|
CAVENDISH – GWRTH-ARWR ARWROL DOT DAVIES  Os y’ch chi’n gweld colli opera sebon yr etholiad cyffredinol, na phoener. Mae drama Cwpan Pêl-droed y Byd ar y gorwel. Tybed a fydd Wayne Bridge yn gwylio o’i wely haul yn LA ac yn gobeithio am ‘nil points’ i John Terry? A faint ohonom fydd yn esbonio i gymydog/cyfaill/cydweithiwr Saesneg pam nad yw ‘pawb’ yn cefnogi Lloegr yn absenoldeb tîm arall o Brydain. Fydden i’n dwlu dweud ’mod i wedi aeddfedu digon erbyn hyn i ddymuno’n dda i’r Saeson yn y gystadleuaeth. Ond dydw i ddim. Alla i ddim. Fydda i ddim. Draw yn Wimbledon mi fydd Albanwr yn sifir o gythruddo’r wasg yn Lloegr trwy ddweud ei fod e’n cefnogi ‘unrhyw un ond Lloegr’ yn y bencampwriaeth yn Ne Affrica. Ie, Andy Murray yw hwnnw. Boed ar y cwrt canol neu’n cael ei gyfweld yn SW19, mi fydd yn siwr o roi tipyn o adloniant inni. ’Nôl yma yng Nghymru bydd gemau Morgannwg yng nghystadleuaeth 20/20 yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C. Paratowch am wledd o griced, sylwebaeth o’r safon uchaf gan neb llai na Huw Llywelyn Davies a John Hardy. Y nhw fydd yn rhannu termau fel ‘dyfaldoncedd’ a ‘cyfradd clatsio’ â’r genedl am y tro cynta’, tra ’mod i a ‘Dave Coaches’ yn ohebwyr crwydrol ar hyd y maes. Ie, o ‘Gavin a Stacey’ i ‘Maynard a Crofty’, mae’n siwr y bydd Steffan Rhodri yn clywed ‘What’s Occurin?’ fwy nag unwaith ym merw Stadiwm Swalec. Pan ddaw Gorffennaf, serch hynny, bydd drama go iawn wrth i ras rhif 97 y Tour de France ddechrau. Mi fydd y daith 3,600 cilomedr o Rotterdam i Baris yn gwthio pob un o’r beicwyr i’r eithaf. Mi fydd o ddiddordeb i ni’r Cymry wrth i Geraint Thomas fentro ar y daith unwaith eto, a hynny fel rhan o ‘Team Sky’ sy’n cael ei reoli wrth gwrs gan Gymro arall, Dave Brailsford. Ond yn ein ty ni dim ond un arwr fydd eleni – Mark Cavendish. Pwy, meddech chi? Sut mae disgrifio Mark Cavendish? Beiciwr o dalent eithriadol sydd eisoes wedi ennill deg cymal o’r Tour de France. Y disgrifiad gorau a welais i ohono oedd ei fod yn rhywun sy’n ‘gwneud yn gyntaf, cyn ymddiheuro wedyn’. Ac mae Cavendish wedi hen arfer â gorfod ymddiheuro. Ddechrau mis Mai fe enillodd gymal o’r Tour de Romandie ac wrth groesi’r llinell derfyn fe gododd ddau fys. Nid gwneud arwydd heddwch oedd e ond anfon neges i’r rhai, y wasg yn enwedig, a fu’n ei feirniadu’n ddiweddar. Dyw e byth yn dysgu. Ers stumio gwneud galwad ffôn a phwyntio at enw ei noddwyr newydd (cwmni ffonau symudol) ar ôl ennill y cyntaf o chwe chymal yn y Tour de France y llynedd, mae e wastad yn gyfrifol am ryw ddwli diangen. Ond chi’n gwybod be? Dyna sy’n ei wneud e’n gwbl unigryw. Mae e’n ‘gwneud yn gyntaf’ ac wfft i’r canlyniadau. Dyma i chi ddyn sy’ wedi cyflawni cymaint nes bod nifer yn darogan y bydd rhaid ailysgrifennu llyfrau hanes y gamp cyn diwedd ei yrfa. Dro ar ôl tro mae e’n gorfod ymddiheuro am ei ymddygiad. Ond mae’r elfen danllyd yn ei gymeriad yn rhan bwysig o’i natur gystadleuol. Fe gwrddes i ag e unwaith. Nid yn rhinwedd fy swydd, ond wrth alw am betrol mewn garej ger Rhisga yng Ngwent. Rhwng y mint imperials a’r starbyrsts dyna lle’r oedd y dyn ei hun (gyda’i gariad sy’n gynenillydd Miss Eidal). Do, fe wnes i’r peth sydd ddim yn cwl o gwbl a mynd ato i ddweud mod i’n ffan. Efallai’i fod e’n cael enw drwg am ei dymer, ond o’m rhan i, ro’dd y ffaith iddo ddweud ’mod i wedi ‘gwneud ei ddiwrnod’ drwy fynd ato am sgwrs yn siarad cyfrolau. Mae seiclo wrth fodd ei galon. Mae’r dyn hwn yn un sy’n dwlu siarad am y gamp, yn byw’r gamp, ac am brofi i bawb a ddywedodd ‘Ti werth dim!’ wrtho, pan oedd e’n blentyn, ei fod e werth rhywbeth. Mae e’n gallu cystadlu gyda’r goreuon. Ond mae’r goreuon yn ofni talent Cavendish, a does dim dwywaith bod a wnelo hynny dipyn â’r holl gwyno yn ei erbyn. Mi fydda i’n croesi ’mysedd mai Cavendish, nid Capello a’i dîm, fydd yn cipio’r penawdau yr haf hwn.
Trackback(0)
 |