• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Sul 26 Mai 2013
Dan Amor PDF Argraffu Ebost
Ann Gruffydd Rhys

tir amor
Canwr-gyfansoddwr o ardal Dyffryn Conwy yw Dan Amor, ac arlunydd proffesiynol yw ei fam, Yvonne. Aeth ANN GRUFFYDD RHYS i Gwm Penmachno i’w cyfweld.


'Dan Amor, a'i fam Yvonne'

Rywbryd tua 2008 daeth canwr newydd i ty ni. Wysg ei ochr y daeth i mewn, yn ddigon diymhongar. Cyn hir roedd ei lais yn rhan o’n bywyd bob dydd. Mynnai ei gerddoriaeth ailchwarae yn ein pennau, ar ôl i’r CD dawelu, fel y bydd rhai caneuon. A’r darluniau – roedd golygfeydd, a haul, a glaw yn aros, fel olion disglair o flaen ein llygaid. Gwnaethom le iddo ar ein silffoedd gorlawn, a daeth yn gydymaith cyson i ni nid yn unig gartref ond ar deithiau hir hyd priffyrdd Cymru a thu hwnt.

Rywbryd tua 1979 daethai teulu newydd i’r cwm. Teulu o Lundain, tad, mam, a bachgen bach. Gwnaethant eu cartref yn y ‘Cwm cau’ a anfarwolwyd mewn awdl eisteddfodol dros ugain mlynedd ynghynt. ‘Do,’ canodd Tilsli, ‘bu yno brysurdeb unwaith / A swn o gaban a sain gobaith’ – nes i’r chwareli gau. Bu chwalfa gymdeithasol, gadawyd pentref cyfan yn wag, a dyna gychwyn ar gyfnod newydd wrth i’r tai fynd ar y farchnad. I ‘Gwm Carnedd’, ardal a welodd newid mawr, gyda ‘gwaith dyn, fel brethyn brau / Yn braenu yn y bryniau’, yr ymfudodd Dave ac Yvonne Amor.

Cwm Penmachno oedd y pentref, ac mewn llecyn heulog rhwng y Cwm a Phenmachno ei hun y saif Cae Gwyn. Yma y magwyd Dan. Yma y deuai’r haul heibio’i ffenestri (‘Pelydryn yn y gegin / yn toddi mewn i’r cefndir’), a chilio dan gwmwl yr un mor sydyn (‘Dyddiau gwlyb yn fy nyffryn / Y nant yn methu cymryd y straen’). Oddi yma yr âi, dros y bont, rhwng y bryniau, i’r ysgol bach. Byddai’n mynd ymhellach, i brifysgol ac yna brifddinas, cyn dychwelyd i’w gynefin. Yng nghegin Cae Gwyn yr eisteddaf yn awr yng nghadair ei nain, fy ngwr a minnau’n siarad â Dan. Saif ei fam o’r neilltu, yn gwenu a gwrando’n dawel. Dechreuwn drwy ddwyn atgofion am hoff grwpiau ei rieni, y gerddoriaeth y tyfodd Dan yn ei chlyw. Y tirlun mawr cyfnewidiol y tu allan, seiniau amrywiol y chwech a saithdegau oddi fewn. Pink Floyd a Fleetwood Mac; Y Beatles a Wings; David Bowie a Jimi Hendrix; Crosby, Stills & Nash, heb anghofio Neil Young.

‘Rydw i wrth fy modd,’ medd Yvonne, ‘fod fy nau fab mewn i gerddoriaeth – mae cerddoriaeth yn rhan fawr iawn o ’mywyd i.’ (Roedd George, brawd iau Dan, sy’n chwarae yn y grwp Sen Segur, newydd ddychwelyd o’r Eisteddfod, ac ar fin dychwelyd i’r de i agor Gwyl y Dyn Gwyrdd ym Mrycheiniog.) Arferai Yvonne Amor weithio fel dylunydd proffesiynol i gwmni masnachol yn Llundain, a rhan o’i gwaith oedd darlunio cloriau recordiau. Mae Dan yn amlwg yn hiraethu am ddyddiau’r cloriau mawr, a’r feinyl – ‘Liciwn i ryddhau feinyl – fedri di ddim curo’r swn’. Yn amlwg hoffai weld doniau artistig ei fam yn cael mwy o le, yn llythrennol – hi sy’n dylunio cloriau bychain ei grynoddisgiau gyda Dan yn braslunio’r hyn yr hoffai ei weld ar y clawr, a hithau’n trosi’r syniadau i gynllun haniaethol lliwgar. Cafodd ddigon o brofiad o hyn yn ei gwaith bob dydd – yn oes seicedelia gwnaeth glawr record i Long John Baldry ac yn 1971 lluniodd lawes LP y Kinks Golden Hour.

Ond mae canu yn y gwaed. Arferai Myra Lewis, mam ei dad, gystadlu mewn eisteddfodau lleol o amgylch ei chartref yng Nghasllwchwr. Pan oedd yn 16 oed enillodd am ganu yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1934. Roedd rheolwr Vera Lynn eisiau ei harwyddo, yn ôl Dan, ‘– ond mi ddudodd ei thad hi no way!’ Mae ei llun a’i thystysgrif enillydd ar y mur yn brawf iddi dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei llais a’i dawn gerddorol, ac nid yw’n ormod dweud fod wyr Myra Amor erbyn hyn yn derbyn yr un gydnabyddiaeth genedlaethol, os yw teithio i ganu mewn gigs i fyny ac i lawr y wlad yn cyfrif, a chaneuon ei grynoddisgiau i’w clywed yn gyson ar yr awyr. Oes, mae gan Dan Amor ei ddilynwyr, ac nid yn unig ar Twitter.

Beth yw cyfrinach ei artistwaith? Mae’n canu am y tirlun, y tywydd, y tymhorau’n newid – ac eto ddim ychwaith. Daw’r cyfan yma i mewn i’w ganu: ‘Disgyn mewn i freuddwyd / Haul yn haeddu’r glas clir / Darn o’r haf yn Rhagfyr, lliwiau yn dy ben’, ond wedi ei ddistyllu i gyfleu argraff yn unig. Mae’n cyffwrdd â’r personol: ‘Pan mae’r llyn ddim yn dal ei adlewyrchiad / Achos mae’n bwrw glaw o hyd / Dwi ’di rhoi fy nghalon, fy ngolau / Y golau yn fy nghalon i ti’, ond nid cwynfan serch sydd yma. ‘Dw i wedi sylwi ar y byd o ’nghwmpas ers yn blentyn,’ medd Dan, ‘ac yn defnyddio syniadau llythrennol yn fy nghaneuon. Ond y gwrandawyr sy’n creu’r ystyr.’ Mae’r cyfan yn haniaethol, yn agored i’w ddehongli, ei werthfawrogi, ei fwynhau, mewn gwahanol ffyrdd.

Yn yr un modd mae Yvonne ei fam yn dwyn yr un ysbrydoliaeth o’i hamgylchfyd, wrth iddi baentio a chreu yn ei harddull haniaethol hithau. ‘Dw i’n hoff o edrych i’r pellter,’ meddai, ‘ac yna llunio disgrifiad gweledol o’r hyn a welaf, gan roi llawer o fanylion a phatrwm yn y darlun.’ Daw â samplau o’i gwaith o’i stiwdio a gwelaf drysorau bach o’m blaen, yn haen ar ben haen o liw a phatrwm, rhai ar bapur a rhai ar ddefnydd, llawer wedi eu goruwch-ddarlunio â phaent arian disglair. ‘Byddaf yn hoffi paentio mewn bandiau o liw,’ meddai, ‘rhoi cynlluniau bach, neu batrymau, ar yr arwynebedd ac yna gorffen efo’r paent metalig.’

Dros y blynyddoedd trôdd Yvonne ei llaw at nifer o gyfryngau celfyddydol, ac un oedd prosiect Shiloh. ‘Mae yma lawer o grochenyddion, arlunwyr a chrefftwyr coed yn Nyffryn Conwy,’ eglura. ‘Mae hi’n gymuned artistig dda. Ac mae yna ymdeimlad cymdeithasol gwych yn yr ardal.’ Gofynnwyd iddi gydlynu’r gwaith o lunio rêlings newydd i Shiloh, ac mae ffrwyth y cydweithrediad rhyngddi hi a phlant ysgol a gof lleol i’w gweld o flaen yr adeilad. Arnynt mae cyfres o ddelweddau’n cynrychioli diwydiant a byd natur a thirlun y cwm, wedi eu llunio gan y plant a’u gosod mewn trefn weledol gan Yvonne.

Shiloh yw’r hen Gapel Seilo yng Nghwm Penmachno a drowyd yn ganolfan gymdeithasol / gelfyddydol, lle mae gweithgareddau’n cael eu cynnal yn y ddwy iaith. ‘Mae yna lot o fandiau da’n dwad yna,’ medd Dan, ‘Gorwel & Fiona Owen, Nia Morgan, Devil’s Violin, Nia Morgan, Sen Segur, a gweithgareddau “Noson Allan”. Lot o stwff world, gwerin, trawsdoriad reit dda, a bydd pawb yn dwad allan i gefnogi. Pan fydda i’n canu yna, mi fydda i’n gwneud hanner set yn Gymraeg, hanner yn Saesneg – felly maen nhw’n cael clywed Cymraeg.’

Sut mae’n cyfansoddi, a sut mae’n penderfynu ym mha iaith fydd y gân? ‘Does dim penderfyniad,’ meddai. ‘Mi fydda i’n gwneud siâp efo ’ngheg, siâp geiriau, ac wedyn mae’n dibynnu pa iaith ddaw allan. Do’n i ddim ddigon hyderus i ganu yn Gymraeg am hir – mi gymrodd ychydig o flynyddoedd cyn i mi deimlo’n hyderus. Ro’n i ishio gwneud yn siwr fod y safon ddigon uchel. Ond ar ôl dechrau...

‘O ran cyfansoddi, yr alaw sy’n dwad gyntaf, bendant. Mi fydda i’n ista i lawr efo’r gitâr, ond weithia mae’n dwad wrth yrru, neu yn y gawod, ar y ffordd i’r gwely... Mae gen i beiriant recordio 4 trac ac mi fydda i’n cydio yn hwnnw, yn aml cyn mynd i gysgu, i roi rhwbath lawr cyn i mi ei anghofio! Weithia pan ti ’di blino, mae’n amser da o ran bod yn greadigol.

‘Dw i’n gwneud mwy ar y piano rwan. Dw i’n licio fo. Mae’n newid y ffordd dw i’n sgwennu alawon – maen nhw’n newid yn ôl be ti’n sgwennu. Offeryn taro ydi’r piano, felly mae’n effeithio ar y rhythm, ar be sy’n dwad allan o dy geg.’

Mae Dan wedi ei gynysgaeddu â dawn i lunio alawon, rhediad o nodau, galwch o’n be fynnoch, sy’n dal ar y glust, yn cydio yn y cof, yn gwneud i chi ganu efo fo, ac mae ei hoffter diweddar o ailadrodd brawddegau cerddorol (cysgodion o Van Morrison) yn creu ei berlesmair ei hun. ‘Dw i’n gwneud mwy o hynna,’ cytuna, ‘mae o fel chant – rhwbath cynnil, minimal. Dw i’n trio gwthio hynna. Mae rhai caneuon reit hir – yn ‘Neigwl’ mae’r Hammond yn mynd mlaen am dipyn ar y diwedd! Falla bod hynny reit boring i rai, ond i fi mae fel rhwbath haniaethol. Mae Mam yn hoff o hynna hefyd. Dw i’n licio gwneud petha haniaethol.’

Cyfeiriaf at y darn offerynnol yng nghanol ei ganeuon. ‘Ia,’ meddai, ‘Dw i’n hoff o roi middle 8th hir yn y canol. Dw i’n trio creu tirlun cerddorol yn lle dim ond caneuon. Ac o ran y lyrics, dw i hefyd yn licio creu tirlun lle ti’n gallu mynd am dro ynddo fo. Mae’n bwysig fod y lyrics a’r caneuon yn cael mwy nag un persbectif.’

‘Creu tirlun i fynd am dro ynddo’ – creodd Dan dirlun cyfan i mi gyda’i gân ‘Yr Anhaeddiannol’, oherwydd i mi adnabod hen dref Llanrwst a’i hawyrgylch unigryw oddi wrth ei geiriau: ‘... Y llanw’n dwad i fewn rhy bell / Y cylch dw i’n cerdded fewn bob dydd / Hen bont, eglwys, sgwâr a stryd’. Bu Dan yn gweithio yno’n ddiweddar, ac ymserchu yn nhref ei addysg uwchradd. Ymhlyg yn y gân mae’r ymdeimlad o fynd i ffwrdd a dod yn ôl, gadael a dychwelyd. Mae llawer o bobl cefn gwlad, meddai, yn gadael am lefydd fel Lerpwl, Manceinion, Caerdydd, ond mae llawer yn dod yn ôl.

Mae trin geiriau yn amlwg yn rhoi boddhad iddo. Mae’n sôn am y gân ‘Taflu dy lais’ oddi ar y CD Neigwl – ‘Dw i’n licio’r syniad o daflu dy lais, fel ei daflu i ffwrdd,’ meddai, ‘a chwarae efo geiriau mwys. Wrth daflu dy lais, gofalu bod ti ddim yn torri dy air.’ Dyna’r gân ‘Dyddiau Clir’ wedyn – ‘Dw i’n hoff o’r ffordd mae geiriau’n ffitio at ei gilydd, creu patrwm efo geiriau a lluniau. A “paent a phapur” – teyrnged bach i Mam yn fan’na.’

A’r cwestiwn amlwg: Be am y dyfodol? ‘Dw i ’m ond ishio cario mlaen. Gwneud digon o bres i fedru ’nghynnal fy hun – efo ’ngwaith rhan-amser, gigio, gwerthu CDs, airplay – fel y medra i ddal i sgwennu, rhyddhau albyms, parhau i recordio efo John Lawrence a phobol eraill. Dw i jyst yn gallu gwneud hynny. Dw i wedi bod yn sgwennu llwyth o stwff canu gwlad. Mi liciwn i ffurfio band newydd, cydweithio efo George, gwneud EP efo fo – ti’n datblygu fel cerddor os ti’n mynd ati i greu, a chydweithio efo pobol wahanol, pobol newydd. Mae eleni wedi bod yn dda iawn, cynhyrchiol iawn o ran sgwennu – wedi gwneud demos, llawer o jamio. Ac mae gen i albym newydd cyfan yn barod. Dw i’n brysur efo’r gwaith, a’r band, ond yn trio gwneud rhywbeth bob nos.’

Ers rhyddhau Neigwl (a’i chwarae ar BBC 6 Music) y llynedd mi wnaeth ychydig o gigs dros y ffin, un yn Union Chapel Llundain gyda rhagor i ddod. Daeth sylw ehangach ar orsafoedd radio megis Radio 2 yn sgil rhyddhau Lakeside yn Awst. Byddai’n braf apelio at fwy o bobol, meddai. ‘Mae’n bwysig gigio tu mewn i dy filltir sgwâr ond hefyd yn bellach i ffwrdd, rhywbeth i gael adeiladu arno fo.’ Mae’n cydnabod bod lleoliad gig yn bwysig, un lle mae pobol yn gallu gwrando – ‘Dydi fy miwsig i ddim yn gweithio mewn tafarn swnllyd—dw i ddim yn sgwennu pyb anthems!’

Mae’n dal i gydweithio’n agos efo Yvonne. ‘Mae syniad gen i am greu byndl ar y wefan, a chael Mam i ddarlunio un o fy lyrics. Wedyn mi fedar pobol brynu un o’i lluniau neu gardiau, a chael cân am ddim, rwbath yn debyg i be wnes i efo ‘Neigwl’.’

Gorffennaf trwy fynegi ’nheimlad nad ydi o’n cael hanner digon o sylw fel artist. Mae Gwilym Dwyfor (Y Selar, mis Awst eleni) yn rhyfeddu at hyn, oherwydd, meddai, ‘Fo [DA] ydi un o’r canwyr-gyfansoddwyr hawsaf i wrando arno yn y sin’.

‘Dw i ddim yn meindio,’ yw ymateb Dan. ‘Mi allwn wneud rhestr o bobol yng Nghymru a thu hwnt sydd ddim yn cael digon o sylw. Dw i’n sgwennu i mi fy hun. Mi liciwn i, os cyrhaedda i fy nhrigain oed, fedru edrych yn ôl a meddwl fod gen i gorff da o waith wedi’i wneud.’
Dawn, unplygrwydd a dyfalbarhad. Dyma nodweddion y gwir artist.

****************************************************

Ceir gwybodaeth bellach am Dan Amor a’i waith ar
http://danamor.bandcamp.com/
http://recordiaucaegwyn.com/

*************************************************