|
Pawb at y peth y bo ELIN LLWYD MORGAN Erbyn i’r golofn hon weld golau dydd mi fydd Eisteddfod yr Urdd ar ein pennau, a channoedd o rieni trwy Gymru benbaladr yn hel eu pac a’u plant yn barod i fynd yno. Ond – yn wahanol i’m cyd-golofnydd Beca Brown – ni fyddaf fi’n mynd ar ei chyfyl. Er y bydd criw o’m ffrindiau a’u plant yn mynd yno i garafanio, does dim pwynt i ni fynd efo hogyn awtistig a fuasai yno yn erbyn ei ewyllys ac yn mynd allan o’i ffordd i osgoi plant eraill, yn enwedig rfian ei fod o’n tynnu am ei bedair ar ddeg a’i hormonau yn ei wneud yn fwy mewnblyg. Ar un ystyr, mae hyn yn fendith, gan ei fod o wedi rhoi’r gorau i wneud pethau fel cythru am bobol y mae’n hoff ohonynt a chydio ynddynt (yr hyn a elwir yn ‘ymddygiad amhriodol’). Ond ar y llaw arall mae’n golygu nad ydi o eisiau mynd i ymweld â phobol a llefydd fel y byddai, a hynny’n gwneud ei fyd yn fwy cyfyng. Ac eto, pam ddyliwn i boeni’n ormodol amdano ac yntau’n greadur annwyl a llawen ar y cyfan? Yn benna’ am fod yna ysgol o feddwl sy’n dweud na ddylid gadael llonydd i bobol awtistig, ac mai therapi ymddygiadol dwys ydi’r unig ffordd o sicrhau bod eu bywydau mor gyflawn â phosib. Hwyrach mai fi sy’n fam wael (ac y dylwn ddechrau bwrw fy mol ar fforwm y Bad Mothers Club ar y we!), ond mi ddyffeiwn i unrhyw un i gael unigolyn awtistig yn ei arddegau i wneud unrhyw beth yn ei erbyn ei ewyllys. Mae hyn yn amlwg yn y gyfres Young, Autistic and Stagestruck ar Channel 4 lle daethpwyd â naw o blant a phobol ifanc ar y sbectrwm awtistig ynghyd i greu sioe lwyfan yn theatr y Lyric yn Llundain. A dyna ichi her ydi honno, wrth i ddau gyfarwyddwr artistig heb fawr o amgyffred o awtistiaeth orfod delio â’r strancs a’r styfnigrwydd a’r ecsentrigrwydd sy’n nodweddiadol o’r cyflwr. Ac eto, dywedir bod dysgu perfformio yn rhywbeth sy’n dod yn ail natur i’r criw, gan eu bod wedi arfer dysgu ‘technegau ymddwyn’ sy’n helpu i reoli eu cyflwr (gwneud iddynt ymddangos yn fwy ‘normal’, mewn geiriau eraill). Nodwedd arall a briodolir i’r cyflwr ydi diffyg empathi – yr ‘anhyblygrwydd meddwl’ sy’n rhwystro pobol awtistig rhag medru uniaethu â phobol eraill. Ond beth am y plant a’r bobol ‘normal’ hynny sy’n gwrthod derbyn neu’n trio newid unrhyw un sy’n wahanol iddyn nhw? Yn erbyn ‘gormeswyr’ o’r fath y ffurfiwyd yr Autism Liberation Front, sef mudiad sy’n eu cymharu eu hunain â lleiafrifoedd gorthrymedig eraill ac yn mynnu’r hawl i gael bod yn wahanol, efo sloganau fel ‘I am a person, not a puzzle’. Mwy o gymorth, dealltwriaeth a goddefgarwch sydd eu hangen, ynghyd â’r ymwybyddiaeth sydd ar gynnydd wrth i’r nifer o awtistiaid gynyddu. Mae yna hefyd fythau a stereoteipiau sydd angen eu chwalu – y gred fod gan bob person awtistig un ddawn arbennig ydi’r myth mwyaf cyffredin, mae’n debyg. Mae gan Joel sawl dawn, i mi gael brolio fy mab fy hun. Mae ganddo draw perffaith wrth ganu; mae ganddo ddawn tynnu lluniau (enillodd gystadleuaeth ffotograffiaeth leol am lun o’i daid), ac mae ei ddawn trin geiriau yn chwedlonol. Ond ei brif ddawn – nodweddiadol arddegol – ar hyn o bryd ydi eistedd ar ei din yn sbïo ar y teledu trwy’r dydd. A dyna be fydd o’n ei wneud yn ystod gwyliau’r Sulgwyn mae’n siwr – gwylio Eisteddfod yr Urdd nes i’w lygaid droi’n sgwâr. Yn y gyfres uchod, pan ofynnwyd i’r plant gogio bod yn anifeiliaid, ymateb dirmygus Ben, y bachgen Asperger hynod ddisglair, oedd ‘I may be autistic, but I am sane!’ Mae’n debyg mai dyna fyddai ei farn am gystadleuwyr Urddaidd, ystumiog hefyd. Does gan Joel mo’r un sinigrwydd soffistigedig, fodd bynnag. Tybiaf yn hytrach ei fod yn mwynhau’r canu a natur ailadroddus y cystadlaethau, ac eto heb rithyn o awydd cystadlu na bod yno. Pawb at y peth y bo, ddeuda i, beth bynnag fo’u cyflwr, a vive la différence. Llun Joel o'i daid |
|
LLYWODRAETH LLOEGR A DIWEDD PRYDEINDOD |
|
|
|
|
LLYWODRAETH LLOEGR A DIWEDD PRYDEINDOD RICHARD WYN JONES Mae canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol yn tanlinellu’r newid y mae datganoli wedi ei wneud i’r Deyrnas Gyfunol. Os yw’r gair Cyfunol yn briodol bellach...
Pan ddaeth David Cameron ar ei ymweliad â’r Senedd yn ystod wythnos gyntaf ei gyfnod fel Prif Weinidog mae’n gwbl amlwg mai trwy Gaeredin y teithiodd i Gaerdydd – yn ffigurol os nad yn gwbl lythrennol. Perfformiad trychinebus y Torïaid yn yr Alban yn ystod yr etholiad cyffredinol sy’n gyfrifol am y ffaith fod arweinydd y glymblaid newydd mor awyddus i ddangos ei wyneb yn Holyrood ac, yng nghysgod hynny, ym Mae Caerdydd a Stormont. Hyd yn oed os nad yw colofnwyr y wasg adain dde yn Llundain, na’i darllenwyr chwaith, wedi llawn sylweddoli’r peth, mae Cameron a’i gylch yn gwybod yn dda sut y byddai ‘colli’r Alban’ yn drychinebus o ran hygrededd llywodraeth Llundain ac i sefyllfa geo-strategol y wladwriaeth. Gyda 90% o’r olew, chwarter y diriogaeth, a’r unig borthladd sy’n addas ar gyfer y llongau tanfor sy’n cario taflegrau niwclear ‘annibynnol’ y wlad, mae’r Alban yn allweddol i’r Deyrnas. Heb yr Alban ni fyddai’r wladwriaeth honno’n ddim amgenach na ‘Little Britain’, chwedl David Melding. Ni ellir dweud yr un fath am Gymru na Gogledd Iwerddon. Serch hynny, o fabwysiadu’r agwedd gymodlon sy’n gwbl angenrheidiol mewn perthynas â Chaeredin, ni ellir peidio gwneud yr un fath wrth ymwneud â Chaerdydd a Belfast hefyd. Nid am y tro cyntaf, felly, mae cydnabyddiaeth o arbenigrwydd ac arwahanrwydd Cymru yn dilyn yn sgil y sefyllfa yn yr Alban. Trwy deithio i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon rhoddodd Cameron gydnabyddiaeth symbolaidd bwysig a dramatig i’r ffaith mai gwladwriaeth aml-genedlaethol yw’r Deyrnas Gyfunol. Ni fyddai Prif Weinidog Llafur wedi gwneud yr un fath. Mae hyn, wrth reswm, yn adlewyrchu realiti strwythurol sefyllfa’r ddwy blaid fawr. Dim ond 9 o seddau sydd gan y Ceidwadwyr y tu allan i Loegr – ac un o’r rheini i’w phriodoli’n unig i libido Lembit Opik. Er hynny, enillasant fwyafrif cyffyrddus yn Lloegr. Yn hyn o beth, fel cennad o Loegr i diroedd y cyrion y teithiodd Cameron i brifddinasoedd y cyrion, lawn cymaint ag fel Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae Llafur yn parhau’n orddibynnol ar Gymru a’r Alban. Er mai dim ond un o bob deg o drigolion y wladwriaeth sy’n byw yn y ddwy wlad honno, mae chwarter yr Aelodau Seneddol Llafur yn cynrychioli etholaethau yng Nghymru a’r Alban. Yn wir, petai Llafur wedi llwyddo i ffurfio ‘llywodraeth flaengar’ hefo’r Rhyddfrydwyr a’r Cenedlaetholwyr Celtaidd, go brin y gellid bod wedi dadlau fod gan y llywodraeth honno fandad yn Lloegr. Yn baradocsaidd ddigon, felly, er mai Llafur a ddeddfodd i ganiatáu datganoli, ni thâl i’r blaid honno bwysleisio rhesymeg aml-genedlaethol y mesurau hynny’n ormodol. Ar y llaw arall, does gan y Torïaid ddim dewis ond gwneud hynny. Rhyfedd o fyd! Fel rhan o’u hymdrechion i ymdrin â pherthnasau tiriogaethol oddi mewn i Brydain ar sail rhyng-genedlaethol a rhynglywodraethol, bydd Cameron a’i glymblaid yn ymestyn cydnabyddiaeth bellach i genedligrwydd Cymreig. Rwy’n sicr y caiff hyn effaith seicolegol bellgyrhaeddol arnom ni’r Cymry yn ei dro. Yn sicr, bydd yn codi statws Llywodraeth a Chynulliad Cenedlaethol Cymru eto fyth. A nodi un enghraifft yn unig, gyda Cheryl Gillan yn Ysgrifennydd Gwladol amlwg drefedigaethol, go brin fod ’na unrhyw amheuaeth bellach nad y ddau Jones, Carwyn ac Ieuan Wyn, sy’n cynrycholi llais awdurdodol Cymru. Nid oedd hynny’n wir cyn y 6ed o Fai. Ni dderbyniodd Peter Hain, Alun Michael a’r Aelodau Seneddol Llafur Cymreig erioed mai’r Cynulliad Cenedlaethol oedd yn haeddu’r flaenoriaeth o ran sylw a statws. Nid oes gan lywodraeth Cameron ddewis ond gwneud hynny... Mae ochr arall i’r geiniog, fodd bynnag, a gorau po gyntaf inni sylweddoli hynny. Wrth i lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ad-drefnu ei pherthynas â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar sail rhyng-lywodraeth, mae’n dilyn y bydd y gwledydd rheini’n cyfrif llai a llai wrth ffurfio llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Llywodraeth Lloegr fydd honno mewn popeth ond enw. A rhag i chi feddwl fy mod yn codi bwganod neu’n mynd o flaen gofid, dyna’n union a ddigwyddodd yn y dyddiau ar ôl y 6ed o Fai. Nodwyd eisoes wendid y Ceidwadwyr y tu allan i Loegr. Nid oes ryfedd felly na welwyd yr un Tori o Gymro, Sais neu Wyddel yn chwarae unrhyw ran o bwys yn y trafodaethau a arweiniodd at sefydlu’r glymblaid. O gofio mai teyrngarwch rhannau o Gymru a’r Alban a gadwodd y Rhyddfrydwyr mewn bodolaeth yn y dyddiau blin cyn adfywiad y 1970au, efallai y gellid disgwyl y byddai pethau’n wahanol o ran y blaid honno. Ond nid felly yr oedd. Roedd hi’n amlwg o’r cychwyn na chafodd Rhyddfrydwyr Cymru ran ystyriol yn y trafodaethau. Yn wir, pe cawsai arweinydd y blaid Gymreig ei ffordd, ni fyddai clymblaid (â’r Ceidwadwyr) fyth wedi ei sefydlu o gwbl. Hyd yn ddiweddar iawn bu Kirsty Williams fel petai mewn cystadleuaeth ddychmygol hefo aelodau o’r Socialist Workers Party – neu hyd yn oed Leanne Wood! – yn ei hawydd i gystwyo Thatcher a’i heffaith. Ar ben hynny, dichon y bydd y briodas â’r Torïaid yn gwneud bywyd gwleidyddol yn llawer iawn yn anos iddi yn ei chynefin ei hun ym Mrycheiniog a Maesyfed. Ar yr wyneb roedd hi’n ymddangos fod pethau’n wahanol o safbwynt Rhyddfrydwyr yr Alban. Wedi’r cwbl, oni fu Aelod Seneddol Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey, Danny Alexander, yn chwarae rhan ganolog yn y trafodaethau? Ond yn ôl cyfeillion ym mhrifysgolion yr Alban sydd yn fwy hyddysg o lawer iawn na mi yng ngwleidyddiaeth y wlad honno, mae rôl Alexander yn gamarweiniol. Yn gyntaf, prin iawn yw cysylltiadau’r gfir sydd bellach yn Ysgrifennydd Gwladol yr Alban â wleidyddiaeth ei famwlad. Derbyniodd ei addysg uwch yn Lloegr ac yno hefyd y cychwynnodd ei yrfa wleidyddol. Dychwelodd i’r Alban dim ond ar ôl iddo ddod yn amlwg y gallai fod enwebiad i sedd ddiogel ar y gorwel. Nid oes unrhyw dystiolaeth iddo gymryd llawer o ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth y wlad un ai cyn hynny neu wedyn. Yn bwysicach fyth, efallai, yr oedd hen lawiau’r blaid yn yr Alban yn amheus iawn, iawn o unrhyw drefniant â’r Ceidwadwyr. A pha ryfedd? Eisoes gwyddom fod Kennedy a Steel yn wrthwynebus. O gofio pa mor amhoblogaidd yw’r Torïaid yno, gallai’r cysylltiad â hwy gostio’n ddrud iawn i Ryddfrydwyr yr Alban yn y dyfodol. Mewn byr eiriau felly, ymddengys fod trwch Rhyddfrydwyr Cymru a’r Alban yn gwrthwynebu’r glymblaid, ond fe’i hanwybyddwyd. Llywodraeth yw hon a wnaed yn Lloegr ar gyfer Lloegr ar sail ystyriaethau gwleidyddol Seisnig. Ffaith anghysurus i rai efallai; ond ffaith serch hynny. * * * * Mae tri deg a thair o flynyddoedd ers i Tom Nairn gyhoeddi ei gyfrol enwog The Break-up of Britain. Fyth ers hynny bu’r awdur yn gyff gwawd gan rai: ar y gorau fe ymddangosai ei broffwydoliaeth yn rhyfygus o gynamserol. Yn ystod blynyddoedd y pla ddechrau’r 1980au yr oeddynt yn ymddangos yn gwbl hurt. Ar ôl wythnos gyntaf llywodraeth glymblaid Cameron, fodd bynnag, pwy all wadu nad yw’r hen ddealltwriaeth o Brydain fel cenedlwladwriaeth unedig ac unedol wedi diflannu am byth? Efallai nad yw Prydain a Phrydeindod wedi chwalu neu ddadfeilio’n gyfan gwbl. Maen nhw yma o hyd (hyd yma, beth bynnag.) Ond maen nhw bellach wedi mabwysiadu ffurfiau cwbl wahanol i’r hyn oedd yn gyfarwydd i genedlaethau’r gorffennol. Fel y dangosodd ymweliad Cameron â Chaerdydd i’r byd a’r betws, mae’r chwyldro cyfansoddiadol yn parhau. |
|
|
CAVENDISH – GWRTH-ARWR ARWROL |
|
|
|
|
CAVENDISH – GWRTH-ARWR ARWROL DOT DAVIES  Os y’ch chi’n gweld colli opera sebon yr etholiad cyffredinol, na phoener. Mae drama Cwpan Pêl-droed y Byd ar y gorwel. Tybed a fydd Wayne Bridge yn gwylio o’i wely haul yn LA ac yn gobeithio am ‘nil points’ i John Terry? A faint ohonom fydd yn esbonio i gymydog/cyfaill/cydweithiwr Saesneg pam nad yw ‘pawb’ yn cefnogi Lloegr yn absenoldeb tîm arall o Brydain. Fydden i’n dwlu dweud ’mod i wedi aeddfedu digon erbyn hyn i ddymuno’n dda i’r Saeson yn y gystadleuaeth. Ond dydw i ddim. Alla i ddim. Fydda i ddim. Draw yn Wimbledon mi fydd Albanwr yn sifir o gythruddo’r wasg yn Lloegr trwy ddweud ei fod e’n cefnogi ‘unrhyw un ond Lloegr’ yn y bencampwriaeth yn Ne Affrica. Ie, Andy Murray yw hwnnw. Boed ar y cwrt canol neu’n cael ei gyfweld yn SW19, mi fydd yn siwr o roi tipyn o adloniant inni. ’Nôl yma yng Nghymru bydd gemau Morgannwg yng nghystadleuaeth 20/20 yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C. Paratowch am wledd o griced, sylwebaeth o’r safon uchaf gan neb llai na Huw Llywelyn Davies a John Hardy. Y nhw fydd yn rhannu termau fel ‘dyfaldoncedd’ a ‘cyfradd clatsio’ â’r genedl am y tro cynta’, tra ’mod i a ‘Dave Coaches’ yn ohebwyr crwydrol ar hyd y maes. Ie, o ‘Gavin a Stacey’ i ‘Maynard a Crofty’, mae’n siwr y bydd Steffan Rhodri yn clywed ‘What’s Occurin?’ fwy nag unwaith ym merw Stadiwm Swalec. Pan ddaw Gorffennaf, serch hynny, bydd drama go iawn wrth i ras rhif 97 y Tour de France ddechrau. Mi fydd y daith 3,600 cilomedr o Rotterdam i Baris yn gwthio pob un o’r beicwyr i’r eithaf. Mi fydd o ddiddordeb i ni’r Cymry wrth i Geraint Thomas fentro ar y daith unwaith eto, a hynny fel rhan o ‘Team Sky’ sy’n cael ei reoli wrth gwrs gan Gymro arall, Dave Brailsford. Ond yn ein ty ni dim ond un arwr fydd eleni – Mark Cavendish. Pwy, meddech chi? Sut mae disgrifio Mark Cavendish? Beiciwr o dalent eithriadol sydd eisoes wedi ennill deg cymal o’r Tour de France. Y disgrifiad gorau a welais i ohono oedd ei fod yn rhywun sy’n ‘gwneud yn gyntaf, cyn ymddiheuro wedyn’. Ac mae Cavendish wedi hen arfer â gorfod ymddiheuro. Ddechrau mis Mai fe enillodd gymal o’r Tour de Romandie ac wrth groesi’r llinell derfyn fe gododd ddau fys. Nid gwneud arwydd heddwch oedd e ond anfon neges i’r rhai, y wasg yn enwedig, a fu’n ei feirniadu’n ddiweddar. Dyw e byth yn dysgu. Ers stumio gwneud galwad ffôn a phwyntio at enw ei noddwyr newydd (cwmni ffonau symudol) ar ôl ennill y cyntaf o chwe chymal yn y Tour de France y llynedd, mae e wastad yn gyfrifol am ryw ddwli diangen. Ond chi’n gwybod be? Dyna sy’n ei wneud e’n gwbl unigryw. Mae e’n ‘gwneud yn gyntaf’ ac wfft i’r canlyniadau. Dyma i chi ddyn sy’ wedi cyflawni cymaint nes bod nifer yn darogan y bydd rhaid ailysgrifennu llyfrau hanes y gamp cyn diwedd ei yrfa. Dro ar ôl tro mae e’n gorfod ymddiheuro am ei ymddygiad. Ond mae’r elfen danllyd yn ei gymeriad yn rhan bwysig o’i natur gystadleuol. Fe gwrddes i ag e unwaith. Nid yn rhinwedd fy swydd, ond wrth alw am betrol mewn garej ger Rhisga yng Ngwent. Rhwng y mint imperials a’r starbyrsts dyna lle’r oedd y dyn ei hun (gyda’i gariad sy’n gynenillydd Miss Eidal). Do, fe wnes i’r peth sydd ddim yn cwl o gwbl a mynd ato i ddweud mod i’n ffan. Efallai’i fod e’n cael enw drwg am ei dymer, ond o’m rhan i, ro’dd y ffaith iddo ddweud ’mod i wedi ‘gwneud ei ddiwrnod’ drwy fynd ato am sgwrs yn siarad cyfrolau. Mae seiclo wrth fodd ei galon. Mae’r dyn hwn yn un sy’n dwlu siarad am y gamp, yn byw’r gamp, ac am brofi i bawb a ddywedodd ‘Ti werth dim!’ wrtho, pan oedd e’n blentyn, ei fod e werth rhywbeth. Mae e’n gallu cystadlu gyda’r goreuon. Ond mae’r goreuon yn ofni talent Cavendish, a does dim dwywaith bod a wnelo hynny dipyn â’r holl gwyno yn ei erbyn. Mi fydda i’n croesi ’mysedd mai Cavendish, nid Capello a’i dîm, fydd yn cipio’r penawdau yr haf hwn. |
|
CWRS Y BYD VAUGHAN HUGHES Hogiau Del 
Dyma nhw ill dau yn camu i mewn i Rif 10 Downing Street. Tydyn nhw’n ddigon o ryfeddod, dydwch! Yn fain. Yn landeg. Yn hyderus. Y math o hyder mae arian yn ei brynu. Diau y bydd rhieni’r ddau yn credu bod y miloedd a gostiodd hi i addysgu David yn Eton a Nick yn Westminster wedi talu ar ei ganfed. Heb sôn am y mymryn o gymorth a oedd ei angen arnyn nhw i allu mwynhau i’r eithaf fwrlwm cymdeithasol Rhydychen a Chaergrawnt. Ond o! wrth edrych eto ar y llun, roedd o ei werth o i gyd, Mami a Dadi, onid oedd o? Dyma nhw’n croesi’r trothwy. Y naill yn Brif Weinidog. Y llall yn Ddirprwy Brif Weinidog. Drychwch arnyn nhw drachefn. Dotiwch arnyn nhw. Dau filiwnydd main, glandeg, hyderus. Ac ifanc. Y ddau yn 43. Roedd y Beatles blewog yn eistedd wrth draed y Maharishi blewog ym Mangor, a’r gr?p pop y Blew yn chwarae roc a rôl ym Mhabell Lên Eisteddfod y Bala pan oedd Cameron a Clegg yn eu clytiau. 1967 oedd hi. Roedd Sandie Shaw yn y siartiau efo Puppet on a String, a’r hipi Scott McKenzie yn annog ei gyd-Americanwyr ar gân i wisgo blodau yn eu gwalltiau a mynd i ‘San Francisco’ i garu. Nid i Fiet-nam i ladd. Yn 43, Cameron yw’r Prif Weinidog ieuengaf ers yn agos i 200 mlynedd. Yn 43, Clegg yw’r (lled-)Ryddfrydwr cyntaf ers 70 mlynedd i gael ei ddwylo ar rym llywodraethol. Mae’r hogiau wedi gwneud yn dda. A dydi hen ddyn fel fi yn gwneud dim cymwynas ag ef ei hun drwy edliw iddyn nhw eu hieuenctid. Ac onid eiddigedd noeth yw edliw iddyn nhw hefyd eu cyfoeth? Ie, mae’n si?r. Ac eto... Er imi ddweud r?an eu bod nhw wedi gwneud yn dda, wnaeth yr un o’r ddau ennill dim oll. Do, wrth reswm, fe ddaeth y ddau i’r brig yn eu hetholaethau. Ond ddaru Cameron ddim gwneud digon o dolc yn y bleidlais Lafur i allu ffurfio llywodraeth Geidwadol. Ac mae gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Clegg lai o seddi’r tro hwn nag oedd ganddyn nhw yn Etholiad Cyffredinol 2005. A hynny er i Clegg ennill dwy o’r tair cystadleuaeth X Factor a gynhaliwyd gan y darlledwyr er budd Lloegr. Ond a orfodwyd ar y Deyrnas gyfan. Ac mae yna sawl agwedd ar aelodaeth y cabinet sy’n peri pryder – neu a ddylai beri pryder – i bawb ohonom. Mynegi barn a wnes i hyd yn hyn. A dogn o ragfarn, dwi ddim yn amau. Mae’n bryd imi ddefnyddio ychydig o ffeithiau ac ystadegau. Dyma i chi ddosraniad o aelodaeth cabinet yr Hogiau Del: MILIWNYDDION 23 CROENWYN 29 DU 0 ASIAIDD 1 DYNION 26 MERCHED 4 Dim ots pa ffon fesur a ddefnyddir, un casgliad yn unig y gellir dod iddo. Mae’r cabinet yn haerllug a dirmygus o anghynrychioliadol. Pedair merch – allan o gabinet o 30 i gyd. Pawb ond un yn groenwyn. A 23 ohonyn nhw’n filiwnyddion. Ac mae’r bobol hyn yn mynd i allu deall dyheadau ac anghenion y Brydain ddirwasgedig, amlddiwyllianol sydd ohoni, ydyn nhw? Gawn ni weld, ie? Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n dweud hyn ond mae’r cabinet hwn yn gwneud i Margaret Thatcher ymddangos yn rhyfeddol o eangfrydig ac egalitaraidd. Wrth gwrs, yn wahanol i gynifer o’r giwed-ysgolion-preifat presennol, disgybl ysgol ramadeg oedd Magi. Yn union fel ei chyfoedion gwleidyddol Harold Wilson, Roy Jenkins, Denis Healey, Enoch Powell, Ted Heath, John Major a Michael Howard. Diolch i’r nefoedd bod rhai o leiaf o’r cabinet newydd, breintiedig hwn wedi cael eu haddysgu yn ysgolion y wladwriaeth. Dwi’n cyfeirio at Ken Clarke, Vince Cable a William Hague. Role model y genhedlaeth newydd o arweinyddion a darpararweinyddion – o bob plaid Brydeinig – yw’r diegwyddor Tony Blair, dyn a ddiferai o anniffuantrwydd. Yn waeth o lawer na hynny, dyn sydd â gwaed ar ei ddwylo. A disgybl ysgol breswyl Fettes oedd Blair, y ddrutaf a’r uchaf ei bri o holl ysgolion preswyl yr Alban. Uwch o lawer na Gordonstoun, hen ysgol Charles Windsor. Ac onid ydi o’n gwneud i’ch calon chi suddo o sylweddoli mai llathen o’r un brethyn Armani yw’r brodyr David ac Ed Miliband sydd, wrth i Barn fynd i’r wasg, wedi datgan eu parodrwydd i arwain y Blaid Lafur. Na, na – dach chi’n iawn – fu’r brodyr ddim mewn ysgol breifat. Ond nid ysgol gyfun gyffredin ydi Ysgol Gyfun Haverstock yng ngogledd Llundain. Mae dalgylch cyfoethog yr ysgol honno yn esbonio pam bod cymaint o’i disgyblion, fel y Milibandiaid, yn cael mynediad i golegau Rhydgrawnt. A dyma ddod at fy mhryder pennaf. Addysgwyd canran anghymesur o uchel o aelodau’r llywodraeth glymblaid hon yn y mwyaf breintiedig ac uchaf eu statws o holl ysgolion preswyl Lloegr. (Dealler nad yw Ysgol Harrow, a oedd yn ddigon da i Syr Winston Churchill a Syr Wyn Roberts, yn cael ei hystyried bellach yn ddim ond megis rhyw Wigleyaidd Ysgol Rydal o’i chymharu ag Eton Cameron a Westminster Clegg.) Rydw i’n anesmwyth efo’r canfyddiad mai mewn ysgolion a ystyrir yn fwy elitaidd na Harrow hyd yn oed yr addysgwyd 67% o gabinet yr Hogiau Del. Cyn i ddisgyblion yr ysgolion hynny fynd ymlaen, yn anochel, i Rydgrawnt… Mae’n si?r y bydd llawer ohonoch chi’n cofio Neil Kinnock yn dweud mai fo a Glenys (Parry), ei wraig, oedd yr aelodau cyntaf erioed o’r ddau deulu i fynd i brifysgol. Y naill o Fynwy. Y llall o Fôn. Nid am mai nhw o angenrheidrwydd oedd y Kinnockiaid a’r Parrys galluocaf a fu erioed. Ond am fod modd go iawn erbyn y chwedegau i laweroedd yn rhagor o ferched a bechgyn dosbarth gweithiol fynd ymlaen i brifysgol. Mae gen i hen deimlad annifyr bod y dyddiau hynny’n dod i ben. Dwi’n pryderu bod y rhod yn troi. Y toffs sy’n rhedeg y sioe unwaith eto. Ac mae llai bellach o gyfle i aelodau o’r werin gyrraedd y brig. Ai cynnydd yw peth felly? O ddifrif? Dwi’n dod yn fwyfwy argyhoeddedig bod angen adfer yr hen Ysgolion Gramadeg. Nid elitiaeth mo hynny. I’r gwrthwyneb. Byddai rhoi addysg alwedigaethol ardderchog i blant Cymru yn ganmil gwell na chymryd arnom yn wirion mai prifysgol yw’r lle gorau i bawb. Lol ydi hynny. Peidied neb â chredu fy mod i wedi anghofio am ddiawledigrwydd Thatcher. Ond, o weld sut mae’r werin erbyn hyn yn cael ei llwyr ddarostwng gan yr Hogiau Del, efallai y dylid rhoi rhywfaint o glust i’r hyn yr oedd gan Margaret Hilda Thatcher i’w ddweud wrth gynhadledd y Torïaid yn 1977: ‘Roedd pobol gyffredin o ’nghefndir i angen Ysgolion Gramadeg er mwyn inni allu cystadlu efo plant o gartrefi breintiedig – plant fel Shirley Williams ac Anthony Wedgwood Benn’. Bellach mae’r grym yn ôl yn nwylo Hogiau Del yr ysgolion a’r colegau mwyaf breintiedig. Ac mae’r freuddwyd o gymdeithas gydradd a chyfartal yn pylu o flaen ein llygaid. |
|