• Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
  • default color
  • green color
  • red color

Barn 2.0

Dydd Sul 26 Mai 2013
Newyddion
Rhifyn Mai allan yn awr Rhifyn Mai allan yn awr Mae rhifyn Mai yn llawn i’r ymylon o’r ysgrifennu craff arferol ar amrywiaeth o bynciau amserol. Mae Sioned Williams, a dreuliodd gyfnod y llynedd yn byw yn Cambridge, Massachusetts, yn esbonio pam y mae ffawd y brodyr sy’n cael eu hamau o osod bomiau Marathon Boston yn destun galar yr un mor ddwys yn y gymdogaeth â’r bywydau diniwed a ddinistriwyd gan y bomiau. Trafod y gwersi sydd i’w dysgu o’r epidemig o’r frech goch yn ardal Abertawe y mae’r Meddyg Plant Ymgynghorol, Dewi Evans, tra mae Bethan Wyn Jones, yn sgil y llifogydd diweddar, yn galw am ddeddfwriaeth i atal adeiladu ar y gorlifdir. Mae Bethan Kilfoil, Will Patterson, Deian Hopkin a Roy Thomas yn trafod agweddau ar deyrnasiad a gwaddol Margaret Thatcher gan gynnwys ambell agwedd annisgwyl. Theatr wleidyddol yw pwnc Gareth Miles, a phwer celfyddyd sydd dan sylw gan Marian Delyth hefyd, awdur colofn Fy Hoff Lun y tro hwn. Mynnwch gopi er mwyn darllen hyn oll, a llawer mwy.