• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
YM MHAWEN Y WASG PDF Argraffu Ebost

Ym Mhawen y Wasg

 

Adolygiad DAFYDD LLEWELYN o sioe gerdd a fu ar daith yn ddiweddar ac a  lwyfannwyd gan fyfyrwyr.

 

Heb ei Fai… gan Ceri Elen ac Eilir Owen-Griffiths

Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau, Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin

Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, 30 Mawrth

 

Mae llawer o sôn wedi bod yn ddiweddar am ddyfodol y Theatr yng Nghymru, gyda sawl un yn darogan ei thranc, a phawb yn anobeithio. Er ei bod hi’n nodwedd ynom ni’r Cymry i edrych ar bethau mewn modd hynod besimistaidd, mewn oes lle mae cymaint o ansicrwydd yngl?n â dyfodol y cyfryngau yng Nghymru mae’n fwy na theg gofyn, pa ddyfodol sy’n wynebu’r genhedlaeth ifanc sydd â’u bryd ar ennill eu bara menyn yn y maes hwnnw?

 Y fi fyddai’r cynta’ i gyfaddef nad wyf y ffan mwya’ o sioeau cerdd – yn aml iawn dwi’n eu cael yn rhy ystrydebol a chyfleus. Fodd bynnag, cefais fy siomi ar yr ochr orau y tro yma a drwyddi draw roedd  Heb ei Fai… yn gynhyrchiad hynod lwyddiannus. Roedd y sioe wedi’i gosod yng Nghaerdydd yn 1910 ac yn trafod effaith llofruddiaeth yn ardal y dociau ar gymuned yr ardal honno – cymuned sy’n cael ei rhwygo yn sgil yr ymdrech i ddal y llofrudd a’i ddwyn o flaen ei well. A ninnau yng nghanol brwydr etholiadol, roedd thema’r sioe – rôl y wasg yn llywio’r farn gyhoeddus, a’r perygl o gorddi’r dyfroedd ar sail rhagfarn a thwyll – yn hynod amserol, a chafwyd perfformiadau gwirioneddol safonol. Yn ddi-os, cân hyfryta’r sioe oedd y ddeuawd ‘Ti’ rhwng Gwydion Rhys Griffiths (Niall) a Lynwen Haf Roberts (Gwenno), ond os mai honno oedd y ddeuawd gryfa’, yna’r gân a lwyddodd i roi gwên lydan ar wep y mwyafrif o’r gynulleidfa oedd ‘Amen!’ gan M.O.M. Davies a’r Ymgymerwyr. Er nad oedd efallai yn glywadwy berffaith, yn weledol roedd y gân yn berl ac yn werth pob ceiniog o’r tâl mynediad ynddi’i hun.

 Llwyddodd y cynhyrchiad hwn i gadw diddordeb, er y byddai’r sgript ar ei hennill pe bai wedi cael ei thocio a’i thynhau. Weithiau roedd rhywun yn ymbalfalu am yr ateb i’r cwestiwn holl bwysig: stori pwy oedd hi? Derbyniaf ei bod hi’n anodd llunio sgript oedd yn cynnig cyfleoedd i’r holl fyfyrwyr, ond ambell dro roedd y stori fel petai’n mynd i sawl cyfeiriad, ac o ganlyniad roedd y ffocws a’r trywydd yn cael ei golli. Pe bai’r cyfan wedi cael ei dynhau ryw gymaint, byddai’r cynhyrchiad fel cyfanwaith wedi elwa.

Er efallai nad oedd mor slic a llwyddiannus â Clymau, cynhyrchiad yr un cwmni y llynedd, rhaid cofio mai criw o bobl ifanc oedd yn gyfrifol am bob agwedd o’r cynhyrchiad – o’r rhaglen i’r actio – ac mae hynny’n gamp ynddo’i hun. Fe ddylai pawb a fu’n gyfrifol am lwyfannu’r cynhyrchiad hwn ymfalchïo yn y gwaith gorffenedig. 

 Yn ystod penwythnos y Pasg cafwyd sgwrs radio ddifyr iawn rhwng Huw Ffowcs, Betsan Powys a Gwyn Hughes Jones, ac ymhlith y pynciau a drafodwyd yr oedd apêl gweithio yng Nghymru o’i gymharu â gweithio tu hwnt i Glawdd Offa. Yn annisgwyl efallai, nododd y ’fenga o’r tri, Huw Ffowcs, ei fod yn fwy na hapus yng Nghymru, ac nad oedd â’i fryd ar fynd i Lundain neu ymhellach i ymarfer ei grefft. Er ei bod yn bwysig ein bod yn ymhyfrydu yn llwyddiannau’r unigolion ifanc hynny sy’n gwneud eu marc dros Glawdd Offa (megis Iwan Rheon ac Aneurin Barnard), mae’r un mor allweddol ein bod yn gwarchod ac yn cefnogi’r rhai hynny sy’n penderfynu aros a dilyn gyrfa ym myd y cyfryngau yng Nghymru. Mewn oes lle mae anobaith a phesimistiaeth fel petaent yn teyrnasu, mae’n ddyletswydd arnom i hyrwyddo ac annog y genhedlaeth ifanc i ddefnyddio’u dawn creadigol, a chynnig llwyfan teilwng iddynt gael ymarfer a pherffeithio eu crefft yng ngwlad eu mebyd, a hynny er lles y Theatr yng Nghymru a’r genedl yn gyffredinol.