| Addoli Ddoe ar Draul Heddiw |
|
|
|
|
Richard Wyn Jones Cymru newydd angen mudiad iaith newydd Ydi Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu yn y modd mwyaf effeithiol bellach dros y Gymraeg? Neu a yw ffigyrau amlwg o’i gorffennol yn ymgysuro’n ormodol yn chwedloniaeth y mudiad gan droi tu min tuag at gyfeillion a’u cyhuddo o fod yn elynion?
Wedi’r cadarnhad diweddaraf bod y Gymraeg yn parhau i golli tir yn frawychus o gyflym – sef y newyddion o gyfeiriad Bwrdd yr Iaith bod 3,000 y flwyddyn yn llai o siaradwyr Cymraeg rhugl – mae cwestiwn syml yn codi. Yn wyneb yr argyfwng sy’n parhau o ran sefyllfa’r Gymraeg a ydym yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r cyfleoedd sydd ar gael i adfer ei sefyllfa ac i hybu ei defnydd? Mae sawl gwedd i hyn, wrth reswm. Gallwn ofyn y cwestiwn mewn perthynas â’n bywydau pob dydd. Yn ein gweithleoedd. Yn y gwahanol beuoedd cymdeithasol yr ydym yn rhan ohonynt. Gallwn hefyd ofyn y cwestiwn ar y gwastad cymdeithasol a gwladwriaethol hefyd: a ydym yn gwneud digon i sicrhau bod polisi cyhoeddus yn diogelu a dyrchafu’r Gymraeg? Pa mor effeithiol ydym yn troi ein hymrwymiad fel carfan nid ansylweddol o unigolion sy’n ein hystyried ein hunain yn garedigion, ynghyd â’r ewyllys da di-ben-draw, bron, a geir ymhob rhan o Gymru tuag at y Gymraeg, yn enillion diriaethol? Un peth ydi gofyn cwestiynau o’r fath. Peth arall, wrth gwrs, yw eu hateb. Ar hyn o bryd mae un rhwystr amlwg iawn i drafodaeth gall ac aeddfed ynglyn â’r agweddau cymdeithasol a gwladwriaethol y cyfeiriais atynt eisoes. Cyfeiriaf yn benodol at agwedd rhai o ffigyrau amlycaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. * * * Ers ymron i hanner canrif bu gan y Gymdeithas rôl gwbl unigryw ym mywyd y Gymru Gymraeg. Trwy ei gweithgareddau, ac efallai’n bwysicach fyth, trwy gyfrwng y fytholeg a ddatblygodd o gwmpas y gweithgareddau hynny, gwnaeth y Gymdeithas gyfraniad anfesuradwy i hunanhyder y sawl sy’n medru’r Gymraeg. Treiddiodd yr hyder newydd yn ei dro drwy Gymru benbaladr. Yn sicr, mae’n anodd iawn credu y byddai miloedd dirifedi o rieni di-gymraeg yn heidio i anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg oni bai bod cyfran sylweddol o Gymry Cymraeg wedi meiddio credu bod gwerth i iaith a diwylliant a ddiraddiwyd ac a ddirmygwyd cyhyd. Yn naturiol ddigon, mae’r Gymdeithas am ddathlu hyn. Dros y misoedd nesaf cawn glywed llawer am lwyddiannau’r hanner canrif ddiwethaf. Ac yn wir mae llawer iawn sy’n werth ei gofnodi a llawer iawn y mae’n briodol diolch amdano. Felly Amen i ddathlu o’r fath. Mae’r Gymdeithas yn haeddu ei chanmol a’i chlodfori. Ond mae’r rôl ganolog a chwaraeodd y Gymdeithas dros y blynyddoedd hefyd yn creu sgil-effaith arall, un y mae rhai o wynebau cyfarwydd y mudiad yn llawer iawn llai cyffyrddus yn ei gylch. Hi fu ac sydd ar flaen y gad. Gan hynny mae unrhyw drafodaeth o effeithiolrwydd yr ymdrechion presennol i hybu’r Gymraeg ar y gwastad cyhoeddus yn rhwym o droi o amgylch gwerthusiad o’i gweithgaredd cyfoes. Mae’n amlwg mai dim ond un canlyniad sy’n dderbyniol wrth bwyso a mesur y rheini: mabwysiadu’r cywair dyrchafol er mwyn canu clodydd y Gymdeithas. Yr unig ‘feirniadaeth’ sy’n dderbyniol yw na cheir digon o’r nodweddion hynny y daeth selogion y Gymdeithas i’w gwisgo fel clogyn amdanynt. Felly mwy o ‘ymdrech’ ac yn bennaf oll, mwy o ‘aberth’ sydd eu hangen. Nid ‘beirniadaeth’ mo hyn mewn gwirionedd, wrth gwrs, ond yn hytrach cadarnhad fod y Gymdeithas eisoes ar y trywydd cywir. Ond beth am y rheini sy’n dod i gasgliadau annerbyniol? Y rheini sy’n pwyso a mesur ac yn penderfynu nad yw ymdrechion presennol y Gymdeithas mor effeithiol ag y dylent fod ac y gallent fod? Gwaetha’r modd, y caswir amdani yw mai buan iawn y daw’r rheini’n darged ymosodiadau ad hominem – ymosodiadau personol. Felly dros yr wythnosau diwethaf gwelwyd Angharad Tomos a Siân Howys yn mynd ati i ddilorni’n gyhoeddus yr ‘academyddion a chyfreithwyr’ (chwedl yr ail ohonynt) sydd wedi meiddio awgrymu na lwyddodd y Gymdeithas i addasu nac achub yn llawn ar y cyfleoedd newydd a grëwyd i hybu’r Gymraeg gyda sefydlu Deddfwrfa a Llywodraeth Gymreig. Rwan nid yw wastad yn eglur pwy’n union a gondemnir i golledigaeth gan Angharad a Siân. Simon Brooks a minnau, bid siwr. Dau wr drwg. Heini Gruffudd hefyd. Nid wyf yn gwbl sicr a yw Huw Lewis, gwr a fu’n Gadeirydd penigamp ar y Gymdeithas, hefyd yn cael ei ystyried yn ddafad ddu? Ond os nad yw’n hynny eto, ac yntau bellach yn mynegi syniadau peryglus o eiconoclastaidd, buan y caiff ei daflu o’r gorlan. Ac o ran cyfreithwyr, wel dim ond Emyr Lewis, am wn i, allai fod yn darged eu dirmyg. Ie, wyddoch chi, y dyn hwnnw sydd mor enwog am ei agwedd lugoer tuag at y Gymraeg. Un peth sy’n gyffredin am y criw digon brith yma yw ein bod i gyd wedi bod wrthi’n ddiweddar, mewn gwahanol gyd-destunau, yn cynorthwyo neu yn cydweithio efo’r Gymdeithas mewn amryfal ymgyrchoedd. Simon Brooks, er enghraifft, yn yr ymdrech i ddiogelu darlledu cyfrwng Cymraeg. Felly mae’n anodd credu, dybiwn i, ein bod wedi dweud yr hyn a ddywedwyd gennym oherwydd agwedd wrthnysig neu elyniaethus tuag at y Gymdeithas. Neu’n wir ein bod wedi cael ein llyncu gan ‘y sefydliad’ bondigrybwyll. Yn anodd, hynny yw, oni bai eich bod yn un o hoelion wyth y Gymdeithas. Oblegid iddynt hwy, ymddengys mai’r unig eglurhad posibl yw rhyw wendid cymeriadol neu bersonol. Ni ellir, ar unrhyw gyfrif, drafod sylwedd ein dadleuon. Rhaid estyn yn hytrach am y ddadl ad hominem. * * * Wrth gwrs, mae mwy nag un ffrwd oddi mewn i’r Gymdeithas. Mae unigolion yn y rhengoedd sydd wedi ceisio defnyddio’r cyfleoedd a grewyd gan ddatganoli i geisio lobïo ac wedi mwynhau llwyddiannau wrth wneud hynny. Meddylier, er enghraifft, am ymdrechion rhai o aelodau’r Gymdeithas wrth osod seiliau’r Coleg Cymraeg. Yn wir, yn Colin Nosworthy mae’r Gymdeithas yn meddu ar swyddog lobïo gwirioneddol ardderchog. Hyd yn oed os yw prif ymdrechion y mudiad wedi eu hanelu i gyfeiriadau eraill, mae ef yn gwneud gwaith pwysig. Ond y cwestiwn (ag ailadrodd) yw hyn: faint mwy y gellid ei gyflawni yn awr ein hangen petai rhagor o ymdrechion y Gymdeithas yn cael eu troi i gyfeiriad gwaith o’r fath? Petai mwy o adnoddau’r Gymdeithas yn cael eu cyfeirio at y dasg honno? Cofier hyn hefyd: er bod y ffynnon, yn ôl a ddeallaf, yn prysur sychu, bu’r blynyddoedd diwethaf yn flynyddoedd o ddigonedd i’r Gymdeithas o ran adnoddau ariannol ar ffurf ewyllys ariannol hael a ddaeth i’w rhan. A wnaed y gorau o’r adnoddau hynny? Neu a ydynt, yn hytrach, wedi eu dihysbyddu wrth geisio cynnal chwedloniaeth fewnol y mudiad? Sef ei fod yn fudiad cymdeithasol torfol wedi ei wreiddio mewn cymunedau daearyddol. Chwedloniaeth sy’n cael ei chynnal gan afael ancien régime, hen oruchwyliaeth, o selogion sy’n atgoffa’r to sy’n codi o sut oedd hi (medden nhw) yn nyddiau chwyldroadol y 1960au a’r 70au. Un ymateb i’r rhwystredigaeth a geir ynglyn ag amharodrwydd y Gymdeithas i drafod, heb sôn am herio’r hen ragdybiaethau a’r credoau a waelododd mor ddwfn oddi mewn iddi, yw’r ystyriaeth bresennol a roddir i’r posibilrwydd o greu mudiad iaith newydd. Mudiad a fyddai’n canolbwyntio ei egnïon ar achub ar y cyfleoedd a geir trwy ein sefydliadau gwleidyddol (ddim mor newydd â hynny bellach) i wneud tro da â’r iaith. Efallai’n wir mai dyna’r unig opsiwn. Gan y Gymdeithas mae’r hanes; gan y Gymdeithas mae’r cronfeydd o ewyllys da; gan y Gymdeithas mae’r adnoddau a’r peirianwaith; gan y Gymdeithas mae’r ‘brand’ cyfarwydd. Yn rhengoedd y Gymdeithas hefyd y ceir unigolion sydd wedi dangos gallu i lobïo’n effeithiol. Byddai cychwyn o’r newydd heb yr etifeddiaeth honno yn golled. Byddai hynny, yn ei dro, yn golygu bod yr ymdrechion i adfer a hybu’r iaith ar y gwastad cyhoeddus yn llai effeithiol nag y gallent fod. Ond lles y Gymraeg yw’r unig linyn mesur o bwys yn y pen draw. Mae gennym un cyfle olaf i osod ymatebion ad hominem diflas Cymdeithas yr Iaith o’r neilltu a chydweithredu. O wneud hynny gellir creu mudiad iaith sydd, er yn falch o’r hyn a gyflawnwyd yn y gorffennol, hefyd yn ddigon dewr i gydnabod bod Cymru wedi newid. A bod sefyllfa’r iaith wedi newid. A bod y posibiliadau gwleidyddol sy’n bodoli bellach yn wahanol. Onid yw hi’n hwyr glas ymateb yn gadarnhaol i’r holl newidiadau hynny? |