|
Dwi wedi bod ar fy ngwyliau yn Lloegr dros y penwythnos, a heb fod yn agos at gyfrifiadur yn ystod y cyfnod hwn. O'r herwydd, doeddwn i ddim yn un o'r rhai a oedd yn udo am waed Dylan Iorwerth yn ystod lansiad trafferthus Golwg 360, yn gynnar fore Gwener. Dim ond heddiw dwi wedi cael sbec, a dwi'n ysgrifennu'r ychydig sylwadau hyn gan gofio'r adnod bwysig honno am y dyn a'r trawst yn ei lygaid. Gan anwybyddu'r problemau a gafodd Golwg yn ystod y lansiad, dwi'n credu bod 'na ddigon i'w ganmol ar y wefan newydd. Dyw'r dyluniad ddim yn berffaith, ac mae cynllunwyr y wefan wedi methu a gwneud y mwyaf o'r dechnoleg newydd. I unrhyw un sydd a diddordeb yn yr ochr dechnolegol, mae Rhodri ap Dyfrig wedi crynhoi yr ymateb i'r elfennau hyn ar Metastwnsh. O ran y cynnwys, dwi'n credu y gall rhywun fod yn fwy cadarnhaol o lawer. Fe dybiwn i fod y straeon Prydeinig a Rhyngwladol wedi cael eu prynnu gan asiantaeth newyddion allanol, a'u cyfieithu - sydd yn berffaith resymol, o ystyried maint cwmni fel Golwg. Ac mae'r straeon newyddion Cymreig yn adlewyrchu cryfder pennaf Golwg (yn fy marn i) sef eu gallu i ganfod straeon sydd yn berthnasol i'w darllenwyr, a sydd yn adlewyrchu eu diddordebau a'u dymuniadau. Yr hyn sydd yn llai llwyddiannus yw'r elfennau "arloesol". Rwy'n cael trafferth deall beth yw amcan Lle Pawb na Y Maes. Mae'n debyg bod Lle Pawb yn ymgais i greu rhyw fath o rwydwaith gymdeithasol ar gyfer y Cymry Cymraeg - syniad sydd yn anwybyddu'r ffaith fod un o'r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol mwyaf llwyddiannus, Facebook, eisoes ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae amgyffred diben Y Maes yn anos byth. Un o'r sibrydion cynharaf ynglyn a gwefan newydd Golwg oedd y byddai'n gweithredu "fel Maes yr Eisteddfod", gyda'r gwasanaeth newyddion yn gweithredu fel Pafiliwn, a gofod o'i gwmpas yn galluogi pob math o bethau eraill i ddigwydd o'i gwmpas. Mae rhywun yn cymeryd, felly, mae'r egwyddor hwn sydd wrth wraidd Y Maes. Ond fel un sydd wrth ei fodd yn crwydro Maes yr Eisteddfod Genedlaethol - a sydd yn ymwelydd achlysurol iawn, iawn i'r pafiliwn - dwi ddim yn siwr os yw'r gyffelybiaeth yn dal dwr. Hanfod Maes yr Eisteddfod yw ei fod yn le byw, byrlymus a difyr. Mae'n uchafbwynt cymdeithasol i lawer o Gymry Cymraeg, ac mae'n cynnig rhywbeth unigryw ac arbennig. Hyd y gwela' i, dyw Y Maes ar Golwg 360 yn ddim mwy na chasgliad o hysbysebion. Fe fydd yn ddiddorol gweld os y bydd yr adran hon yn cael ei hymestyn, ond ar y funud, ychydig iawn o ddiddordeb sydd gen i yn ei chynnwys. Ac mae'n rhaid gofyn y cwestiwn : A yw Golwg yn gwneud peth doeth yn creu adran arwahan ar gyfer hysbysebion? Onid yw hyn yn ei gwneud hi'n haws i'r rhai sydd yn darllen yn y newyddion eu hanwybyddu? (Wrth i mi ysgrifennu hwn, fe gefais sbec sydyn arall ar Lle Pawb ac Y Maes. 'Doedd 'run o'r ddwy adran yn gweithio. Efallai nad yw'r problemau technegol wedi eu datrys yn llwyr) |