• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Gwener 24 Mai 2013
Chwilio am yr Awdur PDF Argraffu Ebost
Alun Ffred Jones

Er bod arwyddion o fywiogrwydd newydd yn y theatr Gymraeg yn ddiweddar, prin iawn o hyd yw’r dramâu gwreiddiol. Beth sydd i’w gyfrif am fudandod awduron yn y theatr a beth mae’n ei ddweud am ein diwylliant?


Ar ôl gweld cynhyrchiad arbrofol y Theatr Genedlaethol Sgint daeth teitl Saesneg un o ddramâu’r Eidalwr Luigi Pirandello i’m meddwl; Six Characters in search of an author. Ond wedyn, onid yw pawb yn chwilio’n daer am awdur? Cynulleidfaoedd, theatrau, cynhyrchwyr heb sôn yr actorion, pwr dabs. Pob un yn ceisio’r un all greu’r ‘stwff’ yma sy’n codi chwilfrydedd ac yn denu torfeydd am ba reswm bynnag. Rhyw Alan Ayckbourn o Gymro fyddai’n ymddangos a drama orffenedig dan ei gesail i greu tonnau o chwerthin yr un pryd â ‘dweud’ rhywbeth am y byd o’n cwmpas. A phe bai gwyrth yn digwydd byddai’n dychwelyd yn flynyddol (fel Ayckbourn) gyda drama newydd sbon ddifyr.

Nid bod y theatr Gymraeg wedi cael cyfnod gwael yn ddiweddar. Mae chwe chynhyrchiad wedi bod yn llwyddiannus ac wedi denu cynulleidfaoedd amrywiol gan gynnwys nifer nad ynt yn arfer mynychu theatr: Llwyth, Deffro’r Gwanwyn, Un Nos Ola Leuad, C’mon Midffild, Sgint a Fala’ Surion. Serch hynny bydd y rhai mwyaf sylwgar wedi nodi mai dim ond un o’r rhain, sef Llwyth gan Dafydd James, sy’n ddrama un awdur gwreiddiol. A’r lleill? Dwy yn addasiadau o weithiau llenyddol, un yn ddrama ‘gair am air’ (verbatim), un yn deillio o gyfres gomedi hynafol a’r llall yn gyfieithiad. Does dim o’i le ar hyn. Mae pob un yn ffurf gwbl ddilys ond does dim byd i guro’r llais unigol gwreiddiol. Maen nhw’n brin; yn brin ym mhob cyfrwng a phob iaith. Ac o gofio disgrifiad W.B. Yeats o’r ddrama fel ‘The most difficult of all arts’, does ryfedd mai prin yw’r awduron Cymraeg fel Aled Jones Williams sydd wedi gwthio ffiniau mynegiant a ffurf ar lwyfan. Ond mae mudandod awduron yn y theatr yn codi cwestiynau difrifol am natur ein diwylliant yn y Gymraeg.

Pam na chreodd bodolaeth S4C, sydd, am y tro cyntaf, wedi rhoi ffon fara (a menyn) i ddwsinau o ysgrifenwyr, rai dramodwyr fyddai am ymestyn eu cyhyrau ar lwyfan? Eithriad ydi rhywun fel Meic Povey ac ym myd y theatr y dechreuodd o p’run bynnag. Mewn oes arall, pan gafodd y diweddar Harold Pinter lwyddiant mawr gyda The Caretaker yn y West End roedd o eisoes wedi cyfansoddi nifer o ddramâu unigol ar gyfer radio a theledu. Ond dyna’r pwynt, dramâu unigol oedden nhw, nid cyfresi diddiwedd. Nid awgrymu yr ydw i fod sgrifennu ar gyfer teledu yn alwedigaeth is; sgrifennu da yw sgrifennu da. Ond mae natur gormod o gyfresi teledu yn ffrwyno dychymyg ac yn sicr yn milwriaethu, ar y cyfan, yn erbyn delio gyda ‘syniadau’ a themâu mentrus.

A beth am strwythur y theatr Gymraeg? Wel, does dim strwythur. Go brin fod y Theatr Genedlaethol yn lle da i ‘ddatblygu’ awduron tro cyntaf. Y tu hwnt i hynny mae Bara Caws yn bodoli a dau (efallai dri) cwmni Theatr i Blant a Phobl Ifanc (yr hen Theatr mewn Addysg) sy’n gweithio’n bennaf yn y Gymraeg. Yn dilyn adolygiad diwethaf Celfyddydau Cymru mae’n anodd dirnad yn union beth ydi a beth fydd eu rôl nhw. Ac eto, er mor ddarniog y darlun, ydi hyn yn rheswm dros y prinder lleisiau?

Diflannodd y cwmnïau amatur uchelgeisiol i raddau helaeth a fu’n fagwrfa i rai awduron yn y gorffennol. Er enghraifft yn 1972 roedd Cwmni’r Ddrama Gymraeg yn Abertawe yn llwyfannu dwy ddrama wreiddiol yn eu gwyl flynyddol. A beth am ein prifysgolion? Mae cyrsiau cyfryngol di-rif, gan gynnwys rhai ysgrifennu creadigol, ond nid cwrs coleg a greodd Alan Ayckbourn.

Felly ar adeg pan mae beirdd ifanc yn bwrw iddi gydag arddeliad, a ffuglen yn cynhyrchu ambell berl a dogn o stwff darllenadwy, pam fod lleisiau’r theatr mor ddistaw? Allwch chi ddim dweud wrth awdur beth i’w ddweud na sut i’w ddweud ond mae dau faes lle mae’r mudandod yn taro’n od.

Ystyriwch ddramodwyr Iwerddon (yn Saesneg mae’n wir). Byth ers i Synge gael ei anfon i Galway a chynhyrchu ei gampwaith crafog Playboy of the Western World, mae dramodwyr y wlad honno wedi cloddio’r wythïen wledig yn ddyfal. Ac nid emynau mawl i’r hen ffordd o fyw mo’r rhain. Philadelphia Here I Come (Friel), yn y 1960au, Dancing at Lughnasa (Friel), The Weir (McPherson) yn y 1990au. Mae pob un yn ei ffordd ei hun yn canfod y pry yn y pren ac yn llwyddiannau rhyngwladol.

Ond yng Nghymru, er ein bod wedi gweld y chwalfa economaidd, ieithyddol, grefyddol a chymdeithasol yn digwydd, does gennym fawr i’w ddweud amdano – yn y theatr o leiaf. Gwell i mi eithrio Meic Povey o’r gosodiad gorgyffredinol yna.

Ceginau cefn gwlad oedd lleoliad myrdd o ddramâu Cymraeg tan y 1960au. Ac mi ddwedodd Elis Gwyn Jones, y beirniad praff, mewn cyflwyniad i un o ddramâu ei frawd W.S. Jones fel hyn: ‘Buom yn canmol ein hunain am golli’r ddrama gegin, ac er bod lle i’n llongyfarch... am osgoi’r ffenest Ffrengig mor ddeheuig, aethom ar ein pennau i ryw ystafelloedd rhyfedd sy’n plesio’r fwlgarwyr yn iawn.’ Amen.

Maes arall a gafodd ei anwybyddu i raddau helaeth yw’r ddrama hanesyddol. Na, nid pasiantau’n clodfori Glyndwr ydw i’n feddwl ond gweithiau dramatig sy’n bwrw golwg o’r newydd ar ddarn o’n gorffennol. Do, bu i Clwyd Theatr Cymru adrodd stori boddi Cwm Tryweryn, a da hynny – ond ailadrodd stori gyfarwydd a wnaed, nid ailddehongli. Ystyriwch ddrama ddiweddar David Edgar, Written on the Heart, sydd newydd symud o’r RSC i’r West End. (Bill Kenwright, perchennog clwb pêl-droed Everton, sy’n gyfrifol gyda llaw.) Mae’r gwaith yn ganlyniad gweithdy a gynhaliodd yr RSC ar Feibl y Brenin James a sut y daeth y fersiwn fyd-enwog hon i fod. Mae stori cyfieithu’r Beibl i Saesneg yn stori am ferthyrdod ac uchelgais ddaearol. A difyr yw dysgu er enghraifft na welir y gair ‘tyrant’ ym Meibl King James rhag peri unrhyw loes i’r brenin! Mae’n stori gyffrous ac mae’n mynd dan groen ‘gwleidyddiaeth’ yr eglwys ar y pryd a’i gwendidau. Ac eto, ar yr un pryd, mae’n ddathliad o ddogfen hollbwysig.

Onid yw’n hanes ninnau hefyd yn llawn o ddigwyddiadau sy’n haeddu dehongliad cyfoes? Ar ôl deugain mlynedd o ailddiffinio hanes Cymru yn academaidd onid yw’n od iawn nad oes dramodydd yn gweld y posibiliadau yn y straeon hyn?

A ydym fel Cymry Cymraeg yn rhy gyfforddus ein byd? Neu a ydym yn rhy ofnus i ddangos y drych didostur i’n byw a’n bod yn y theatr?