| Golwg i’r Dyfodol |
|
|
|
|
Ifan Morgan Jones Yn dilyn erthygl Bedwyr ab Iestyn am e-lyfrau yn rhifyn Chwefror, dyma olwg bellach ar y datblygiadau diweddaraf ym myd cyhoeddi digidol ac appiau yn y Gymraeg gan gyn-olygydd gwefan Golwg 360, sydd erbyn hyn yn ymchwilio i’r Gymraeg a thechnolegau cyfathrebu.
Ychydig ddyddiau cyn y Nadolig fe gymerodd dau o gwmnïau cyhoeddi mwyaf blaenllaw’r Gymraeg gam mawr i’r dyfodol. O fewn dyddiau i’w gilydd fe gyhoeddodd cwmni Golwg ‘app’ oedd yn caniatáu i’w defnyddwyr lawrlwytho fersiwn digidol o’r cylchgrawn i ddyfeisiau’r iPad a’r iPhone, ac fe ddechreuodd cwmni’r Lolfa uwchlwytho swmp o’u nofelau i wefan Kindle ar ffurf e-lyfrau. Nid cyd-ddigwyddiad oedd hyn, wrth gwrs, dim ond synnwyr busnes; roedd y ddau gwmni’n gwybod y byddai hosanau Nadolig y genedl yn gorlifo â dyfeisiau darllen Kindle, iPads ac iPhones. Ac nid dyma’r tro cyntaf i’r cwmnïau hyn fentro i ddarparu eu cynnyrch print ar ffurf ddigidol – mae fersiynau digidol o gylchgrawn Golwg a llyfrau’r Lolfa wedi bod ar gael i’w lawrlwytho o’u gwefannau ers rhai blynyddoedd, ond heb gymaint o lwyddiant. Serch hynny mae’r mentrau diweddaraf yn amlwg wedi talu ar eu canfed i’r Lolfa a Golwg. Cyhoeddodd y Lolfa yn syth ar ôl y Nadolig eu bod nhw eisoes wedi gwerthu 100 o e-lyfrau drwy Kindle, ac mae’n deg tybio mai cynyddu wnaiff y gwerthiant wrth i ragor o bobl ddechrau defnyddio teclynnau o’r fath. Mae ap Golwg hefyd wedi gwneud argraff, gyda dros 500 wedi ei lawrlwytho yn ystod yr wythnosau cyntaf. Mae’r Aelodau Cynulliad Leighton Andrews ac Elin Jones eisoes wedi cyhoeddi ar wefan Twitter eu bod nhw wedi penderfynu prynu’r fersiwn digidol o’r cylchgrawn yn hytrach na’r copi print. Ond yn ogystal â denu darllenwyr y cylchgrawn print, rhan o nod ap Golwg yw targedu cynulleidfa newydd o ddarllenwyr, gan gynnwys Cymry sy’n byw dramor. Yr hyn sy’n arwyddocaol am benderfyniadau’r cwmnïau hyn i ddarparu eu cynnyrch ar y Kindle a’r iPad yw bod cynnyrch Cymraeg bellach ar gael ar y dyfeisiau darllen digidol mwyaf poblogaidd yn y byd. Yn ôl ymchwil gan Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn Eisteddfod Wrecsam roedd 14% o’r rheini oedd yn berchen ar declyn darllen digidol yn meddu ar Kindle, a 11% yn meddu ar iPhone. Drwy wneud hyn mae’r Lolfa a Golwg wedi cyrraedd cynulleidfa lawer ehangach nag y bydden nhw fel arall. Mae Golwg hefyd yn gobeithio ymestyn eu gwasanaeth nhw i ddyfeisiau eraill gan gynnwys Android a Blackberry, os yw’r fenter yma’n llwyddiant. Ond yn ogystal â chynnig cyfle i gyhoeddwyr, mae’r farchnad newydd yma hefyd yn cynnig sawl her. Y fwyaf amlwg yw nad oes dim byd bellach yn atal awduron rhag anwybyddu’r Lolfa, Gomer, a’r gweisg mawr eraill a chyhoeddi eu deunydd eu hunain yn syth ar ddyfeisiau fel y Kindle a’r iPad. Mae cwmni Amazon yn cynnig breindal o 70% i awduron e-lyfrau, o’i gymharu â breindaliadau’r gweisg sy’n agosach at 15%. Mantais hyn oll yw ei fod yn rhoi rhyddid i awduron gyhoeddi beth bynnag a fynnont, yn rhydd rhag dylanwad golygyddion a chomisiynwyr, gan adael i’r gynulleidfa benderfynu a yw’n haeddu eu sylw ai peidio. Ar y llaw arall, y perygl wrth i awduron gyhoeddi eu cynnyrch eu hunain yn syth i’r dyfeisiau hyn yw na fydd y deunydd yn mynd drwy’r broses olygu fanwl sy’n rhan greiddiol o wasanaeth gweisg a chyhoeddwyr. Fydd Amazon neu Apple ddim yn mynd drwy lyfrau a chylchgronau Cymraeg â chrib mân gan gywiro gwallau, cysoni cywair a thynhau’r plot fel y mae golygyddion y Lolfa neu Golwg yn ei wneud. Heb ddylanwad y gweisg mae yna berygl y gallai safon iaith a chynnwys cyhoeddiadau Cymraeg ddirywio’n sylweddol. Mae yna anfanteision eraill i gyhoeddi’n syth i’r Kindle neu’r iPad. Mae’n wir fod y gost o gyhoeddi’r deunydd yn is am nad oes angen talu am y gwaith argraffu. Ond heb gymorth ariannol y Cyngor Llyfrau – sy’n cael ei rannu ymysg y cyhoeddwyr – o ble y bydd yr awduron yn cael yr arian i ysgrifennu? Hyd yn oed o hawlio 70% o’r breindaliadau, prin iawn y gallai awdur neu gwmni sydd eisiau cyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg oroesi heb nawdd o ryw fath. Sgil-effaith ddiddorol arall dyfodiad teclynnau darllen digidol yw ei fod wedi taflu dwr oer ar un o ymgyrchoedd mwyaf dadleuol yr iaith Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2008 roedd y frwydr o blaid sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg yn ei hanterth. Pan gyhoeddwyd mai at sefydlu gwasanaeth Cymraeg ar y we y byddai arian y llywodraeth yn mynd roedd gwrthwynebiad gan garfan sylweddol. Tan yn ddiweddar roedd gan gylchgronau neu bapurau newydd print a gwefannau rinweddau pur wahanol. Y mwyaf amlwg yw bod erthyglau mewn print yn tueddu i fod yn hirach. Bydd darllenydd Barn yn darllen sawl erthygl dros 1,000 o eiriau, ond mae’n annhebyg iawn y byddai rhywun ar y we yn gwneud hynny – mae erthyglau ar wefan Golwg 360 yn agosach at 200–500 o eiriau. Am sawl rheswm, mae cyfnod canolbwyntio darllenydd sy’n syllu ar y sgrin yn is o lawer. Un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd erbyn hyn yw Twitter, lle mae negeseuon wedi eu cyfyngu i 140 o lythrennau’n unig. Dadl gref y rheini sydd am weld papur dyddiol Cymraeg yw nad yw gwefannau o’r fath, am eu bod nhw wedi eu teilwra i arferion diamynedd y darllenydd ar y we, yn gallu trafod pynciau’r dydd yn yr un dyfnder ag y byddai papur newydd print. Ond yn sgil datblygu cyfrifiaduron sgrin fflat fel yr iPad a’r Kindle mae hynny wedi newid - mae’r ffin rhwng print a’r cyfryngau digidol wedi mynd gryn dipyn yn fwy niwlog. Mae’r dyfeisiau hyn wedi cyfuno rhinweddau papurau newydd a chylchgronau print â theclynnau digidol. Maen nhw’n fach ac yn ysgafn; maen yn cael eu dal yn y dwylo yn hytrach na’u gosod ar fwrdd; mae ganddyn nhw sgrin glir nad yw’n brifo’r llygad; ac mae modd troi’r ‘dudalen’ gydag un glic, neu drwy wasgu ar y sgrin - profiad tebycach i ddarllen papur newydd neu lyfr na rhythu ar sgrin cyfrifiadur. Golyga hyn nad oes raid bellach ddewis rhwng papur newydd dyddiol a gwefan. Erbyn hyn mae modd darllen papur newydd dyddiol sydd wedi ei lawrlwytho o’r we ar declyn darllen digidol, sydd yr un mor hwylus i’w ddefnyddio â phapur newydd go iawn (ond peidiwch â cheisio llenwi’r croesair). Mae’n anodd credu y byddwn ni’n gweld darllenwyr yn cefnu’n llwyr ar fersiynau printiedig cylchgronau gan gynnwys Golwg a Barn, na chwaith yn troi’n gyfan gwbl at e-lyfrau gan adael llyfrau papur i bydru ar y silffoedd (neu yn nyfnderoedd isaf y Llyfrgell Genedlaethol, fel y proffwydodd Fflur Dafydd yn y nofel a enillodd Wobr Daniel Owen yn Eisteddfod 2009). Wedi’r cwbl roedd llawysgrifau yn parhau i gael eu creu a’u darllen ymhell ar ôl dyfodiad yr argraffwasg. Proses nid digwyddiad yw symud o’r naill dechnoleg i’r llall. Ond does dim dwywaith nad yw ap Golwg ac e-lyfrau’r Lolfa wedi dechrau’r broses o ddifrif. Dyma’r dyfodol ac fe fydd yn rhaid i gyhoeddwyr ac awduron llyfrau a chylchgronau Cymraeg addasu i’r hinsawdd newydd. Beth yw ‘app’? Talfyriad o’r gair Saesneg ‘application’ yw ‘app’, enw cyffredinol am unrhyw feddalwedd sy’n caniatáu i’r defnyddiwr gyflawni tasg benodol ar ei gyfrifiadur (bydded ar ffurf ffôn/tablet/neu sgrin a bysellfwrdd traddodiadol). Ond mae’n tueddu i gael ei ddefnyddio yng nghyd-destun meddalwedd lawrlwythadwy ar gyfer dyfais iPhone, iPod ac iPad cwmni technoleg mwyaf y byd, Apple. Mae bron i 100 o appiau o’r fath eisoes ar gael yn y Gymraeg – y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddigon syml. Ymysg y gorau mae cynnyrch S4C, gan gynnwys app Cyw i Blant, a’r iSteddfod, app sy’n tywys o ddefnyddiwr o un stondin i’r llall yn y brifwyl. Am ragor o hwyl gellir rhoi tro ar Gerrig Peryg, gêm Gymraeg ar ffurf app a grëwyd gan gwmni Griffilms o Gaernarfon. Ap Golwg yw un o’r mwyaf blaenllaw hyd yma. Mae’n caniatáu i’r defnyddiwr lawrlwytho’r copi diweddaraf o’r cylchgrawn i’w ddyfais darllen bob wythnos wrth iddo gael ei gyhoeddi. Un datblygiad ieithyddol diddorol yw bod Golwg wedi penderfynu cael gwared ar un ‘p’ o ‘app’. Mae’n siwr mai ymgais i Gymreigio’r gair yw hynny – ond hoffwn feddwl ei fod hefyd yn awgrymu mai’r fersiwn digidol newydd yma yw mab, ac etifedd, y cylchgrawn print! ********************************************************************** Er bod Ifan Morgan Jones yn gyn-olygydd Golwg 360 ni fu ganddo unrhyw ran yn y gwaith o ddatblygu ap Golwg ac nid yw’n siarad ar ran cwmni Golwg yn yr erthygl hon.
|