| Ar Ddu a Gwyn |
|
|
|
|
Andrew Misell Ddeugain mlynedd yn ôl aeth America a Rwsia benben â’i gilydd yn un o frwydrau rhyfeddaf y Rhyfel Oer – dros fwrdd gwyddbwyll yng Ngwlad yr Iâ.
Dywedir weithiau bod gwleidyddion a chadfridogion y ganrif hon yn hiraethu am symlrwydd yr hen Ryfel Oer. Bryd hynny gwyddai dyn pwy oedd ei elyn, a gwyddai fod angen ei guro. Ar wahân i ras arfau nad oedd neb yn debygol o’i hennill, estynnai ysbryd cystadleuol y ddau Arch-bwer i sawl cyfeiriad arall. Yn eu plith roedd gwyddoniaeth a thechnoleg. Ac, wrth gwrs, ras y gofod a’r ymgiprys ffyrnig i fod y cyntaf i osod troed ar y lleuad. Hynod bwysig hefyd o ran goruchafiaeth ryngwladol oedd chwaraeon fel gymnasteg a hoci iâ. A gwyddbwyll. Ni roddai neb fwy o fri ar wyddbwyll na’r hen Undeb Sofietaidd. Amlygai gwyddbwyll ragoriaeth ddeallusol a disgyblaeth ddiwyro’r Dyn Sosialaidd. Yn y blynyddoedd wedi’r Ail Ryfel Byd meithrinid chwaraewyr addawol i gynrychioli eu mamwlad ac i arddangos ei hideoleg gerbron y byd. Un o gynhyrchion hynota’r ffatri wyddbwyll hon oedd y wunderkind Boris Spassky. Yn 18 oed ef oedd yr Uwchfeistr ieuengaf a fu erioed. Erbyn 1969 cyraeddasai’r brig fel Pencampwr y Byd, gan olynu pedwar arall o’i gydwladwyr yn yr uchel swydd honno, mewn llinach a fu’n ddi-dor ers 1948. Nid oedd neb yn ddigon atebol i herio’r Rwsiad o ddifrif, nes i fachgen anhydrin, anghwrtais ond athrylithgar a aned yn Chicago ond a godwyd yn Efrog Newydd benderfynu ei bod yn bryd iddo dorri crib y Sofietiaid. Os rhywbeth, roedd Bobby Fischer yn fwy fyth o ryfeddod na Boris Spassky. Yn 1957 daeth Fischer yn Bencampwr Gwyddbwyll yr Unol Daleithiau, gan ddisodli dyn a oedd 32 o flynyddoedd yn hyn nag ef. Y flwyddyn ddilynol dyrchafwyd ef yn Uwchfeistr. Pymtheg oed yn unig oedd Bobby Fischer ar y pryd. (Roedd Spassky’n 18 oed pan gyflawnodd ef y gamp.) Erbyn dechrau’r 1970au Fischer oedd yr unig chwaraewr o’r Gorllewin a allai ddod o fewn cyrraedd i’r Sofietiaid. Yng nghyd-destun y Rhyfel Oer, ni ellid dychmygu dau wrthwynebydd mwy cynrychioliadol o ddau ethos gwrthgyferbyniol, comiwnyddiaeth a chyfalafiaeth, y cyfundrefnol a’r unigolyddol. Cafodd talent y naill ei meithrin a’i mireinio drwy brosesau hyfforddi manwl a thrwyadl y drefn Sofietaidd. Dysgu ei hun i chwarae gwyddbwyll ar fwrdd y gegin gartref wnaeth y llall. I ddwysáu’r gwahaniaethau ymhellach, nid yr un oedden nhw o gwbl o ran pryd a gwedd ychwaith: Fischer gyda’i gorff hirfain, onglog, a’i lygaid treiddgar; a Spassky gyda’i wyneb garw-olygus a’i das o wallt. Roedd hyn oll yn fêl ar fysedd y cartwnwyr. Gwlad yr Iâ oedd y llwyfan a ddewiswyd ar gyfer yr Ornest Fawr rhwng Spassky a Fischer yng Ngorffennaf ac Awst 1972. Denodd y bencampwriaeth sylw rhyngwladol anferth, ac ystyrid ei chynnal yn anrhydedd mawr i wlad mor fach. Ond nid bendith ddigymysg mohoni. Nid y gost ddybryd ar bwrs y wlad oedd yr unig broblem. Tra swynai Spassky’r ynyswyr, gan roi ei amser a’i lofnod yn ddirwgnach i’w lu o edmygwyr lleol, roedd Fischer yn boendod o’r radd flaenaf o’r dechrau un. Roedd eisoes yn ddrwg-enwog am styfnigo, pwdu, a throi am adref pan na châi ei ffordd ei hun. Bu’n rhaid mewnforio cadair ledr ddrudfawr o Fichigan yn arbennig ar ei gyfer, a thynnu sawl rhes o seddi o’r eisteddle rhag ofn i’r gynulleidfa darfu arno. Lluniwyd bwrdd chwarae hynod grefftus yn unol â’i ofynion. Bu seiri maen lleol yn cerfio pob sgwâr yn gain o slabyn marmor. Ond gwrthododd Fischer ei ddefnyddio. Cyrhaeddodd y twrnamaint ddeuddydd yn hwyr, a bu bron iddo beidio â dod o gwbl nes i’r wobr ariannol gael ei dyblu. Cymaint oedd y ffwdan a greodd Fischer o’i gwmpas nes peri i rai ei gyhuddo o arfer tactegau ‘rhyfela seicolegol’, gan geisio anesmwytho Spassky yn fwriadol â’i ymddygiad afresymol. Roedd ymateb Fischer yn nodweddiadol drahaus. ‘Dwi ddim yn credu mewn seicoleg,’ meddai, ‘Dwi’n credu mewn symudiadau da.’ Bwriadol neu beidio, roedd yn eglur fod Fischer wedi mynd dan groen Spassky a’i dîm. Fe awgrymon nhw’n gyhoeddus fod yr Americanwyr yn defnyddio ‘dyfeisiadau electronaidd neu sylweddau cemegol’ i wanhau eu dyn nhw. Pan aed ati i chwarae o’r diwedd collodd Fischer y gêm gyntaf am ei fod wedi gwneud camgymeriad amaturaidd o ffôl. Fforffedodd yr ail gêm heb symud darn am ei fod yn gwrthod chwarae yng ngwydd y camerâu. Wedi iddo adael i ddwy gêm lithro o’i afael mor rhwydd, roedd rhai’n poeni ei fod yn dechrau colli arno ei hun. Ond gellid amau, bron, bod Fischer wedi dewis rhoi ei hun yn y fath dwll yn fwriadol er mwyn dangos ei ddawn. Wrth iddo gynyddu’r pwysau ar Spassky mewn gêm ar ôl gêm, tro’r Rwsiad oedd hi i faglu. Diflannodd mantais gynnar Spassky fel gwlith y bore. Dim ond un gêm arall a enillwyd ganddo trwy gydol y gyfres gyfan. Wedi 21 gêm roedd y cyfan drosodd. Gyda thair buddugoliaeth i Spassky, saith i Fischer, ac un gêm ar ddeg yn gyfartal, roedd yr Americanwr wedi casglu digon o bwyntiau i gipio’r goron. Wrth i Spassky hel ei bac i ddychwelyd i Foscow, ymffrostiodd rhai bod Fischer wedi ennill buddugoliaeth fawr dros ddemocratiaeth ac yn erbyn gormes ac unffurfiaeth y peiriant Sofietaidd. Ond roedd y gwirionedd yn fwy cymhleth o lawer na hynny. Ac yntau wedi goroesi gwarchae Leningrad yn blentyn yn yr 1940au, roedd Spassky yn ymgorfforiad allanol o’r arwr Sofietaidd. Ond roedd ymhell o fod yn batrwm o burdeb Comiwnyddol. Fwy nag unwaith bu bron iddo fynd i drafferthion difrifol gyda’r KGB oherwydd ei agweddau ‘bwrgeisiol’. Yn y diwedd, bu’n rhaid i’r awdurdodau adael iddo fyw yn Ffrainc – braint anarferol iawn – gymaint oedd eu pryder y dihangai i’r Gorllewin am byth. (Yn 74 oed, yno y mae Spassky o hyd, yn gourmet ac yn storïwr o fri.) Yn achos Fischer, er ei hoffter pan oedd ar y brig o fytheirio yn erbyn drygau’r ‘Rwsiaid celwyddog, twyllodrus’ a rhamantu am ‘fuddiannau fy ngwlad’, nid oedd yntau’n chwarae dros neb ond Bobby Fischer. Ond beth bynnag oedd ei wir gymhellion, daeth Fischer yn arwr cenedlaethol ac yn seren ryngwladol. Drwy ei berfformiadau ef yn anad neb, fe ddaeth gwyddbwyll yn cwl. Ysbrydolodd genhedlaeth newydd o chwaraewyr yn yr Unol Daleithiau a thu hwnt. Ond roedd y natur unblyg ac ynysig a’i galluogodd i ganolbwyntio’n llwyr ar y gêm yn felltith i Fischer yn y pen draw. Collodd gyfeillion wrth iddo fynd yn fwyfwy ecsentrig. Yn waeth na dim, dechreuodd ddweud pethau ysgubol o wrth-Iddewig ar goedd. Âi hefyd yn gynyddol wrth-Americanaidd. Ar 11 Medi 2001, ‘Nine Eleven’, wrth i dyrau Canolfan Fasnach y Byd syrthio yn Efrog Newydd, clywyd Fischer ar y teledu yn ymhyfrydu bod yr ymosodiadau yn ‘newyddion gwych’ a bod America o’r diwedd ‘yn cael ei haeddiant’. Erbyn hynny roedd Fischer yn alltud o’i wlad. Yn sgil cyfres o gemau yn erbyn Spassky yn Iwgoslafia yn 1992 – ymgais ddibwrpas, braidd, i ail-fyw ei awr fawr – diddymwyd pasbort Americanaidd Fischer. Cyhuddwyd ef o dorri’r sancsiynau yn erbyn y Serbiaid, a chyhoeddwyd gwarant i’w restio. Yn briodol rywsut, yng Ngwlad yr Iâ, lleoliad ei fuddugoliaeth fythgofiadwy yn 1972, y canfyddodd ei ddinas noddfa yn y diwedd. Gyda chryn ddewrder, yn nannedd gwrthwynebiad yr Unol Daleithiau, rhoddwyd dinasyddiaeth Islandaidd i Fischer, gan ei arbed rhag gorfod dychwelyd i America i sefyll ei brawf. Ac yno yn Reykjavik – er gwaethaf ymdrechion taer i’w ddenu o’i alltudiaeth i chwarae neu sylwebu – y bu’n byw’n ddi-nod tan ei farwolaeth yn 64 oed yn 2008.
|