| YN ÔL I ZIMBABWE |
|
|
|
|
YN ÔL I ZIMBABWE MICHAEL BAYLEY HUGHES
Mae gwraig yr awdur yn perthyn i genedl yr Ndbele, pobol a ddioddefodd yn waeth nag unrhyw ffermwr gwyn dan law Mugabe ond a gafodd lai o sylw. Ffrwyth ei ymweliad cyntaf â’r wlad ers deng mlynedd yw’r erthygl hon. Y lluniau gan Michael Bayley Hughes.
![]()
Pen-blwydd fy mrawd yng nghyfraith, Solomon, yn 80 oed eleni a barodd i fy ngwraig a minnau ymweld eto â Zimbabwe er gwaethaf y ffaith nad oes unrhyw adroddiad positif yn dod oddi yno. Roeddwn i hefyd am fentro gwneud tipyn o ffilmio answyddogol. Car cyflym yn cael ei yrru gan ddau o hogiau o un o dreflannau Johannesburg oedd ein dewis gludiant o Dde Affrica i Bulawayo, prifddinas Matabeleland ac ail ddinas Zimbabwe. Wedi dyrnu mynd ar hyd lonydd gorau’r byd yn Ne Affrica dyma gyrraedd y ffin yn Beitbridge yn nhrymder nos. Roedd y lle eisoes yn ferw o deithwyr a phob math o gerbydau, llawer yn gwegian dan lwythi anferth. Ymgodymai pawb â biwrocratiaeth croesi’r ffin yn rhyfeddol o amyneddgar. Ar ôl croesi afon Limpopo dyma gyrraedd swyddfa mewnfudo Zimbabwe. Sut groeso fyddai yma tybed? Anelais at swyddog oedd â mwy o ddiddordeb ganddo yn ei bapur newydd nag yn ei waith. Nid pwrpas fy ymweliad a’i poenai ond a oedd gen i’r arian cywir ai peidio, wrth i mi dalu’r £35 am fisa. Ni sylwodd ar y fisas ffilmio Americanaidd oedd yn fy mhasbort. Wrth yrru i mewn i Zimbabwe, mae’r gwahaniaeth rhyngddi hi â De Affrica yn amlwg iawn. Fuo ’na ddim gwella ar y ffyrdd ers dyddiau Ian Smith. O bryd i’w gilydd rhaid osgoi anifeiliaid ar y ffordd, ac mae’r bush yn amlwg iawn o’ch cwmpas. Wrth i’r wawr dorri dyma gyrraedd fersiwn Zimbabwe o dollborth: bwrdd yng nghanol y ffordd a swyddog yn codi toll druenus, sef $1 Americanaidd. Y ddoler a’r rand ydi arian Zimbabwe ers ffurfio’r Llywodraeth Unedig rhwng Zanu PF a’r M.D.C. y llynedd. Dyna strategaeth Tendai Biti, Ysgrifennydd Cyffredinol yr M.D.C., i atal y chwyddiant a oedd yn dinistrio’r wlad wrth i Gideon Gono, banciwr Mugabe, argraffu arian. (Wnaethon nhw ddim rhoi’r enw crand ‘quantitative easing’ ar y broses.) Er fod golwg y diawl ar lawer o’r doleri bellach, cafodd chwyddiant ei atal. Efo’r swyddog mae yna blisman ac wrth iddo fo gymryd golwg tu mewn i’r car dwi’n sifir braidd ei fod o’n gwenu arna i. Un dyn gwyn ymhlith tri Affrican. Wrth deithio i gyfeiriad Bulawayo mae golau’r wawr yn taro rhai o’r cerrig siglo hynod sy’n nodweddu’r wlad, a dwi’n teimlo hen apêl y wlad. Ond lle mae’r War Vets, yr Youth Militia a swyddogion y C.I.O, heddlu cudd Mugabe? Mae’n rhaid eu bod nhw wedi bod yn ein dilyn ac yn ein gwylio yn rhywle... Drannoeth ar ôl noson mewn gwesty di-nod yn nhref fechan Plumtree roedd rhaid teithio i Bulawayo i logi car. Un ffordd oedd yna i deithio’r 70 cilomedr, sef mewn kombi. Wrth gerdded tuag at y bws mini traddodiadol hwnnw yn haul y bore awn heibio i ddwsinau o blant mewn gwisg ysgol drwsiadus. A dyma ddau blismon smart yn ein cyfarch yn hwyliog mewn Ndbele: ‘Bore da, sut ydach chi heddiw?’ A ‘bore da i chithau,’ meddwn innau, mewn anghrediniaeth. Mae teithio mewn kombi Zimbabweaidd yn f’atgoffa o’r cystadlaethau hynny a oedd yn boblogaidd ym Mhrydain y ’60au – faint o bobl sy’n gallu stwffio i mewn i gar mini neu giosg ffôn. Dw i’n cydymdeimlo efo’r teithiwr olaf i ymuno efo ni. Wyddwn i ddim y gallai’r corff dynol blygu i’r fath siâp. Dw i fy hun yn eithaf cyfforddus rhwng fy ngwraig a phladras o Affricanes fasgedaidd ar ei ffordd i’r farchnad. Yn fuan ar y daith dyma gyrraedd un o rwystrau mynych yr heddlu. Mae sôn eu bod nhw’n mynnu arian gan yrwyr y kombis, ond welais i mo hynny. Mae tref Bulawayo yn ferw o brysurdeb. Does yma ddim newid amlwg ers i mi fod yma ddeng mlynedd yn ôl. Fe gynlluniwyd y strydoedd yma yn llydan gan y gwladychwyr gwyn yn y 19eg ganrif er mwyn hwyluso’r broses o droi eu wagenni o gwmpas. Mae cyflwr y ffyrdd ar brydiau yn adlewyrchu’r dirywiad economaidd a fu yn y wlad a’r diffyg buddsoddi, a ’dyw rhai o’r goleuadau traffig ddim yn gweithio. Eto mae pawb yn rhyfeddol o amyneddgar a chwrtais wrth yrru. Mae’r siopau’n llawn nwyddau, y farchnad lysiau’n lliwgar efo pob math o ffrwythau, petrol yn y garej ac mae’r banciau’n brysur a thaclus. Ond mae’r toriadau mynych yn y cyflenwad trydan yn llesteirio masnach. Dw i’n f’ystyried fy hun yn berson sy’n anymwybodol o liw croen, ond daw geiriau un o ganeuon Lou Reed i fy meddwl – Hey white boy, what you doing uptown? wrth i mi ddechrau sylweddoli mai fi ydi’r unig berson gwyn yn y dre. Mae Mugabe yn amlwg wedi gyrru’r gwynion i gyd oddi yma, neu maen nhw wedi mynd o’u gwirfodd. Dywedwyd wrtha i ar fy ymweliad cyntaf â Zimbabwe yn 1993 fod y mwyafrif o’r gwynion yno yn hiliol a bod Mugabe wedi’u cyhuddo o fod yn ‘drahaus a ffroenuchel’. Mae’r ffaith fy mod i’n cael fy nghyfarch fel ‘bos’ ar y stryd yn tueddu i gadarnhau’r cyhuddiad. Dwi’n prysuro i atgoffa ambell un mai y nhw ydi’r ‘bos’ ers 1980. Maen nhw’n chwerthin. Ger Bulawayo mae parc cenedlaethol Matopos, un o safleoedd treftadaeth y byd ac un o’r llefydd harddaf yn y wlad. Wrth y fynedfa mae swyddogion y parc yn groesawgar. Ac maen nhw’n gleniach byth ar ôl ddeall fy mod i’n ymwybodol fod Cecil Rhodes, sy’n gorwedd mewn beddrod yno, wedi twyllo Lobengula, brenin yr Ndbele, o’i hawliau mwyngloddio. Mae’r bedd dan warchodaeth Amgueddfeydd a Henebion y wlad yn hytrach na swyddogion y parc, er gwaetha’r ffaith fod Mugabe wedi bygwth, yn gwbl gyfiawn yn fy marn i, gyrru esgyrn Rhodes yn ôl i Loegr. Dw i’n gwrthod y cynnig i ymweld â bedd un o imperialwyr mwyaf diegwyddor Prydain. A minnau wedi cael y Matopos i mi fy hun dwi’n treulio’r pnawn yn ffilmio rhai o olygfeydd mwyaf trawiadol y wlad.
Gyda’r nos, teithio i gartref fy nheulu yn Solusi Mission. Rhwng Plumtree a Bulawayo mae Titus, newyddiadurwr ifanc, yn teithio efo ni. Gan Titus y cawsom wybod sut y mae pobl ifanc Zimbabwe yn mynd i Dde Affrica ar bob math o berwyl er mwyn ennill bywoliaeth. Ar gyrion Bulawayo mae yna rwystr heddlu a boi ifanc tal mewn cot ledr a belt cowboi yn arwyddo i ni dynnu’r car oddi ar y ffordd. Gan ofni’r gwaethaf, gofynnaf i Titus ai aelod o’r C.I.O ydi’r Got Ledr. ‘Nage, C.I.D.,’ atebodd yntau. ‘Noswaith dda,’ meddai’r plismon. ‘Hwyrach eich bod wedi clywed ein bod wedi cael problemau efo lladradau arfog yma’n ddiweddar.’ Doeddwn i ddim. Ond buan y deallais fod gangiau arfog o Dde Affrica yn croesi’r ffin i ladrata, gan mai’r ddoler a’r rand sy’n cylchredeg yn Zimbabwe yn hytrach na’r arian cynhenid. ‘Rydan ni’n stopio ceir i chwilio am ynnau. Cawsom hyd i ddau bistol ar y ffordd yma heddiw,’ meddai’r ditectif. Wedi sgwrs fer am y broblem ddiogelwch mae o’n dymuno siwrnai saff i ni. Roedd o’n gwrtais ac yn broffesiynol. Cyn ffarwelio mae Titus yn mynnu mynd â ni i’w gartref i’n cyflwyno i’w wraig ddeniadol a chyfnewid rhifau ffôn er mwyn cadw cysylltiad. Mae’r lôn dar ar y ffordd i gartref Solomon, fy mrawd yng nghyfraith, yn dod i ben. Gyrrwn trwy’r bush ar hyd lôn drol. Wrth i sfin pryfetach y goedwig dreiddio drwy ffenest y car mae’r radio’n pigo signal cryf ZBC Radio 1 o Harare. Rhwng caneuon Eingl-Americanaidd cyfarwydd mae’r DJ yn parablu’n frwdfrydig am dimau pêl-droed Lloegr. Yna mae drymiau’n cyflwyno llais undonog yn darllen newyddion sy’n llawn o bropaganda Zanu PF. Cyfeiria’r bwletin at Mugabe fel Arlywydd yn ogystal ag fel ‘Commander in Chief of the Armed Forces’ – asgwrn cynnen fawr o fewn y Llywodraeth Unedig efo’r M.D.C. ‘Ble buost ti ers 10 mlynedd?’ gofynnodd Solomon ar ôl i ni gyrraedd ei gartref yn ddwfn yn y bush. Eisteddwn o gwmpas y tân yn y gegin yn bwyta dyfrfelon, a rhoi’r byd yn ei le. ‘Mi wnest ti beth call yn cadw draw,’ medda fo, ‘achos mi fuo pethau yn ddrwg yma, ond mae Tsvangirai wedi bod yn llesol iawn i’r wlad ac mae pethau bron yn normal rwan.’ Mae o’n egluro i mi fod y ffermydd o’i gwmpas wedi cael eu meddiannu gan y llywodraeth, ond na wyddai’r tenantiaid newydd sut i ffermio. ‘Maen nhw’n torri’r coed ac yn creu anialwch,’ meddai. Dyma’r tro cyntaf i mi glywed neb yn sôn am wleidyddiaeth, a hwyrach mai dim ond mewn sgwrs breifat o fewn y teulu y mae hi’n ddiogel i wneud hynny. Bore trannoeth mae fy ngwraig a minnau’n mynd at yr afon i ymolchi fel yn yr hen ddyddiau, a does yna’r un enaid byw o gwmpas. Dychmygaf weld William Griffith yn dod drwy’r bush ar gefn ei geffyl, oherwydd does fawr ddim wedi newid yma ers i’r anturiaethwr o Gymro deithio trwy Matabeleland yn yr 1880au ac anfon ei adroddiadau cyffrous yn ôl i’r Hen Wlad o’r ‘Cyfandir Tywyll’ (gweler Barn Mehefin 2009). Yng ngolau’r lleuad rydan ni’n gadael Bulawayo am Johannesburg ar fws cyfforddus Greyhound heibio i aceri o lwyni orenau taclus a’r bush di-ben-draw. Wrth stampio fy mhasbort yn Beitbridge mae’r wraig ddymunol yn gofyn sut wnes i fwynhau fy ymweliad â Zimbabwe, a minnau’n ei hateb, ‘Da iawn, diolch.’ ‘A phryd ddowch chi i ymweld â ni eto?’ holodd. ‘Cyn bo hir,’ meddwn innau. Na, welais i mo’r C.I.O, y War Vets na’r Zanu PF Youth Militia, ond fel y mamba ddu a’r cobra maen nhw’n llechu yno ac yn barod i daro, dim ond i chi eu cythruddo. Ar ôl cyrraedd Jo’berg edrychaf ar y cerdyn y nododd Titus ei rif ffôn arno. Cerdyn Gfiyl Ffolant mudiad WOZA ydi o, Women of Zimbabwe Arise, mudiad merched Zimbabwe sy’n sefyll yn erbyn polisïau Mugabe. Yn aml maen nhw’n cael eu colbio a’u carcharu gan yr unben. Dyma ddyfyniad o’r penillion ar y cerdyn: ‘Dydi o ddim yn ddigon bod gennym eto fara. Yn ein calonnau mae newyn o hyd, newyn am gyfiawnder.’ ‘Fel y drain pigog ar goes y rhosyn mae cariad yn gymysg â phoen. Rhaid diodde’r boen ac ymladd i ennill ein hawliau cyfansoddiadol.’ Er fod llawer o Zimbabweaid alltud yn dymuno i’r M.D.C. dynnu allan o’r Llywodraeth Unedig efo Zanu PF, mae’n amlwg fod y trefniant wedi rhoi’r wlad yn ôl ar ei thraed. Y perygl ydi mai chwarae am amser y mae Mugabe, ac nad oes ganddo unrhyw fwriad i gyfaddawdu. A fydd o a’i junta milwrol yn cipio’r etholiad nesaf eto trwy drais a thwyll? A fydd o’n llusgo Zimbabwe yn ei hôl i’r oesoedd tywyll? |