|
LLYWODRAETH LLOEGR A DIWEDD PRYDEINDOD RICHARD WYN JONES Mae canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol yn tanlinellu’r newid y mae datganoli wedi ei wneud i’r Deyrnas Gyfunol. Os yw’r gair Cyfunol yn briodol bellach...
Pan ddaeth David Cameron ar ei ymweliad â’r Senedd yn ystod wythnos gyntaf ei gyfnod fel Prif Weinidog mae’n gwbl amlwg mai trwy Gaeredin y teithiodd i Gaerdydd – yn ffigurol os nad yn gwbl lythrennol. Perfformiad trychinebus y Torïaid yn yr Alban yn ystod yr etholiad cyffredinol sy’n gyfrifol am y ffaith fod arweinydd y glymblaid newydd mor awyddus i ddangos ei wyneb yn Holyrood ac, yng nghysgod hynny, ym Mae Caerdydd a Stormont. Hyd yn oed os nad yw colofnwyr y wasg adain dde yn Llundain, na’i darllenwyr chwaith, wedi llawn sylweddoli’r peth, mae Cameron a’i gylch yn gwybod yn dda sut y byddai ‘colli’r Alban’ yn drychinebus o ran hygrededd llywodraeth Llundain ac i sefyllfa geo-strategol y wladwriaeth. Gyda 90% o’r olew, chwarter y diriogaeth, a’r unig borthladd sy’n addas ar gyfer y llongau tanfor sy’n cario taflegrau niwclear ‘annibynnol’ y wlad, mae’r Alban yn allweddol i’r Deyrnas. Heb yr Alban ni fyddai’r wladwriaeth honno’n ddim amgenach na ‘Little Britain’, chwedl David Melding. Ni ellir dweud yr un fath am Gymru na Gogledd Iwerddon. Serch hynny, o fabwysiadu’r agwedd gymodlon sy’n gwbl angenrheidiol mewn perthynas â Chaeredin, ni ellir peidio gwneud yr un fath wrth ymwneud â Chaerdydd a Belfast hefyd. Nid am y tro cyntaf, felly, mae cydnabyddiaeth o arbenigrwydd ac arwahanrwydd Cymru yn dilyn yn sgil y sefyllfa yn yr Alban. Trwy deithio i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon rhoddodd Cameron gydnabyddiaeth symbolaidd bwysig a dramatig i’r ffaith mai gwladwriaeth aml-genedlaethol yw’r Deyrnas Gyfunol. Ni fyddai Prif Weinidog Llafur wedi gwneud yr un fath. Mae hyn, wrth reswm, yn adlewyrchu realiti strwythurol sefyllfa’r ddwy blaid fawr. Dim ond 9 o seddau sydd gan y Ceidwadwyr y tu allan i Loegr – ac un o’r rheini i’w phriodoli’n unig i libido Lembit Opik. Er hynny, enillasant fwyafrif cyffyrddus yn Lloegr. Yn hyn o beth, fel cennad o Loegr i diroedd y cyrion y teithiodd Cameron i brifddinasoedd y cyrion, lawn cymaint ag fel Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae Llafur yn parhau’n orddibynnol ar Gymru a’r Alban. Er mai dim ond un o bob deg o drigolion y wladwriaeth sy’n byw yn y ddwy wlad honno, mae chwarter yr Aelodau Seneddol Llafur yn cynrychioli etholaethau yng Nghymru a’r Alban. Yn wir, petai Llafur wedi llwyddo i ffurfio ‘llywodraeth flaengar’ hefo’r Rhyddfrydwyr a’r Cenedlaetholwyr Celtaidd, go brin y gellid bod wedi dadlau fod gan y llywodraeth honno fandad yn Lloegr. Yn baradocsaidd ddigon, felly, er mai Llafur a ddeddfodd i ganiatáu datganoli, ni thâl i’r blaid honno bwysleisio rhesymeg aml-genedlaethol y mesurau hynny’n ormodol. Ar y llaw arall, does gan y Torïaid ddim dewis ond gwneud hynny. Rhyfedd o fyd! Fel rhan o’u hymdrechion i ymdrin â pherthnasau tiriogaethol oddi mewn i Brydain ar sail rhyng-genedlaethol a rhynglywodraethol, bydd Cameron a’i glymblaid yn ymestyn cydnabyddiaeth bellach i genedligrwydd Cymreig. Rwy’n sicr y caiff hyn effaith seicolegol bellgyrhaeddol arnom ni’r Cymry yn ei dro. Yn sicr, bydd yn codi statws Llywodraeth a Chynulliad Cenedlaethol Cymru eto fyth. A nodi un enghraifft yn unig, gyda Cheryl Gillan yn Ysgrifennydd Gwladol amlwg drefedigaethol, go brin fod ’na unrhyw amheuaeth bellach nad y ddau Jones, Carwyn ac Ieuan Wyn, sy’n cynrycholi llais awdurdodol Cymru. Nid oedd hynny’n wir cyn y 6ed o Fai. Ni dderbyniodd Peter Hain, Alun Michael a’r Aelodau Seneddol Llafur Cymreig erioed mai’r Cynulliad Cenedlaethol oedd yn haeddu’r flaenoriaeth o ran sylw a statws. Nid oes gan lywodraeth Cameron ddewis ond gwneud hynny... Mae ochr arall i’r geiniog, fodd bynnag, a gorau po gyntaf inni sylweddoli hynny. Wrth i lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ad-drefnu ei pherthynas â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar sail rhyng-lywodraeth, mae’n dilyn y bydd y gwledydd rheini’n cyfrif llai a llai wrth ffurfio llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Llywodraeth Lloegr fydd honno mewn popeth ond enw. A rhag i chi feddwl fy mod yn codi bwganod neu’n mynd o flaen gofid, dyna’n union a ddigwyddodd yn y dyddiau ar ôl y 6ed o Fai. Nodwyd eisoes wendid y Ceidwadwyr y tu allan i Loegr. Nid oes ryfedd felly na welwyd yr un Tori o Gymro, Sais neu Wyddel yn chwarae unrhyw ran o bwys yn y trafodaethau a arweiniodd at sefydlu’r glymblaid. O gofio mai teyrngarwch rhannau o Gymru a’r Alban a gadwodd y Rhyddfrydwyr mewn bodolaeth yn y dyddiau blin cyn adfywiad y 1970au, efallai y gellid disgwyl y byddai pethau’n wahanol o ran y blaid honno. Ond nid felly yr oedd. Roedd hi’n amlwg o’r cychwyn na chafodd Rhyddfrydwyr Cymru ran ystyriol yn y trafodaethau. Yn wir, pe cawsai arweinydd y blaid Gymreig ei ffordd, ni fyddai clymblaid (â’r Ceidwadwyr) fyth wedi ei sefydlu o gwbl. Hyd yn ddiweddar iawn bu Kirsty Williams fel petai mewn cystadleuaeth ddychmygol hefo aelodau o’r Socialist Workers Party – neu hyd yn oed Leanne Wood! – yn ei hawydd i gystwyo Thatcher a’i heffaith. Ar ben hynny, dichon y bydd y briodas â’r Torïaid yn gwneud bywyd gwleidyddol yn llawer iawn yn anos iddi yn ei chynefin ei hun ym Mrycheiniog a Maesyfed. Ar yr wyneb roedd hi’n ymddangos fod pethau’n wahanol o safbwynt Rhyddfrydwyr yr Alban. Wedi’r cwbl, oni fu Aelod Seneddol Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey, Danny Alexander, yn chwarae rhan ganolog yn y trafodaethau? Ond yn ôl cyfeillion ym mhrifysgolion yr Alban sydd yn fwy hyddysg o lawer iawn na mi yng ngwleidyddiaeth y wlad honno, mae rôl Alexander yn gamarweiniol. Yn gyntaf, prin iawn yw cysylltiadau’r gfir sydd bellach yn Ysgrifennydd Gwladol yr Alban â wleidyddiaeth ei famwlad. Derbyniodd ei addysg uwch yn Lloegr ac yno hefyd y cychwynnodd ei yrfa wleidyddol. Dychwelodd i’r Alban dim ond ar ôl iddo ddod yn amlwg y gallai fod enwebiad i sedd ddiogel ar y gorwel. Nid oes unrhyw dystiolaeth iddo gymryd llawer o ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth y wlad un ai cyn hynny neu wedyn. Yn bwysicach fyth, efallai, yr oedd hen lawiau’r blaid yn yr Alban yn amheus iawn, iawn o unrhyw drefniant â’r Ceidwadwyr. A pha ryfedd? Eisoes gwyddom fod Kennedy a Steel yn wrthwynebus. O gofio pa mor amhoblogaidd yw’r Torïaid yno, gallai’r cysylltiad â hwy gostio’n ddrud iawn i Ryddfrydwyr yr Alban yn y dyfodol. Mewn byr eiriau felly, ymddengys fod trwch Rhyddfrydwyr Cymru a’r Alban yn gwrthwynebu’r glymblaid, ond fe’i hanwybyddwyd. Llywodraeth yw hon a wnaed yn Lloegr ar gyfer Lloegr ar sail ystyriaethau gwleidyddol Seisnig. Ffaith anghysurus i rai efallai; ond ffaith serch hynny. * * * * Mae tri deg a thair o flynyddoedd ers i Tom Nairn gyhoeddi ei gyfrol enwog The Break-up of Britain. Fyth ers hynny bu’r awdur yn gyff gwawd gan rai: ar y gorau fe ymddangosai ei broffwydoliaeth yn rhyfygus o gynamserol. Yn ystod blynyddoedd y pla ddechrau’r 1980au yr oeddynt yn ymddangos yn gwbl hurt. Ar ôl wythnos gyntaf llywodraeth glymblaid Cameron, fodd bynnag, pwy all wadu nad yw’r hen ddealltwriaeth o Brydain fel cenedlwladwriaeth unedig ac unedol wedi diflannu am byth? Efallai nad yw Prydain a Phrydeindod wedi chwalu neu ddadfeilio’n gyfan gwbl. Maen nhw yma o hyd (hyd yma, beth bynnag.) Ond maen nhw bellach wedi mabwysiadu ffurfiau cwbl wahanol i’r hyn oedd yn gyfarwydd i genedlaethau’r gorffennol. Fel y dangosodd ymweliad Cameron â Chaerdydd i’r byd a’r betws, mae’r chwyldro cyfansoddiadol yn parhau.
Trackback(0)
 |