• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Iau 23 Mai 2013
Ethol Leanne – Cam Beiddgar PDF Argraffu Ebost
Richard Wyn Jones

Cafodd Leanne Wood fuddugoliaeth ysgubol ond mae sawl her aruthrol yn ei hwynebu fel arweinydd newydd Plaid Cymru.

‘If you really want to get on in the Blaid [noder, byth “Plaid”] you need to be a perpetual learner. That way, as long as you’re making the effort to learn, Welsh speakers will want to do all they can to encourage and support you. And so long as you haven’t quite mastered it yet then English speakers won’t think that you’ve abandoned them either!’

 

Yn ystod yr ymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru cefais fy atgoffa droeon o’r hyn a ddywedodd y diweddar Phil Williams wrthyf, flynyddoedd yn ôl bellach. Yn nhyb nifer o wahanol ohebwyr a sylwebwyr, byddai’r ffaith nad yw Leanne Wood yn rhugl ei Chymraeg yn anfantais sylweddol iddi yn y ras i olynu Ieuan Wyn Jones. Dim ffiars o beryg. Gyda’i ddireidi nodweddiadol, Phil oedd wedi crisialu’r gwirionedd ynglyn â lle’r Gymraeg yng ngwleidyddiaeth fewnol ei blaid. Er na ellir fyth profi’r peth y naill ffordd neu’r llall, rwy’n gwbl argyhoeddedig fod ymddangosiad Leanne Wood ar CF99 wedi rhoi hwb mawr iawn i’w hymgyrch ryfeddol o lwyddiannus i gipio’r awenau. Mae dysgwyr yn mwynhau statws dyrchafedig ymysg cenedlaetholwyr sy’n Gymry Cymraeg.

Myth arall a ddylai fod yn gelain wedi cyhoeddi’r canlyniad yw hwnnw sy’n haeru bod aelodau’r Blaid, yn yr hen Wynedd yn arbennig, rywsut neu’i gilydd yn geidwadwyr ‘g’ fach. O gofio mai pleidiau ar chwith y sbectrwm ideolegol – Llafur a’r Rhyddfrydwyr – a gollodd fwyaf o dir wrth i’r Blaid gamu ’mlaen yn yr ardaloedd hynny, yr wyf wastad wedi cael hon yn dybiaeth od ar y naw. Gyda Leanne Wood bellach wedi ennill canran mor uchel o’r bleidlais ar hyd ac ar led Cymru, siawns na ellir disgwyl sylwebaeth ychydig yn fwy soffistigedig o hyn ymlaen. Prin iawn ydi’r gwahaniaethau ideolegol yn rhengoedd Plaid Cymru, ac yn sicr nonsens ydi’r awgrym fod yna wahaniaethau sylfaenol rhwng y gwledig a’r trefol; y gogledd a’r de.

* * *

Wrth gyflwyno mandad mor drawiadol i Leanne Wood – mandad o faintioli digon tebyg i’r un a gyflwynwyd i Carwyn Jones gan aelodau’r Blaid Lafur yng Nghymru pan olynodd yntau Rhodri Morgan – gwnaeth aelodau Plaid Cymru gymwynas sylweddol â’u harweinydd newydd a’i phlaid fel ei gilydd. Nid oes unrhyw gwestiwn o gwbl am ddilysrwydd y fuddugoliaeth. Yn wahanol i Ed Miliband neu Andrew R.T. Davies, i enwi dim ond dau, ni fydd yn rhaid i Leanne Wood edrych dros ei hysgwydd a phoeni am ryw dywysog neu dywysoges y tu hwnt i’r dyfroedd. O safbwynt ei phlaid ei hun o leiaf, caiff rwydd hynt. Bydd yn flynyddoedd maith cyn y gall unrhyw un feiddio herio ei hawdurdod.

Gwneud pethau’n haws yn hytrach nag yn hawdd fydd hyn, wrth gwrs. Ni ellir gorbwysleisio maint yr her sydd yn ei wynebu wrth ennill ei phlwyf fel arweinydd y Blaid. Yn un peth, bydd y disgwyliadau o ran ei hamser a’i hegnïon yn anghymharol fwy nag y buont erioed o’r blaen. Yn hyn o beth bydd gallu swyddogion llawn amser y Blaid yn Nhy Gwynfor i greu fframwaith sy’n cynnal ei breichiau ac yn ei galluogi i gyfeirio ei hymdrechion yn effeithiol – ynghyd â pharodrwydd Leanne Wood ei hun i achub ar y gefnogaeth a gynigir iddi – yn gwbl allweddol. Fel y ceisiais awgrymu yn y golofn hon ddau fis yn ôl, nid wyf yn credu bod hynny wedi digwydd yn llwyddiannus yn ystod cyfnod Ieuan Wyn Jones fel Dirprwy Brif Weinidog. Tybed yn wir a ddysgir unrhyw wersi o’r profiad hwnnw?

Ni ddylid chwaith fyth anghofio y bydd Leanne Wood dan bwysau arbennig oherwydd ei bod yn ddynes gymharol ifanc sy’n mynd i’r afael â rôl y mae ein disgwyliadau yn ei chylch yn parhau’n sobor o wrywaidd. Oherwydd hyn bydd materion na ddylai fod yn destun sylw o gwbl yn cael eu gosod dan y chwyddwydr, megis ei dillad a’i phryd a gwedd. Bydd angen cefnogaeth ehangach nid yn unig aelodau’r Blaid, ond y dosbarth gwleidyddol Cymreig drwyddo draw, os yw’n mynd i ddygymod â hyn. Cawn weld os caiff ei haeddiant. Yn sicr mae’r driniaeth warthus a dderbyniodd Elin Jones dros yr wythnosau diwethaf yn tanlinellu pa mor bell sydd gennym yn weddill i’w deithio er gwaetha’r holl frolio hunanfodlon ynglyn â’r bri arbennig a roddir i gydraddoldeb yn ein hegin-wladwriaeth Gymreig.

* * *

Bydd yr her bersonol i Leanne Wood yn sylweddol iawn. Ond mae’r her o ran llywio’r Blaid lawer yn fwy na hynny, wrth gwrs. Mae dau ysgolhaig amlwg ym maes gwleidyddiaeth gymharol – yr Almaenwr Wolfgang Müller a’r Norwywr Kaare Strøm – wedi cynnig fframwaith cysyniadol er mwyn deall ymddygiad pleidiau gwleidyddol.* Gellir cymhwyso’r fframwaith at Blaid Cymru er mwyn deall aruthredd y dasg sydd bellach o’i blaen.

Yn ôl Müller a Strøm mae pleidiau’n ceisio cydbwyso tri nod: gweithredu polisïau, sicrhau swyddi llywodraethol ac ennill pleidleisiau. Y broblem a’r her i wleidyddion yw bod cydberthynas y tri mor astrus o gymhleth. Yn aml ac, efallai, yn amlach na pheidio gall cynnydd i gyfeiriad un ohonynt olygu colli tir mewn perthynas ag un neu ragor o’r lleill. Fel y gwyr Nick Clegg yn burion! Yn wir, fel y daw’n amlwg o astudiaethau’r ddau ysgolhaig, mae pleidiau llai sy’n dyfod yn rhan o lywodraethau clymblaid yn wynebu peryglon arbennig.

O’i hystyried mewn fframwaith o’r fath gwelir fod record Plaid Cymru yn ystod cyfnod arweinyddiaeth Ieuan Wyn Jones yn un ddigon anrhydeddus. Cafwyd enillion polisi sylweddol iawn: pe na bai senedd ddeddfwriaethol, sicrhau statws cydradd i’r Gymraeg ac ati’n ddigon, chwaraeodd y Blaid rôl ganolog mewn proses a welodd symud ‘tir canol’ gwleidyddiaeth Cymru i gyfeiriad cenedlaethol Gymreig. Yr ydym i gyd bellach yn rhyw lun ar ‘Welsh Nash’. A daeth Plaid Cymru’n rhan o lywodraeth am y tro cyntaf erioed – cam allweddol yn hanes unrhyw blaid wleidyddol. Y methiant, wrth gwrs, oedd o ran sicrhau pleidleisiau. Eto, hyd yn oed mewn perthynas â’r nod hwnnw, mae angen amodi’r feirniadaeth: y ffaith ryfeddol am etholiad 2011 yw fod Plaid Cymru wedi parhau’n blaid boblogaidd ymysg yr etholwyr. Y broblem oedd na lwyddwyd i droi ewyllys da’n bleidleisiau. Problem go fawr i blaid mewn cyfundrefn ddemocrataidd, bid siwr. Ond mae ewyllys da’n well sail i ailadeiladu arni na chasineb neu ddirmyg. Er mwyn cadarnhau’r pwynt, gweler unwaith yn rhagor blaid Nick Clegg.

* * *

Eto, hyd yn oed os bydd yr ewyllys da’n parhau – a go brin y dylid cymryd hynny’n ganiataol – nid oes le i ddisgwyl y bydd, ryw sut, ryw fodd, yn rhwym o droi’n bleidleisiau yn y man. Gyda’r Blaid Lafur Gymreig wedi adennill ei hyder, wedi cipio mantell y blaid sy’n amddiffyn Cymry rhag y bwci-bo Llundeinig, ac yn cael ei harwain gan wr sy’n amlwg yn taro tant â’r etholaeth Gymreig, mae cystadleuaeth boeth ar gyfer etholwyr y canol-chwith gwlatgar. Yn wir, nid dim ond Carwyn Jones sy’n taro tant. Mae cydnabod y modd y mae Llafur Cymru’n llwyddo i ymgorffori’r zeitgeist Cymreig – gyda rhethreg wladgarol (gor)deimladwy yn cyd-fyw ochr yn ochr ag ofnusrwydd a cheidwadaeth o ran yr agenda bolisi – yn tanlinellu aruthredd yr her etholiadol sy’n wynebu Plaid Cymru, ac yn enwedig y rheini yn y Blaid sy’n parhau i gredu mai eu priod waith yw cymryd lle Llafur fel plaid wleidyddol fwyaf Cymru. Yn hyn o beth efallai ei fod yn werth cofio mai fel lefain yn y blawd yr oedd Phil Williams yn synio am rôl Plaid Cymru (‘the job of the Blaid is to persuade Labour to give us our independence...’).

Nid yw’r rhagolygon yn fwy golau wrth droi at y ddau nod arall chwaith.

O ran polisïau, y broblem ar hyn o bryd yw nid anallu’r blaid i ddylanwadu ar yr agenda bolisi ond yn hytrach y ffaith nad oes gan y Blaid agenda bolisi sy’n haeddu’r enw – neu dyna o leiaf a awgrymir gan y Maniffesto tila a gyhoeddodd ar gyfer etholiad 2011. Gwir yw dweud, ers hynny, bod y ddogfen safonol ar bwerau trethiannol a gyflwynodd Ty Gwynfor i Gomisiwn Silk yn awgrymu bod yna rywrai sydd o ddifrif am wneud iawn am fethiannau misoedd olaf 2010 a misoedd cyntaf 2011. Yn wir, mae’r modd y canolbwyntiodd ymgyrchoedd Leanne Wood ac Elin Jones, fel ei gilydd, ar yr angen i fynd i’r afael o ddifrif â phroblemau economaidd dybryd Cymru yn awgrymu bod yna bellach gonsensws cyffredinol ynglyn â’r hyn a ddylai ddenu prif sylw’r Blaid. Ond un peth ydi dweud bod angen polisïau economaidd sy’n cyfuno’r beiddgar a’r credadwy; peth arall ac anos o lawer yw dyfeisio’r cyfryw bolisïau. Os maddeuer i mi am fod ychydig yn ffwrdd-â-hi; petai’n fater syml, siawns na fyddai rhywun wedi gwneud hynny’n barod. A fyddai economi rhannau o Gymru ddim bellach wedi disgyn i lefel rhannau o Rwmania. Eto, heb agenda bolisi o’r fath, gyda’r agenda cyfansoddiadol yn prysur ddatblygu ei agenda ei hun trwy gyfrwng Silk, mae’n anodd gwybod beth fydd cyfraniad polisi unigryw Plaid Cymru. I’m tyb i, o leiaf, llunio agenda bolisi newydd yw her fwyaf y blynyddoedd nesaf.

Rôl sicrhau swyddi llywodraethol yng nghenhadaeth y Blaid oedd yr elfen fwyaf siomedig o’r ymgyrch arweinyddol. Ar y naill law, ceid Dafydd Elis-Thomas a oedd fel petai’n awgrymu y dylid bod yn rhan o lywodraeth doed a ddelo, costied a gostied. Ar y llaw arall, yr oedd Leanne Wood ac Elin Jones fel petaent ill dwy’n gwrthod unrhyw bosibiliad o fynd i lywodraeth efo Llafur yn ystod cyfnod y Cynulliad Cenedlaethol presennol. I’r graddau yr oedd unrhyw wahaniaeth rhyngddynt, roedd hwnnw’n ymwneud â’u hagweddau tuag at glymbleidio efo’r Ceidwadwyr rywdro yn y dyfodol. Roedd agwedd oeraidd ar y naw Wood yn ‘cyferbynnu’ efo agwedd lugoer uffernol Jones.

Yr hyn na chafwyd oedd ystyriaeth neu drafodaeth ystyriol o’r amgylchiadau – ac yn bwysicach fyth, yr enillion polisi – a ddeillia o fentro ar glymblaid. Er cael blas ymddangosiadol ar ddylanwad a grym yng nghyfnod Cymru’n Un, ymddengys fod siom Mai 2011 wedi codi’r felan ar Bleidwyr i’r fath raddau nes ei bod yn edifar ganddynt faeddu eu dwylo â realiti cymhleth a blêr llywodraethu. Eto i gyd, gyda chyfundrefn bleidleisio sy’n ei gwneud yn anodd os nad yn amhosibl i unrhyw blaid ennill mwyafrif gweithredol o’r iawn ryw, mae’r cwestiwn o glymbleidio’n rhwym o godi ei ben yn y dyfodol cymharol agos. Efallai, yn wir, ynghynt nag y mae llawer yn ei gredu ar hyn o bryd. Ac os yw Carwyn yn codi’r ffôn, yn erbyn pa ganllaw y bydd Leanne yn mesur unrhyw gynnig?

* * *

Trwy ethol Leanne Wood yn arweinydd mae aelodau Plaid Cymru wedi cymryd cam beiddgar. Trwy gyflwyno clamp o fandad iddi, maent wedi rhoi’r cyfle gorau posibl iddi wneud ei marc. Ond gyda chymaint o waith meddwl ac ailfeddwl sylfaenol i’w wneud, dechrau’r daith yn unig oedd ei buddugoliaeth. Mae’r Blaid yn ffodus odiaeth fod Leanne Wood yn sylweddoli hynny’n well na neb.

 

*Wolfgang Müller a Kaare Strøm, Policy, Office, or Votes? How Political Parties in Western Europe Make Hard Decisions (Caergrawnt, 1999)