• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 19 Mehefin 2013
Mici Mows + Mistar Urdd = Anifail Annhebygol... PDF Argraffu Ebost
Beca Brown

Feddyliais i erioed y byddai gofyn imi fynd i brifddinas Ffrainc ac i sefydliad Americanaidd er mwyn gweld Cymreictod yn cael sbloets a sioe. A feddyliais i chwaith y byddai parc gwyliau sy’n moli diddordeb y mwyafrif ac yn pedlera adloniant poblogaidd yn rhoi’r fath fri i ddiwylliant lleiafrifol, gan roi llwyfan ar yr un pryd i gongol lai fyth o’r lleiafrif hwnnw, sef aelodau’r Urdd.

Ond dyna ddigwyddodd – am benwythnos o leia’ – ar hyd strydoedd anaturiol o lân Disneyland Paris fis dwytha’, pan aeth pump enillydd o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2011 allan i Ffrainc i ganu mewn cyngherddau Gwyl Ddewi yno. Er bod y berthynas annhebygol yma rhwng yr Urdd a Disney yn bodoli ers tair blynedd bellach, ychydig o sylw y mae’r tripiau blynyddol yma wedi eu cael ar y cyfan, gyda llai fyth o fanylion yn hysbys am beth yn union sy’n digwydd yn y ‘Disneyland Paris St. David’s Day Welsh Festival’.

Mae ’mhlant i wedi ymhel â steddfodau’r Urdd ers rhai blynyddoedd bellach, ond doedd yr un ohonom ni fawr callach am y nawdd y mae Disney yn ei roi i enillwyr pump cystadleuaeth bob blwyddyn, nac yn deall rhyw lawer am ei bwrpas na’i werth. Dipyn o niwsans ydi’r holl beth ar yr olwg gynta, gan bod dyddiadau steddfodau Cylch a Sir yn gorfod cael eu newid yn bur aml, fel bod y noddedig rai yn medru mynd i Baris i ganu ym mis Mawrth, heb golli’r cyfle i gystadlu yn rowndiau cyntaf y steddfod nesa. Dipyn o gur pen i ambell drefnydd dwi’n siwr, a hynny er mwyn plesio’r Ffrancwyr... zut alors!

Ond mi ges i brofiad uniongyrchol o’r sbloets swreal yma ’leni, gan bod fy mab ymhlith yr enillwyr a aeth allan i Disneyland i ganu. Dydan ni ’rioed wedi addoli rhyw lawer wrth allor y llygoden enwog a’i lys, felly dipyn o sinig oedd yma yn pacio bagiau’r plant cyn mynd i Baris am dair noson mis dwytha.

Amser rhydd i fwynhau’r reids oedd y diwrnod cyntaf inni, os ‘mwynhau’ ydi’r gair hefyd. Person bôring iawn ydw i sydd ddim balchach o gael ei droelli ben-i-waered yn enw ‘hwyl’ ar ôl ciwio am hydoedd am y fraint, felly dyma is-gontractio’r plant i ofal teulu arall llai bôring am ychydig oriau. Roedd Disneyland ei hun rwbath yn debyg i’r hyn ro’n i wedi ei ddychmygu: yn un siwgwr-almwnd mawr, ffantasïol lle mae popeth yn sgleinio a phawb yn gwenu.

Anifail pur wahanol – ac un annisgwyl iawn – oedd y dydd Sadwrn. Oedd, roedd popeth yn dal i sgleinio a phawb yn dal i wenu, ond ochr-yn-ochr â chymeriadau un o frands cyfoethocaf a mwyaf adnabyddus y byd, roedd ’na frethyn a chennin pedr, wisgi Penderyn a Myfanwy. Roedd Mickey a Minnie yn y wisg draddodiadol – ein un ni, hynny yw – ac yn cadw cwmni iddyn nhw ar barêd mawreddog drwy ganol y parc roedd pump o blant o Gymru, yn eu hwdis Mr Urdd. Roedd ’na dân gwyllt dros y castell, a hwnnw’n goch, gwyn a gwyrdd – be’ arall, ynde?

Roedd ’na dri chyngerdd, a’r plant a Chôr y Waun Ddyfal yn canu i bwy bynnag a ddôi yno i’w gweld yn theatr y parc, a’r gynulleidfa a gweithwyr Disney fel ei gilydd yn rhyfeddu at safon y perfformio ac at ymddygiad proffesiynol y plant a’r Côr. Ond ’nôl adra ar dir Cymru, rydan ni’n gwbod yn iawn bod plant a phobol ifanc dawnus fel cachu mewn cae – maen nhw ’mhob man.

Eleni eto, mi fydd y gyfres Britain’s Got Talent yn cyd-daro ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ac mi fydd y wasg Brydeinig yn glafoerio dros ryw berfformwyr digon cyffredin, gan anwybyddu’n llwyr yr holl dalent sydd i’w weld yma yng Nghymru bob blwyddyn, yng ngwyl ieuenctid fwyaf Ewrop.

Sôn am gymryd y Mici.