• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Sadwrn 4 Medi 2010
Hawl i'r Gymraeg? PDF Argraffu Ebost

Eleni, cyhoeddwyd cyfrol gyntaf Gwion Lewis, Hawl i'r Gymraeg. Yma, mae'n trafod cynnwys y gyfrol gyda golygydd Barn, Dyfrig Jones.

Annwyl Gwion,

Mae’n bur debyg mai’r lle naturiol i gychwyn yw drwy dy longyfarch di. Pleser o’r mwyaf ydi gweld llyfr fel hwn yn cael cymaint o sylw poblogaidd. Roedd hi’n arbennig o braf gyrru o Gaerdydd ddechrau wythnos yr Eisteddfod a chlywed pwnc mor astrus â hawliau ieithyddol yn cael ei drafod yn fywiog ar Taro’r Post.

Ond er cymaint dwi wedi mwynhau’r llyfr, mae gen i fy amheuon yngl?n â dy ddadl di. Dwi’n ystyried fy hun yn genedlaetholwr diwylliannol, sy’n rhoi parhad y Gymraeg uwchlaw popeth arall. Wedi dweud hynny, mae cenedlaetholdeb yn ideoleg fas iawn, fel y mae Richard Wyn Jones wedi ei ddangos yn ei lyfr diweddar ar hanes Plaid Cymru. I or-symleiddio ei ddadl, mae cenedlaetholdeb yn syniad gwleidyddol sy’n bodoli mewn perthynas ag ideolegau eraill, ac os oes gofyn i mi ddisgrifio fy nghredoau tu hwnt i genedlaetholdeb ieithyddol, mae’n bur debyg mai rhyddfrydwr-democrataidd traddodiadol (neu democrat-cymdeithasol gwantan a chymedrol iawn) ydw i. Ac mae’r ochr rhyddfrydol-ddemocrataidd o fy nghymeriad yn cael dipyn o drafferth efo’r cysyniad sylfaenol o hawliau ieithyddol.

Nid bod y cysyniad o hawliau dynol – o uwch ddeddfau sydd yn gosod ffiniau’r drefn ddemocrataidd – yn peri anhawster o fath yn y byd i mi. I’r gwrthwyneb, mae hawliau dynol yn sylfaenol bwysig i fy nghredoau gwleidyddol. Ond o fy ymwneud i â’r maes, dwi’n ymwybodol bod sawl gwahanol fath o hawl dynol. Yn draddodiadol, mae hawliau dynol yn cael eu hystyried yn rhai positif a negatif. Mae hawl rhywun i beidio â chael ei arteithio yn hawl negatif, gan ei fod yn rhoi cyfrifoldeb ar i bobl beidio ag arteithio ei gilydd. Mae hawl rhywun i beidio â byw mewn tlodi, er enghraifft, yn hawl positif, gan fod rhwystro rhywun rhag byw mewn tlodi yn gofyn bod rhywun – y llywodraeth fel rheol – yn gweithredu’n bositif i sicrhau bod amodau byw yn cael eu gwella i’r fath raddau fel bod pob unigolyn yn byw mewn llewyrch. Prin yw’r enghreifftiau o hawliau positif sy’n cael eu gweithredu yn effeithiol. Maent yn dueddol o fodoli fel datganiadau o uchelgais, yn hytrach na hawliau sydd ag unrhyw ystyr ymarferol.

A dyma sy’n peri bod gen i beth anhawster â’r cysyniad o hawliau ieithyddol. Mae’n hawdd datgan fod gen i hawl i siarad Cymraeg yn y cyd-destun negatif. Os oes unrhyw un yn fy rhwystro i rhag siarad Cymraeg, maen nhw wedi tramgwyddo fy hawliau dynol. Petawn i’n byw yn oes (chwedlonol) y Welsh Not gallwn weld budd cael hawl ieithyddol. Ond ac eithrio ambell i reolwr-siop ffôl – cangen Bangor o Thomas Cook oedd yr enghraifft ddiweddaraf y galla i ei gofio – prin yw’r bobl sydd, bellach, yn defnyddio eu grym i rwystro eraill rhag siarad yr iaith.

Sydd yn dod â ni, felly, at roi hawliau positif i siaradwyr iaith, y maen tramgwydd mwyaf yn fy nhyb i. Mae dy lyfr yn dadlau bod angen mynd tu hwnt i’r ddealltwriaeth negatif o hawl ieithyddol. Sut yn union mae’r hawliau hyn yn mynd i weithio? Mewn gwlad lle mae tua 80% o’r boblogaeth yn ddi-Gymraeg – heb sôn am wladwriaeth lle mae 99% yn ddi-Gymraeg – pwy sydd â’r cyfrifoldeb positif dros sicrhau bod hawliau ieithyddol yn cael eu parchu?

Dyfrig


Annwyl Dyfrig,


Diolch i ti am dy eiriau caredig yngl?n â’r llyfr. Yn sicr, bu wythnos yr Eisteddfod yn un llawn trafod ac rwy’n mawr obeithio y bydd y gyfrol yn ysgogi mwy o’r math hwn o gyhoeddi cyfreithiol-gwleidyddol yn y Gymraeg. Mae’n arwydd o’n haeddfedrwydd newydd fel cenedl fod cynifer wedi ymateb i’r awgrymiadau yn Hawl i’r Gymraeg, ac mae cynhyrchwyr Taro’r Post a Wedi 7 i’w llongyfarch am roi llwyfan i bwnc nad yw’n ddewis amlwg ar gyfer yr oriau brig.

Rwyt yn disgrifio hawliau iaith fel ‘datganiadau o uchelgais’ nad ydynt yn ymarferol i’w cynnwys mewn testun cyfreithiol. Gellid dadlau nad yw’r gyfraith yn ddim mwy na chyfres o ddatganiadau uchelgeisiol. Mae anffafrio unigolyn ar sail ei hil wedi bod yn anghyfreithlon ym Mhrydain ers y 1960au ond prin y gellid dweud bod ‘uchelgais’ y gyfraith o ddileu anffafriaeth hiliol wedi ei wireddu. A yw hyn yn golygu nad yw’r uchelgais yn un dilys yn y lle cyntaf? Gosod safon er budd cymdeithas – dyna yw swyddogaeth y gyfraith, a deugain mlynedd yn ôl, penderfynwyd fod trin pob hil yn gyfartal â’i gilydd yn hanfodol ar gyfer parchu urddas yr unigolyn.

Onid yr ateb felly er mwyn cryfhau’r Gymraeg yw gwahardd anffafriaeth ar sail iaith, rhywbeth y mae Deddf Hawliau Dynol 1998 eisoes yn ei wneud? Mae’r gwaharddiad ar anffafriaeth ieithyddol yn rhan bwysig o’r darlun, heb os, ond un o brif ddibenion Hawl i’r Gymraeg yw dangos pa mor annigonol yw hyn ar ei ben ei hun o safbwynt parchu urddas yr unigolyn.

Mae polisi sy’n anffafrio unigolyn, pa un ai ar sail hil, rhyw neu iaith, yn dderbyniol os ydyw’n cyflawni rhywbeth arall pwysig yn gymdeithasol. Ar ben hynny, mae’n rhaid i’r ymyrraeth â’r unigolyn fod yn gymesur â phwysigrwydd y polisi: mewn geiriau eraill, ni ellir cyfyngu ar ryddid yr unigolyn mwy na sydd raid er mwyn cyflawni amcan pwysig y polisi. Ond os yw rhywun am sicrhau’r ‘cymesuredd’ hwn mewn gwirionedd, rhaid sicrhau hefyd bod yna ddealltwriaeth lawn o obeithion yr awdurdodau ar y naill ochr, a phryderon y rhai yr effeithir arnynt ar y llaw arall. Ran amlaf, bydd pryderon yr unigolyn yn cael eu hystyried yng nghyd-destun colli’r ‘hawl’ i rywbeth arbennig. Ond yn y cyd-destun ieithyddol, fe’n gorfodir, oherwydd nad yw’r gyfraith yn cydnabod y syniad o ‘hawl iaith’, i ddisgrifio effaith y polisi yn nhermau annelwig ‘ansensitifrwydd diwylliannol’, rhywbeth nad yw byth yn gwneud iawn â’r sarhad a deimlir os nad yw ein hiaith ddewisiedig yn cael ei pharchu.

Onid felly y dylai’r gyfraith gydnabod bod gan bob un ohonom yr ‘hawl’ i ddefnyddio ein hiaith ddewisiedig? Prin fod rhaid dweud y byddai polisi o’r fath yn un cwbl anymarferol. Ond odid nad oes cyfiawnhad arbennig dros barchu ‘dewis’ pobl i siarad Cymraeg yng Nghymru o gofio cysylltiad hanesyddol yr iaith â thiriogaeth y wlad? Ac onid yw’r cyfiawnhad moesol dros ffafrio’r Gymraeg yng Nghymru yn gryfach fyth o gofio sut y bu iddi gael ei hanffafrio gan bolisïau anoddefgar y gorffennol ar ei thiriogaeth ei hun? Yn ôl y gyfraith ryngwladol, mae’r rhain yn ffactorau sy’n caniatáu i ni ffafrio un gr?p ieithyddol dros un arall.

Ar sail y dadleuon hyn, rwy’n awgrymu y dylai’r mesur iaith newydd ddatgan bod gan bobl Cymru yr hawl i’r Gymraeg cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol o dan yr amgylchiadau. Dyna fyddai egwyddor graidd y mesur, a fyddai wedyn yn rhoi enghreifftiau pendant o’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ‘rhesymol’. Man cychwyn posibl fyddai datgan ei bod yn ‘rhesymol’ mynnu gwrandawiad Cymraeg mewn llys yng Nghymru. Gellid wedyn cael dwy brif adran i’r Mesur – un yn ymwneud â’r sector cyhoeddus a’r llall â’r sector preifat. O safbwynt y sector preifat, er enghraifft, dichon y byddai’r pleidiau’n cytuno ei bod yn ‘rhesymol’ i gwmni ffôn ddarparu gwasanaeth Cymraeg os oes ganddo, dyweder, fwy na 5,000 o gwsmeriaid a bod dros 10% ohonynt yn siarad Cymraeg. Pe bai sefyllfa’n codi yn y llys nad yw’r mesur iaith yn ymdrin â hi’n benodol, gallai’r llys syrthio’n ôl ar yr egwyddor ganolog o bwyso a mesur y dadleuon ar y naill ochr a gofyn beth sy’n ‘rhesymol o dan yr amgylchiadau’. Gydag amser, y gobaith yw y byddai’r llysoedd a’r gwleidyddion yn cytuno ar restr sylweddol o’r hyn sy’n ‘rhesymol’ yn yr amryfal sefyllfaoedd lle mae hawliau iaith yn codi, ac y byddai’r is-adeiledd cynllunio yn adlewyrchu ac yn atgyfnerthu hynny.


Gwion




Annwyl Gwion,

Rwyt yn fargyfreithiwr, a – phan nad ydw i’n gweithio i Barn – rydw innau’n rhyw fath o wleidydd. Felly dwi’n ei chael hi ychydig yn chwithig ’mod i’n ceisio pigo tyllau cyfreithiol yn dy ddadl wleidyddol di. Rwyt yn iawn i nodi bod gan Gymru a Lloegr nifer o gyfreithiau sy’n gweithredu fel datganiadau o uchelgais. Ond rwyf i, yn bersonol, wastad wedi bod yn feirniadol o’r dull hwn o lywodraethu, lle mae’r llyfr statud yn cael ei droi’n werslyfr moesol, yn hytrach na chynnig rheolau cadarn ar gyfer llywodraethu ein bywydau beunyddiol.

Bid a fo am hynny, mae dy ddadl yn cynnwys digon o jam ymarferol i’w daenu ar y bara moesol. Rwyt yn trafod tri maes gwahanol lle y gall rhywun fod yn ymarfer ei hawl i siarad yr iaith. Gwyddom i gyd fod yr ymgyrch i sicrhau tegwch yn y llysoedd, a’n hymwneud â’r sector cyhoeddus, wedi bod yn gymharol lwyddiannus dros y blynyddoedd. Heb amheuaeth, mae ’na waith yn dal i’w wneud, ond gwella ar drefn sy’n bodoli yn barod fyddai cryfhau ein hawliau yn y meysydd hyn.

Mae rhoi’r hawl i rywun ymarfer y Gymraeg wrth ymwneud â’r sector preifat yn golygu torri tir newydd, fodd bynnag, ac yn fater llawer iawn mwy cynhennus. Byth ers pasio Deddf Iaith 1993 mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am ymestyn deddfwriaeth iaith i gynnwys elfen o orfodaeth ar y sector preifat, ac ychydig iawn o wrandawiad mae’r Gymdeithas wedi ei gael.

Un ddadl yn erbyn gorfodi’r sector preifat i gynnig darpariaeth ddwyieithog yw’r ddadl y byddai’n faich annheg ar y diarhebol ‘siop jips yng Nghas-gwent’ – hynny yw, y busnes bach mewn ardal Saesnig o Gymru. Rwyt ti wedi awgrymu eisoes mai dim ond cwmnïau dros ryw faint arbennig fyddai’n gorfod cydymffurfio â’r ddeddf. Ond a wyt ti wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i’r dimensiwn rhanbarthol? Os nad yw hi’n rhesymol gofyn i siop sglodion yng Nghas-gwent ddarparu gwasanaeth Cymraeg, beth am y siop kebab yng Nghaernarfon? Ac a oes disgwyl i gwmni mawr rhyngwladol – Tesco dyweder – fod yn cynnig gwasanaeth Cymraeg yn eu canghennau sydd wedi eu lleoli mewn ardaloedd di-Gymraeg?

Dyfrig




Annwyl Dyfrig,


Cyfiawnder, nid yn gymaint moesoldeb, sydd wraidd fy nadl fod angen i’r gyfraith gydnabod hawl i’r Gymraeg. Rwyt yn pwysleisio’r angen am ‘reolau cadarn ar gyfer llywodraethu ein bywydau beunyddiol’, ond ble mae’r rheolau ar gyfer parchu urddas siaradwyr y Gymraeg yn yr oes gyfalafol, ddigidol hon?

Gwta bum munud o’r Senedd ym Mae Caerdydd, mae Starbucks wedi agor eu hwythfed cangen yn y brifddinas. Nid oes yr un gair o Gymraeg i’w weld yn unman. Dyma gwmni sydd â thua 17,000 o siopau ledled y byd ac un a wnaeth elw o $110 miliwn yn nhri mis cyntaf 2008 yn unig. A ydyw’n afresymol yn yr amgylchiadau hyn i fynnu bod arwyddion Starbucks yng Nghymru yn ddwyieithog? Mae pob cangen Starbucks yr ydw i wedi ymweld â hi yn Tsieina a Japan wedi bod yn gwbl ddwyieithog, ac yn achos Japan yn sicr, ni fyddai’r llywodraeth yn caniatáu unrhyw ddarpariaeth lai. Pam, felly, ydym ni mor barod fel Cymry i dderbyn y gall cwmni rhyngwladol fasnachu ar riniog ein Senedd genedlaethol heb unrhyw gydnabyddiaeth fod y Gymraeg, yng Nghymru, yn bwysig?

Rwyt yn nodi’n gywir fy mod yn canolbwyntio ar gwmnïau mawr wrth drafod y sector preifat yn Hawl i’r Gymraeg. Fy nymuniad, wrth gwrs, fyddai gweld pob busnes yng Nghymru, mawr a bach, yn cynnig darpariaeth lawn yn y Gymraeg, ond gwn nad yw hyn yn ymarferol yn achos busnesau bach iawn, teuluol, ac nid wyf yn dadlau o gwbl y dylid gorfodi unrhyw unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg. Byddai polisi gwirioneddol gyfiawn yn derbyn bod yr hawl i’r Gymraeg yn cael ei threchu weithiau gan ystyriaethau economaidd a phwysigrwydd rhyddid mynegiant. Nid wyf ar hyn o bryd, felly, yn poeni’n ormodol am ddiffygion siopau kebab Caernarfon o safbwynt yr iaith.

Fy awgrym i fyddai canolbwyntio yn y mesur iaith newydd ar y pum is-sector preifat sy’n ymwneud fwyaf â’r cyhoedd yn uniongyrchol: telathrebu, bancio, trafnidiaeth, archfarchnadoedd a’r gwasanaethau cyhoeddus (nwy, trydan, d?r). I roi un enghraifft ym mhob un o’r is-sectorau hyn, byddai hynny’n golygu bod y gyfraith am y tro cyntaf yn disgwyl pethau pendant o safbwynt y Gymraeg gan Orange, HSBC, Virgin Trains, Morrisons a Scottish Power. Ni allai’r un o’r cwmnïau hyn ddadlau’n synhwyrol nad yw’r adnoddau ganddynt i gynhyrchu llythyrau nac arwyddion na gwasanaethau ar-lein Cymraeg. Dyma is-sectorau sydd bellach yn hanfodol i ni oll os ydym am gyfranogi’n llawn o fywyd cyfoes, ac felly ni ellir byw’n llawn drwy gyfrwng y Gymraeg os nad ydynt yn rhoi lle teilwng i’r iaith.

Mae dy lythyr yn awgrymu y gellid ystyried y sector preifat ar lefel ranbarthol, yn hytrach na chenedlaethol, yn unol â chryfder y Gymraeg mewn ardal arbennig, ond os ydym o ddifrif am greu Cymru wirioneddol ddwyieithog, ac yn derbyn y syniad fod angen cynllunio ar gyfer cryfhau ieithoedd llai eu defnydd, nid oes angen i’n gorwelion fod mor gul â hyn. Nid yw sicrhau lle amlwg i’r Gymraeg yn tramgwyddo unrhyw un, ond mae ei habsenoldeb yn y sector preifat yn awgrymu’n feunyddiol i’r rhai sy’n ei siarad nad yw eu hunaniaeth ieithyddol yn werth ei pharchu.


Yn gywir,
Gwion





Gwion,

Diolch i ti am dy ymatebion cynhwysfawr i fy nghwestiynau. Rwyt wedi nodi eisoes bod Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio ar gais i gael llunio deddf iaith newydd yng Nghaerdydd. Roedd disgwyl y byddai’r gorchymyn cymhwyster hwnnw yn barod erbyn hyn, ond does dim golwg ohono. Dadl rhai o aelodau’r Cynulliad yw fod yn rhaid sicrhau bod y cais sydd yn mynd i San Steffan yn un sydd wedi ei lunio yn ofalus, er mwyn sicrhau ei fod yn llwyddo i gael sêl bendith Pwyllgor Materion Cymreig Senedd Prydain. Ond mae eraill wedi awgrymu bod y ddeddf iaith newydd yn faen tramgwydd difrifol i’r llywodraeth glymbleidiol, ac y bydd y cynnig terfynol yn gyfaddawd anfoddhaol. Mae sôn wedi bod y bydd y ddeddf derfynol yn cydnabod hawliau siaradwyr Cymraeg. Felly a gaf i gloi’r ddeialog hon drwy holi beth yw dy ddisgwyliadau di? Wyt ti’n obeithiol y bydd y ddeddf hon yn gam sylweddol ymlaen?

Dyfrig

 

Dyfrig,


Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth fydd yn cael ei gynnig yn y gorchymyn cymhwyster, ond rwy’n mawr obeithio y bydd yr argymhellion yn Hawl i’r Gymraeg yn cael eu cymryd o ddifrif. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi rhygnu yn ei flaen cyhyd yn ei ffurf bresennol oherwydd nad oes sicrwydd deallusol yngl?n â’r hyn a allai gymryd ei le. Rwy’n gobeithio bod y gyfrol yn llenwi’r bwlch hwnnw: nid cyfrol bropaganda yw hi, ond ymdrech i gynnig cyfeiriad newydd ar sail pedair blynedd o ymchwil cyfreithiol yn Llundain, Fflorens ac Efrog Newydd. Mae’r mesur iaith arfaethedig yn gyfle i Gymru ddangos arweiniad yn rhynwgladol o safbwynt cynllunio ieithyddol, a hynny mewn modd sydd wedi ei seilio’n gadarn ar egwyddorion sy’n hen gyfarwydd i lysoedd Prydain ac Ewrop erbyn hyn: hawliau dynol a rhesymoldeb. I’r Aelodau Cynulliad hynny sy’n poeni bod y syniad o ‘hawl iaith’ yn mynd yn rhy bell, rwy’n eu hatgoffa bod yr hawl honno’n diflannu yn fy nghynllun i os ydyw’n afresymol o dan yr amgylchiadau i’w pharchu hi. Os mai ‘rhesymoldeb’, ac nid yr ‘hawl’, yw’r egwyddor graidd, beth sydd i’w ofni?


Yn gywir,
Gwion








 






Trackback(0)
Sylwadau (3)add comment
...
ysgrifennwyd gan Dyfrig Jones , Hydref 13, 2008

Iestyn Lloyd (www.sbellcheck.co.uk) sydd yn gyfrifol am y ddelwedd, sydd ar glawr y rhifyn newydd o Barn.
Adrodd Camddefnyd
pleidleisio i lawr
pleidleisio i fyny

Pleidleisiau: +0

...
ysgrifennwyd gan Steffan Cravos , Hydref 13, 2008

Sylwadau diddorol iawn.

Pwy wnaeth y llun gyda llaw?

Adrodd Camddefnyd
pleidleisio i lawr
pleidleisio i fyny

Pleidleisiau: +0

Gwneud yn siwr fod popeth yn gweithio!
ysgrifennwyd gan Dyfrig Jones , Hydref 09, 2008

Ydi'r neges hon yn mynd i ymddangos?
Adrodd Camddefnyd
pleidleisio i lawr
pleidleisio i fyny

Pleidleisiau: +0


Ysgrifennwch sylw
llai | mwy
 

busy