• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Iau 23 Mai 2013
Gwlad y Basg - Mwy Na Man Gwyn Man Draw PDF Argraffu Ebost
Robat Trefor

Does dim dwywaith nad oes yna wersi pwysig i’r Gymraeg, o ran cynllunio ieithyddol, yn yr hyn sy’n digwydd yng Ngwlad y Basg. Mae awdur yr erthygl, sy’n gwneud ymchwil ar safoni’r iaith Gymraeg, newydd fod yno fel rhan o ymweliad gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

‘Eskerrik asko,’ ebe’r clamp o ddyn tocynnau barfog yn ei lais dwfn wrth bawb yn ddiwahân wrth iddo rodio ar hyd y trên tuag atom gan archwilio tocynnau’r teithwyr. ‘Eskerrik asko,’ meddai wedyn wrthym ninnau yn yr un modd wedi bwrw cip ar y tocyn. Oni bai’ch bod yn digwydd adnabod eich gilydd, go brin y caech fyth yr un ‘Diolch yn fawr’ gan ddyn tocynnau ar drên yng Nghymru. Sylwi cyn pen rhai eiliadau fod merch gymharol fyr mewn lifrai, y swyddog diogelwch, yn dilyn y dyn tocynnau o tua hanner hyd y cerbyd. Sylwi wedyn wrth iddi fynd heibio fod ganddi bastwn go fawr yn ei gwregys. Nid oedd unrhyw awgrym ei bod hi yno i sicrhau tegwch i’r Fasgeg – rhaid bod y daith ei hun yn un beryclach nag a dybiem – ond tyfodd y darlun o’r ddau ar y siwrnai araf honno yn ôl i ddinas Bilbo cyn ymadael â’r wlad yn symbol yn y meddwl o’r sêl sydd yno dros yr iaith a’r cefn sydd iddi gan yr awdurdodau.

Mae sawl llais wedi awgrymu yn y misoedd diwethaf y dylem edrych tua Gwlad y Basg wrth inni geisio cynllunio dyfodol ar gyfer y Gymraeg a Chymru. Roedd hi’n ffodus felly fy mod y llynedd wedi ennill Ysgoloriaeth Santander ar gyfer teithio yno fis Mawrth eleni, i Brifysgol Gwlad y Basg ar ei champws yn nhref Donastia. Diolch i’r Athro Jazone Cenoz ac aelodau o’i thîm yn yr Adran Dulliau Ymchwil Mewn Addysg roedd nifer o gyfarfodydd buddiol dros ben wedi’u trefnu ymlaen llaw i roi blas ar agweddau gwahanol ar sut maent i’w gweld yn cael hwyl well arni gyda’r iaith na ni yng Nghymru.

Os bu inni ddewis dychwelyd o dref Donastia ar y trên araf deg, roeddem wedi mynd yno i gychwyn o faes awyr Bilbo ar y gwasanaeth bws cyflym ar hyd y draffordd, a dyna’r argraff gyntaf a gafwyd o’r wlad, gwlad fynyddig wedi ei diwydiannu’n drwm. Roedd yn eich atgoffa o’r daith i’r gogledd o Gaerdydd i fyny i’r cymoedd, ond ar raddfa fwy. Dechreuodd y diwydiant haearn yno yn y 19g., ond yn wahanol i Gymru roedd Gwlad y Basg i barhau i ffynnu ac mae wedi aros ar hyd yr adeg yn rhanbarth economaidd gref. Dyna un rheswm pam mae’r setliad datganoli yn un mor gadarn yn ariannol, gyda’r Basgiaid yn codi eu trethi eu hunain i gyllido gwaith eu llywodraeth eu hunain yn gyntaf ac yn talu wedyn o’r hyn sy’n weddill i wladwriaeth Sbaen am y materion sydd heb eu datganoli. Yng Nghatalonia, y wladwriaeth ganolog sy’n codi’r trethi ac yn rhoi grant i’r llywodraeth ranbarthol, yn union fel gyda gwledydd datganoledig Prydain. Mae’r cryfdwr economaidd hwn yn allweddol, wrth gwrs, yn y gwario mwy sylweddol ar yr iaith gan y Basgiaid chwedl na’r Cymry.

Y chwyldro diwydiannol hefyd a oedd wedi peri i Sbaen lygadu’r cyfoeth potensial newydd yn y lle cyntaf gan ddiddymu yn 1876 hen hawliau’r Basgiaid i beidio â thalu trethi i Sbaen nac anfon milwyr iddi, a dyna’r darostyngiad yn dechrau o ddifrif. Eglurwyd llawer ar y cefndir hwn mewn bore cyfan o gyfarfod gyda Pello Esnal, llenor, bardd ac arbenigwr mawr ar yr iaith ac ar safoni’r iaith, maes fy niddordeb i. Yn aelod o Euskaltzaindia (Academi’r Fasgeg) ac yn gyn bennaeth adran yn HABE (Sefydliad Llythrennedd a Basgeiddio Oedolion), mae’n awdur hefyd ar weithiau sy’n ymdrin ag arddulliau cyweiriau ysgrifennu gwahanol ac yn fwy diweddar ar weithiau ar gynllunio iaith a’r defnydd strategol arni.

Wrth i’r iaith chwilio am ddyfodol, meddai Esnal, roedd y safoni a’r normaleiddio cymdeithasol arni’n bwysig eithriadol, ond ei bod hi’n bwysig yn ogystal nad oedd y gwaith hwnnw’n colli golwg ar y ffaith mai diben sylfaenol yr holl ymdrech oedd ei bod hi’n goroesi. Diddorol yn y cyd-destun hwn oedd iddo fynegi bod teimlad ar led fod y Sianel Deledu Fasgeg wedi colli ei ffordd, wedi ildio i ystyriaethau masnachol, ac wedi anghofio ei bwriad cychwynnol. Cyfaddefai Esnal ei fod dan ddylanwad Fishman ac yn credu fel yntau mai’r peth cwbl hanfodol ar gyfer goroesi’r iaith oedd y craidd – y teulu, y gymuned a’r gymdeithas, ond nad oedd y craidd ar ei ben ei hun yn ddigon. Roedd angen y system addysg a’r gwaith safoni, yr iaith yn y gweithle, y cyfryngau torfol a’r celfyddydau. Gofidiai, serch hynny, nad oedd digon o’r gwario hael yng Ngwlad y Basg ar yr iaith wedi ei anelu at y craidd ei hun.

Llawn mor ddifyr a pherthnasol i ni â’r sylwadau uchod ganddo ar gynllunio iaith oedd ei sylwadau ar safoni’r Fasgeg. Yn wahanol i Gymru, gwaith diweddar yw creu’r iaith safonol, Euskara Batua, gwaith wedi ei gwblhau yn niwedd chwe degau a dechrau saith degau’r 20g. Roedd hyn wedi cael ei ddechrau yn 1918 ond roedd Rhyfel Cartref Sbaen a dwrn haearn Franco wedi hynny wedi ei oedi. Fel yn Iwerddon, ni chafodd cyfieithiad Protestannaidd o’r Beibl ganrifoedd ynghynt unrhyw effaith. Cwyn Esnal oedd i’r puryddion gael y llaw uchaf yn ôl yn 1918, a bod dylanwad hynny hyd heddiw yn gallu gwneud i siaradwyr y tafodieithoedd traddodiadol deimlo’n israddol, a hynny’n cyfrannu wedyn at gyndynrwydd i lenwi ffurflenni mewn Basgeg. Yng Nghymru mae canfyddiad o anystwythder yr iaith yn gallu bod yn broblem a’r cyflyru dros ganrifoedd mai Saesneg yw iaith pob dim swyddogol yn broblem fwy. Yng Ngwlad y Basg mae’r broblem ychwanegol i’r iaith gael ei gwahardd yn y cyfnod diweddar o dan Franco a bod llawer o’r to hyn felly’n anllythrennog ynddi.

Roedd gwyrdroi’r sefyllfa honno wedi bod yn rhan o waith cyflog Pello Esnal a chawsom ar ddeall wrth ymweld â’r papur newydd Hitza yn nhref glan môr Zarautz fod hybu llythrennedd yn yr iaith yn rhan o’r ymresymu y tu cefn i nawdd sylweddol y llywodraeth i bapurau o’r fath. Brawd bach i’r papur dyddiol Berria yw Hitza. Cyhoeddir ef bedwar diwrnod yr wythnos yn bapur wyth tudalen mewn lliw llawn gydag atodiad mwy swmpus ynddo unwaith yr wythnos. Roedd wyth yn cael eu cyflogi yn y swyddfa a’r gwaith argraffu yn mynd allan i gwmni arall. Papur ar gyfer tref Zarautz a’r cyffiniau ydyw, gyda phoblogaeth y dref ei hun ychydig dros ugain mil, a 70% yn siarad Basgeg ynddi. Dywedwyd bod y gwerthiant ar draws pum mil a bod hynny a’r hysbysebion yn talu am hanner y gwariant a’r llywodraeth yn talu’r hanner arall. Roedd y sgrifennu mewn Basgeg safonol, ond gyda pholisi o gadw’r iaith mor syml â phosibl.

Y cyfarfod mawr arall a gafwyd oedd gyda mudiad yr Ikastolak, yr ysgolion cyfrwng Basgeg ar bob lefel yn rhanbarth hunanlywodraethol Gwlad y Basg ei hun ac yn nhiriogaethau eraill y Basgiaid yn rhanbarth Navarra ac yn Ffrainc. Y duedd yng Nghymru yw credu gormod mewn addysg ar ei phen ei hun, efallai. Yng Ngwlad y Basg ceid teimlad fod y cynllunio iaith yn fwy cyflawn ac integreiddiedig. Serch hynny, mae i addysg le canolog yn y strategaeth ac mae llwyddiant yr Ikastolak yn un i ryfeddu ato. O fod yn fudiad tanddaearol bron yn y 1960au, mae wedi tyfu i fod yn dysgu dros hanner disgyblion y rhanbarth hunanlywodraethol drwy gyfrwng y Fasgeg gyda chanran uchel wedyn yn cael addysg ddwyieithog a llai na 10% bellach yn cael addysg drwy’r Sbaeneg yn unig. Yn allweddol i gynnydd mor aruthrol y mae’r polisi o ryddhau athrawon di-Fasgeg i feistroli’r iaith ar gyflog am dair blynedd cyfan. Mae pwyslais hefyd ar dairieithrwydd yn hytrach na dwyieithrwydd, gan gyflwyno Saesneg fel yr iaith ryngwladol bwysig ac fel gwrthbwynt i’r Sbaeneg. Yng Nghymru, ysywaeth, y Saesneg yw’n Sbaeneg ni.

O blith y 30% sy’n gallu siarad yr iaith yn rhanbarth Gwlad y Basg, dywed tua’u hanner eu bod yn fwy cyfforddus mewn Sbaeneg, a dyna awgrym fod realiti’r iaith ar lawr gwlad yn bur debyg yn y pen draw i’n hun ninnau. Un o sylwadau Pello Esnal oedd fod colli’r iaith wedi troi rhai at fod yn ‘genedlaetholwyr y bêl’, sy’n peri ichi feddwl am Gymru, ac eraill wedyn at fod yn genedlaetholwyr gwleidyddol mwy caled, sy’n peri ichi feddwl am Iwerddon. Mae gormes go iawn, wedi’r cyfan, yn fwy na byw yn y cof gan y Basgiaid ac wedi sbarduno’u sêl a’u penderfyniad. Pan ddaw ffigyrau cyfrifiad y llynedd ar y Gymraeg yn y diwedd, yn hytrach nag anobeithio, boed inni edrych arnynt fel darlun cywir o gyflwr y craidd, a dechrau meddwl o ddifrif am y ddau air olaf a ddywedodd Esnal wrthym, blaenoriaethau a strategaeth. Mae’r lleisiau o Wlad y Basg fel y mae hi heddiw yn rhai i wrando arnynt.