• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Mercher 8 Medi 2010
Newyddion
Rhifyn Mis Mehefin ar gael nawr PDF Argraffu Ebost

Wrth i’r hinsawdd gynhesu, a ydym mor agos at y dibyn ag y myn rhai amgylcheddwyr? All Cymru chwarae ei rhan yn y chwyldro ynni gwyrdd? Pam nad oes bron neb yn meiddio beirniadu S4C yn gyhoeddus? Beth yw gwerth cyfieithu ar y pryd? A gwobr Artes Mundi? A’r gwasanaeth awyr rhwng Môn a Chaerdydd? Darllenwch farn Bethan Wyn Jones, Dafydd ab Iago, Gwion Owain, Judith Kaufmann, Osi Osmond a Gwyn Williams. Yn y fargen, cewch wahoddiad i mewn i hoff stafell Daniel Glyn.

 

 
Rhifyn EBRILL ar gael nawr! PDF Argraffu Ebost

Darllenwch i gael barn John Rowlands a Beca Brown am ‘y busnes beirniadu’, i weld pam y mae Guto Bebb yn cyhuddo Llywodraeth y Cynulliad o ‘wleidyddiaeth undeb y myfyrwyr’ a pham y mae John Pierce Jones yn rhyfeddu at draha mewnfudwr ym Môn. Darllenwch i gael gwybod am oriel ar-lein newydd curadur o Gaerdydd, am straeon ysbrydion sy’n plesio Elin Llwyd Morgan ac am straeon doniol o’r 1930au sy’n dal i oglais Gareth Miles. Bachwch gopi a mwynhewch ysgrifennu gorau’r wasg Gymraeg.

 
Rhifyn Mawrth ar gael NAWR! PDF Argraffu Ebost
O Epynt i Esperanto, o John Terry i wleidydd rhyfeddaf America, ac o recordiau Saesneg ar Radio Cymru i J. D. Salinger … darllenwch farn Hefin Wyn, Euros Lewis, Dafydd ab Iago, Dot Davies, Andy Misell, Beca Brown ac Elin Llwyd Morgan. Ac ochr yn ochr ag adolygiad Gruffudd Owen o Y Gofalwr, mae Roger Owen ac Ian Rowlands yn gofyn beth nesa’ i’r theatr Gymreig. Am fersiwn lawnach o erthygl Ian Rowlands yn y cylchgrawn, ewch i’r ddewislen uchod, dewis ‘O’r Cylchgrawn Cyfredol’, a chlicio ‘Erthyglau’.
 
Rhifyn Chwefror ar gael NAWR! PDF Argraffu Ebost
…a dyma ragflas bach. Darllenwch sylwadau Prys Morgan am gyfnod ei frawd Rhodri y Brif Weinidog ac ysgrif Ioan Roberts am ddeffro Cymreig annisgwyl yn y gogledd-ddwyrain. Beca Brown sy’n gofyn beth yw ‘Cymry Go Iawn’ a chawn golofn deledu newydd gan Sioned Williams. Gofid yw gorfod coffáu rhai a gyfrannodd gymaint i’n diwylliant, gan gynnwys Hywel Teifi Edwards, Dafydd Whittall ac Angharad Jones. Am fersiwn lawn o’r deyrnged i Angharad sydd yn y cylchgrawn, ewch i’r ddewislen uchod, dewis ‘O’r Cylchgrawn Cyfredol’, a chlicio ‘Erthyglau’.
 
Rhifyn Rhagfyr / Ionawr ar gael NAWR PDF Argraffu Ebost

Mae’r rhifyn yma yn barsel llawn a lliwgar. Yn ogystal â’r erthyglau a welwch yma, darllenwch am dreth a allai adfywio economi Cymru, am y teithwyr Gwyddelig, am Nadolig llyfrwerthwr, am waith celf Cefyn Burgess, am fwyty newydd gwych ger Castellnewydd Emlyn a llawer mwy.

NEWYDDION DA! Mae pawb sydd ynghlwm â Barn yn hapus iawn fod y Cyngor Llyfrau wedi gweld yn dda i barhau i Gefnogi’r cylchgrawn trwy gynnig nawdd iddo am y ddwy flynedd nesaf. Am ymateb y golygyddion i’r dyfarniad, ewch i'r ddewislen ar frig y wefan, dewis y cylchgrawn cyfredol, a chlicio 'Erthyglau'.

 
<< Cychwyn < Yn ôl 1 2 3 Nesaf > Diwedd >>

Tudalen 1 o 3