| Llwyfan i Freuddwydion |
|
|
|
|
Llwyfan i Freuddwydion
Mae’r newyddion am ymadawiad Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru â’r cwmni wedi ysgogi trafodaeth o’r newydd am anghenion ac amcanion y theatr Gymraeg a Chymreig. Dyma farn IAN ROWLANDS.
Yn ddiweddar, fe berfformiwyd fy monolog Marriage of Convenience yn Chapter, Caerdydd. Dyma oedd y tro cyntaf ers dros ddegawd i mi weld y fonolog honno. Mae stori’r fonolog yn syml – hanes bachgen o deulu di-Gymraeg sy’n derbyn addysg Gymraeg yn un o gymoedd y de-ddwyrain. Ar ddiwrnod priodas Charles a Di, wrth i’r bachgen fynd i barti gweriniaethol ar gopa mynydd, mae ei fam a’i lystad yn mynychu parti stryd yn y Cwm. Mae hyn yn esgor ar wrthdaro o fewn y teulu gyda chanlyniadau erchyll. Mae hi’n ddrama am natur Cymreictod a Chymru trwy gyfrwng y Saesneg – er ei bod hi’n ddrama hollol Gymreig! Fe berfformiodd Gareth Potter y fonolog yn agos at gant o weithiau yn y 1990au (er mai ef ei hun a gyfarwyddodd yr actor Jâms Thomas yn y cynhyrchiad diweddar yn Chapter). Diolch yn bennaf i’w berfformiadau gwefreiddiol ef, fe enillodd y fonolog sawl gwobr a chryn sylw yn y wasg. Yn y Guardian, fe’i trafodwyd ochr yn ochr â Caledonian Dreaming (Yr Alban), Disco Pigs (Iwerddon) a Shopping and F*****g (Lloegr). Roedd y tair drama o’r gwledydd Celtaidd yn nodweddiadol (yn nhyb y colofnydd) o ysfa’r gwledydd hynny i’w hailddiffinio eu hunain ar drothwy’r datganoli arfaethedig. Roedd hyn yn gwrthgyferbynnu gyda’r ddrama o Loegr a oedd yn gynrychioladol o wacter diwylliannol a moesol gwlad sy’n methu ymdopi â pheidio â bod, bellach, yn ganolbwynt ymerodraeth – ‘obese culture’ ys dywed Baudrillard, diwylliant mor dew nes iddo golli golwg ar siâp ei wreiddiau. Nawr, dydw i ddim yn ddramodydd sydd fel arfer yn cipio’r zeitgeist, ond am unwaith, roedd fel petawn, yn Marriage of Convenience, wedi dal teimlad ac ysbryd y dydd. O’r cychwyn, synhwyrais fod gan y gwaith y gallu i gyffwrdd yn eneidiau cynulleidfaoedd. Yng ngeiriau Thomas Heywood (croniclwr o’r 17g.), ‘the action of a dramatic performance… hath the power to new mold the harts of spectators and fashion them to the shape of any noble and notable attempt’. Am unwaith, roedd drama o’m heiddo i yn ‘ymdrech nobl’ o fath. Ym mha le bynnag y’i perfformiwyd (ledled Prydain ac Iwerddon) fe’i hystyrid yn fynegiant ‘o nod’ gan ddramodydd o genedl a oedd am lywio ei ffawd ei hun. Oherwydd roedd yna deimlad o obaith yn yr aer yn 1997. Ysgrifennais i Marriage of Convenience yn llawn ysbryd yr addewid a’r gobaith hwnnw. Roeddwn i am ymuno gyda’m cyd-Gymry (boed yn Gymraeg neu’n Gymreig) er mwyn dod â Chynulliad i fodolaeth a chodi seiliau ein dyfodol ni oll. Yng nghefn yr argraffiad o destun y ddrama, mae yna hysbyseb; un sy’n annog pobl i bleidleisio ‘Ie’ dros Gymru. Gweld yr hysbyseb honno yn ddiweddar wnaeth fy ysgogi i ysgrifennu’r tipyn geiriau hyn oherwydd, bellach, yr ydym ar drothwy pleidlais fawr arall – refferendwm ar hawl y Cynulliad i ddeddfu drosto’i hunan / drosom ni oll. Pleidlais ydyw a all esgor naill ai ar fwy o lefain yn yr anialwch (gan genedl sy’n joio llefain gormod – fel yn ’79), neu esgor ar gri o lawenydd a chyd-ddyheu (fel yn ’97). Yn ddiweddar, dywedodd y dramodydd Americanaidd Caridad Svich, ‘Theater … retains its dangerous potentiality, in part, because it posits a shared space of dreaming for society.’ Mae’n amser i ni freuddwydio unwaith yn rhagor yn y wlad hon. Ond ymhle mae’r theatr sy’n ddrych i’r gymdeithas a’r genedl heddiw? Ymhle mae’r theatr sydd yn meddu ar y pwer ‘to mold the hearts of spectators’? Mae yna ddigon o theatr sy’n diddanu – ac nid wyf am eiliad am fychanu gwerth joio; mae’n hanfodol. Ond pa fwriad sydd i theatr oni bai ei bod am geisio newid byd yn ogystal â diddanu? Ym mhle mae’r theatr sy’n fynegiant o ddyhead calonnau – yn enwedig a ninnau’n byw mewn cyfnod tyngedfennol yn hanes y genedl fach hon? Potensial yw theatr – egni i’w ryddhau. Gall theatr fod yn galon i Gymru petai hi am iddi fod felly; llwyfan ar gyfer ein lleisiau ni oll, cyd-ddyheu i’w chodi hi. Gwastraff o’r radd flaenaf yw peidio â gadael i’r potensial droi’n kinetic. Mae ’na ddyletswydd ar y sawl sy’n creu felly, yn fy nhyb i, i gyfrannu tuag at esblygiad y ‘broses’ (chwedl Ron Davies) o’n rhyddhau ni o gulni a negyddiaeth y gorffennol; o greu cenedl allan o gymuned o gymunedau. Yn Bulawayo, Zimbabwe, llynedd, fe lwyfannodd cyfaill i mi ei gynhyrchiad ef o The Crocodile of the Zambesi, sioe wrth-Mugabe. Wedi’r noson gyntaf, fe herwgipiwyd y prif actor a’r cynhyrchydd gan yr heddlu. Wedi iddynt gael eu harteithio, fe adawyd y ddau yn anymwybodol ar gyrion y ddinas. Mae llywodraeth wrthun y wlad honno yn deall pwer theatr i’r dim; breuddwyd y bobl yw hi ac mae breuddwydio yn beryg. Pa bryd ddiwethaf yr oedd theatr yn y wlad hon yn meddu ar y pwer elfennol hwnnw; pwer peryg; pwer i newid byd? Dydw i ddim am eiliad yn argymell bod Cymru yn troi’n wlad ddespotig er mwyn gwireddu’r grym hwnnw (er nad yw ymhell o hynny yn sgil y modd yr erydwyd ein hawliau sifil gan lywodraeth ‘New Labour’). Ond bellach, mae’r theatr yn prysur droi’n anghyfleustra rhwng y ‘pre-show meal’ a’r ‘post-show drinks’. Nid theatr freuddwydion mohoni bellach (er fod ’na dipyn o freuddwydio am theatr well gan ambell un yn y gynulleidfa yn ystod perfformiadau ym mha bynnag iaith – a phwy all eu beio?). Mae’n theatr sydd wedi colli ei defod, ei phwrpas. Llwyfan cymharol wag, diystyr yw’r theatr yn y Gymru sydd ohoni. Yn y ganrif a aeth heibio, sefydlodd Yeats yr Abbey (Theatr Genedlaethol Iwerddon) mewn ymgais i lywio cwys y genedl Wyddelig. Ganrif a mwy ynghynt, uchelgais Schiller oedd creu theatr genedlaethol i uno’r Ellmynwyr. Dros ddwy fil o flynyddoedd cyn hynny, roedd theatr Euripides yn broto-theatr genedlaethol Oes Aur Athen. Modd i gadarnhau gwerthoedd a moesau cenedl fu theatr erioed; modd i saernïo a chyd-ddyheu. Yn y cyd-destun Prydeinig, dyna oedd raison d’être cwmni theatr Bale (a weithiai dan nawdd Thomas Cromwell) ar ddechrau’r 16g. – sef lledaenu a gwreiddio Protestaniaeth yn yr ynysoedd hyn (nid theatr genedlaethol fel y cyfryw ond theatr y wladwriaeth). Yn yr 20g., uno’r bobloedd Brydeinig, mewn modd mwy seciwlar, oedd bwriad sefydlu’r National Theatre ar y South Bank. Ac yn wir, sefydlwyd Theatr Genedlaethol yr Alban, wedi datganoli, am resymau tebyg… cymhathu ar un llaw, propaganda ar y naill. A Chymru? Rwy’n ymwybodol fy mod yn ysgrifennu hwn ar gynffon wythnos o newid – yr wythnos gyntaf o ymarferion ar gyfer cynhyrchiad cyntaf National Theatre Wales ynghyd â’r wythnos y cyhoeddodd cyfarwyddwr cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru ei fod yn ymadael â’r cwmni; tro ar fyd ar gyfer y ddau gwmni cenedlaethol felly (gresyn nad ydynt yn un, fel y dadleuais yn y cylchgrawn hwn dro yn ôl). Dywedodd Ibsen, ‘If we (Norwy) had a national theatre we would be a nation.’ Bellach mae gennym ddwy theatr genedlaethol yn y wlad hon. Serch hynny, dydyn ni ddim tamaid nes at y lan o ran bod yn genedl unedig – a dyma yw’r peryg i Gymru yng nghyd-destun y bleidlais sydd i ddod parthed sicrhau pwerau deddfu i’r Cynulliad. Meddyliais yn ddiweddar mor ddifyr fuasai llwyfannu diweddariad o Wythnos yng Nghymru Fydd Islwyn Ffowc Elis; un a fyddai’n ymweld â 2054 (canrif wedi cyhoeddi’r nofel wreiddiol). Oherwydd bydd y dewis a oedd wrth wraidd y nofel honno ger ein bron ni o fewn y flwyddyn nesaf. Am yr eilwaith o fewn ychydig dros ddegawd, cawn ddewis pa ddyfodol a hoffem – un hyderus lle byddwn yn hawlio ein lle ar y llwyfan rhyngwladol ynteu un llywaeth lle byddwn yn llechu tu cefn i’r llwyfan mewn neuadd bentref yn Llanhunanfflangellu. ‘If Wales will not have the best Wales can produce she will get the worst… and it will serve her right,’ meddai Lord Howard de Walden wedi i’w broto-theatr genedlaethol fethu ar ddechrau’r 20g. Canrif wedi methiant de Walden a’i felltith, gyda chychwyn theatr genedlaethol trwy gyfrwng y Saesneg (a mawr yw’r gobaith am y corff hwnnw) a chyda’r cyfle i ailfeddwl am y ddarpariaeth Gymraeg, daw cyfle i ni hawlio’r theatr yr y’n ni ei ‘hangen’, nid yr un yr y’n ni’n ei ‘haeddu’. A chyda threigl amser, fy ngobaith i yw y gwnawn ni ei haeddu hi hefyd. Gadewch iddi fod yn theatr (ddeulais, dau lwyfan am y tro, ond byw mewn gobaith yr ydw i y gwnaiff ein hieithoedd ni oll rannu’r un llwyfan rhyw ddydd) sydd yn meddu ar y p?er ‘to new mold the harts of spectators and fashion them to the shape of any noble and notable attempt.’ Gadewch iddi fod yn theatr sy’n breuddwydio am y dyfodol gyda ni, a throsom ni oll. Gadewch iddi fod yn theatr sy’n ddigon eofn i osod hysbyseb dros bleidleisio ‘Ie’ yn ei rhaglen (er gwaetha’ polisïau diduedd Cyngor Celfyddydau Cymru). Cyd-ddigwyddiad ffortunus oedd llwyddiant Marriage of Convenience – hapfreuddwyd o’r galon. Bellach mae gennym y mecanwaith theatrig i freuddwydio o ddifri er mwyn sicrhau, pan ddaw’r bore wedi’r refferendwm arfaethedig, y bydd y bore hwnnw’n ‘very good morning’ – ‘unwaith eto yng Nghymru annwyl’! Ac wedi hynny, pwy a ?yr pa fath o freuddwydion fydd gan theatr ein plant ni – y llwyfan y gwnân nhw ei greu yng Nghymru Fydd. |