• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
WRTH EU LLWYTHAU… PDF Argraffu Ebost

WRTH EU LLWYTHAU…

BECA BROWN

 

Aderyn prin iawn yw’r ddrama sy’n medru gwneud y fath sôn amdani mewn theatrau ac ar lawr gwlad fel ei gilydd, ac sy’n medru nythu mor dalog ym mlwch Statws cynifer o drigolion Facebook, gyda choedwigoedd o ebychnodau yn dynodi ei heffaith syfrdanol ar bawb sydd wedi ei gweld. Ond dyna yw camp Llwyth, drama newydd gan Dafydd James, a siaradodd nid yn unig â’r gymuned hoyw yng Nghymru, ond ag unrhyw un sydd wedi teimlo ei fod ‘wastad ar y tu fas’, neu sydd wedi ymdrechu i gadw troed mewn sawl gwersyll ar yr un pryd, heb grampio neu fynd dîn dros ben.

Mae llwythau ac islwythau yn ddiddiwedd o ddifyr, yn enwedig mewn gwlad sy’n teimlo y dylai dynnu at ei gilydd yn gytûn er mwyn ymwrthod â gelyn sydd i fod yn gyffredin. Mae pawb ishio perthyn i rywle neu i rywbeth, ond mae cael eich cau allan o’r cylch cyfrin, beth bynnag y bo, yn rhoi rhyw egni a thân yn y bol sy’n gallu bod yn greadigol iawn i rai, neu sy’n rhoi bodolaeth i eginlwythau newydd, a’r rheini’n ffynnu yn haul a gwres eu gwrthodedigrwydd.

I aralleirio Groucho Marx, pwy sydd am berthyn i lwyth sy’n ddigon hapus i’w dderbyn o?

Dyma fis y ffans pêl-droed, llwyth a fydd yn rhannu’n is-lwythau ac yn is-is-lwythau, nes bod fy mab pumlwydd oed mewn peryg o ddrysu. Am ryw reswm cwbwl annealladwy iddo fo, mae canmol Rooney o flaen ei fam yn lled dderbyniol yng nghyd-destun Manceinion Unedig, ond yn destun ffrwydriad a phregeth am 1282 pan y’i crybwyllir yng nghyswllt Lloegr a Chwpan y Byd. Pam? – medda fo. Achos! – medda fi. Ac wrth gerdded heibio siopau’r stryd fawr, a gweld y fflagiau coch a gwyn a’r geriach England ar werth yn y wlad rong, dyma ddod wyneb yn wyneb â deuoliaeth anghysurus y llwyth enfawr hwnnw sy’n moli chwaraewyr timau Lloegr dymor ar ôl tymor, gan gymryd seibiant bob pedair blynedd i fwrw sen arnynt dros dro. Rhyfedd o fyd.

Peth symlach a thipyn mwy rhesymol, decini, yw perthyn i lwyth cefnogwyr y timau Cymreig, ond ystyriwch y lobscows emosiynol mae ffans ffyddlonaf Caerdydd yn ei brofi’r dyddiau yma. Wrth i hyn o eiriau fynd i’r wasg, mae’r Adar Gleision ar dân ishio i’w tîm ddringo i’r uwchgynghrair, ond yn hiraethu’n barod am y dyddiau pan oedd y dilynwyr yn brin a’r clwb yn perthyn iddyn nhw’r selogion a neb arall.

Hynny yw, mae pris i’w dalu am lwyddiant, a buan iawn y bydd cannoedd o ffans tywydd-teg yn chwyddo’r llwyth, a’i droi yn rhywbeth arall. Mae bod yn wan, yn orthrymedig neu yn yr wrthblaid yn diffinio’r meddylfryd llwythol, a does fawr o ramant mewn bod yn fawr, yn rymus ac yn gyson fuddugol. Ond diawl, mi fydda fo reit neis weithia. 

Does dim dwywaith fod y croesbeillio rhwng llwythau a’i gilydd yn sicrhau nad yw bywyd byth yn ddiflas, a phan fo rhai o blith unrhyw lwyth yn dewis gwneud eraill yn esgymun, mae tensiwn creadigol yn codi i’r wyneb, sydd o dro i dro yn rhoi bodolaeth i lais newydd neu i ddarn o waith treiddgar sy’n medru dal drych i’n hofnau a’n dyheadau dyfnaf, a hynny mewn ffordd gwbl unigryw ac ddrama Llwyth, gan sicrhau ein hedmygedd a’n parch mwyaf. Yng ngeiriau un o’i gymeriadau mwyaf hoffus – mae Dafydd James yn ‘total ‘chi’”.

 

Trackback(0)
Sylwadau (0)add comment

Ysgrifennwch sylw
llai | mwy
 

busy