| Cwrs y Byd: Tynged yr iaith |
|
|
|
|
Vaughan Hughes Mewn cyfweliad teledu efo Aneirin Talfan Davies yn 1960, fe alwodd Saunders Lewis ei hun yn fethiant llwyr fel gwleidydd. Y cyfan a ddywedaf yw ei bod hi’n cymryd math arbennig iawn o fethiant i gyflawni’r hyn a wnaeth Saunders Lewis ym mis Chwefror eleni. Am wythnos gron fe lwyddodd, o’i fedd, i wneud gwrando ar Radio Cymru yn weithred hanfodol ac angenrheidiol unwaith eto i’r llu ohonom sy’n teimlo mai dim ond yn achlysurol bellach y bydd yr orsaf yn trafferthu i siarad efo ni.
Yn ei ddarlith ef dewisodd Guto Bebb ddadlau mai dim ond y dosbarth canol sydd wedi elwa’n yrfaol ar y statws a enillodd y Gymraeg ers traddodi’r ddarlith radio ac ers ffurfio Cymdeithas yr Iaith. Mae hynny’n ymddangos i mi fel mwy o sylw cymdeithasegol nag o feirniadaeth ar y mudiad iaith yn benodol. Mater o fanteisio ar gyfleoedd ydi o. Nid y werin ond y dosbarth canol sy’n chwarae sboncen ac yn mynychu clybiau cadw’n heini. A phlant y dosbarth canol sy’n gwneud orau mewn arholiadau. Nhw, felly, sydd fwyaf tebygol o gael swydd sy’n galw am Saesneg rhugl yng Nghaerefrog neu am Gymraeg rhugl yng Nghaerdydd. Y lleihad yn y dosbarth gweithiol diwyd, addysgiedig ac ymddyrchafol drwy’r ynysoedd hyn yw’r pryder pennaf. Ac oni fu llywodraethau Thatcher a Blair a barodd i’r bwlch ymledu rhwng y breintiedig a’r difreintiedig? Gwych o beth fu cael dathlu’r cynnydd enfawr a wnaed yn statws y Gymraeg ers 1962. Crintachlyd fyddai peidio canmol Cymdeithas yr Iaith am dderbyn yr her a roddodd Saunders Lewis i’r genedl. Ond mae swn ym mrig y morwydd. Wrth imi sgwennu’r geiriau hyn mae pobol yn mynd ati i ffurfio mudiad iaith a fydd, fe ddadleuir, yn fwy effro i anghenion y Gymraeg mewn canrif newydd a Chymru newydd. Enillwyd llawer. Ond arswydus oedd yr ystadegau gan Fwrdd yr Iaith a ddatgelai ein bod yn colli 3,000 o siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn. Rhugl, sylwer. Gofid hefyd oedd clywed gwr mor selog dros y Gymraeg â Heini Gruffudd yn cyhoeddi’n blwmp ac yn blaen mai methiant yw ein hymdrechion pitw i ddysgu’r iaith i oedolion. Mwy dychrynllyd fyth oedd sylw Meirion Prys Jones: ‘Rwy’n credu fod yr iaith yn tyfu mewn rhai ffyrdd ond fel iaith gymunedol mae’n marw’. Nid am y tro cyntaf, mae geiriau Ned Thomas yn diasbedain yn fy mhen: ‘Mae rhagor a rhagor o arwyddion ffyrdd Cymraeg yn arwain at lai a llai o lefydd Cymraeg’.
|