| Sefydliad Cenedlaethol yn Bendifaddau |
|
|
|
|
David Anderson Yn ein rhifyn diwethaf honnodd Gareth Miles mai “Seisnig a Phrydeinllyd iawn” yw rhai o brif sefydliadau cenedlaethol Cymru. Yma mae Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn ymateb i’r feirniadaeth honno o safbwynt y sefydliad y mae ef yn ei arwain.
Gydag agoriad yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd y llynedd, cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig, nid yn unig yn hanes Amgueddfa Cymru ond hefyd yn hanes Cymru. Am y tro cyntaf, roedd gennym le i arddangos ystod lawn ein casgliadau celf o safon ryngwladol gan roi llwyfan newydd i gelf Gymreig yng Nghymru. Ymhlith gweithiau’r arddangosfa agoriadol, Ni allaf ddianc rhag hon, roedd gwaith gan artistiaid Cymreig ac artistiaid a chanddynt gysylltiad â’r wlad. Mae Shani Rhys-James, Ifor Davies a Josef Herman ochr yn ochr ag artistiaid Prydeinig a rhyngwladol blaenllaw megis Lucian Freud a David Hockney. Dengys hyn gryfder ac ehangder celf a gynhyrchwyd yng Nghymru ers y 1950au, a’i le priodol yn y sin rhyngwladol. Cwbl wahanol oedd ein harddangosfa dros dro ddiweddaraf, Y Frenhines: Celf a Delwedd – arddangosfa deithiol gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain. Mae’n amlwg i hyn godi gwrychyn Gareth Miles (gw. Barn 592, Mai 2012). Cyhuddodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o fod yn sefydliad Prydeinig yn hytrach na Chymreig am inni groesawu’r fath arddangosfa. Mae ei safbwynt yn gwbl ddealladwy wrth gwrs, gan fod agweddau’r Cymry tuag at y teulu brenhinol yn amrywiol iawn (yn enwedig o gofio fel yr uniaethodd y Cymry gynt â’r Tuduriaid a llawer ohonynt â’r teulu brenhinol fyth ers hynny). Serch hynny, byddai pawb a ymwelodd â’r arddangosfa wedi gweld ar unwaith bod elfen Gymreig wedi ei hychwanegu gennym er mwyn adlewyrchu natur y berthynas rhwng Cymru a’r Frenhines dros y trigain mlynedd diwethaf, o ddathlu di-gwestiwn i brotestio gwrth-frenhinol (gweler neges ddiamwys y crys-T). Fy unig siom yw na chafodd yr elfen Gymreig hon ei gweld yn y canolfannau eraill yr ymwelwyd â nhw yn ystod taith yr arddangosfa. Mae’r elfen ychwanegol hon yn sicr yn adrodd hanes mwy cyflawn na gweithiau’r artistiaid yn unig. Byddai wedi bod o fudd i gynulleidfaoedd Llundain, er enghraifft, weld yr arddangosfa trwy lygaid eraill. Aethpwyd ati’n fwriadol i sicrhau bod yr elfen Gymreig yn cynnig sylwebaeth ar weddill yr arddangosfa heb ofni trafod y goblygiadau gwleidyddol. Roedd arddangosfa’r Amgueddfa Bortreadau Genedlaethol yn ystyried y stori’n bennaf trwy lygaid artistiaid a ffotograffwyr proffesiynol (a’r rhieni’n Saeson gan amlaf). Ond roedd y gwrthrychau Cymreig yn canolbwyntio’n llwyr ar ymateb y Cymry. Rhaid pwysleisio’r gwahaniaeth hwn gan ei fod yn dangos ein bod o ddifrif yngl?n â sicrhau bod llais cwbl Gymreig gan yr Amgueddfa. Cyn agoriad yr orielau newydd, roedd diffyg lle wedi cyfyngu ar faint o waith celf y gallem ei arddangos. Rhoddwyd sylw’n bennaf felly i’n casgliad nodedig o waith Argraffiadol – y gorau y tu allan i Baris, medd llawer. Dylem gofio hefyd hanes cwbl Gymreig pryniant y campweithiau hynny. Rhwng 1951 a 1963 llwyddodd dwy chwaer o Sir Drefaldwyn, Gwendoline a Margaret Davies, drwy eu cymynrodd aruthrol o 260 o weithiau, i weddnewid cymeriad, ansawdd ac ystod casgliad celf Amgueddfa Cymru. Roedd y ddwy’n wyresau i David Davies, Llandinam, g?r a wnaeth ei ffortiwn ym myd y diwydiant glo, y rheilffyrdd a’r dociau. Er nad oedd byd celf yn eu gwaed, llwyddasant i greu un o’r casgliadau mwyaf – a phwysicaf – yn y byd o waith Argraffiadol Ffrengig ac Ôl-argraffiadol. Rydym yn ffodus i’w gael yma yng Nghymru. Caiff rhai ymwelwyr gymaint o syndod o’u gweld yn ein horielau fel eu bod yn gofyn ai atgynyrchiadau neu bosteri ydynt! Mae’n fraint cael adrodd hanes arbennig ein casgliadau celf, am ei fod hefyd yn adlewyrchu ein treftadaeth ddiwydiannol. Os llwyddwn yn ein cais am nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, byddwn yn cychwyn ar brosiect ailddatblygu cyffrous ac uchelgeisiol yn Sain Ffagan. Bydd yn cynnwys symud ein casgliadau archaeoleg o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i Sain Ffagan er mwyn i ymwelwyr allu archwilio, mwynhau a darganfod mwy fyth o hanes Cymru, o ddyfodiad y bodau dynol cyntaf 230,000 o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw. Lloegr yw’r unig un o bedair cenedl y Deyrnas Unedig sydd heb amgueddfa hanes genedlaethol. Nid yw’n debygol ychwaith y caiff un ei sefydlu yn y dyfodol agos. Colled Lloegr yw hynny. Ac fe ellid dadlau ei bod hi fwy o angen un nag sydd ar y mwyafrif o wledydd. O feddu ar amgueddfa genedlaethol, mae’n bosibl y byddai Lloegr yn barotach i fynd i’r afael â rhai o benodau mwyaf dadleuol ei gorffennol a dod i delerau â nhw. Mae gan Gymru amgueddfa o’r fath, a thrwy hynny mae gennym y cyfle a’r cyfrifoldeb i wneud yr hyn nad yw’n bosibl i Loegr ei wneud. |