• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Iau 20 Mehefin 2013
Gwybodaeth
Polisi Tanysgrifio PDF Argraffu Ebost

 

1. Prisiau tanysgrifio

Mae Cyhoeddiadau Barn Cyf. yn cynnig gwasanaeth tanysgrifio i ddarllenwyr.

Pris clawr Barn ar hyn o bryd yw £3.50 am rifyn sengl a £5.99 am rifyn dwbl. 

Cynigir tri chyfnod gwahanol o danysgrifio i ddarllenwyr o fewn gwledydd Prydain ar hyn o bryd, sef 12 mis, 24 mis a 36 mis. Cyfnod o 12 mis ar y tro yn unig a gynigir i ddarllenwyr o dramor.

Dyma brisiau cyfredol tanysgrifio i Barn:

  • 12 mis  -  £40
  • 24 mis  -  £65
  • 36 mis  -  £90
  •  tanysgrifiad tramor am 12 mis  -  £70 / electronaidd yn unig £40

Cedwir yr hawl i amrywio pris clawr y cylchgrawn er mwyn adlewyrchu costau cynhyrchu. Fodd bynnag, ni fydd pris tanysgrifio yn newid yn ystod cyfnod y tanysgrifiad. Os bydd pris clawr Barn wedi codi yn ystod cyfnod y tanysgrifiad, ni fydd yn codi nes ail-danysgrifio i'r cylchgrawn.

Yn ystod cyfnod o 12 mis, cyhoeddir 10 rhifyn o Barn (sy'n cynnwys rhifynnau dwbl ym mis Gorffennaf / Awst ac ym mis Rhagfyr / Ionawr). 

Pan fydd tanysgrifiad yn nesau at ei derfyn, anfonir llythyr atgoffa at bob tanysgrifiwr. Ar ôl anfon tri llythyr rhybudd fe ddaw'r tanysgrifiad i ben.

 

2. Dosbarthu Barn 

Caiff Barn ei gyhoeddi ar ddechrau pob mis ac anelir at ddosbarthu'r rhifyn cyfredol at danysgrifwyr erbyn dechrau'r mis hwnnw drwy'r post. Bydd rhifynnau dwbl fel arfer yn ymddangos erbyn ail wythnos mis cyntaf y rhifyn.

Pan fydd rhywun yn tanysgrifio o'r newydd, anfonir atynt gopi o'r rhifyn cyfredol cyn gynted ag y bo modd a chânt eu hychwanegu at y gronfa danysgrifwyr yn syth ar ôl hynny.

 

3. Polisi diddymu ac ad-dalu / dychwelyd 

Bydd hawl gan unrhyw ddarllenwr nad yw'n hapus â'i danysgrifiad am ba reswm bynnag i'w ddiddymu ar unrhyw adeg. Os gwneir hynny o fewn 31 niwrnod i gychwyn y tanysgrifiad, ad-delir cost y tanysgrifiad yn llawn. Fel arall, bydd y tanysgrifiad yn parhau hyd nes benllanw'r cyfnod tanysgrifio.

I ddiddymu tanysgrifiad, cysylltwch â swyddfa Barn (manylion isod).

 

4. Polisi cyfrinachedd a diogelwch

Cedwir gwybodaeth am danysgrifwyr Barn at ddibenion Cyhoeddiadau Barn Cyf. yn unig. Ni chaiff y wybodaeth hon ei rhannu â neb arall. O bryd i'w gilydd, fe all Barn gysylltu â darllenwyr (e.e. arolwg barn er dibenion ymchwil marchnad) ond fel arall defnyddir manylion tanysgrifwyr er mwyn cyflenwi'r gwasanaeth tanysgrifio yn unig.

Gofynnir i danysgrifwyr ddarparu rhif ffôn a chyfeiriad e-bost yn ogystal â chyfeiriad postio, er mwyn gallu cysylltu os cyfyd unrhyw broblem gyda'r tanysgrifiad. Os na fydd tanysgrifiwr yn dymuno i ni gysylltu â nhw trwy gyfrwng ffôn neu e-bost, nid oes raid iddynt ddarparu'r wybodaeth honno i ni.

Ni chedwir unrhyw fanylion ariannol am danysgrifwyr (e.e. manylion banc os y telir â cherdyn).

Diogelir yr holl wybodaeth a gedwir am danysgrifwyr trwy ddulliau diogelu data cydnabyddedig. Ni chedwir unrhyw ddata electronig am danysgrifwyr ar derfynellau data pell.

Os bydd unrhyw wybodaeth a gedwir am danysgrifwyr yn anghywir, bydd modd hysbysu swyddfa Barn (manylion isod) a chaiff y manylion eu diweddaru ar unwaith.

 

5. Cysylltu

Swyddfa BARN,
Y Llwyfan,
Ffordd y Coleg,
CAERFYRDDIN, Sir Gaerfyrddin,
SA31 3EP

Ffôn: 01267 245676   /   e-bost:  Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

 
PDF Argraffu Ebost

Croeso i’r Gymru Rydd, Gymraeg!

 

Ble ar wyneb y ddaear cewch chi’r rhyddid i feddwl yn annibynnol? Y rhyddid i leisio barn?

Cylchgrawn yw Barn sy’n cynnig ymateb annibynnol, deallus i holl gyffro’r Gymru gyfoes a gweddill y byd. Ers dros ddeugain mlynedd, bu’r cylchgrawn hwn yn arwain y gad gyda’i annibyniaeth barn, heb ofni herio’r sefydliad na lleisio safbwynt. Gyda’i wledd fisol o gyfraniadau difyr a threiddgar gan rai o golofnwyr gorau y Gymru Gymraeg gyfoes, ceir amrywiaeth blas ac annibyniaeth barn ar lu o wahanol bynciau – megis gwleidyddiaeth, materion cyfoes, yr economi, cyfryngau, theatr, llenyddiaeth, chwaraeon a llawer mwy. Dewch atom am dro…

Croeso i’r Gymru Rydd, Gymraeg. Croeso i Barn.

 
PDF Argraffu Ebost
Derbyniwch eich copi o BARN drwy'r post.

 
PDF Argraffu Ebost

Hysbysebu yn Barn

 

Bob mis, bydd Barn yn cynnwys hysbysebion ar ran gwahanol gyrff a chwmnïau. Os oes gennych ddiddordeb mewn hysbysebu ar dudalennau BARN, amlinellir y prisiau a'r telerau isod.

 

Manylion Hysbysebu

Oherwydd cylchrediad eang y cylchgrawn a’i apêl at nifer fawr o bobl, y mae BARN yn gyfrwng ardderchog i gyrraedd cynulleidfa ddylanwadol. Am sgwrs bellach, cysylltwch â swyddfa Barn trwy e-bost Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. neu Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. neu trwy ffôn 01267 245 676.

Prisiau:

        ¼ tudalen (du a gwyn) - £100

        ½ tudalen (du a gwyn) - £200

        A4 llawn (du a gwyn) - £350

        Tudalen gefn llawn (lliw) - £500

Amodau:

  1. Dylid anfon pob hysbys at swyddfa Barn o leiaf bythefnos cyn i’r cylchgrawn fynd i’r wasg. Rhestrir isod y dyddiadau cau ar gyfer derbyn hysbysebion. Gwneir pob ymdrech i gynnwys yr hysbys yn y rhifyn hwnnw o’r cylchgrawn.
  2. Dylai’r hysbys gael ei anfon ar ffurf electronig – unai trwy e-bost neu CD-Rom at y swyddfa – ar ffurf MS Word, PDF neu EPS, gan nodi’r maint y disgwylir i’r hysbys fod.
  3. Anfonir anfoneb am bob hysbys wedi i’r rhifyn sy’n cario’r hysbys ymddangos. Disgwylir taliad am yr hysbys o fewn 30 niwrnod i anfon yr anfoneb.
  4. Cedwir pob hawl gan Gyhoeddiadau Barn Cyf. i wrthod unrhyw hysbysebion.
 
PDF Argraffu Ebost

Cysylltu    

 

Drwy'r Post  

  E-bost 

Ffôn 

Swyddfa Barn,    
Y Llwyfan,                           
Ffordd y Coleg,
CAERFYRDDIN,
SA31 3EQ.
 Swyddfa - Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.  
Golygyddion - Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
 01267 245 676