’n iawn, y byddai bandiau Cymraeg yn sifir o’i chefnogi â gigiau gwyllt ar hyd a lled y wlad! 

Ond efallai na fyddai hynny’n angenrheidiol. Y tro hwn, rwy’n synhwyro – efallai’n hollol anghywir – y gallai’r BBC ei hun groesawu’r datblygiad, o gael y cyllid. Byddai’n rhyfedd petai eu penaethiaid heb drafod y posibilrwydd yma, os yn unig o safbwynt codi ffigyrau gwrando. Mae Radio Cymru eisoes yn derbyn £16m. Mae C2 eisoes yn bod. Faint o gyllid ychwanegol fyddai ei wir angen, gydag ychydig o ad-drefnu a thynhau a rhannu adnoddau? 

Ond y peth pwysig yn awr yw cael cytundeb o blaid syniad. Os yw’r Swisiaid yn gallu cloddio twnnel 35 milltir o hyd trwy’r Alpau o Zurich i Milan, siawns na all hyd yn oed y Cymry Cymraeg oresgyn y problemau technegol o sefydlu ail orsaf radio yn eu hiaith eu hunain? 

Gw. hefyd Beca Brown, t.57.