| Rhiannon Mathias - Canu Ei Chân ei Hun |
|
|
|
|
Sioned Webb Portread o Rhiannon Mathias Mae Rhiannon Mathias yn cynnal y traddodiad teuluol o ymroi i fyd cerdd, yn ymarferol ac yn academaidd. A hithau ar fin cyhoeddi llyfr newydd am dair cyfansoddwraig, bu’n sôn wrth Barn sut beth oedd tyfu i fyny ar aelwyd gerddorol.Yn hwyr y pnawn ar aml nos Wener, finnau’n dal wrthi’n dysgu piano yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, yn y Galeri, Caernarfon, ac yn disgwyl myfyriwr olaf y dydd, byddaf yn clywed sain denau, felys dwy ffliwt yn prin dreiddio’n hudolus drwy’r waliau. Byddaf yng gwybod wedyn fod Rhiannon Mathias wedi cyrraedd i ddysgu ei myfyrwyr hithau.
Mae Dr Rhiannon Mathias yn wraig ifanc hynod o brysur. Yn ogystal â bod yn chwaraewr ac yn athrawes ffliwt hynod o fedrus, mae hi’n un o gyfarwyddwyr Bwrdd Canolfan Gerdd William Mathias, a enwyd ar ôl ei thad, a G?yl Gerdd Newydd Bangor. Mae’n awdur cynhyrchiol sy’n arbenigo ar gerddoriaeth yr 20g. a bydd ei chyfrol ddiweddaraf yn cael ei lansio ganol Mai yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae’n gymrawd achlysurol yng Ngholeg Prifysgol Bangor, yn Is-Lywydd G?yl Gerdd Abergwaun ac yn un o Ymgynghorwyr Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n wraig i John ac, yn bwysicaf oll, yn fam i Seren Grace sy’n bedair oed. Hi yw’r gyntaf i gyfaddef nad hawdd yw dod i ben gyda phob dim. ‘Mae’n rhaid bod yn drefnus,’ meddai, ‘ond mae fy ngwaith academaidd yn arafach ac yn cymryd yn hirach y dyddiau yma. Er enghraifft, dwi wedi bod yn gweithio ar fy llyfr diweddara’ ers i mi fod yn gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Reading, bron i bymtheng mlynedd yn ôl bellach.’ Rydym yn sgwrsio y tu allan i’w chartref, y Graig Wen ym Mhorthaethwy, sydd mewn llecyn hudolus yn edrych dros y Fenai. Dyma’r t? lle y cafodd Rhiannon ei magu, yn ferch i’r cyfansoddwr toreithiog ac afieithus oedd yn bennaeth Adran Gerdd y Brifysgol ym Mangor, ac Yvonne Mathias, cantores a allai’n hawdd fod wedi cael gyrfa broffesiynol ond a ddewisodd yn hytrach yrfa fel athrawes ganu. Sut beth oedd tyfu i fyny gyda rhieni oedd mor amlwg yn y byd cerddorol? ‘Roedd bod yn ferch i William Mathias yn dipyn o issue ar adegau pan oeddwn i’n iau,’ meddai. ‘Roeddwn i’n ffeindio bod pobol yn disgwyl i mi fod yn dda mewn cerddoriaeth oherwydd ’mod i’n ferch iddo fo ond roedd fy rhieni’n deall y pwysau oedd arna’i a ddaru nhw erioed fy ngwthio i’n gerddorol. Roedd fy nhad yn ffynhonnell doethineb, cariad ac ysbrydoliaeth i mi ac yn cymryd diddordeb ym mhob dim oeddwn i’n ei wneud. ‘Gen i atgofion hapus iawn o ’mhlentyndod. Roedd ’na gerddoriaeth ac offerynnau cerdd ym mhob man drwy’r t? ac mi ddysgais chwarae piano yn gynnar iawn. Pan oeddwn i tua saith oed, dwi’n cofio Marisa Robles y delynores a’i g?r ar y pryd, Christopher Hyde-Smith, yn dod i aros. Roedd Marisa’n bendant ’mod i’n mynd i fod yn delynores oherwydd fy nwylo cryfion mae’n debyg, ond y ffliwt ddaliodd fy nychymyg.’ Cafodd Rhiannon wersi ffliwt gan yr athrawes ‘ysbrydoledig’ Rona Morgan Edwards a chael mynediad i Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain yn 13 oed. Maes o law aeth i Brifysgol Surrey a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt, i astudio cerddoriaeth. Yna bu’n gweithio gyda chyhoeddwyr cerdd Chester yn Llundain am gyfnod, ond roedd salwch ei thad yn gysgod dros y cyfnod hwnnw, a hithau’n teithio adref bob penwythnos i’w weld.‘Mi oedd colli fy nhad yn 1992, ac yntau’n ddim ond 57, yn ergyd ofnadwy,’ meddai, ‘ond mae’r hyn a adawodd ar ei ôl yn amrhisiadwy. Dwi’n cael y pleser a’r anrhydedd mwyaf heddiw o hyrwyddo’i gerddoriaeth. Tasa fo wedi cael byw, mi fasa fo wrth ei fodd efo gwaith y Ganolfan Gerdd a’r Gwasanaeth Ysgolion yn Galeri, Caernarfon, y ddau gwmni sy’n dwyn ei enw. Mi fuo Mam a finnau yn ganolog i sefydlu’r Ganolfan yn 1999.’ Ynghanol y prysurdeb hwn, mae Rhiannon rywsut wedi llwyddo hefyd i ddilyn ei diddordebau ymchwil hi ei hun. Pan fu farw ei thad, rhoddodd y gorau i’r swydd yn Llundain a phenderfynu mynd i wneud ymchwil ym Mhrifysgol Reading, gan astudio gwaith Schoenberg a Stravinsky ar gyfer ei PhD. Deillio o hynny a wnaeth ei diddordeb mewn tair o gyfansoddwragedd mwyaf blaenllaw Prydain yn ystod hanner cyntaf yr 20g, sef Elisabeth Lutyens, Elizabeth Maconchy a’r Gymraes Grace Williams. Olrhain bywyd a gwaith y tair yma y mae ei llyfr newydd, Maconchy, Lutyens, Williams and Twentieth Century Music – A Blest Trio of Sirens. ‘Yr hyn oedd wedi fy nghyfareddu gyda’r tair oedd eu bod wedi astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol tua’r un adeg (1926–30) – roedd hi’n eitha’ anhygoel fod tair merch wedi cael eu derbyn i astudio cyfansoddi yno yn y cyfnod hwn.’ Roedd llawer yn ystyried Maconchy fel yr un fyddai’n olynydd teilwng i Britten, a daeth Grace Williams i gael ei chyfrif yn un o’n prif gyfansoddwyr ni yng Nghymru. Ond tybed a oedd yna ragfarnau’n parhau i fodoli yn ddistaw bach yngl?n â merched yn cyfansoddi? Pam fod merched wedi bod yn llai cynhyrchiol na dynion ar hyd y blynyddoedd? Ai rhesymau amlwg megis cyfrifoldebau magu teulu ac ati sydd i gyfrif am y gwahaniaeth? ‘Dwi’n meddwl ei fod o’n arwyddocaol iawn nad oedd unrhyw un o’r tair wedi teimlo erioed fod eu rhyw wedi bod o unrhyw rwystr i’r gerddoriaeth roedden nhw’n ei sgwennu,’ meddai Rhiannon. Ac wrth iddi siarad, daw geiriau Grace Williams yn ôl i’r cof: ‘trials and tribulations have come my way… but they have nothing to do with my being a woman: they are wholly concerned with my being a composer’. ‘Dwi wedi penderfynu gadael i’r tair siarad drostyn nhw’u hunain gymaint â phosib,’ meddai Rhiannon wedyn, ‘ac wedi tynnu’r deunydd o erthyglau a darllediadau yn ogystal â thaflu llygad dadansoddiadol dros eu gweithiau.’ Penderfynodd lansio yn y Llyfrgell Genedlaethol am mai yno y mae archif Grace Williams, a’r gyfansoddwraig o’r Barri fydd canolbwynt sylw’r lansiad. Bydd Rhiannon yn perfformio un o’i sonatas cynnar i’r ffliwt ac mi fydd rhai fel Wyn Thomas, Elinor Bennett, Geraint Lewis a Pwyll ap Siôn yn dweud gair am gerddoriaeth yng Nghymru. ‘Rydw i am i Gymru wybod mwy am eu cyfansoddwyr,’ meddai Rhiannon. Yn y cyfamser, beth yw’r peth nesaf ar yr agenda? ‘Mynd â Seren i’r ysgol!’ yw’r ateb cellweirus. Er bod Rhiannon yn fwy cyfforddus yn siarad Saeneg, mae hynny’n dechrau newid yn sgil magu’r ferch fach. ‘Mae Seren yn siarad Cymraeg bob gair r?an ers pan wnes i benderfynu siarad Cymraeg hefo hi ar ôl dod yn ôl i Borthaethwy.’ Y peth arall oedd ar yr agenda, meddai, oedd ‘setlo i lawr i fwyta un o brydau bwyd anhygoel John (Mitchell) fy ng?r’. Fe gyfarfu’r ddau pan oedd Rhiannon yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer y llyfr. Ac wrth inni ffarwelio, mae’n ychwanegu gyda winc ddireidus, ‘Mae’r creadur wedi gorfod byw efo pedair merch ers blynyddoedd!’ ******************** Rhiannon Mathias: Maconchy, Lutyens, Williams and Twentieth Century Music – A Blest Trio of Sirens (Ashgate Press, £32.50). Caiff ei gyfrol ei lansio yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, ar 18 Mai.
|