• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Cwrs y Byd PDF Argraffu Ebost

CWRS Y BYD

VAUGHAN HUGHES

Hogiau Del

 

Dyma nhw ill dau yn camu i mewn i Rif 10 Downing Street. Tydyn nhw’n ddigon o ryfeddod, dydwch! Yn fain. Yn landeg. Yn hyderus. Y math o hyder mae arian yn ei brynu. Diau y bydd rhieni’r ddau yn credu bod y miloedd a gostiodd hi i addysgu David yn Eton a Nick yn Westminster wedi talu ar ei ganfed. Heb sôn am y mymryn o gymorth a oedd ei angen arnyn nhw i allu mwynhau i’r eithaf fwrlwm cymdeithasol Rhydychen a Chaergrawnt.

Ond o! wrth edrych eto ar y llun, roedd o ei werth o i gyd, Mami a Dadi, onid oedd o? Dyma nhw’n croesi’r trothwy. Y naill yn Brif Weinidog. Y llall yn Ddirprwy Brif Weinidog. Drychwch arnyn nhw drachefn. Dotiwch arnyn nhw. Dau filiwnydd main, glandeg, hyderus. Ac ifanc. Y ddau yn 43.

Roedd y Beatles blewog yn eistedd wrth draed y Maharishi blewog ym Mangor, a’r gr?p pop y Blew yn chwarae roc a rôl ym Mhabell Lên Eisteddfod y Bala pan oedd Cameron a Clegg yn eu clytiau. 1967 oedd hi. Roedd Sandie Shaw yn y siartiau efo Puppet on a String, a’r hipi Scott McKenzie yn annog ei gyd-Americanwyr ar gân i wisgo blodau yn eu gwalltiau a mynd i ‘San Francisco’ i garu. Nid i Fiet-nam i ladd.

Yn 43, Cameron yw’r Prif Weinidog ieuengaf ers yn agos i 200 mlynedd. Yn 43, Clegg yw’r (lled-)Ryddfrydwr cyntaf ers 70 mlynedd i gael ei ddwylo ar rym llywodraethol. Mae’r hogiau wedi gwneud yn dda. A dydi hen ddyn fel fi yn gwneud dim cymwynas ag ef ei hun drwy edliw iddyn nhw eu hieuenctid. Ac onid eiddigedd noeth yw edliw iddyn nhw hefyd eu cyfoeth? Ie, mae’n si?r. Ac eto...

Er imi ddweud r?an eu bod nhw wedi gwneud yn dda, wnaeth yr un o’r ddau ennill dim oll. Do, wrth reswm, fe ddaeth y ddau i’r brig yn eu hetholaethau. Ond ddaru Cameron ddim gwneud digon o dolc yn y bleidlais Lafur i allu ffurfio llywodraeth Geidwadol. Ac mae gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Clegg lai o seddi’r tro hwn nag oedd ganddyn nhw yn Etholiad Cyffredinol 2005. A hynny er i Clegg ennill dwy o’r tair cystadleuaeth X Factor a gynhaliwyd gan y darlledwyr er budd Lloegr. Ond a orfodwyd ar y Deyrnas gyfan. Ac mae yna sawl agwedd ar aelodaeth y cabinet sy’n peri pryder – neu a ddylai beri pryder – i bawb ohonom. Mynegi barn a wnes i hyd yn hyn. A dogn o ragfarn, dwi ddim yn amau. Mae’n bryd imi ddefnyddio ychydig o ffeithiau ac ystadegau.

Dyma i chi ddosraniad o aelodaeth cabinet yr Hogiau Del:

MILIWNYDDION 23

CROENWYN 29

DU 0

ASIAIDD 1

DYNION 26

MERCHED 4

Dim ots pa ffon fesur a ddefnyddir, un casgliad yn unig y gellir dod iddo. Mae’r cabinet yn haerllug a dirmygus o anghynrychioliadol. Pedair merch – allan o gabinet o 30 i gyd. Pawb ond un yn groenwyn. A 23 ohonyn nhw’n filiwnyddion. Ac mae’r bobol hyn yn mynd i allu deall dyheadau ac anghenion y Brydain ddirwasgedig, amlddiwyllianol sydd ohoni, ydyn nhw? Gawn ni weld, ie?

Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n dweud hyn ond mae’r cabinet hwn yn gwneud i Margaret Thatcher ymddangos yn rhyfeddol o eangfrydig ac egalitaraidd. Wrth gwrs, yn wahanol i gynifer o’r giwed-ysgolion-preifat presennol, disgybl ysgol ramadeg oedd Magi. Yn union fel ei chyfoedion gwleidyddol Harold Wilson, Roy Jenkins, Denis Healey, Enoch Powell, Ted Heath, John Major a Michael Howard. Diolch i’r nefoedd bod rhai o leiaf o’r cabinet newydd, breintiedig hwn wedi cael eu haddysgu yn ysgolion y wladwriaeth. Dwi’n cyfeirio at Ken Clarke, Vince Cable a William Hague.

Role model y genhedlaeth newydd o arweinyddion a darpararweinyddion – o bob plaid Brydeinig – yw’r diegwyddor Tony Blair, dyn a ddiferai o anniffuantrwydd. Yn waeth o lawer na hynny, dyn sydd â gwaed ar ei ddwylo. A disgybl ysgol breswyl Fettes oedd Blair, y ddrutaf a’r uchaf ei bri o holl ysgolion preswyl yr Alban. Uwch o lawer na Gordonstoun, hen ysgol Charles Windsor.

Ac onid ydi o’n gwneud i’ch calon chi suddo o sylweddoli mai llathen o’r un brethyn Armani yw’r brodyr David ac Ed Miliband sydd, wrth i Barn fynd i’r wasg, wedi datgan eu parodrwydd i arwain y Blaid Lafur. Na, na – dach chi’n iawn – fu’r brodyr ddim mewn ysgol breifat. Ond nid ysgol gyfun gyffredin ydi Ysgol Gyfun Haverstock yng ngogledd Llundain. Mae dalgylch cyfoethog yr ysgol honno yn esbonio pam bod cymaint o’i disgyblion, fel y Milibandiaid, yn cael mynediad i golegau Rhydgrawnt.

A dyma ddod at fy mhryder pennaf. Addysgwyd canran anghymesur o uchel o aelodau’r llywodraeth glymblaid hon yn y mwyaf breintiedig ac uchaf eu statws o holl ysgolion preswyl Lloegr. (Dealler nad yw Ysgol Harrow, a oedd yn ddigon da i Syr Winston Churchill a Syr Wyn Roberts, yn cael ei hystyried bellach yn ddim ond megis rhyw Wigleyaidd Ysgol Rydal o’i chymharu ag Eton Cameron a Westminster Clegg.) Rydw i’n anesmwyth efo’r canfyddiad mai mewn ysgolion a ystyrir yn fwy elitaidd na Harrow hyd yn oed yr addysgwyd 67% o gabinet yr Hogiau Del. Cyn i ddisgyblion yr ysgolion hynny fynd ymlaen, yn anochel,  i Rydgrawnt…

Mae’n si?r y bydd llawer ohonoch chi’n cofio Neil Kinnock yn dweud mai fo a Glenys (Parry), ei wraig, oedd yr aelodau cyntaf erioed o’r ddau deulu i fynd i brifysgol. Y naill o Fynwy. Y llall o Fôn. Nid am mai nhw o angenrheidrwydd oedd y Kinnockiaid a’r Parrys galluocaf a fu erioed. Ond am fod modd go iawn erbyn y chwedegau i laweroedd yn rhagor o ferched a bechgyn dosbarth gweithiol fynd ymlaen i brifysgol. Mae gen i hen deimlad annifyr bod y dyddiau hynny’n dod i ben. Dwi’n pryderu bod y rhod yn troi. Y toffs sy’n rhedeg y sioe unwaith eto. Ac mae llai bellach o gyfle i aelodau o’r werin gyrraedd y brig. Ai cynnydd yw peth felly? O ddifrif?

Dwi’n dod yn fwyfwy argyhoeddedig bod angen adfer yr hen Ysgolion Gramadeg. Nid elitiaeth mo hynny. I’r gwrthwyneb. Byddai rhoi addysg alwedigaethol ardderchog i blant Cymru yn ganmil gwell na chymryd arnom yn wirion mai prifysgol yw’r lle gorau i bawb. Lol ydi hynny. Peidied neb â chredu fy mod i wedi anghofio am ddiawledigrwydd Thatcher. Ond, o weld sut mae’r werin erbyn hyn yn cael ei llwyr ddarostwng gan yr Hogiau Del, efallai y dylid rhoi rhywfaint o glust i’r hyn yr oedd gan Margaret Hilda Thatcher i’w ddweud wrth gynhadledd y Torïaid yn 1977: ‘Roedd pobol gyffredin o ’nghefndir i angen Ysgolion Gramadeg er mwyn inni allu cystadlu efo plant o gartrefi breintiedig – plant fel Shirley Williams ac Anthony Wedgwood Benn’.

Bellach mae’r grym yn ôl yn nwylo Hogiau Del yr ysgolion a’r colegau mwyaf breintiedig. Ac mae’r freuddwyd o gymdeithas gydradd a chyfartal yn pylu o flaen ein llygaid.

Trackback(0)
Sylwadau (0)add comment

Ysgrifennwch sylw
llai | mwy
 

busy