| HEN WLAD FY NHADAU’N WYNEBU NEWIDIADAU |
|
|
|
|
HEN WLAD FY NHADAU’N WYNEBU NEWIDIADAU RICHARD WYN JONES
Byddai buddugoliaeth i’r Ceidwadwyr yn golygu mai dyma’r tro olaf y bydd Cymru’n ethol 40 o aelodau seneddol. Addewid – neu fygythiad – y Torïaid yw torri nifer yr aelodau a gwneud yr etholaethau’n llawer iawn mwy. I ni’r anoraciaid gwleidyddol, mae etholiadau cyffredinol – boed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu D?’r Cyffredin – megis Cwpan y Byd i gefnogwyr pêl-droed. Dyma’n cyfle i ymdrybaeddu mewn ystadegau, i ddoethinebu yn ddiddiwedd yngl?n â rhinweddau gwahanol chwaraewyr, a mwydro pennau cyfeillion wrth drin a thrafod rhyw lefydd pellennig nad ydym (a bod yn gwbl onest) yn deall llawer yn eu cylch... Fermanagh a De Tyrone, Barking... Ynys Môn! Serch y difyrrwch, rhaid cyfaddef bod sawl gwedd ar yr ymgyrch bresennol yn codi’r felan arnaf. Yn un peth, a minnau – am y tro cyntaf yn fy hanes – yn pleidleisio mewn etholaeth nad ydyw’n cael ei chyfrif yn etholaeth ‘darged’ gan blaid arall, rwy’n cael profiad uniongyrchol o un o wendidau mwyaf sylfaenol y gyfundrefn bleidleisio cyntaf-i’r-felin felltigedig. Nid yw fy mhleidlais i’n cyfri’r un iot. Yn sicr, prin iawn yw’r arwyddion o’r etholiad ar lawr gwlad yma yng Ngorllewin Caerdydd. Poen enaid arall yw’r talyrnau ‘Prif Weinidogol’ bondigrybwyll ’ma. Mewn cyfnod pan mae mwy a mwy o etholwyr ar hyd ac ar led y Deyrnas Gyfunol yn cefnu ar y pleidiau traddodiadol trwy fwrw pleidlais dros bleidiau mwy ‘ymylol’, gwelsom y pleidiau mawrion ynghyd â gynnau mawr y cyfryngau yn cynllwynio gyda’i gilydd i’w gwthio – y diawled anystywallt – yn ôl i gorlan y sefydliad gwleidyddol. Nid adlewyrchu barn a chreu trafodaeth wleidyddol y mae’r BBC, ITV a Sky yn ei wneud trwy’r talyrnau hyn ond yn hytrach creu a lliwio barn. Mae annhegwch ac amhriodoldeb hyn ar ei amlycaf yng Nghymru a’r Alban. Rhoddwyd gwybod i Blaid Cymru a’r SNP – dwy blaid sydd â statws amlwg yng nghyfundrefnau llywodraethol y ddwy wlad – nad ydynt hwy, na’r etholwyr yn y gwledydd hynny sy’n eu cefnogi, yn cyfrif go iawn yn llygaid y wladwriaeth. (Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, yn Norwy mae arweinyddion wyth o bleidiau yn cael eu gwahodd i gyfrannu i’r talyrnau arweinyddol cyfatebol. Nid yw darlledwyr y wlad honno’n credu eu bod yn meddu ar yr hawl i grebachu gorwelion yr etholwyr...) Ond efallai mai’r siom fwyaf yw afrealaeth cymaint o’r trafod. Er bod pob un ohonom yn sylweddoli bod toriadau enfawr ar y gorwel, yn ogystal â chynnydd mewn trethi pan fydd cyflwr yr economi yn caniatáu, faint callach ydym ni yngl?n â’r cwestiwn canolog sy’n wynebu gwleidyddiaeth Prydain. Y cwestiwn tyngedfennol yw hwn: ble fydd y fwyell yn disgyn? Yn hytrach na thrafodaeth aeddfed, yr hyn a gafwyd oedd nonsens ffuantus am ‘gynilo’ ac am ‘arbedion’ – ochr yn ochr, wrth gwrs, â gwahanol gynlluniau i gynyddu gwariant a thorri trethi! Sgersli bilîf, chwedl Ifas y Tryc ers talwm. Canlyniad hynny yn ei dro yw’r sefyllfa ganlynol. Pan fydd pa blaid bynnag (neu bleidiau) a fydd yn ffurfio’r llywodraeth nesaf yn dechrau tocio o ddifrif, go brin y bydd ganddynt fandad digonol ar gyfer gwneud hynny. Pa ryfedd fod hygrededd yr holl gyfundrefn wleidyddol yn deilchion? I’r anorac gwleidyddol o Gymro, elfen fwyaf diddorol Etholiad Mai 2010 fydd gweld i ba raddau y bydd ein pleidleisiau yn dynodi diwedd cyfnod. Fel yr awgrymais eisoes ar dudalennau Barn, os daw David Cameron i rym yna mae’n ymddangos yn sicr mai hwn fydd yr etholiad cyffredinol olaf i’w gynnal yng Nghymru cyn y bydd lleihad sylweddol iawn yn niferoedd ein Haelodau Seneddol. O droi at dudalen 67 y Maniffesto Ceidwadol fe geir yr addewid canlynol: ‘A Conservative government will ensure every vote will have equal value by introducing “fair vote” reforms to equalise the size of constituency electorates, and conduct a boundary review to implement these changes within five years.’ Golyga hyn y bydd yr orgynrychiolaeth Gymreig bresennol yn cael ei dileu fel rhan o’r broses ehangach o leihau maint T?’r Cyffredin. O ganlyniad, mintai o 29 Aelod Seneddol – yn hytrach na’r 40 presennol – fydd yn cael ei dychwelyd o Gymru, gyda phob aelod yn cynrychioli tua 76,000 o etholwyr. Mae’n anodd gorbwysleisio faint o newid y bydd hyn yn ei olygu. Bydd ein hunedau gwleidyddol cyfarwydd yn diflannu o’r llwyfan Prydeinig. Ffarwel Ynys Môn, Meirionnydd, Trefaldwyn, Cwm Cynon, ac ati ac ati. Go brin y bydd yr ymgeiswyr hynny sydd ar hyn o bryd yn ymdrechu mor galed i gael eu hethol yn diolch i mi am eu hatgoffa, ond y ffaith amdani yw y bydd hi’n saith gwaeth arnynt y tro nesaf wrth i bawb orfod dygymod efo tirlun gwleidyddol cwbl newydd. Y tu hwnt i ffiniau etholaethol, erys cwestiwn mawr arall. I ba raddau y bydd yr etholiad yn arwyddo diwedd cyfnod i’r Blaid Lafur Gymreig? A gadarnheir yr ymdeimlad fod gafael y Blaid Lafur ar wleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru bellach wedi llacio ar ôl tri chwarter canrif a mwy o oruchafiaeth hegemonaidd? Fel y gwelir o’r tabl isod, ers buddugoliaeth gyntaf Tony Blair ar ddydd Calan Mai 1997 mae Llafur wedi colli mwy o dir yng Nghymru nag yn naill ai Lloegr na’r Alban. Wrth gwrs mae ei sefyllfa yn parhau’n gryfach yma – hyd yn hyn, beth bynnag. Ond mae’r bwlch yn cau. Tybed, yn wir, a fydd Llafur yn gwneud yn well yn yr Alban nag yng Nghymru y tro hwn? Dyna rywbeth i geisio cadw golwg arno yn oriau mân y seithfed o Fai.
Ochr arall y geiniog yw fod y bwlch rhwng perfformiad y Torïaid yn Lloegr a’r Torïaid yng Nghymru hefyd yn cau. Yn wir, y tro hwn gallai’r bwlch hwnnw yn hawdd fod yn llai nag ar unrhyw adeg ers yr Ail Ryfel Byd. Ar noson y cyfrif, y canlyniadau unigol sy’n mynd â’n bryd, a hynny yn naturiol ddigon. Beth fydd yr hanes yn Aberconwy, yn Delyn, ym Mro Morgannwg neu yng Ngorllewin Casnewydd? Ond yr hyn sy’n gwneud y ddrama’n wirioneddol afaelgar – yn fwy gafaelgar hyd yn oed na Chwpan y Byd – yw’r modd y mae’r canlyniadau hynny yn eu tro hefyd yn ymgorffori ac yn amlygu tueddiadau gwleidyddol a chymdeithasol dyfnach ac arhosol. O’r herwydd, bydd mwy na digon o waith dadansoddi i’n cadw’n brysur tan i etholwyr Cymru ddychwelyd i’r blychau pleidleisio, boed hynny ar gyfer refferendwm neu i ethol aelodau i’r Cynulliad Cenedlaethol. |