• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Sadwrn 25 Mai 2013
Cer i Graffu PDF Argraffu Ebost
Richard Wyn Jones

Mae’r awdur, y praffaf o ddadansoddwyr gwleidyddol, wedi cael llond bol ar refferendwm Mawrth y pumed. Mae’r holl beth, meddai yma, yn ddiangen, yn ddisynnwyr, yn druenus ac yn nonsens.

Dros Gymru’n gwlad dyrchafwn gri... Er mwyn y Tad gawn ni gytuno na fyddwn ni byth, byth eto’n cynnal refferendwm diangen? Bu’r wythnosau diwethaf yn brawf perffaith o’r gost o wneud peth mor hurt. I unrhyw un yn ein plith sy’n rhoi bri ar ddemocratiaeth – ac mae rhai ohonom yn ddigon delfrydgar i dadogi gwerth sy’n ymylu ar y cysegredig i drafodaeth gyhoeddus a chyfranogaeth sifig – buont yn wythnosau o wylio a gwrando digalon ar y naw. A bod yn deg, nid ymgyrchwyr ‘Ie dros Gymru’ sydd ar fai am hynny. O leiaf maen nhw wedi gwneud ymdrech deg i godi ymwybyddiaeth a chreu diddordeb ymhlith y cyhoedd. Hynny er gwaetha’r ffaith bod testun y refferendwm – diwygiad llai na chwyldroadol i’r broses ddeddfwriaethol Gymreig – yn milwrio yn erbyn llwyddiant.

Y drwg yn y caws, yn hytrach, yw’r ymgyrchwyr ‘Na’. At ei gilydd bu eu hagwedd a’u hymddygiad fyth ers cychwyn yr ymgyrch yn gyfan gwbl waradwyddus. Achubwyd ar bob cyfle i fwrw sen ar eu gwrthwynebwyr. Nid oes unrhyw un sy’n cefnogi pleidlais gadarnhaol yn gwneud hynny ar sail argyhoeddiad, dalltwch, ond yn hytrach am eu bod wedi eu prynu gan Lywodraeth y Cynulliad. Y ‘pay roll vote’ yw’r term a anwylir gan gefnogwyr True Wales. I’r Nacawyr hyn, mae pob ymgyrchwr ‘Ie’ efo’i agenda cudd ei hun (hunan-les, annibyniaeth, casineb at y Sais, neu beth bynnag...). Ni ellir fyth gydnabod didwylledd yr un ohonynt; neu os ydynt yn ddidwyll, maent yn amlwg yn dwpsod (ac felly’n gynnyrch y gyfundrefn addysg Gymreig, debyg iawn). Yn sicr ddigon, mae pob gwleidydd sy’n weithredol ar y lefel Gymreig yn dwp fel slej. Heb sôn am fod yn pluo eu nythod eu hunain ar draul y trethdalwr. O wrando ar gefnogwyr True Wales byddai dyn y tybio mai yng Nghaerdydd nid yn San Steffan y cafwyd y sgandalau treuliau, ac mai Aelodau Cynulliad ac nid Aelodau neu gyn-Aelodau Seneddol sydd bellach yn y carchar ar ôl eu cael yn euog o dwyll...

Byth a hefyd yn ystod yr ymgyrch clywyd cefnogwyr True Wales yn dechrau rhyw stori gelwyddog neu’i gilydd er mwyn lladd ar yr Ymgyrch Ie. Glywaist ti, meddai un o’r amlycaf ohonynt wrthyf mewn neges e-bost, fod Comisiwn y Cynulliad yn cynnal arolygon barn cyfrinachol ac yn pasio’r canlyniadau ymlaen i’r Ymgyrch Ie? Wel naddo, debyg iawn! Gan nad ydyw’r fath beth yn wir. Glywsoch chi, meddai un arall wrth y sawl sy’n dilyn ei negeseuon ‘trydar’, fod Plaid Cymru’n gwario £480,000 ar yr Ymgyrch Ie? Prawf digamsyniol felly mai cynllwyn mawr yn cael ei reoli o gegin gefn Ieuan Wyn Jones yn Rhos-meirch ydi’r refferendwm, gyda’r bwriad o droi Cymru’n Ogledd Corea gorllewin Ewrop? Ynteu celwydd noeth? Be ’dach chi’n feddwl?

Dyna chi wedyn sinigiaeth ronc penderfyniad True Wales i beidio â cheisio am statws ‘prif ymgyrch’ gan y Comisiwn Etholiadol a hynny er mwyn ‘arbed arian i’r trethdalwyr’, medden nhw. Ond, mewn gwirionedd, er mwyn rhoi sbocsen yn olwyn yr Ymgyrch Ie gan eu rhwystro rhag rhedeg ymgyrch effeithiol. Fel ystum glyfar yn defnyddio’r rheolau (ynfyd) a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 er eu mantais eu hunain, y dehonglir y penderfyniad yma gan rai. Mae’n ddehongliad gor-garedig. Petai arian cyhoeddus wedi ei wario ar yr ymgyrchoedd, byddai cyfanswm yr arian a wariwyd wedi cyfateb i lai na 5% o gost cynnal y bleidlais ei hun. Wedi rhefru’n ddiddiwedd ynglyn â’r angen am refferendwm, pan ddaeth y cyfle i gael trafodaeth gyhoeddus synhwyrol gwnaeth True Wales benderfyniad cwbl fwriadol i sicrhau na allai hynny fyth ddigwydd. Dyna ganlyniad rhwystro dosbarthu’r dadleuon o blaid ac yn erbyn i bob aelwyd yn y wlad. Tydi rhagrith noeth ddim yn dechrau’i dweud hi...!

Gan amlaf, mae dilynwyr True Wales yn bodloni ar eu dadleuon ad hominem neu’n coleddu’r cynllwynion. Weithiau, fodd bynnag, maent yn ceisio tir mwy dyrchafedig trwy gynnig dadleuon a fwriedir fel rhai mwy swmpus. Ar y pwynt yma, fodd bynnag, mae baster eu dadansoddiad a gwendid eu dadleuon yn dod fwyaf amlwg.

Dadl fawr Rachael Banner yw craffu. Mae’r gyfundrefn bresennol, yn ei thyb hi, yn caniatáu i Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad Cymru weithio hefo’i gilydd i sicrhau bod craffu digonol ar ddeddfwriaeth Gymreig. O newid y drefn, bydd y rôl werthfawr yma a chwaraeir gan Aelodau Seneddol yn y broses graffu yn cael ei cholli ac, o ganlyniad, bydd safon deddfwriaeth Gymreig yn gostwng. Mae’n ddadl gwbl ddisylwedd. Y gwir amdani yw nad oes gan Aelodau Seneddol unrhyw rôl mewn craffu ar ddeddfwriaeth Gymreig dan y gyfundrefn bresennol. Ystyried ceisiadau am yr hawl i ddeddfu yn unig y maent yn ei wneud. Unwaith mae’r ceisiadau yma wedi eu caniatáu, y Cynulliad Cenedlaethol yn unig sy’n gyfrifol am bob cam yn y broses ddeddfu.

Ond gadewch i ni, o leiaf, geisio bod yn hael a charedig. Gadewch i ni gymryd fod Rachael Banner yn gwybod hyn, ac mai fel llaw-fer y bwriedir yr ymadrodd ‘craffu’ ganddi, gyda’r bwriad o gyfeirio at y gwaith a wneir gan San Steffan yn y broses o ystyried ceisiadau o Gaerdydd am gymhwysedd (competence) deddfu. Hyd yn oed ar y gwastad hwnnw, mae dadl Banner yn gwbl ddiffygiol.

Yn gyntaf, fel mae fy nghydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, David Lambert a Marie Navarro, wedi ei  ddangos, oherwydd natur y gyfundrefn bresennol, y gwir amdani yw fod llawer iawn o rym yn cael ei drosglwyddo o Lundain i Gaerdydd heb unrhyw ‘graffu’ nac ystyriaeth ddifrifol yn naill ai’r Cynulliad Cenedlaethol nac yn San Steffan. Hynny oherwydd bod grymoedd yn cael eu pasio yn uniongyrchol i Weinidogion Llywodraeth Cymru gan osgoi’r Cynulliad Cenedlaethol yn gyfan gwbl. Mae hyn, wrth gwrs, yn hynod broblemus o safbwynt democratiaeth: mae gennym gyfundrefn sy’n dangos ffafriaeth i’r Llywodraeth ar draul aelodau’r meinciau cefn sydd i fod i’w dal yn atebol. Yn wir, un o fanteision mawr pleidlais ‘Ie’ yw y byddai’n alto’r cydbwysedd rhwng Llywodraeth a Chynulliad o blaid y ddeddfwrfa.

Ond hyd yn oed o ganolbwyntio ar y drefn orchmynion – yr LCOs bondigrybwyll – nid yw dadleuon Banner yn dal dwr. I ddechrau, dyna i chi’r ffaith mai yn Whitehall ac nid yn San Steffan y digwydd y rhan fwyaf o’r ‘craffu’ ar geisiadau am gymhwysedd deddfu. Gweision sifil anetholedig yn hytrach na gwleidyddion etholedig sydd hefyd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r oedi a welwyd yn y broses o ganiatáu ceisiadau dros y pedair blynedd diwethaf.

Fel pe bai hynny ddim yn ddigon ynddo’i hun, problem bellach yw fod rôl yr Aelodau Seneddol yn tanseilio holl egwyddor datganoli. Pwrpas sefydlu Cynulliad a Llywodraeth Cymru oedd sicrhau bod y genedl yn cael ei llywodraethu mewn modd sy’n adlewyrchu barn a phatrymau pleidleisio ei phobl ei hun. Mae rhoi rôl i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn y broses o benderfynu ar geisiadau am gymhwysedd deddfu yn tynnu’n gwbl groes i hynny gan fod aelodaeth y pwyllgor hwnnw’n adlewyrchu patrwm grym yn San Steffan yn hytrach na dewisiadau etholiadol Cymreig. Mae llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn mwynhau mwyafrif ar y Pwyllgor Dethol doed a ddelo. Felly, er gwaetha’r ffaith mai dim ond 11 o’r 40 etholaeth Gymreig sy’n cael eu cynrychioli gan Aelodau Seneddol sy’n cefnogi’r glymblaid Geidwadol-Ryddfrydol, ganddynt hwy y mae’r mwyafrif ar y pwyllgor. Yn wir, mae cyn lleied ohonynt fel eu bod wedi gorfodi dau Aelod Seneddol sy’n cynrychioli etholaethau yn Lloegr i fod yn aelodau o’r Pwyllgor Dethol er mwyn sicrhau mwyafrif. Dyma’r gyfundrefn sy’n cael ei ffafrio gan Rachael Banner, er ei bod yn honni cefnogi datganoli!

Problem arall hefo rôl yr Aelodau Seneddol dan y drefn bresennol yw y golyga eu bod nhw’n gwastraffu llawer gormod o’u hamser yn dyblygu gwaith Aelodau’r Cynulliad yn hytrach na chanolbwyntio eu hegnïon ar hybu buddiannau eu hetholwyr a Chymru benbaladr yn y llu o feysydd nad ydynt wedi cael eu datganoli o gwbl. Mae pob awr y maent yn ei dreulio’n ystyried ceisiadau am gymhwysedd deddfu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn awr y gellid ei threulio’n gwneud rhywbeth mwy defnyddiol. Tanlinellir oferedd y drefn bresenol pan gofir ein bod ar fin colli chwarter o’n Haelodau Seneddol yn sgil penderfyniad Llywodraeth Llundain i leihau maint Ty’r Cyffredin. Bydd angen y rhai sy’n weddill i weiddi’n fwy croch nag erioed ar ein rhan yn hytrach nag ymbalfalu yng nghrombil ceisiadau am gymhwysedd deddfu!

Gan symud o Lundain i Gymru, mae’r problemau a grëir gan y gyfundrefn  ddeddfu bresennol yn fwy hysbys. Mae Aelodau’r Cynulliad yn treulio llawer gormod o amser yn trafod y broses ddeddfwriaethol yn hytrach nag yn deddfu – yn dweud yn hytrach na gwneud. Problem fawr yng nghyd-destun deddfwrfa sydd, yn ôl unrhyw gymhariaeth ryngwladol ystyrlon, yn fach, a lle mae’n rhaid gwneud y defnydd gorau posibl o amser Aelodau. Ac wedyn dyna i chi’r ffaith baradocsaidd fod yr holl oedi yn y broses o ganiatáu ceisiadau am gymhwysedd deddfu yn arwain at frys yn y broses o ddeddfu go iawn unwaith bod y caniatâd wedi ei roi, gan fod awydd (naturiol) i ddod â’r holl broses i fwcwl cyn i dymor y Cynulliad ddod i ben. Felly, yn hytrach na gwella safon deddfwriaeth Gymreig fel yr honnir, y tebygrwydd yw bod rôl Whitehall a San Steffan yn y broses ddeddfwriaethol yn niweidiol.

O’i osod dan y chwyddwydr mae hyd yn oed dadl orau arweinydd True Wales yn dadfeilio’n syth. Pa ryfedd felly fod cymaint o’i chefnogwyr yn ffafrio ymosodiadau personol yn hytrach na cheisio cyflwyno dadleuon sylweddol? Eto i gyd, mae cyfraith etholiadol yn golygu bod y BBC yn gorfod cynnig gofod cyfartal i’r bobl yma gael rhaffu eu nonsens. Refferendwm diangen; trafodaeth gyhoeddus ddisynnwyr. Mae’r holl sefyllfa’n druenus.