• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
GITÂR (DDIM) YN Y TWLL DAN STÂR PDF Argraffu Ebost

GITÂR (DDIM) YN Y TWLL DAN STÂR

EIRY MILES

Mae yna gryn edrych yn ôl yn y byd roc Cymraeg ar hyn o bryd, gyda grwpiau o’r gorffennol yn ailffurfio un ar ôl y llall. Un o ddilynwyr y sîn sy’n edrych yn fanylach ar yr hiraeth cerddorol hwn sy’n denu hen rocars yn ôl i’r llwyfan.

Mae’r diwydiant nostalgia yn ffynnu. Ledled Cymru, fe welwch bosteri’n hysbysebu nosweithiau ‘Disgo Ysgol’, a phartïon wythdegaidd. Teyrngedau i eilunod o’r wythdegau – fel Syr Wynff a Plwmsan – yw rhai o dudalennau Cymraeg mwyaf poblogaidd facebook, ac mae’r Tebot Piws, Jess a Hanner Pei wedi dychwelyd i’r Sîn Roc Gymraeg.

Ond a yw’r obsesiwn hwn â phopeth retro yn beth da? Ac ar ôl i fand roi’r stratocaster yn y to, ai doeth yw dychwelyd eto i’r llwyfan? Bûm yn pendroni am hyn yn ystod Eisteddfod Caerdydd yn 2008, ar ôl gweld Hanner Pei yn perfformio, sef band yr oeddwn yn hoff iawn ohonynt yn ystod fy arddegau cynnar – a’r hoffter hwnnw bron â throi’n obsesiwn. Mae’n debyg, felly, fod fy nisgwyliadau braidd yn rhy uchel cyn y gig. Cefais noson wych – a chael tipyn o syndod hefyd wrth i eiriau’r caneuon lifo o ddyfnderoedd fy isymwybod – ond siom oedd sylweddoli nad oedden nhw’n fand hollol wefreiddiol, ac mai ‘tipyn o laff’ oedd y cyfan (a bod yn deg, nid wyf yn credu i Hanner Pei erioed honni eu bod yn amgenach peth na hynny).

E  fallai mai fi sy’n rhy feirniadol. I Luned Jones, gwefr oedd gweld ei heilunod hi – Jess – yn perfformio yng Ng?yl Dinefwr y llynedd.

  ‘Ro’n i’n ffan o Jess ers fy mhlentyndod,’ meddai. ‘Bues i’n eu gweld nhw sawl gwaith ar ddechrau’r nawdegau, ac yn aml, fi fyddai un o’r rhai cynta’ lan yn dawnsio. Dwi’n cofio mynd gyda fy nghyfnither i gig Cicio’r Castell yng Nghastell Carreg Cennen pan o’n i ond yn rhyw 14 a’r lle’n llawn myfyrwyr meddw o’r Drindod. Fy Glastonbury bach i oedd e. Ces i dipyn o drafferth cael Mam i gytuno i adael i fi fynd, ond o’n i’n caru Jess ac fe wnaethon ni gyfaddawdu trwy gael siaperon a chyrffiw am hanner nos.

  ‘O ran gig Jess y llynedd – ro’n i jyst yn moyn clywed eu cerddoriaeth nhw eto. Dy’n nhw ddim yn cal hanner digon o airplay ar Radio Cymru... a pham nad oes neb wedi rhoi eu caneuon ar iTunes? Felly do, fe ges i noson wych, a suddo ’nôl i atgofion melys o’r gorffennol a mwynhau’r gerddoriaeth. Ches i ddim siom o gwbl. Roedden nhw braidd yn rhydlyd, ond wedi cymaint o saib, dyw hynny’n fawr o syndod. Mae atgof a realiti’r presennol wastad yn bethau gwahanol beth bynnag.’

  Band arall o’r un cyfnod â Jess a ailffurfiodd rai blynyddoedd yn ôl yw’r Crumblowers. Fel yn achos Hanner Pei, Eisteddfod Caerdydd oedd y symbyliad.

  ‘Mae llawer o fandiau’n ailffurfio am resymau ariannol, ond codi arian at Eisteddfod Caerdydd a dathlu pen-blwydd Clwb Ifor yn ugain oed oedd ein rheswm ni dros wneud gig gydag U-Thant,’ meddai Owen Powell, gitarydd y Crumblowers a aeth ymlaen wedi hynny i ffurfio Catatonia. Ac aelodau’r band wedi bod yn ffrindiau ers eu harddegau, a dim drwgdeimlad wedi bod pan ddaeth y band i ben (yn wahanol i ambell fand), dywed fod y gig yn brofiad pleserus ac yn esgus da i dreulio mwy o amser gyda’i gilydd.

  ‘Yr hyn oedd yn ddiddorol am y gig oedd bod y lle’n llawn pobl yn gwenu. Dwi ddim yn cofio gwneud unrhyw gig yn yr wythdegau lle roedd pawb yn gwenu. Ond yr achlysur oedd y rheswm am hynny, yn fwy na’n cerddoriaeth ni. Roedd yn gyfle i bobl hel atgofion, a gweld hen ffrindiau. Ac mae amgylchiadau pawb wedi newid, a phobl wedi cael plant ac ati... dydyn nhw ddim yn cael cyfle i fynd allan mor aml erbyn hyn. Felly dyna oedd yn ei gwneud hi’n noson arbennig; atyniad ychwanegol oedd y bandiau, mewn ffordd.

  ‘Roedd hi’n ddigon rhwydd perfformio’r caneuon eto. Dwi’n chwarae’r gitâr ers fy arddegau, felly mae e fel reidio beic... y peth anodd oedd troi’r cloc yn ôl o ran agwedd y band, ac ail-greu sut roedden ni’n ymddwyn fel dynion ifainc.

Dwi’n 42 oed erbyn hyn, felly roedd eisiau imi dwrio’n eithaf dwfn i ddod o hyd i’r dyn ifanc ynof i. Ond chwarae teg i Rhys o U-Thant, roedd rhaid iddo fe fynd gam ymhellach – fe wisgodd e’r catsuit pinc oedd yn rhan mor bwysig o berfformiadau U-Thant yn yr wythdegau.’

  Mae Owen yn mynnu mai dim ond tipyn o hwyl oedd y noson yn hytrach na mater o ildio i unrhyw obsesiwn â’r gorffennol.

  ‘Dwi ddim yn un mawr am nostalgia. Mae digon o fandiau Cymraeg gwych i’n difyrru ni ar hyn o bryd, fel yr Ods a Colorama, felly does dim angen inni edrych yn ôl o hyd. Mae pawb nawr yn edrych ar yr wythdegau fel rhyw oes aur, ond yn yr wythdegau, roedd pawb yn edrych nôl yn hiraethus ar Edward H a’r saithdegau. Dyna sut mae pethau ym mhob sîn gerddoriaeth. Mae’n cymryd sbel i chwaeth pobl ddatblygu, ond mae angen inni werthfawrogi beth sydd gennym ni nawr, yn hytrach na gwneud hynny ymhen deng mlynedd.’

  Un dyn a fu’n rhan bwysig o ‘oes aur’ honedig yr wythdegau cynnar yw Liam Forde, prif leisydd Crys – band sydd unwaith eto’n mwynhau gigio’n rheolaidd. Ond, iddo ef, does dim a all gymharu â gwefr y dyddiau cynnar, ac anhygoel yw meddwl am y cynulleidfaoedd anferth y byddai Crys a’u cyfoedion yn perfformio o’u blaenau. Er mor gyforiog o dalent yw’r sîn Gymraeg heddiw, prin iawn yw’r artistiaid Cymraeg sy’n denu mwy na chant o bobl i’w gigs.

Un o uchafbwyntiau’r cyfnod i Liam oedd yr ail o nosweithiau Gwobrau Sgrech, lle’r enillodd Crys wobr yr LP gorau.

  ‘Roedd dros 2,500 o bobl yno,’ meddai, ‘ond roedd pob gig Crys yn full on. Pan oedd pobl yn mynd i gig Crys roedd e’n pretty wild. Rwy’n cofio un tro, daeth Alun Harris o’r Trwynau Coch i chwarae gyda ni, mewn canolfan hamdden yn rhywle. Roedd tua 1,000 o bobl yno a’r crowd ’ma’n trio dod lan aton ni ar ôl y gig, ac roedd Alun isie dianc!

  ‘Roedden ni’n wahanol i lawer o fandiau Cymraeg, ac roedden ni’n ceisio bod yn gwbl broffesiynol. Fe wnaethon ni wario llawer o arian ar ein sioe lwyfan – roedd ’da ni system PA ardderchog, ac abwyti 6-7 roadie i’n helpu i symud popeth. Falle’n bod ni’n meddwl mewn ffordd tamed bach yn wahanol i fandiau eraill y cyfnod.’

  Yn ogystal â’u hagwedd broffesiynol, roedd cefndir Liam a Scott Forde yn eu gosod ar wahân i’w cyfoedion yn y sîn Gymraeg. Fe’u magwyd ar aelwyd ddwyieithog yng Nghwm Tawe – yn blant i Wyddel a Chymraes Gymraeg – ac fe’u hanfonwyd i ysgol fonedd yn Lloegr. Efallai mai’r cefndir hwnnw oedd i’w gyfrif na chawsant groeso digymysg gan bawb yn y byd roc Cymraeg.

  ‘Roedd ’da ni love-hate relationship gyda’r cylchgrawn Sgrech,’ meddai Liam. ‘Roedd ’na wastad storïau ynddo fe fel “Crys: ydyn nhw’n fand Cymraeg go iawn?” achos bod dau o’n haelodau ni ddim yn siarad Cymraeg. Ond doedd hynny ddim yn beth drwg i gyd, achos roedden ni’n cael llawer o sylw.’

  A yw’n gweld fod agweddau wedi newid yn y sîn Gymraeg bellach, felly?

  ‘Yn bendant. Ar ôl inni ddechrau dod nôl at ein gilydd yn ’94, ceson ni wahoddiad i berfformio gyda Catatonia yn y Cnapan. Wel, ces i dipyn o sioc pan glywais i Catatonia’n canu’n Saesneg yn y gig yna. Fyddai hynny ddim wedi digwydd yn yr wythdegau. Rwy’n cofio un gig Cymdeithas yr Iaith wnaethon ni ym Mhen Ll?n, ac roedden nhw’n rhoi bocsys matsys England’s Glory i bawb ar y ffordd mewn, ac yn dweud “taniwch dros Gymru”. ‘Rwy’n meddwl weithie – falle, tasen ni wedi canu’n Saesneg a dweud “let’s go for it” a mynd i Lundain, falle y basen ni wedi gallu torri trwodd i’r sîn Saesneg, fel y gwnaeth y Super Furry Animals a Catatonia. Ond, a dweud y gwir, sa i’n difaru dim. Roedd e’n amser gwych i fod yn rhan o’r sîn roc Gymraeg.

  ‘Falle bod mwy o gyfle i fandiau gael sylw bryd ’ny. Roedden ni’n perfformio cyn dyddiau S4C, a falle bod mwy o arian yn cael ei wario ar gigs a rhaglenni cerddoriaeth Cymraeg. Roedden ni’n cael cyfle i berfformio caneuon newydd ar raglenni fel Yr Awr Fawr a Sêr bron bob yn ail wythnos.’

Bellach, ac yntau’n gweithio i gwmni o fferyllfeydd, ac yn dad parchus i dri o blant, a yw perfformio’n fyw yn brofiad gwahanol i Liam?

  ‘Heddiw, rwy’n credu ein bod ni’n perfformio’n well. Ond mae’r gynulleidfa wedi newid. Dy’n nhw ddim yn ymateb mor wyllt â chynulleidfaoedd gigs yr wythdegau. ‘Ambell waith, mae’r meibion yn dod i weld band Dad yn chwarae hefyd. Maen nhw’n mwynhau, ond mae e tamed bach yn cringing iddyn nhw hefyd, rwy’n credu.’

  A beth felly i’r Crumblowers? Ai achlysur arbennig oedd y gig yn 2008, neu a fyddent yn ystyried ailffurfio eto petai rheswm da dros wneud?

  ‘Wel, one-off oedd y gig. Ond os byddwn ni’n dal yma ymhen ugain mlynedd, byddai’n eithaf doniol gwneud gig yn ein chwedegau,’ meddai Owen Powell, gan chwerthin.

  ‘Ond dwi’n credu y bydden ni’n cael tipyn mwy o drafferth cofio’r caneuon...’

  I’r Crumblowers, mae’n amlwg fod unrhyw freuddwydion mawr am lwyddiant i’r band wedi diflannu gyda threigl amser, wrth i’r aelodau orfod meddwl am fagu plant, taliadau morgais a phensiynau. Ond hyd yn oed os nad ydynt yn ceisio anelu eto am y brig, a yw bandiau sy’n ailffurfio yn tanseilio bandiau newydd trwy ddwyn eu gigs a’u cynulleidfaoedd?

  ‘Fyddwn i ddim yn dweud hynny,’ meddai Owen Powell yn bendant. ‘Byddai band fel Jess yn denu pobl fyddai ddim yn mynd i gig Masters in France neu’r Ods. Yr unig beth sy’n fy mhoeni i, achos ein bod ni mewn dirwasgiad, yw bod llai o arian gan bobl i fynd allan, ac efallai eu bod nhw’n fwy tebygol o fynd i weld hen fand yn hytrach na mentro allan i weld band newydd. Ond byddwn i’n dweud wrth bawb – ewch i weld band ifanc sydd ar y ffordd lan, yn hytrach na hen fand sydd wedi cyrraedd pen y daith.’

  A dyna sy’n wych am gerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd – mae gennym ddigon o fandiau ifanc arbrofol sydd ‘ar y ffordd lan’, a sîn gerddorol liwgar a difyr. Does ond angen edrych ar rai o artistiaid buddugol y Gwobrau RAP eleni i weld yr amrywiaeth sydd ar gael, o gerddoriaeth werin electronaidd Huw M a seiniau New Wave yr Ods i gerddoriaeth surf y Niwl a roc amrwd Mr Huw. Efallai fod cynulleidfaoedd gigs yn llai heddiw nag yn nyddiau da’r 1980au, ond am y tro cyntaf erioed mae gennym rywbeth at ddant pawb yn y sîn Gymraeg, ac artistiaid fel Gwibdaith Hen Frân a Fflur Dafydd sy’n denu cynulleidfaoedd o bob oed. A oes ots, felly, fod rhai pobl yn dal i wirioni ar fandiau o’r gorffennol?